Nododd adroddiad gan Chwarae Cymru yn 2022 fod lefelau boddhad isel mewn perthynas â chyfleoedd chwarae ymhlith plant anabl. Roeddent yn teimlo nad oedd ardaloedd chwarae yn eu hardal leol yn hygyrch. Roedd Cyngor Cymuned Trefriw am fynd i'r afael â hyn drwy osod cyfarpar hygyrch yn ei barc chwarae lleol.
Ym mis Medi 2023, gwnaeth y cyngor gais am grant i osod rowndabowt hygyrch newydd ym mharc chwarae'r pentref. Mae'r rowndabowt bellach yn cynnig profiad chwarae newydd i blant o bob gallu, gan wella ac ehangu'r cyfarpar a fu ar gael yn y parc.
Roedd gosod y rowndabowt newydd hwn yn rhan o raglen adfywio gymunedol ehangach i hyrwyddo Trefriw fel lle difyr a chroesawgar i ymweld ag ef a byw ynddo.
Defnyddio data'r cyfrifiad fel tystiolaeth
Defnyddiodd Cyngor Cymuned Trefriw ddata o Gyfrifiad 2021 a Chyfrifiad 2011 fel tystiolaeth ar gyfer ei gais. Gwnaeth hyn helpu i ddangos nifer posibl y defnyddwyr ar gyfer y rowndabowt newydd ac, o ganlyniad, cafodd y cyngor grant i'w adeiladu.
"Roedd data gan y SYG yn rhan ganolog o'n cais o ran dangos tystiolaeth o angen," meddai Jasmine Kelly, Is-gadeirydd Cyngor Cymuned Trefriw. "Mae tua 200 o blant dan 15 oed yn Nhrefriw ac mae cyfran uwch o blant yn yr ardal o gymharu â rhannau eraill o'r sir. Mae ein parc chwarae yn cael llawer iawn o ddefnydd gan deuluoedd sy'n byw yma hefyd, yn ogystal ag ymwelwyr sy'n dod i fwynhau ein pentref."
Dywedodd hefyd: "Bydd ein prosiect yn sicrhau bod plant lleol ac ymwelwyr yn cael cyfleoedd cynhwysol a chyfoethog i chwarae, cymdeithasu a dysgu, gan gynnwys defnyddio'r Gymraeg gyda'u cyfoedion. Rydym yn teimlo bod y prosiect hwn yn arbennig o bwysig o ystyried yr effaith y mae cyfyngiadau'r pandemig wedi'i chael ar blant yn ein cymuned a'u gallu i gymdeithasu."
Defnyddio data'r SYG nawr ac yn y dyfodol
Bydd Cyngor Cymuned Trefriw yn parhau i ddefnyddio data perthnasol gan y SYG i gefnogi ei waith parhaus. Er enghraifft, cyfeiriodd at ddata'r cyfrifiad mewn trafodaethau â Trafnidiaeth Cymru er mwyn nodi sut y gallai arwyddion yn yr orsaf drenau agosaf annog mwy o bobl i ymweld â Threfriw.