Yn y SYG, rydym yn cyhoeddi Mynegai Prisiau Tai y DU sy'n dangos chwyddiant prisiau tai yn y DU, a gyfrifir gan ddefnyddio data gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestrau'r Alban, a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Mae'r holl ddata yn ddienw ac ni ellir adnabod neb o'r ystadegau rydym yn eu cyhoeddi. 

Gall pobl, yn ogystal â sefydliadau, ddefnyddio'r wybodaeth hon i'w helpu i ddeall y newidiadau mewn prisiau tai ledled Prydain Fawr. Fel Monzo, sef banc digidol mwyaf y DU.

Sut mae ein data yn helpu perchnogion cartrefi i ddeall gwerth eu heiddo

Mae Monzo yn defnyddio data am brisiau tai lleol o Fynegai Prisiau Tai y DU, wedi'u rhannu yn ôl y math o eiddo, ochr yn ochr â thrafodiadau preswyl ers 1995 yng Nghymru a Lloegr gan Gofrestrfa Tir EF. Mae defnyddio'r data hyn yn eu galluogi i gasglu amcangyfrif o werth cyfredol ac ecwiti pob eiddo yn ap Monzo. Gall hyn helpu perchnogion cartrefi i fonitro eu cynnydd, gweld faint o flaendal fyddai ganddynt pe baent yn symud tŷ, a nodi pryd y gallant fanteisio ar gyfraddau morgais gwell. 

Dywedodd Harry Boyd, Pennaeth Perchentyaeth yn Monzo, "Dywedodd llawer o'n cwsmeriaid wrthym fod cael gafael ar y wybodaeth fwyaf sylfaenol am eu morgais yn peri dryswch iddynt. Felly mae wir yn ddatblygiad pwysig gallu gweld eich morgais ochr yn ochr â'ch gwariant, eich cynilion a'ch benthyciadau - a'r cyfan yn yr un lle. Heb y SYG, ni fyddem yn gallu dangos i'n cwsmeriaid sut mae eu hecwiti yn tyfu wrth i'w taith berchentyaeth ddatblygu, sy'n eu galluogi i gynllunio ar gyfer eu dyfodol ariannol yn fwy effeithiol."

Canlyniad defnyddio ein data

Mae mwy nag 80% o gwsmeriaid a gysylltodd eu morgais bellach yn olrhain gwerth eu cartref a'u hecwiti hefyd. Caiff hyn ei alluogi, yn rhannol, gan ddata'r SYG ac mae'n dangos pa mor bwysig yw darparu'r wybodaeth bersonol hon i gwsmeriaid.

Mae Monzo hefyd wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y cwsmeriaid sy'n ymgysylltu â'r ap ar ôl cysylltu eu morgais a'u heiddo. Er enghraifft, mae 40% o'r holl berchnogion cartrefi sydd wedi cysylltu bellach yn defnyddio nodiadau atgoffa ar gyfer cynigion er mwyn cadw trefn ar eu morgais.

Yn ôl cwsmeriaid Monzo, mae'r wybodaeth hon wedi'u helpu i ddeall y broses o fod yn berchen ar gartref ac yn gwneud iddynt deimlo fel pe bai mwy o reolaeth ganddynt. Dywed llawer ohonynt eu bod ar y trywydd cywir i glirio eu morgais yn gynharach ac arbed miloedd o bunnoedd mewn llog oherwydd yr adnoddau hyn.

Sut y gall ein data barhau i helpu

Bydd Monzo yn parhau i ddefnyddio data gan y SYG a fydd o fudd i'w gwsmeriaid. Mae hyn yn cynnwys data ar dai er mwyn helpu i amcangyfrif gwerth cartrefi cwsmeriaid, yn ogystal â helpu cwsmeriaid i ddeall eu cyllideb eiddo pan fyddant yn ystyried prynu tŷ.

Gallwch ddefnyddio ein hadnodd prisiau tai i ddod o hyd i brisiau tai a phrisiau rhentu preifat ar gyfer eich ardal leol. 

Darllenwch ragor o enghreifftiau o sut mae sefydliadau yn defnyddio ein hystadegau i wneud penderfyniadau pwysig sy'n effeithio ar bob un ohonom. 

Os ydych yn sefydliad sy'n defnyddio data'r SYG, cysylltwch â ni i rannu eich enghraifft eich hun o sut mae defnyddio'r data wedi bod o fudd i bobl. Bydd Monzo yn parhau i ddefnyddio data gan y SYG a fydd o fudd i'w gwsmeriaid. Mae hyn yn cynnwys data ar dai er mwyn helpu i amcangyfrif gwerth cartrefi cwsmeriaid, yn ogystal â helpu cwsmeriaid i ddeall eu cyllideb eiddo pan fyddant yn ystyried prynu tŷ.  

Gallwch ddefnyddio ein hadnodd prisiau tai i ddod o hyd i brisiau tai a phrisiau rhentu preifat ar gyfer eich ardal leol.  

Darllenwch ragor o enghreifftiau o sut mae sefydliadau yn defnyddio ein hystadegau i wneud penderfyniadau pwysig sy'n effeithio ar bob un ohonom.  

Os ydych yn sefydliad sy'n defnyddio data'r SYG, cysylltwch â ni i rannu eich enghraifft eich hun o sut mae defnyddio'r data wedi bod o fudd i bobl.