Addewid yw Cyfamod y Lluoedd Arfog sy'n sicrhau bod y rhai sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a'u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg. Er mwyn cyflawni'r addewid hwn, mae angen gwybodaeth gywir ar gynghorau am gymuned y lluoedd arfog yn eu hardal.
Ym mis Rhagfyr 2022, defnyddiodd Cyngor Sir Norfolk ddata'r cyfrifiad mewn asesiad o anghenion a gomisiynwyd gan Fwrdd Cyfamod y Lluoedd Arfog yn Norfolk. Casglodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) wybodaeth am gyn-filwyr am y tro cyntaf yn ystod Cyfrifiad 2021. Mae cyn-filwyr yn cynnwys unrhyw un a fu'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog am ddiwrnod neu fwy. Gofynnodd y cyfrifiad a oeddent wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog Rheolaidd neu Wrth Gefn.
Defnyddio data'r cyfrifiad i helpu i gyflawni Cyfamod y Lluoedd Arfog
Defnyddiodd aelodau o Fwrdd Cyfamod y Lluoedd Arfog Norfolk, gan gynnwys Cyngor Sir Norfolk, ddata'r SYG ar y boblogaeth a chartrefi, a data newydd o Gyfrifiad 2021 am y boblogaeth cyn-filwyr. Drwy ddefnyddio'r data hyn, gallai asesiad y cyngor o anghenion wella dealltwriaeth o gymuned y lluoedd arfog yn Norfolk. O ganlyniad, mae gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau ffynhonnell wybodaeth na fyddai'n bodoli fel arall. Gellir defnyddio hon i helpu i gefnogi'r gwasanaethau perthnasol a ddarperir i gymuned y lluoedd arfog yn lleol.
Defnyddiodd Cyngor Sir Norfolk fwy o ddata o'r cyfrifiad mewn adroddiad a gyhoeddwyd ganddo ym mis Mawrth 2024. Roedd y data yn cynnwys gwybodaeth am:
y boblogaeth a hunaniaeth
addysg a gwaith
tai
iechyd
Dyletswydd i ddarparu gwasanaethau tai, gofal iechyd ac addysg
Cyflwynwyd Dyletswydd Gyfreithiol y Cyfamod yn 2022 ac mae'n rhoi rhwymedigaeth gyfreithiol ar rai cyrff cyhoeddus i "roi sylw dyladwy" i egwyddorion Cyfamod y Lluoedd Arfog. Mae'n berthnasol i sefydliadau sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau tai, gofal iechyd ac addysg.
Mae'r Ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ystyried anghenion cymuned y lluoedd arfog pan fyddant yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â datblygu a darparu rhai gwasanaethau.
Cymorth ar gyfer tai yng nghymuned y lluoedd arfog
Gwnaeth data'r SYG ar gartrefi helpu Bwrdd y Cyfamod i dargedu sgyrsiau mewn perthynas â thai, yn enwedig tai cymdeithasol. Mae hyn wedi sicrhau bod awdurdodau sy'n gyfrifol am dai yn defnyddio cyrsiau e-ddysgu sy'n sicrhau bod cyflogeion yn ymwybodol o sut i gyflawni Dyletswydd Gyfreithiol y Cyfamod. Mae hefyd wedi cefnogi sgyrsiau am ddigartrefedd ymhlith y gymuned cyn-filwyr yn anuniongyrchol.
Cymorth ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd yng nghymuned y lluoedd arfog
Gan ddefnyddio data'r cyfrifiad, mae Bwrdd y Cyfamod wedi gallu nodi meysydd sydd â nifer mwy o gyn-filwyr y lluoedd arfog. Yna gall rheolwyr practisau a byrddau gofal integredig yn y GIG annog practisau meddygon teulu yn yr ardaloedd hyn i fod yn gyfeillgar i gyn-filwyr. Gall y practisau hyn roi cymorth penodol i gyn-filwyr a theuluoedd aelodau o'r lluoedd arfog sy'n gwasanaethu, sydd wedi'u cofrestru â nhw.
Cymorth ar gyfer addysg yng nghymuned y lluoedd arfog
Cyflwynodd yr Adran Addysg Bremiwm Disgyblion Lluoedd Arfog (SPP) er mwyn helpu i oresgyn yr heriau penodol sy'n wynebu plant o deuluoedd sy'n gwasanaethu. Mae hyn hefyd yn helpu sefydliadau i gyflawni eu hymrwymiad i Gyfamod y Lluoedd Arfog. Mae asesiad o anghenion Cyngor Sir Norfolk yn defnyddio data'r Adran Addysg i roi darlun cliriach o oedran disgyblion lluoedd arfog ledled y sir. Gan ddefnyddio'r wybodaeth hon, gall ysgolion ofyn am gymorth i roi cymorth ychwanegol i ddisgyblion drwy SPP.
Defnyddio data'r SYG nawr ac yn y dyfodol
Dywedodd Andrew Taylor, Comisiynydd y Lluoedd Arfog ar gyfer Norfolk,
Mae Cyngor Sir Norfolk yn bwriadu defnyddio data'r cyfrifiad a data eraill gan y SYG yn y dyfodol i lywio penderfyniadau am wasanaethau eraill y mae'n gyfrifol amdanynt.
Er enghraifft, bydd ystadegau am y boblogaeth a mudo gan y SYG yn darparu rhagor o wybodaeth am y ffordd y mae nifer y bobl sy'n byw yn Norfolk a'u nodweddion gwahanol yn newid dros amser. Bydd hyn yn galluogi'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i gynllunio gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion newidiol y sir.