1. Cyfres o weminarau ar ddod â data'n fyw
Eisiau dysgu sut y caiff costau byw eu cyfrifo? Neu ble yw'r llefydd hapusaf i fyw ynddynt yn y DU? Beth am sut rydym yn mesur y boblogaeth?
Cyfres o ddigwyddiadau ar-lein am ddim yw 'Dod â data'n fyw', a gynhelir gennym ni yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Mae'r digwyddiadau hyn yn archwilio cylch oes y ffordd y caiff ystadegau eu creu, o gasglu'r data i ryddhau'r ffigurau sy'n gwneud gwahaniaeth.
Rydym yn archwilio'r ffordd y gellir defnyddio ystadegau er mwyn ein helpu i wneud dewisiadau gwell a gwella ein gwasanaethau cyhoeddus. Popeth o iechyd a Chynnyrch Domestig Gros i'r amgylchedd a mudo.
Byddwch yn clywed gan bob sy'n gweithio gyda data ym mhob rhan o'r llywodraeth, gan archwilio'r canlynol:
y gwahaniaeth rhwng data ac ystadegau
sut y caiff ystadegau eu creu
lle mae ystadegau wedi cael effaith
Gallwch hefyd gymryd rhan mewn cwisiau, gofyn cwestiynau, a rhannu eich meddyliau.
Mae'r gweminarau am ddim ac yn agored i unrhyw un sy'n chwilfrydig am y ffordd y caiff data ac ystadegau eu creu. Byddant hefyd yn cael eu recordio a'u rhannu ar YouTube i chi eu gwylio'n ddiweddarach.
Nôl i'r tabl cynnwys2. Digwyddiadau ar ddod
Byddwn yn archwilio amrywiaeth o bynciau ystadegol. Mae'r pedair gweminar gyntaf ar gyfer Hydref 2024 yn cynnwys:
Dod â data'n fyw: cyflwyno ystadegau
Creu eich effaith pili pala eich hun: ystadegau dinasyddion ac amgylcheddol
Ffriwyr aer a recordiadau finyl: sut rydym yn mesur costau byw
Sut mae eich iechyd? Archwilio iechyd drwy rifau
Gallwch ddysgu mwy a chofrestru ar gyfer y digwyddiadau ar Eventbrite.
Nôl i'r tabl cynnwys3. Digwyddiadau blaenorol
Nid oes gennym unrhyw ddigwyddiadau blaenorol ar hyn o bryd.
Ar ôl y digwyddiad, ewch i'r dudalen hon i gael gafael ar y recordiad.
Nôl i'r tabl cynnwys