Ydych chi erioed wedi ystyried beth rydym ni'n ei wneud yn y SYG?
Mae ein fideo, "Canllaw syml ar ddata, ystadegau a’r SYG", yn dangos sut rydym yn casglu ac yn defnyddio'r data sydd o'n cwmpas o ddydd i ddydd i gynhyrchu ystadegau swyddogol.
Y gwahaniaeth y mae data yn ei wneud
Bob dydd, caiff penderfyniadau eu gwneud sy'n effeithio ar y pethau sydd o bwys i bob un ohonom. I wneud y penderfyniadau hynny, mae angen gwybodaeth gyfredol a dibynadwy ar bobl a sefydliadau. Gan amlaf, daw'r wybodaeth hon ar ffurf data. Yn y SYG, rydym ni'n casglu ac yn defnyddio'r data hyn yn ddiogel i greu ystadegau swyddogol.
Gwyliwch fwy o'n fideos ar ganllawiau'r SYG yn ein rhestr chwarae ar YouTube.