Pobl yng Nghymru a Lloegr â chyfeiriad gwahanol yn y Deyrnas Unedig flwyddyn cyn y cyfrifiad: Cyfrifiad 2021

Nodweddion pobl a symudodd flwyddyn cyn Cyfrifiad 2021 a Chyfrifiad 2011, gyda setiau data mudo manwl. Mewnlifau ac all-lifau rhanbarthol ac awdurdod lleol.

Hwn yw'r datganiad diweddaraf. Gweld datganiadau blaenorol

21 September 2023 10:57

Rydym wedi cywiro gwall mewn ffigur yn Adran 2.

“Roedd pobl ar draws y rhan fwyaf o grwpiau oedran a rhyw yn llai tebygol o gael cyfeiriad gwahanol yn y Deyrnas Unedig flwyddyn cyn Cyfrifiad 2021 o gymharu â Chyfrifiad 2011. Yn 2021, roedd gan 24.6% o fenywod 16 i 24 oed gyfeiriad gwahanol yn y Deyrnas Unedig flwyddyn cyn y cyfrifiad, sef y ganran uchaf o unrhyw grŵp oedran-rhyw.”

dylai fod wedi darllen

“Roedd pobl ar draws y rhan fwyaf o grwpiau oedran a rhyw yn llai tebygol o gael cyfeiriad gwahanol yn y Deyrnas Unedig flwyddyn cyn Cyfrifiad 2021 o gymharu â Chyfrifiad 2011. Yn 2021, roedd gan 26.3% o fenywod 16 i 24 oed gyfeiriad gwahanol yn y Deyrnas Unedig flwyddyn cyn y cyfrifiad, sef y ganran uchaf o unrhyw grŵp oedran-rhyw.”

Digwyddodd hyn oherwydd camgymeriad dynol. Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.

Gweld y fersiwn wedi'i disodli
Census

Cyswllt:
Email Steve Smallwood, Caroline Parker-Smith, Lynda Cooper

Dyddiad y datganiad:
6 September 2023

Cyhoeddiad nesaf:
To be announced

1. Prif bwyntiau

  • Yn 2021, roedd gan 5.9 miliwn o bobl yng Nghymru a Lloegr gyfeiriad gwahanol yn y Deyrnas Unedig flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad (10.1% o breswylwyr arferol un oed a throsodd), sef gostyngiad o 6.1 miliwn (11.1%) yn 2011. 

  • Yn 2021, roedd gan 5.4% o bobl (3.2 miliwn) gyfeiriad gwahanol yn yr un awdurdod lleol flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad, sef gostyngiad o 6.5% (3.6 miliwn) yn 2011, ac roedd gan 4.7% (2.8 miliwn) gyfeiriad mewn awdurdod lleol gwahanol, sef cynnydd bach o 4.6% (2.5 miliwn) yn 2011. 

  • Yn ystod y flwyddyn cyn Cyfrifiad 2021, Llundain oedd yr unig ranbarth ag all-lif net, lle roedd mwy o bobl wedi symud o Lundain i rywle arall yng Nghymru a Lloegr (3.8% o boblogaeth Llundain) nag oedd wedi symud o rywle arall yng Nghymru a Lloegr i Lundain (1.7% o boblogaeth Llundain).

  • Roedd gan un rhan o bump o bobl (21.5%) a oedd yn byw mewn cartrefi rhent preifat gyfeiriad gwahanol yn y Deyrnas Unedig flwyddyn cyn Cyfrifiad 2021, sef cyfran lai nag yn 2011 (31.9%).

  • O blith y bobl a oedd yn byw mewn cartrefi sy'n eiddo i berchen-feddianwyr, roedd gan 6.2% gyfeiriad gwahanol yn y Deyrnas Unedig flwyddyn cyn Cyfrifiad 2021, sef cyfran fwy nag yn 2011 (5.2%).

  • Roedd chwarter (25.6%) o fyfyrwyr amser llawn wedi newid cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig flwyddyn cyn Cyfrifiad 2021, sydd bron heb newid ers 2011 (25.4%).

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Pobl â chyfeiriad gwahanol yn y Deyrnas Unedig flwyddyn cyn y cyfrifiad

Yn 2021, roedd gan 276,000 o bobl yng Nghymru (9.0% o breswylwyr arferol un oed a throsodd) a 5.7 miliwn o bobl yn Lloegr (10.1%) gyfeiriad gwahanol yn y Deyrnas Unedig flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad (21 Mawrth 2021). Mae'r gyfran hon yn is nag yn 2011 pan oedd gan 10.4% o bobl yng Nghymru ac 11.1% o bobl yn Lloegr gyfeiriad gwahanol yn y Deyrnas Unedig flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad.

Mae'n debyg bod pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi annog rhai pobl i beidio â newid cyfeiriad. Nid oedd deddfwriaeth yn atal pobl rhag symud tŷ, ond cynghorwyd pobl i gymryd rhagofalon ychwanegol. Fodd bynnag, gall rhai pobl fod wedi symud oherwydd y pandemig, er enghraifft oedolion ifanc yn dychwelyd i gartref y teulu a phobl yn symud allan o ardaloedd trefol.

Cynyddodd cyfran y bobl yng Nghymru a Lloegr oedd â chyfeiriad mewn awdurdod lleol arall yn y Deyrnas Unedig flwyddyn yn ôl i 4.7% yn 2021 o 4.6% yn 2011. Symudodd cyfran fach o bobl i Gymru a Lloegr o Ogledd Iwerddon a’r Alban (0.06% yn 2021 a 0.09% yn 2011).

Gostyngodd cyfran y bobl oedd â chyfeiriad gwahanol yn eu hawdurdod lleol i 5.4% yn 2021 o gymharu â 6.5% yn 2011.

Symudodd llai nag 1% o bobl (0.9%) o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig yn 2021, sef gostyngiad o 1.1% yn 2011. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein herthygl Mudo rhyngwladol, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021.

Ni chofnododd Cyfrifiad 2021 symudiadau plant dan flwydd oed am nad oedd ganddynt gyfeiriad flwyddyn yn ôl. Gwnaed amcangyfrif ar gyfer y symudiadau hyn yn 2011, ond mae wedi'i dynnu o'r dadansoddiad yn y bwletin hwn er mwyn cymharu â 2021.

Deiliadaeth

Roedd gan un rhan o bump o bobl (21.5%) a oedd yn byw mewn cartrefi rhent preifat ar Ddiwrnod y Cyfrifiad gyfeiriad gwahanol yn y Deyrnas Unedig flwyddyn cyn Cyfrifiad 2021. Dyma'r gyfran uchaf o blith unrhyw fath o ddeiliadaeth, ond dyma'r gostyngiad mwyaf hefyd, o 31.9% yn 2011. Yn 2021, roedd gan 11.7% o'r grŵp hwn gyfeiriad gwahanol yn yr un awdurdod lleol, sef gostyngiad o 19.1% yn 2011.

Sicrhaodd Deddf y Coronafeirws 2020 fod tenantiaid cymdeithasol a phreifat yn cael eu hamddiffyn. Cynyddodd y darpariaethau y cyfnodau rhybudd roedd angen i landlordiaid eu rhoi i denantiaid os oeddent am feddiannu eiddo preswyl yn ystod y flwyddyn cyn y cyfrifiad. Gall hyn fod wedi lleihau nifer y bobl a newidiodd gyfeiriad. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch Ddeddf y Coronafeirws 2020 ar wefan Legislation.gov.uk.

Ymhlith pobl a oedd yn byw mewn cartrefi sy'n eiddo i berchen-feddianwyr y gwelwyd y gyfran leiaf o bobl a oedd wedi symud o fewn y Deyrnas Unedig flwyddyn cyn Cyfrifiad 2021 (6.2%). Dyma'r unig grŵp lle symudodd cyfran uwch o bobl o fewn y Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn cyn Cyfrifiad 2021 o gymharu â 2011 (5.2%). Mae'n debygol bod y 'gwyliau treth stamp' a oedd ar waith o fis Gorffennaf 2020 wedi effeithio ar hyn gan ei fod wedi lleihau Treth Dir y Dreth Stamp dros dro ar eiddo preswyl a brynwyd yn ystod y misoedd cyn y cyfrifiad. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canllawiau 'Stamp Duty Land Tax: temporary reduced rates' ar wefan GOV.UK.

Gall plant nad ydynt yn ddibynnol a symudodd yn ôl i gartref y teulu yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19) fod wedi cyfrannu at y gostyngiad mewn symudiadau i gartrefi rhent preifat a'r cynnydd mewn symudiadau i gartrefi sy'n eiddo i berchen-feddianwyr. Mae gan deuluoedd y mae eu holl blant yn rhai nad ydynt yn ddibynnol gyfraddau uchel o berchentyaeth o gymharu â "mathau eraill o gartrefi", sy'n cynnwys oedolion nad ydynt yn perthyn a myfyrwyr amser llawn sydd â chyfraddau uchel o rentu preifat. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein herthygl Nodweddion cartrefi yn ôl deiliadaeth, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021.

Ffigur 1: Roedd gan un rhan o bump o bobl a oedd yn byw mewn cartrefi rhent preifat gyfeiriad gwahanol yn y Deyrnas Unedig flwyddyn cyn Cyfrifiad 2021, sef cyfran lai nag yn 2011.

Preswylwyr arferol un oed a throsodd yng Nghymru a Lloegr â chyfeiriad gwahanol yn y Deyrnas Unedig flwyddyn cyn y cyfrifiad yn ôl deiliadaeth, 2011 a 2021

Embed code

Nodiadau:
  1. Er mwyn cymharu, caiff ffiniau awdurdodau lleol haen isaf 2021 eu defnyddio ar gyfer Cyfrifiad 2021 a Chyfrifiad 2011.

  2. Mae deiliadaeth yn cyfeirio at ddeiliadaeth y cartref roedd preswylwyr arferol yn byw ynddo ar Ddiwrnod y Cyfrifiad; nid ydym yn gwybod beth oedd deiliadaeth y cartref roeddent yn byw ynddo flwyddyn cyn y cyfrifiad.

Lawrlwytho'r data

.xlsx

Oedran a rhyw

Roedd pobl ar draws y rhan fwyaf o grwpiau oedran a rhyw yn llai tebygol o gael cyfeiriad gwahanol yn y Deyrnas Unedig flwyddyn cyn Cyfrifiad 2021 o gymharu â Chyfrifiad 2011. Yn 2021, roedd gan 26.3% o fenywod 16 i 24 oed gyfeiriad gwahanol yn y Deyrnas Unedig flwyddyn cyn y cyfrifiad, sef y ganran uchaf o unrhyw grŵp oedran-rhyw.

Roedd y dosbarthiad oedran-rhyw yn 2021 yn debyg i 2011 i'r rheini a symudodd o fewn yr un awdurdod lleol. Gostyngodd y gyfran ar draws pob grŵp oedran i ddynion a menywod.

Cynyddodd cyfran y menywod 16 i 24 oed a oedd wedi newid cyfeiriad rhwng awdurdodau lleol o 12.2% yn 2011 i 13.9% yn 2021. Gall y ffaith bod myfyrwyr yn symud rhwng awdurdodau lleol esbonio hyn. Gall pandemig y coronafeirws (COVID-19) fod wedi effeithio ar y cynnydd ymhlith pobl 25 i 34 oed a oedd wedi newid cyfeiriad hefyd. Mae hyn oherwydd bod cyfrannau uchel o'r grŵp hwn yn blant nad ydynt yn ddibynnol a all fod wedi dychwelyd i gartref y teulu am eu bod yn gweithio gartref neu ar ffyrlo.

Ffigur 2: Pobl rhwng 16 a 34 oed oedd fwyaf tebygol o fod wedi newid cyfeiriad, er ei fod yn llai tebygol yn 2021 nag yn 2011

Pob preswylydd arferol un oed a throsodd yng Nghymru a Lloegr â chyfeiriad gwahanol yn y Deyrnas Unedig flwyddyn cyn y cyfrifiad yn ôl grŵp oedran bras a rhyw, 2011 a 2021

Embed code

Nodiadau:
  1. Er mwyn cymharu, caiff ffiniau awdurdodau lleol haen isaf 2021 eu defnyddio ar gyfer Cyfrifiad 2021 a Chyfrifiad 2011.
Lawrlwytho'r data

.xlsx

Statws economaidd-gymdeithasol (gan gynnwys myfyrwyr)

Mae'r Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC) yn nodi sefyllfa economaidd-gymdeithasol unigolyn, yn seiliedig ar ymatebion i gwestiynau am statws gweithgarwch economaidd, galwedigaeth a hanes cyflogaeth yng Nghyfrifiad 2021. Mae'n ddosbarthiad safonol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Myfyrwyr amser llawn oedd fwyaf tebygol o fod â chyfeiriad gwahanol yn y Deyrnas Unedig flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad. Roedd gan chwarter o fyfyrwyr amser llawn (25.6%) gyfeiriad gwahanol yn y Deyrnas Unedig flwyddyn cyn y cyfrifiad, sydd bron heb newid o 25.4% yn 2011. Preswylfa arferol myfyriwr yw ei gyfeiriad yn ystod y tymor ni waeth ble yr oedd ar Ddiwrnod y Cyfrifiad. Roedd rhywfaint o dystiolaeth o newidiadau i'r boblogaeth yn ystod y tymor o ganlyniad i bandemig y coronafeirws (COVID-19). I gael rhagor o wybodaeth am sut y gwnaethom sicrhau amcangyfrif cywir o fyfyrwyr yn eu cyfeiriad yn ystod y tymor, darllenwch ein methodoleg: Methodology for accurately enumerating students in Census 2021.

Pobl sydd erioed wedi gweithio ac sy'n ddi-waith am gyfnod hir oedd yr ail grŵp mwyaf tebygol o fod wedi symud o fewn y Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn cyn Cyfrifiad 2011 (12.9%). Symudodd cyfran llawer llai (6.8%) o'r grŵp hwn o fewn y Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn cyn Cyfrifiad 2021. Gostyngodd y gyfran a symudodd o fewn yr un awdurdod lleol o 8.6% yn 2011 i 4.0% yn 2021.

Ffigur 3: Myfyrwyr amser llawn oedd fwyaf tebygol o fod wedi newid cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn cyn Cyfrifiad 2021 (25.6% o fyfyrwyr amser llawn), sydd bron heb newid o 25.4% yn 2011.

Preswylwyr arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru a Lloegr â chyfeiriad gwahanol yn y Deyrnas Unedig cyn y cyfrifiad yn ôl NS-SEC, 2021 a 2011

Embed code

Nodiadau:
  1. Er mwyn cymharu, caiff ffiniau awdurdodau lleol haen isaf 2021 eu defnyddio ar gyfer Cyfrifiad 2021 a Chyfrifiad 2011.

  2. Mae NS-SEC yn cyfeirio at y Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol.

Lawrlwytho'r data

.xlsx

Anabledd

Roedd gan gyfran lai o bobl nad oeddent yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb gyfeiriad gwahanol yn y Deyrnas Unedig flwyddyn cyn Cyfrifiad 2021 (10.5% o breswylwyr arferol un oed a throsodd nad oeddent yn anabl). Roedd y cwestiwn yn y cyfrifiad i nodi anabledd yn 2021 yn wahanol i'r cwestiwn yn 2011. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein bwletin Anabledd, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021.

Gwelwyd gostyngiad yng nghyfran y bobl anabl a oedd wedi'u cyfyngu'n fawr yn eu gweithgareddau pob dydd a symudodd o fewn y Deyrnas Unedig hefyd, o 6.8% yn 2011 i 6.5% yn 2021.

Yn 2021, roedd gan 9.0% o bobl anabl a oedd wedi'u cyfyngu ychydig yn eu gweithgareddau pob dydd gyfeiriad gwahanol yn y Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn cyn y cyfrifiad, sef cynnydd o 6.5% yn 2011. Yn 2021, roedd 4.2% o'r grŵp hwn wedi symud rhwng awdurdodau lleol, sef cynnydd o 2.4%. Gall y cynnydd hwn fod yn gysylltiedig â dosbarthiad oedran pobl anabl a oedd wedi'u cyfyngu ychydig, gan fod cyfran uwch mewn grwpiau oedran iau yn 2021 nag yn 2011. Cynyddodd cyfran y bobl 16 i 24 oed oedd ag anabledd a oedd yn cyfyngu ychydig ar eu gweithgareddau o 3.3% yn 2011 i 8.6% yn 2021.

Ffigur 4: Symudodd cyfran fwy o bobl anabl a oedd wedi'u cyfyngu ychydig yn eu gweithgareddau pob dydd o fewn y Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn cyn Cyfrifiad 2021 na Chyfrifiad 2011

Preswylwyr arferol un oed a throsodd yng Nghymru a Lloegr â chyfeiriad gwahanol yn y Deyrnas Unedig cyn y cyfrifiad yn ôl anabledd, 2021 a 2011

Embed code

Nodiadau:
  1. Er mwyn cymharu, caiff ffiniau awdurdodau lleol haen isaf 2021 eu defnyddio ar gyfer Cyfrifiad 2021 a Chyfrifiad 2011.
Lawrlwytho'r data

.xlsx

Statws Teuluol

Pobl sy'n byw mewn sefydliadau cymunedol oedd fwyaf tebygol o symud o fewn y  Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn cyn Cyfrifiad 2021 (42.6% o breswylwyr arferol un oed a throsodd sy'n byw mewn sefydliadau cymunedol).

Gwelwyd cynnydd mewn symudiadau rhwng awdurdodau lleol i'r rheini sy'n byw mewn teuluoedd cwpwl ac i blant rhieni unigol nad ydynt yn ddibynnol. Gall pandemig y coronafeirws (COVID-19) fod wedi cyfrannu at benderfyniadau plant nad ydynt yn ddibynnol i ddychwelyd i gartref rhiant.

Gwelwyd gostyngiad yn nifer y bobl a symudodd o fewn yr un awdurdod lleol ar draws pob math o deulu. Ymhlith y rheini a oedd yn byw mewn teuluoedd un rhiant y gwelwyd y gostyngiad mwyaf.

Ffigur 5: Pobl a oedd yn byw mewn sefydliad cymunedol ar Ddiwrnod y Cyfrifiad oedd fwyaf tebygol o gael cyfeiriad gwahanol y flwyddyn cynt

Preswylwyr arferol un oed a throsodd yng Nghymru a Lloegr â chyfeiriad gwahanol yn y Deyrnas Unedig cyn y cyfrifiad yn ôl statws teuluol, 2021 a 2011

Embed code

Nodiadau:
  1. Er mwyn cymharu, caiff ffiniau awdurdodau lleol haen isaf 2021 eu defnyddio ar gyfer Cyfrifiad 2021 a Chyfrifiad 2011.
Lawrlwytho'r data

.xlsx

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Mewnlifau – rhanbarthau ac awdurdodau lleol

De-ddwyrain Lloegr (2.6%) a De-orllewin Lloegr (2.5%) oedd y rhanbarthau â'r mewnlifau uchaf. Mae mewnlifau yn cyfeirio at breswylwyr arferol sy'n byw yn yr ardal ar Ddiwrnod y Cyfrifiad oedd â chyfeiriad flwyddyn yn ôl mewn ardal arall yng Nghymru a Lloegr, a gyflwynir fel cyfran o breswylwyr arferol un oed a throsodd yn yr ardal. Roedd patrwm tebyg yn 2011. Ledled rhanbarthau, mae cyfran y mewnlifau wedi cynyddu, heblaw am yn Llundain lle mae mewnlifau rhanbarthol wedi gostwng i 1.7% yn 2021 o 2.2% yn 2011.

Ffigur 6: Llundain yw'r unig ranbarth lle gwelwyd gostyngiad yn y mewnlifau rhwng 2011 (2.2%) a 2021 (1.7%)

Mewnlifau o breswylwyr arferol un oed a throsodd oedd â chyfeiriad gwahanol mewn rhanbarth gwahanol yng Nghymru a Lloegr cyn y cyfrifiad, 2021 a 2011

Embed code

Lawrlwytho'r data

.xlsx

Ffigur 7: Map rhyngweithiol yn dangos mewnlifau awdurdodau lleol

Mewnlifau o breswylwyr arferol un oed a throsodd oedd â chyfeiriad mewn awdurdod lleol gwahanol yng Nghymru a Lloegr flwyddyn cyn y cyfrifiad fel cyfran o breswylwyr arferol un oed a throsodd, 2021 a 2011
Nodiadau:

Embed code

  1. Er mwyn cymharu, caiff ffiniau awdurdodau lleol haen isaf 2021 eu defnyddio ar gyfer Cyfrifiad 2021 a Chyfrifiad 2011.
Lawrlwytho'r data

.xlsx

Awdurdodau lleol yn Llundain ac ardaloedd myfyrwyr oedd yr awdurdodau lleol â'r mewnlifau uchaf o rannau eraill o Gymru a Lloegr yn 2021. Roedd patrwm tebyg yn 2011.

O blith y 10 mewnlif cymesurol uchaf yn 2021, roedd wyth yn Llundain, a Chaergrawnt a Rhydychen oedd y ddau arall. Dinas Llundain oedd uchaf (18.2%) ac yna Islington (11.6%). Ceredigion oedd yr awdurdod lleol yng Nghymru â'r mewnlifau uchaf (6.4%).

Caerffili yng Nghymru (2.0%) a Barrow-in-Furness yn Lloegr (1.8%) oedd yr awdurdodau lleol â'r mewnlifau isaf yn 2021.

Ni welwyd llawer iawn o newid ym mewnlifau awdurdodau lleol rhwng 2011 a 2021.

Yng Nghastell-nedd Port Talbot y gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn mewnlif yng Nghymru, gan gynyddu o 2.3% yn 2011 i 3.3% yn 2021. Yn Ninas Llundain y gwelwyd y cynnydd mwyaf yn Lloegr, o 15.7% yn 2011 i 18.2% yn 2021, ac yna Gorllewin Swydd Gaerhirfryn, o 3.9% yn 2011 i 6.2% yn 2021.

Yng Ngheredigion y gwelwyd y gostyngiad mwyaf yng Nghymru, gan ostwng i 6.4% yn 2021 o 7.5% yn 2011. Yn Haringey y gwelwyd y gostyngiad mwyaf yn Lloegr, gan ostwng i 7.2% yn 2021 o 8.8% yn 2011.

Nôl i'r tabl cynnwys

4. All-lifau – rhanbarthau ac awdurdodau lleol

Mae all-lifau yn cyfeirio at breswylwyr arferol sy'n byw mewn ardal arall yng Nghymru a Lloegr, gyda chyfeiriad yn yr ardal flwyddyn ôl, a gyflwynir fel cyfran o breswylwyr arferol un oed a throsodd yn yr ardal.

Yn 2021, Llundain oedd â'r all-lifau uchaf. Mae nifer o ffactorau i esbonio hyn, gan gynnwys mewnlifau rhyngwladol uchel yn y gorffennol sy'n arwain at all-lifau mewnol uchel wrth i'r mudwyr hyn symud allan o Lundain. I gael rhagor o fanylion, darllenwch ein bwletin Mudo rhyngwladol, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021. Hefyd, mae'r ffaith bod pobl yn symud i Lundain cyn cael plant, yn cael plant yn Llundain ac yna'n symud i ffwrdd o Lundain fel teulu â phlant yn esbonio hyn yn rhannol.

Cynyddodd all-lif Llundain i 3.8% yn 2021, o 2.7% yn 2011, er i'r rhan fwyaf o all-lifau rhanbarthol ostwng ledled y rhanbarthau eraill. Arsylwyd ar all-lifau cynyddol rhwng 2012 a 2020 cyn pandemig y coronafeirws (COVID-19); ceir rhagor o fanylion am symudiad pobl i mewn ac allan o Lundain yn ein bwletin Population estimates for the UK, England, Wales, Scotland and Northern Ireland: mid-2020. Gallai pandemig y coronafeirws fod wedi cyfrannu at hyn hefyd oherwydd bod cynnydd mewn trefniadau gweithio gartref wedi lleihau'r angen i bobl fyw ger eu gweithle.

Ffigur 8: Mae all-lifau Llundain wedi cynyddu o 2.7% yn 2011 i 3.8% yn 2021 

All-lifau o breswylwyr arferol un oed a throsodd oedd â chyfeiriad gwahanol mewn rhanbarth gwahanol yng Nghymru a Lloegr cyn y cyfrifiad, 2021 a 2011

Embed code

Lawrlwytho'r data

.xlsx

Roedd pob un o'r 16 o awdurdodau lleol â'r all-lifau uchaf yn Llundain. Dinas Llundain (16.3%) a Hammersmith a Fulham (14.3%) oedd â'r all-lifau uchaf. Roedd y patrwm hwn yn debyg i 2011. Yng Nghymru, Caerdydd oedd yr awdurdod lleol â'r all-lifau uchaf (4.5%).

Ffigur 9: Map rhyngweithiol yn dangos all-lifau awdurdodau lleol

All-lifau o breswylwyr arferol un oed a throsodd oedd â chyfeiriad gwahanol mewn awdurdod lleol gwahanol yng Nghymru a Lloegr cyn y cyfrifiad fel cyfran o breswylwyr arferol un oed a throsodd, 2021 a 2011

Embed code

Nodiadau:
  1. Er mwyn cymharu, caiff ffiniau awdurdodau lleol haen isaf 2021 eu defnyddio ar gyfer Cyfrifiad 2021 a Chyfrifiad 2011.
Lawrlwytho'r data

.xlsx

Merthyr Tudful a Blaenau Gwent oedd yr awdurdodau lleol â'r all-lifau lleiaf yng Nghymru (2.2%). Barrow-in-Furness oedd yr awdurdod lleol yn Lloegr â'r all-lif lleiaf (1.9%).

Roedd y 10 awdurdod lleol lle gwelwyd y cynnydd pwynt canran mwyaf mewn all-lifau yn Llundain; Lambeth oedd yr uchaf, a gynyddodd o 10.1% yn 2011 i 13.5% yn 2021. Yng Nghastell-nedd Port Talbot y gwelwyd y cynnydd pwynt canran mwyaf yng Nghymru, gan gynyddu o 2.5% i 3.2%.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Llifau net – rhanbarthau ac awdurdodau lleol

Oherwydd bod mwy o fewnlifau a llai o all-lifau, gwelwyd cynnydd mewn llifau net yn y rhan fwyaf o ranbarthau, sy'n golygu bod mwy o bobl wedi symud i mewn i'r ardal nag allan o'r ardal (o weddill Cymru a Lloegr). Yn Ne-orllewin Lloegr y gwelwyd mewnlif net mwyaf (0.7% o breswylwyr arferol un oed a throsodd yn yr ardal).

Llundain oedd yr unig ranbarth ag all-lif net yn 2021, a gynyddodd o 0.5% o all-lif net yn 2011 i 2.1% yn 2021.

Ffigur 10: Llundain oedd yr unig ranbarth ag all-lif net yn 2021

Llifau net o breswylwyr arferol un oed a throsodd oedd â chyfeiriad gwahanol mewn rhanbarth gwahanol yng Nghymru a Lloegr cyn y cyfrifiad fel cyfran o breswylwyr arferol un oed a throsodd, 2021 a 2011

Embed code

Lawrlwytho'r data

.xlsx

Ffigur 11: Map rhyngweithiol yn dangos llifau net awdurdodau lleol

Llifau net o breswylwyr arferol un oed a throsodd oedd â chyfeiriad gwahanol mewn awdurdod lleol gwahanol yng Nghymru a Lloegr cyn y cyfrifiad fel cyfran o breswylwyr arferol un oed a throsodd, 2021 a 2011

Embed code

Nodiadau:
  1. Er mwyn cymharu, caiff ffiniau awdurdodau lleol haen isaf 2021 eu defnyddio ar gyfer Cyfrifiad 2021 a Chyfrifiad 2011.
Lawrlwytho'r data

.xlsx

Mewn ardaloedd myfyrwyr y gwelwyd y mewnlifau net uchaf yn 2021 (fel cyfran o breswylwyr arferol un oed a throsodd), a oedd yn debyg i 2011. Ceredigion yng Nghymru (2.0%) a Nottingham yn Lloegr (3.1%) oedd yr awdurdodau lleol â'r mewnlifau net uchaf.

Yn Llundain y gwelwyd yr ardaloedd â'r all-lifau net uchaf. Wrecsam oedd yr ardal â'r all-lif net mwyaf yng Nghymru (0.3%) a Haringey yn Lloegr (3.4%).

Yn Llundain y gwelwyd yr ardaloedd yng Nghymru a Lloegr â'r all-lifau net uchaf yn 2011 hefyd, yn rhannol oherwydd y mewnlif rhyngwladol uwch. Roedd graddfa all-lifau net yn fwy yn 2021 nag yn 2011. Roedd y 10 awdurdod lleol â'r cynnydd mwyaf mewn all-lifau net yn Llundain. Haringey oedd â'r newid pwynt canran mwyaf mewn all-lifau net, gydag all-lif o 3.4% yn 2021 ac all-lif o 0.6% yn 2011.

Mewn ardaloedd mwy gwledig ac ardaloedd myfyrwyr mewn dinasoedd a threfi bach y gwelwyd cynnydd pwynt canran mewn mewnlifau net.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Pobl â chyfeiriad gwahanol flwyddyn cyn y cyfrifiad yn yr un ardal

Gwelwyd gostyngiad ledled pob rhanbarth yng nghyfran y bobl a symudodd o fewn eu rhanbarth. Yng Nghymru y gwelwyd y gwahaniaeth pwynt canran mwyaf rhwng 2011 a 2021, a ostyngodd o 7.1% i 8.7%. Roedd gan Gymru gyfran is o symudiadau (7.1%) nag unrhyw ranbarth yn Lloegr. Yn Llundain y gwelwyd y gyfran uchaf o symudiadau o fewn y rhanbarth (9.7%).

Ffigur 12: Gostyngodd y cyfrannau o symudiadau o fewn pob rhanbarth ledled Cymru ac ym mhob rhanbarth yn Lloegr

Preswylwyr arferol un oed a throsodd oedd â chyfeiriad gwahanol o fewn eu rhanbarth yng Nghymru a Lloegr cyn y cyfrifiad fel cyfran o breswylwyr arferol un oed a throsodd, 2021 a 2011

Embed code

Lawrlwytho'r data

.xlsx

Ffigur 13: Map rhyngweithiol yn dangos symudiadau o fewn awdurdodau lleol

Cyfran y preswylwyr arferol un oed a throsodd oedd â chyfeiriad gwahanol yn yr un awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr cyn y cyfrifiad fel cyfran o breswylwyr arferol un oed a throsodd, 2021 a 2011

Embed code

Nodiadau:
  1. Er mwyn cymharu, caiff ffiniau awdurdodau lleol haen isaf 2021 eu defnyddio ar gyfer Cyfrifiad 2021 a Chyfrifiad 2011.
Lawrlwytho'r data

.xlsx

Yn 2021, ardaloedd myfyrwyr oedd yr awdurdodau lleol â'r cyfrannau uchaf o bobl oedd â chyfeiriad gwahanol flwyddyn cyn y cyfrifiad yn yr un awdurdod lleol. Caerdydd oedd â'r gyfran uchaf yng Nghymru yn 2021 (9.2%), a Rhydychen oedd â'r gyfran uchaf yn Lloegr (11.0%).

Roedd gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol (288 allan o 321) lai o symudiadau o fewn yr awdurdod lleol yn 2021 nag yn 2011. Hastings oedd yr awdurdod lleol lle gwelwyd y gostyngiad pwynt canran mwyaf (o 8.8% yn 2011 i 5.2% yn 2021). Gwelwyd gostyngiad mewn symudiadau o fewn yr un awdurdod lleol ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru hefyd, ac yng Nghasnewydd y gwelwyd y gostyngiad pwynt canran mwyaf gyda 6.4% yn 2011 a 4.4% yn 2021.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Data mudo manwl

Data mudo manwl
Set ddata | Rhyddhawyd ar 6 Medi 2023
Mae ystadegau mudo manwl yn darparu nodweddion pobl neu gartrefi sydd wedi symud o fewn Cymru a Lloegr, neu o wlad arall i Gymru a Lloegr, yn ystod y flwyddyn cyn Cyfrifiad 2021.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Rhestr termau

Cyfeiriad flwyddyn yn ôl

Y lle roedd person yn byw flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad (21 Mawrth 2021), hynny yw, ddydd Mawrth 2020. Gallai pobl ddewis o:

  • yr un peth â'r cyfeiriad presennol

  • cyfeiriad myfyriwr yn ystod y tymor neu gyfeiriad ysgol breswyl yn y Deyrnas Unedig

  • cyfeiriad arall yn y Deyrnas Unedig

  • y tu allan i'r Deyrnas Unedig

Sefydliad cymunedol

Lleoliad yw sefydliad cymunedol wedi'i reoli lle caiff y llety preswyl ei oruchwylio drwy'r amser neu am ran o'r amser. Mae enghreifftiau yn cynnwys:

  • neuaddau preswyl prifysgolion ac ysgolion preswyl

  • cartrefi gofal, ysbytai, hosbisau ac unedau mamolaeth

  • gwestai, tai llety, hostelau a llety gwely a brecwast, sy'n cynnwys llety preswyl i saith gwestai neu fwy

  • carchardai a chyfleusterau diogel eraill

  • Llety Byw Unigol mewn canolfannau milwrol

  • llety i staff

  • sefydliadau crefyddol

Nid yw'n cynnwys llety gwarchod, fflatiau a wasanaethir, llety nyrsys, na thai a gaiff eu rhentu i fyfyrwyr gan landlordiaid preifat. Cartrefi yw'r rhain.

Anabledd

Yng Nghyfrifiad 2021, ystyriwyd bod pobl a asesodd fod cyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol hirdymor yn cyfyngu ar eu gweithgareddau pob dydd yn anabl.

Mae'r diffiniad hwn o berson anabl yn cyrraedd safon wedi'i chysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth ar gyfer mesur anableddac mae'n unol â'r Ddeddf Cydraddoldeb (2010). Mae'r diffiniad hwn yn nodi bod yn rhaid i berson gael nam corfforol neu feddyliol, a bod y nam yn cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allu person i wneud gweithgareddau pob dydd.

Felly, cafodd y rhai a nododd fod cyflwr yn cyfyngu ar eu gweithgareddau pob dydd ychydig neu yn fawr eu dosbarthu'n anabl. Cafodd pobl nad oedd ganddynt gyflyrau corfforol neu feddyliol hirdymor, neu oedd â chyflyrau nad oeddent yn cyfyngu ar eu gweithgareddau pob dydd, eu dosbarthu'n bobl nad ydynt yn anabl. I gael manylion am newidiadau i gwestiynau rhwng 2011 a 2021, darllenwch Adran 10 yn ein herthygl Unpaid care and protected characteristics, England and Wales: Census 2021.

Teulu

Ystyr teulu yw pâr priod, cwpwl mewn partneriaeth sifil neu gwpwl sy'n cyd-fyw sydd â phlant neu heb blant, neu un rhiant sydd ag o leiaf un plentyn sy'n byw yn yr un cartref. Gall plant fod yn ddibynnol neu'n blant nad ydynt yn ddibynnol. Gall teulu gynnwys cymysgedd o blant dibynnol a phlant nad ydynt yn ddibynnol. Mae gan bob teulu Berson Cyswllt y Teulu.

Llif net

Yr all-lifau o ardal Yn y bwletin hwn, mae mewnlifau, all-lifau a llifau net wedi'u cyfyngu i lifau rhwng ardaloedd o fewn Cymru a Lloegr a chânt eu cyflwyno fel cyfran o'r boblogaeth o breswylwyr arferol un oed a throsodd ar Ddiwrnod y Cyfrifiad.

Plentyn nad yw'n ddibynnol

Caiff y term "plant sy'n oedolion" ei ddefnyddio weithiau. Ystyr plentyn nad yw'n ddibynnol yw person sy'n byw gyda'i riant neu rieni ac sydd naill ai'n 19 oed neu drosodd a heb briod, partner neu blentyn sy'n byw yn y cartref, neu'n 16 i 18 oed a heb fod mewn addysg amser llawn a heb briod, partner neu blentyn sy'n byw yn y cartref

Math o ddeiliadaeth

P'un a yw aelodau cartref yn berchen ar y cartref y maent yn byw ynddo neu'n ei rentu.

Gall cartref sy'n eiddo i berchen-feddiannydd gynnwys y canlynol:

  • yn berchen arno'n gyfan gwbl, lle mae aelodau o'r cartref yn berchen ar y cartref cyfan

  • yn berchen arno gyda morgais neu fenthyciad

  • yn berchen arno'n rhannol â chynllun rhanberchnogaeth

Gall cartref sy'n cael ei rentu gynnwys y canlynol:

  • wedi'i rentu'n breifat; er enghraifft, drwy landlord preifat neu asiant gosod eiddo

  • wedi'i rentu'n gymdeithasol drwy gyngor lleol neu gymdeithas dai

Nid yw'r wybodaeth hon ar gael ar gyfer lleoedd cartref lle nad oes unrhyw breswylwyr arferol.

Preswylydd arferol

Ystyr preswylydd arferol yw unrhyw un a oedd, ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021, yn y Deyrnas Unedig ac wedi aros neu'n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu a oedd â chyfeiriad parhaol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac yn bwriadu aros y tu allan i'r Deyrnas Unedig am lai na 12 mis.

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Mesur y data

Dyddiad cyfeirio

Mae'r cyfrifiad yn rhoi amcangyfrifon o nodweddion pob unigolyn a chartref yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021. Caiff ei gynnal unwaith bob 10 mlynedd ac mae'n rhoi'r amcangyfrif mwyaf cywir o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr i ni.

Rydym yn gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, ond byddwn hefyd yn rhyddhau allbynnau ar gyfer y Deyrnas Unedig mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cofnodion Cenedlaethol yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon. Cafodd y cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon ei gynnal ar 21 Mawrth 2021 hefyd, ond cafodd cyfrifiad yr Alban ei symud i 20 Mawrth 2022. Mae holl swyddfeydd y cyfrifiad yn y Deyrnas Unedig yn gweithio'n agos i ddeall sut y bydd y gwahaniaeth hwn mewn dyddiadau cyfeirio yn effeithio ar ystadegau poblogaeth a thai'r Deyrnas Unedig gyfan, o ran yr amseru a'r cwmpas.

Cyfradd ymateb

Cyfradd ymateb unigolion yw nifer y preswylwyr arferol y cafodd manylion unigol eu darparu ar eu cyfer ar holiadur a ddychwelwyd, wedi'i rannu ag amcangyfrif o'r boblogaeth breswyl arferol.

Y gyfradd ymateb unigolion ar gyfer Cyfrifiad 2021 oedd 97% o boblogaeth breswyl arferol Cymru a Lloegr, a dros 88% ym mhob awdurdod lleol. Cafodd y rhan fwyaf o ffurflenni (89%) eu derbyn ar lein. Gwnaeth y gyfradd ymateb ragori ar ein targed, sef 94% yn gyffredinol ac 80% ym mhob awdurdod lleol.

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Cryfderau a chyfyngiadau

Ceir ystyriaethau o ansawdd ynghyd â chryfderau a chyfyngiadau Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol yn ein hadroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021. I gael rhagor o wybodaeth am sicrhau ansawdd data, darllenwch ein methodoleg Measures showing the quality of Census 2021 estimates. Darllenwch fwy am yr ystyriaethau ansawdd penodol ar gyfer demograffeg a mudo yn ein methodoleg Demography and migration quality information for Census 2021.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein prosesau sicrhau ansawdd eraill yn ein methodoleg Maximising the quality of Census 2021 population estimates.

Nôl i'r tabl cynnwys

11. Cyfeirio at y bwletin hwn

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG), rhyddhawyd ar 6 Medi 2023, gwefan y SYG, bwletin ystadegol, Pobl â chyfeiriad gwahanol ym mis Mawrth 2020 i Ddiwrnod y Cyfrifiad 2021, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Nôl i'r tabl cynnwys

Manylion cyswllt ar gyfer y Bwletin ystadegol

Steve Smallwood, Caroline Parker-Smith, Lynda Cooper
census.customerservices@ons.gov.uk
Ffôn: +44 1329 444972