Nid ydym yn galw heb wahoddiad

Cyn i ni gysylltu â chi, byddwch naill ai wedi cael llythyr gennym am yr astudiaeth neu byddwch eisoes wedi cymryd rhan yn yr astudiaeth gyda chyfwelydd.

Rydym yn cadarnhau pwy ydym ni

Byddwn ni bob amser yn cadarnhau ein bod o SYG pryd bynnag y byddwn ni'n cysylltu â chi, gan arddangos ein logo ar bob llythyr a thaflen.

Yn ogystal, mae gan bob un o'n cyfwelwyr rif adnabod unigryw.

Os nad ydych chi'n siŵr

Ffoniwch ni am ddim os bydd gennych unrhyw ymholiadau ar+44 (0) 800 298 5313 er mwyn:

  • Cadarnhau y cawsoch eich gwahodd i un o'n hastudiaethau
  • Cadarnhau manylion adnabod cyfwelydd
  • Sicrhau bod eich llythyr yn ddilys