1. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi gorffen cynnal Arolwg Cenedlaethol Cymru

Roedd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) gontract i gynnal Arolwg Cenedlaethol Cymru ar ran Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid o 2016 tan 2023.

Bydd y gwaith o gynnal Arolwg Cenedlaethol Cymru yn cael ei drosglwyddo i gontractwr newydd a bydd y broses casglu data yn dechrau o fis Mawrth 2024 ymlaen.

Mae'r astudiaeth yn casglu gwybodaeth am sawl maes, gan gynnwys y canlynol:

  • iechyd

  • ysgolion

  • chwaraeon

  • celfyddydau a diwylliant

Daeth Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022 i 2023 i ben ar 31 Mawrth 2023.

Beth i'w wneud os cawsoch eich gwahodd i gymryd rhan

Os cawsoch eich gwahodd i gymryd rhan yn Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022 i 2023, nid oes angen i chi ymateb mwyach. Diolch i'r rheini a gwblhaodd Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Sut y caiff y wybodaeth ei defnyddio?

Caiff y data eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid er mwyn helpu i lunio polisïau a gwneud penderfyniadau. I gael rhagor o wybodaeth am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r data personol a gasglwyd gan Arolwg Cenedlaethol Cymru, darllenwch ywybodaeth am breifatrwydd ar wefan llyw.cymru.

Bydd y SYG yn dileu holl ddata o Arolwg Cenedlaethol Cymru yn unol â rhwymedigaethau cytundebol.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau am Arolwg Cenedlaethol Cymru, cysylltwch â Llywodraeth Cymru yn arolygon@llyw.cymru.

Nôl i'r tabl cynnwys