1. Sut i gymryd rhan

I gymryd rhan bydd angen i chi gofrestru ag IQVIA, sef y cwmni sy'n casglu data ar ran SYG a Phrifysgol Rhydychen.

I gofrestru, ffoniwch IQVIA ar y rhif ffôn sydd yn eich llythyr. Mae angen i chi ddarparu eich rhif cyfeirnod hefyd; gallwch ddod o hyd iddo yng nghornel dde uchaf eich llythyr. Bydd eich rhif cyfeirnod yn dechrau gyda tri llythren er enghraifft y llythrennau “COV” neu “COW”. Yna, bydd y cynghorydd ffôn yn gallu trefnu apwyntiad i nyrs neu un o weithwyr iechyd yr astudiaeth ymweld â chi yn eich cartref i gwblhau'r astudiaeth.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Ynglŷn â'r astudiaeth

Mae pandemig y coronafeirws (COVID-19) yn cael effaith sylweddol ledled y DU.

Mae'r astudiaeth hon yn ceisio canfod faint o bobl sydd wedi cael COVID-19 yn barod, hyd yn oed os nad ydynt yn sylweddoli eu bod wedi'i gael. Byddwn ni'n gwneud hyn drwy ofyn cwestiynau, cymryd swabiau o'ch trwyn a'ch gwddf a chymryd sampl gwaed o bosibl. Un ffordd y mae'r corff yn ymladd yn erbyn heintiau fel COVID-19 yw creu gronynnau mân yn y gwaed sef "gwrthgyrff". Bydd gwyddonwyr yn mesur y lefelau o feirws COVID-19 mewn swab trwyn a gwddf a lefelau'r gwrthgyrff hyn yn y gwaed er mwyn canfod pwy sydd â COVID-19 nawr (gyda neu heb symptomau) a phwy sydd wedi'i gael yn y gorffennol. Bydd pawb sy'n ymuno â'r astudiaeth yn cael swab trwyn a gwddf unwaith er mwyn mesur lefelau o'r feirws. Byddwn ond yn gofyn i rai o'r bobl hyn roi gwaed hefyd.

Caiff yr astudiaeth hon ei chynnal dros flwyddyn gyfan. Mae tri opsiwn ar gael i chi. Gallwch chi gael un ymweliad yn unig. Gallwch chi gael ymweliad bob wythnos am fis -- neu gallwch chi wneud hyn ac yna barhau i gael ymweliadau bob mis am flwyddyn o'r dyddiad pan wnaethoch ymuno â'r astudiaeth. Mae hyn yn gwbl wirfoddol. Gall y nyrs neu weithiwr iechyd yr astudiaeth esbonio mwy am beth y bydd hyn yn ei olygu.

Diben cyffredinol yr astudiaeth hon yw deall faint o bobl o oedrannau gwahanol ledled y DU sydd wedi cael COVID-19 yn barod. Bydd hyn yn helpu'r llywodraeth i benderfynu sut i reoli'r pandemig yn well yn y dyfodol a diogelu'r GIG rhag cael ei orlethu.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Beth yw gwrthgorff?

Gwrthgyrff yw un ffordd y mae eich corff yn ymladd yn erbyn haint. Mae'n cymryd rhwng pythefnos a thair wythnos i'ch corff greu digon ohonynt i ymladd yn erbyn yr haint. Pan fyddwch chi wedi gwella, bydd lefelau isel ohonynt yn aros yn eich gwaed – dyma sy'n eich helpu i beidio â dal yr un haint eto.

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Pwy sy'n cynnal yr astudiaeth?

SYG sy'n cynnal yr astudiaeth hon. Mae Prifysgol Rhydychen yn noddi'r astudiaeth. Rydym yn gweithio gyda sefydliadau eraill i helpu i gasglu a phrosesu'r data ar gyfer yr astudiaeth hon.

  • Bydd IQVIA yn gyfrifol am drefnu apwyntiadau, cymryd y swabiau trwyn a gwddf a chymryd y samplau gwaed.

  • Bydd gwyddonwyr ym Mhrifysgol Rhydychen yn gyfrifol am storio a phrosesu'r samplau gwaed. Byddant yn cynhyrchu'r data am wrthgyrff i SYG eu dadansoddi.

  • Bydd y Ganolfan Biosamplu Genedlaethol a Labordy Goleudy Glasgow yn gyfrifol am storio a phrosesu'r swabiau trwyn a gwddf. Bydd yn cynhyrchu'r data am y feirws i SYG eu dadansoddi.

  • Bydd SYG a Phrifysgol Rhydychen yn dadansoddi'r data a gaiff eu prosesu gan Brifysgol Rhydychen a'r Ganolfan Biosamplu Genedlaethol.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Pam y dylwn i gymryd rhan?

Diben yr astudiaeth hon yw galluogi gwyddonwyr i ddeall pwy sydd wedi cael eu heintio â'r coronafeirws (COVID-19), hyd yn oed os nad oeddent yn ymwybodol o hynny ar y pryd. Bydd hyn yn helpu'r llywodraeth i benderfynu sut i reoli'r pandemig yn well yn y dyfodol a diogelu'r GIG rhag cael ei orlethu.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Pam ydw i wedi cael fy newis?

Mae'n bosibl ein bod wedi cysylltu â chi oherwydd eich bod:

  • yn cymryd rhan yn yr Arolwg o'r Llafurlu ar hyn o bryd. Mae hefyd yn bwysig iawn i ni eich bod yn parhau i gymryd rhan yn yr astudiaeth honno 
  • wedi cymryd rhan yn un o'n hastudiaethau ar-lein yn ddiweddar
  • wedi cael eu dewis ar hap o gronfa ddata o gyfeiriadau
  • wedi cymryd rhan mewn arolwg a gynhaliwyd gan NISRA (Northern Ireland Statistical Research Agency)

Bydd y llythyr a gawsoch wedi cael ei anfon at aelod o'ch cartref a gymerodd ran mewn astudiaeth flaenorol gan SYG neu at y preswylydd. Fodd bynnag, yn yr astudiaeth hon, rydym yn gofyn i bob oedolyn, person ifanc yn ei arddegau a phlentyn 2 oed neu drosodd yn eich cartref gymryd rhan.

Yng ngham cyntaf yr astudiaeth hon, gwnaethom ofyn i oddeutu 11,000 o gartrefi yn Lloegr gymryd rhan. Dros y flwyddyn nesaf, rydym yn gofyn i oddeutu 220,000 o gartrefi gymryd rhan o bob rhan o'r DU.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Oes rhaid i mi gymryd rhan?

Nid oes rhaid i chi gymryd rhan o gwbl a gallwch dynnu'n ôl ar unrhyw adeg heb roi rheswm. Gall pawb yn y cartref wneud dewis gwahanol – nid oes rhaid i bawb wneud yr un peth. Os byddwch chi'n cymryd rhan, gallwch dynnu'n ôl o'r astudiaeth ar unrhyw adeg heb roi rheswm a heb gael eich cosbi. Gall rhieni neu ofalwyr hefyd dynnu eu plentyn allan o'r astudiaeth unrhyw bryd heb roi rheswm.

Dyma eich cyfle i fod yn rhan o astudiaeth unigryw a fydd yn helpu gwyddonwyr i ganfod faint o bobl sydd eisoes wedi cael eu heintio â'r coronafeirws (COVID-19). Os nad ydym wedi llwyddo i'ch darbwyllo, nid oes rhaid i chi gymryd rhan.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Pwy all gymryd rhan?

Gall unrhyw un yn y cartref sy'n 2 oed neu drosodd gymryd rhan yn yr astudiaeth hon. Yr unig eithriad yw oedolion na allant gydsynio eu hunain.

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Sut gallaf wneud apwyntiad os oes gen i nam ar fy nghlyw?

Os oes gennych nam ar eich clyw ac nad ydych yn gallu defnyddio'r ffôn, gallwch gysylltu ag IQVIA drwy e-bostio iqvia.covid19survey@nhs.net i wneud apwyntiad.  Bydd angen i chi gynnwys eich rhif cyfeirnod yn eich e-bost; gallwch ddod o hyd iddo yng nghornel dde uchaf eich llythyr. Bydd eich rhif cyfeirnod yn dechrau â'r llythrennau "COV" neu "COW". Yna, bydd cynghorydd yn cysylltu â chi er mwyn trefnu apwyntiad i nyrs neu un o weithwyr iechyd yr astudiaeth ymweld â chi yn eich cartref i gwblhau'r astudiaeth.

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Beth fydd yn digwydd os byddaf yn penderfynu cymryd rhan?

Os hoffech chi neu rywun sy'n byw yn eich cartref ar hyn o bryd gymryd rhan yn yr astudiaeth, byddwn yn trefnu bod un o weithwyr iechyd yr astudiaeth yn ymweld â'ch cartref. Ystyr rhywun sy'n byw yn eich cartref ar hyn o bryd yw rhywun sydd fel arfer yn aros dros nos yng nghyfeiriad y cartref o leiaf bedair noson o bob saith. Diffinnir "cartref" fel:

  • un person sy'n byw ar ei ben ei hun; neu

  • grŵp o bobl (nad ydynt o reidrwydd yn perthyn i'w gilydd) sy'n byw yn yr un cyfeiriad sy'n rhannu cyfleusterau coginio ac yn rhannu ystafell fyw neu lolfa neu ardal fwyta

Ffoniwch IQVIA, sef y cwmni sy'n casglu'r data, er mwyn trefnu apwyntiad ar amser sy'n gyfleus i chi. Y rheswm dros anfon rhywun o'r astudiaeth i'ch cartref yw sicrhau nad oes rhaid i chi deithio i ganolfan iechyd. Mae pawb sy'n gweithio i'r astudiaeth wedi cael hyfforddiant priodol.

Gall unrhyw un yn eich cartref gymryd rhan yn yr astudiaeth os yw'n dymuno gwneud hynny, ond nid oes rhaid i unrhyw un gymryd rhan – byddwn yn cynnwys cynifer o bobl ag sydd am ymuno.

Nôl i'r tabl cynnwys

11. A fyddaf yn cael fy nhalu am gymryd rhan?

Fel diolch am gymryd rhan, bydd pawb, gan gynnwys plant, sy'n cymryd rhan  yn yr astudiaeth yn derbyn taleb.

Byddwch yn cael taleb bob tro y byddwch chi'n cymryd rhan yn yr astudiaeth.

Sylwch, ni fyddwn byth yn gofyn am eich manylion banc, dim ond trwy e-bost y bydd y talebau byth yn cael eu cyhoeddi neu mewn rhai achosion trwy'r post.

Derbyn eich taleb

Anfonir e-bost yn dilyn pop apwyntiad wedi'i gwblhau gyda chyfarwyddiadau ar sut i adbrynu'ch taleb. Dylech dderbyn yr e-bost hwn cyn pen 20 diwrnod ar ôl yr ymweliad – ar ôl hyn, cysylltwch â ni ar COVID-19@ons.gov.uk. Gwiriwch eich ffolder sothach neu sbam bob amser trwy chwilio am e-byst gan yr anfonwr "latest-updates@sodexo-engage.com".

Gwario eich taleb

Bydd y codau talebau yn ddilys am dri mis o'r dyddiad y byddwch yn derbyn yr e-bost. Ar ôl ei ad-dalu, bydd y daleb ar gyfer manwerthwr penodol o'ch dewis yn ddilys am lawer hirach.

Gallwch wario eich taleb ar-lein gydag amrywiaeth o fanwerthwyr neu yn y siop.

Gellir gwario e-dalebau Sodexo yn; Amazon, Arcadia, Argos, Asda, Asos, B&Q Gift Card, Blackwells, Buy a gift, Caffe Nero, Clarks, Costa Coffee, Currys/PC World, Decathlon, For Good Causes Universal Charity (for charity donations), Global Hotel Card GB, Google Play, H&M, H.Samuel, Halfords, IKEA, Inspire Travel Card, ITunes, John Lewis, Just Eat, lastminute.com, M&S, Mococo, National Book Tokens, New Look, Nike, Not on the high street, Pizza Hut, Primark, River Island, Sainsburys, T.K. Maxx, Ted Baker, Tesco, The Dinning Out Card (Michell and Butler), The Entertainer, The Restaurant Card, The White Company, Ticketmaster, Uber, Uber Eats, Virgin, Virgin Experience, Zalando.

Ail-brynu neu ddefnyddio eich taleb

Bydd gan yr e-bost sy'n cynnwys codau talebau gyfarwyddiadau ar sut i ad-dalu'r daleb yn erbyn y manwerthwr / manwerthwyr o'ch dewis. Am fwy o wybodaeth ewch i dudalen gymorth y cyflenwr talebau.

Os hoffech help i adbrynu neu ddefnyddio'r daleb gallwch hefyd e-bostio'r cyflenwr talebau yn uniongyrchol ar customersupport@sodexoengage.com

Rhoi eich taleb i elusen neu ir GIG

Yn anffodus, ni allwn roi ar eich rhan, ond wrth adbrynu eich taleb mae opsiwn i roi'r arian i elusen o'ch dewis. Os dewisiwch elusen gyffredinol 'For Good Causes', bydd opsiwn o roi'n uniongyrchol i'r GIG ac elusennau eraill o'r rhestr o dros 17,000 o elusennau. I wneud hyn, mae angen i ni roi'r daleb i chi trwy e-bost o hyd. 

Gofyn am daleb gorfforol

Gallwch ddewis derbyn taleb papur yn lle taleb ar-lein. Fodd bynnag, mae ein cyflenwr talebau post ar gau dros dro oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19). Efallai y bydd oedi o sawl wythnos cyn i chi gael y daleb. Os ydych yn dal I ddymuno derbyn taleb bapur, cysylltwch a ni trwy ffonio llinell ymholiadau'r SYG am ddim ar 0800 298 5313 neu e-bostio incentives.mailbox@ons.gov.uk

Yna cewch eich ychwanegu at y rhestr aros. Cyhoeddir talebau papur Love2Shop trwy'r post. Mae rhestr o fanwerthwyr lle gellir gwario talebau papur ar gael yma.

Os oes gennych gwestiynau o hyd

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi gwenud y canlynol cyn dod i gysylltiad â ni'n uniongyrchol;

E-bostiwch ni ar incentives.mailbox@ons.gov.uk neu ffoniwch ni am ddim ar 0800 298 5313.

Nôl i'r tabl cynnwys

12. Beth fydd yn digwydd pan fydd y nyrs neu weithiwr iechyd yr astudiaeth yn cyrraedd?

Pan fydd gweithiwr iechyd yr astudiaeth yn ymweld â'ch cartref, bydd yn cadarnhau eich bod yn dal am ymuno â'r astudiaeth a hefyd yn gofyn a oes unrhyw oedolion eraill (16 oed neu drosodd) am gymryd rhan hefyd. Byddwn yn gofyn i unrhyw un 16 oed neu drosodd sydd am ymuno lofnodi ffurflen gydsynio.

Os bydd plentyn hŷn neu berson ifanc 10 i 15 oed yn eich cartref am ymuno â'r astudiaeth, byddwn yn gofyn i'r plentyn neu'r person ifanc a'i riant neu ei ofalwr lofnodi ei fod yn hapus i gymryd rhan yn yr astudiaeth. Ar gyfer plant iau rhwng 2 a 9 oed, byddwn yn gofyn i'w rhiant neu ofalwr lofnodi, ond mae'n bwysig bod y plentyn hefyd yn cytuno.

Nôl i'r tabl cynnwys

13. Beth fydd yn digwydd yn yr apwyntiad?

Bydd nyrs neu un o weithwyr iechyd yr astudiaeth yn ymweld â'ch cartref. Os gofynnwyd i chi am sampl gwaed, nyrs fydd yn ymweld â chi. Bydd y nyrs a gweithiwr iechyd yr astudiaeth yn defnyddio'r holl ragofalon a argymhellir i'ch diogelu chi a phobl eraill yn eich cartref rhag cael y feirws. Bydd y nyrs neu weithiwr iechyd yr astudiaeth yna'n gofyn rhai cwestiynau i bawb sydd am ymuno â'r astudiaeth am unrhyw symptomau a all fod ganddynt, ac unrhyw gysylltiad maent wedi'i gael â rhywun sydd wedi cael COVID-19. Bydd hefyd yn gofyn am rywedd, ethnigrwydd, dyddiad geni a galwedigaeth.

Bydd y nyrs neu weithwyr iechyd yr astudiaeth yn dangos i chi sut i gymryd swab o'ch trwyn a'ch gwddf. Mae hon yn broses syml sy'n cael ei gwneud mewn canolfannau profi drwy ffenest y car. Gall unrhyw un sy'n 12 oed neu drosodd gymryd y swab eu hunain.

Gofynnir i bobl gymryd y swab eu hunain er mwyn diogelu nyrsys neu weithwyr iechyd yr astudiaeth rhag ofn bod gan bobl COVID-19 heb yn wybod iddynt.

Os bydd rhiant neu ofalwr a phlentyn 2-11 oed wedi cydsynio i gymryd rhan yn yr astudiaeth, bydd nyrs neu weithiwr iechyd yr astudiaeth yn gofyn i'r rhiant neu'r gofalwr gymryd ei swab ei hun cyn cymryd swab o drwyn a gwddf y plentyn. Mae'r swabiau yr un maint â'r rhai a ddefnyddir ar gyfer plant fel arfer.

Os ydych chi'n 16 oed neu drosodd, efallai y gofynnir i chi gymryd rhan mewn rhan ddewisol o'r astudiaeth hefyd. Yn y rhan hon bydd angen i chi roi sampl gwaed 5 mililitr (tua llond llwy de) a gaiff ei chymryd gan nyrs sydd wedi'i hyfforddi i gymryd gwaed o wythïen -- bydd yr un peth â phan fyddwch chi'n cael prawf gwaed yn eich meddygfa leol. Pan fyddwch chi'n trefnu eich apwyntiad, bydd rhywun o IQVIA yn siarad â chi am hyn ond ni fydd pob cartref yn cael gwahoddiad i gymryd rhan yn y rhan hon o'r astudiaeth. Gallwch bob amser newid eich meddwl ar ôl trefnu'r apwyntiad, yn cynnwys ar y diwrnod. Dim ond swabiau trwyn a gwddf y bydd plant a phobl ifanc 2-15 oed yn eu cael.

Bydd hyn yn cymryd 15 i 30 munud.

Nôl i'r tabl cynnwys

14. A fyddaf yn cael unrhyw ymweliadau dilynol?

Gofynnir i chi hefyd a fyddai diddordeb gennych mewn cael ymweliad arall. Diben hyn yw gweld sut mae'r ffordd y daw pobl i gysylltiad â COVID-19 yn newid dros amser. Nid oes rhaid i chi gytuno i barhau i gymryd rhan yn yr astudiaeth. Gallech chi gytuno i:

A: dim mwy o ymweliadau

B: mwy o ymweliadau bob wythnos am fis (5 ymweliad i gyd)

C: mwy o ymweliadau bob wythnos am fis, ac yna bob mis drwy'r flwyddyn ar ôl eich ymweliad astudiaeth cyntaf (16 o ymweliadau i gyd)

Os gwnaethoch gytuno i roi gwaed y tro cyntaf, hoffem gymryd gwaed eto bob mis, ond nid yn wythnosau 1, 2 na 3.

Bydd ymweliadau dilynol yn cymryd tua 15 munud.

Nôl i'r tabl cynnwys

15. Faint o amser y bydd yn ei gymryd?

Bydd yr apwyntiad cyntaf yn cymryd tua 15 i 30 munud fesul unigolyn.

Os byddwch chi'n parhau i gymryd rhan yn yr astudiaeth, bydd yr apwyntiad yn cymryd tua 15 munud fesul unigolyn.

Nôl i'r tabl cynnwys

16. Oes angen i mi baratoi unrhyw beth cyn yr apwyntiad?

Unwaith y byddwch chi wedi trefnu eich apwyntiad dros y ffôn, ni fydd angen i chi wneud dim byd arall. Bydd y nyrs neu weithiwr iechyd yr astudiaeth yn dod â'r holl gyfarpar angenrheidiol gyda hi neu ef i'ch cartref ar gyfer yr apwyntiad. Fodd bynnag, os bydd unrhyw un yn eich cartref yn datblygu symptomau'r coronafeirws (COVID-19) cyn i'r nyrs neu weithwyr iechyd yr astudiaeth ymweld â'r cartref, cysylltwch ag IQVIA.

Nôl i'r tabl cynnwys

17. Beth y byddwch yn ei wneud gyda'm canlyniadau?

Bydd canlyniadau profion swab positif hefyd yn cael eu rhannu gyda’r data personol perthnasol (gan gynnwyd enw, manylion cyswllt, cod post ac ethnigrwydd) gyda’r cyrff iechyd cyhoeddus perthnasol i’e cyfeirio at systemau cenedlaethol (Iechyd Cyhoeddus Lloegr i’w cyfeirio at system Prawf a Olrhain y GIG, Cyhoeddus Iechyd Cymru i’w atgyfeirio y system Prawf, Olrhain, Amddiffyn GIG Cymru, Asiantaeth Iechyd y Cyhoedd i’w atgyfeirio i raglen Prawf, Olrhain, Diogelu HSC Gogledd Iwerddon ac Iechyd Cyhoeddus yr Alban i’w atgyfeirio i system Profi ac Amddiffyn GIG yr Alban).

Byddwn yn cysylltu gwybodaeth gennych chi yn yr astudiaeth hon â data gan y GIG a SYG am statws eich iechyd, er enghraifft, a ydych wedi bod i'r ysbyty neu at feddyg teulu, neu wedi cael prawf arall ar gyfer COVID-19. Mae hyn er mwyn ceisio gweithio allan beth y mae angen i ni ei wneud i gynnal y GIG yn ystod y pandemig hwn. Byddwn yn gwneud hyn am flwyddyn ar ôl eich ymweliad olaf.

Dim ond enwau a dyddiadau geni y byddwn yn eu defnyddio i gysylltu â'ch cofnodion GIG a SYG, a dim ond pan fydd hynny'n gwbl angenrheidiol. Byddwn yn defnyddio eich cod post i geisio gweithio allan sut mae COVID-19 yn lledaenu o amgylch y wlad. Pan gaiff samplau a chofnodion yr astudiaeth eu casglu yn eich cartref, dim ond cod ar gyfer eich cartref a phob unigolyn ynddo sy'n ymuno â'r astudiaeth a ddefnyddir i'w hadnabod, ynghyd â mis a blwyddyn geni ac nid y dyddiad llawn.

Dim ond at ddibenion yr astudiaeth y bydd SYG ac IQVIA yn cadw gwybodaeth y gellid ei defnyddio i'ch adnabod.

Mae'n bosibl y bydd aelodau cyfrifol o Brifysgol Rhydychen yn cael mynediad i ddata at ddibenion monitro a/neu archwilio'r astudiaeth er mwyn sicrhau bod y gwaith ymchwil yn cydymffurfio â'r rheoliadau perthnasol.

Sylwch, os gwnaethoch gofrestru i gymryd rhan yn yr astudiaeth cyn 21 Gorffennaf 2020, bu newid bach i’r ffordd y mae gwybodaeth gan gyfranogwyr yn Arolwg Heintiadau COVID-19 i gael ei defnyddio gan yr SYG. Mae’r SYG yn bwriadu cysylltu data o’r arolwg â setiau data arolwg a gweinyddol eraill sydd ganddo. Bydd hyn yn fuddiol o ran darparu dadansoddiad mwy manwl, a fydd yn ei dro yn ein galluogi i ddeall effaith a natur COVID-19 yn well ac ateb cwestiynau beirniadol i gynorthwyo awdurdodau iechyd cyhoeddus a llunwyr polisi i ymateb yn well i’r pandemig yn ystod y misoedd o’n blaenau. Nid yw’r dadansoddiad hwn yn rhan o’r Arolwg Heintiadau ei hun. Bydd cyswllt o’r fath yn parhau cyhyd â bod gwerth am ymchwil a dadansoddiad ystadegol.

Gall yr SYG ddarparu mynediad i’r data hwn i ymchwilwyr achrededig at ddibenion ymchwil achrededig trwy amgylcheddau prosesu achrededig, lle mae’n gyfreithlon ac yn foesegol gwneud hynny, a lle ystyrir bod yr ymchwil er budd y cyhoedd. Ni fydd yn bosibl adnabod unigolion o’r data hwn. Dim on at ddibenion ymchwil ystadegol a dadansoddi y defnyddir data ac ni chaiff ei rannu ag unrhyw un arall (heblaw mynediad gan ymchwilwyr achrededig).

Nôl i'r tabl cynnwys

18. Beth os bydd gen i neu rywun yn fy nghartref y coronafeirws (COVID-19) neu symptomau'r coronafeirws (COVID-19)?

Os oes gan unrhyw un yn eich cartref symptomau COVID-19 ar hyn o bryd, neu fod rhywun yn hunanynysu neu'n gwarchod ei hun, hoffem gynnal yr ymweliad hwn o hyd. Mae hyn am ei bod yn bwysig iawn i ni ganfod faint o bobl sydd â symptomau neu sy'n hunanynysu neu'n gwarchod eu hunain sydd wedi'u heintio neu'n cael eu hamlygu i'r feirws.

Os felly, ni fyddwn yn cymryd gwaed gan neb. Ni fydd y nyrs neu weithwyr iechyd yr astudiaeth yn dod i mewn i'ch cartref, a bydd yn pasio'r pecynnau swabio eich hun i chi gan aros o leiaf 2 fetr oddi wrth bawb yn y cartref. Bydd yn gofyn rhai cwestiynau byr i chi o'r pellter hwn.

Nôl i'r tabl cynnwys

19. Mae gen i achos posibl o'r coronafeirws (COVID-19) neu achos a gadarnhawyd ar hyn o bryd felly nid wyf am gymryd rhan. Alla i gymryd rhan yn y dyfodol?

Gallwch. Gallwch chi gymryd rhan yn y dyfodol o hyd. Dylech ffonio IQVIA i roi gwybod a gall nyrs neu un o weithwyr iechyd yr astudiaeth drefnu i ymweld â chi pan fyddwch chi'n well.

Nôl i'r tabl cynnwys

20. Ydy'r nyrs neu weithiwr iechyd yr astudiaeth wedi cael prawf coronafeirws (COVID-19)?

Mae holl nyrsys a gweithwyr iechyd yr astudiaeth yn cael cynnig profion COVID-19 rheolaidd cyn ymweld â'ch cartref. Fodd bynnag, mae'n bwysig gwybod y gall pobl gael eu heintio hyd yn oed ar ôl cael canlyniad prawf negatif. Felly bydd holl nyrsys a gweithwyr iechyd yr astudiaeth yn dilyn argymhellion y GIG o ran y lefel briodol o gyfarpar diogelu personol i'w defnyddio.

Nôl i'r tabl cynnwys

21. Beth y byddwch yn ei wneud gyda'm swab trwyn a gwddf a'm sampl gwaed?

Caiff eich swabiau trwyn a gwddf eu profi yn un o’r Lighthouse Laboratories (yn Milton Keynes (y Ganolfan Biosamplu Genedlaethol) neu Glasgow) gan ddefnyddio'r prawf safonol a ddefnyddir yn y rhaglenni profi ceneflaethol i ddarganfod a oes gan rywun coronafeirws (COVID-19) ar hyn o bryd, hyd yn oed os nad oes ganddo symptomau.

Caiff eich sampl gwaed ei phrofi gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Rhydychen. Byddant yn archwilio lefelau'r gwrthgyrff yn erbyn y coronafeirws (COVID-19) sydd yn eich gwaed.

Nôl i'r tabl cynnwys

22. Am faint o amser y byddwch yn cadw fy swab trwyn a gwddf a'm sampl gwaed?

Caiff y swabiau trwyn a gwddf eu dinistrio pan fydd y prawf wedi'i gwblhau.

Hoffem gadw unrhyw waed na chaiff ei ddefnyddio'n syth yn y prawf gwrthgyrff ar gyfer ymchwil yn y dyfodol, gan gynnwys ar gyfer profion gwell yn ymwneud â'r coronafeirws (COVID-19). Nid oes rhaid i chi gytuno i hyn. Caiff eich sampl gwaed ei defnyddio neu ei dinistrio ar ôl 5 mlynedd.

Nôl i'r tabl cynnwys

23. Beth os byddaf yn newid fy meddwl yn ystod yr astudiaeth?

Nid oes rhaid i chi gymryd rhan o gwbl. Mae hawl gennych i dynnu'n ôl o'r astudiaeth ar unrhyw adeg heb roi esboniad. Mae hyn yn cynnwys ar ôl i chi drefnu apwyntiad i nyrs neu un o weithwyr iechyd yr astudiaeth ymweld â'ch cartref ac os byddwch eisoes wedi rhoi swab o'ch trwyn a'ch gwddf a sampl gwaed.

Os bydd y profion eisoes wedi cael eu cynnal pan fyddwch yn newid eich meddwl, byddwn yn dal i ddefnyddio'r data ohonynt gan ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael darlun da o bwy sydd wedi cael COVID-19 ledled y DU ar gyfer ein hastudiaeth. Ond os na fyddwch am i unrhyw waed sy'n weddill gael ei storio, byddwn yn ei ddinistrio. Gallwch chi hefyd benderfynu nad ydych chi am i ni gael unrhyw wybodaeth ychwanegol amdanoch chi gan y GIG os byddwch yn gadael yr astudiaeth.

Nôl i'r tabl cynnwys

24. Alla i gael gwybod fy nghanlyniadau?

Ie, byddwn yn anfon eich canlyniadau atoch trwy lythyr.

Os yw un o’ch swabiau trwyn a gwddf yn profi’n bositif, cyn gynted ag y byddwn yn ei dderbyn yn ôl o’r labordai, byddwn yn trosglwyddo’r canlyniad i’r rhaglen olrhain genedlaethol (GIG Prawf a Olrhain yn Lloegr, GIG Cymru Prawf, Olrhain, Amddiffyn yng Nghymru, y rhaglen Olrhain Prawf a Chyswllt yng Ngogledd Iwerddon a’r system Profi ac Amddiffyn yn yr Alban).

  • Yna byddant yn eich ffonio
  • Mae hyn yn debygol iawn o fod CYN i chi gael y canlyniad cadarnhaol hwn yn ôl o’r astudiaeth. Os ydych chi’n cael dilyniant wythnosol ar hyn o bryd, efallai y bydd yr alwad hyn yn dod cyn i chi gael canlyniad negyddol neu fethiant yn ôl o’ch prawf blaenorol oherwydd y llinellau amser uchod – gwiriwch y dyddiadau sydd wedi’u hargraffu ar yr holl lythyrau canlyniad.
  • Ymgysylltwch yn llawn â’r rhaglen olrhain genedlaethol a dilynwch y cyngor a ddarperir e.e. ar hunan-ynysu

Mae’n bwysig iawn gwybod nad oes gan lawer o bobl sy’n profi’n bositif am COVID-19 unrhyw symptomau – tua hanner y bobl yn ein hastudiaeth. Nid yw hyn yn golygu bod y prawf yn anghywir. Mae gan y prawf a ddefnyddiwn gyfradd ffug-gadarnhaol o dan 0.005%, sy’n golygu y bydd llai nag 1 o bob 20,000 o bobl sy’n wirioneddol negyddol yn cael canlyniad prawf positif. Gall pobl heb symptomau barhau i drosglwyddo’r feirws, felly mae’n bwysig iawn dilyn y cyngor o’r rhaglen olrhain.

Fel arall, fel rheol bydd yn cymryd o leiaf wythnos i gael eich canlyniadau. Astudiaeth ymchwil yw Arolwg Heintiadau COVID-19, nid rhaglen brofi. Rydym yn dychwelyd canlyniadau profion i gyfranogwyr, ond mae profion o’r astudiaeth ymchwil yn flaenoriaeth is na phorfion o’r rhaglenni profi cenedlaethol a’r gwasanaeth clinigol. Mae hyn oherwydd bod ein cyfraddau positifrwydd yn is, oherwydd ein bod yn profi pobl yn y gymuned fel rhan o’r astudiaeth ymchwil gwyliadwriaeth, yn hytrach na phrofi pobl a symptomau neu sydd wedi bod mewn cysylltiad uniongyrchol ag achosion. Ni ellir blaenoriaethu ein profion, sydd ar bobl heb COVID yn bennaf, dros brofion symptomatig, lle mae’r ganran gadarnhaol yn llawer uwch ac felly bydd unigolion mwy cadarnhaol yn cael eu nodi yn yn gyffredinol.

Yn yr astudiaeth ymchwil, mae’n cymryd diwrnod i gael y swab i’r labordai, yna 3-4 diwrnod yn aml i wneud y profion oherwydd ein bod y tu ôl i giw’r holl brofion symptomatig. Anfonir canlyniadau yn ôl bob bore o’r labordai i’r astudiaeth ymchwil. Unwaith y daw’r canlyniadau yn ôl, cânt eu paru â chyfranogwyr trwy eu cod bar a llythyrau a anfonir. Felly mae’n nodweddiadol yn cymryd o leiaf wythnos cyn i bobl gael canlyniadau.

Mae’n bwysig iawn, os ydych chi’n datblygu symptomau COVID-19, eich bod chi’n dilyn y canllawiau ar hunan-ynysu sy’n berthnasaol i ble rydych ch’n byw. Hyd yn oed os ydych chi wedi cael prawf diweddar yn yr arolwg hwn ac wedi datblygu symptomau, peidiwch ag aros am ei ganlyniadau cyn hynan-ynysu. Os nad ydych wedi cael prawf diweddar yn yr arolwg, dilynwch y canllawiau ar gyfer prawf eich ardal chi.

Nôl i'r tabl cynnwys

25. A fydd fy meddyg teulu yn cael gwybod fy mod yn cymryd rhan?

Os gwnaethoch ymuno a’r astudiaeth cyn 28 Medi 2020, byddwn wedi dweud wrth eich meddyg teulu eich bod yn yr astudiaeth hon, a byddwn wedi anfon yr holl ganlyniadau o brofion ar swabiau eich trwyn a'ch gwddf a wnaed cyn hyn yn ôl atynt. Ni fydd meddygon teulu yn cael gwybod am unrhyw un sy’n ymuno ar ôl 28 Medi, nac am ynrhyw borfion a wenir ar ôl 28 Medi.

Nôl i'r tabl cynnwys

26. Ym mha ffyrdd eraill y byddwch chi'n defnyddio fy nata?

Bydd SYG yn defnyddio'r data o'ch swab trwyn a gwddf a'ch sampl gwaed ynghyd â ffynonellau data eraill sydd ar gael i SYG. Byddwn yn cael data am faint rydych chi wedi defnyddio'r GIG gan NHS Digital. NHS Digital yw corff y GIG sy'n gofalu am holl ddata'r GIG Yn benodol, rydym ni am ganfod sut mae cael haint COVID-19 yn y gorffennol yn effeithio ar faint y bydd angen i chi ddefnyddio'r GIG yn y dyfodol. Mae hyn er mwyn ceisio gweithio allan beth y mae angen i ni ei wneud i gynnal y GIG yn ystod y pandemig hwn.

Nôl i'r tabl cynnwys

27. Beth arall y dylwn ei ystyried?

Ni fydd y ffaith eich bod yn cymryd rhan yn effeithio ar y gofal meddygol a gewch ac ni fydd effaith ar unrhyw feddyginiaeth reolaidd na meddyginiaethau a ragnodir na meddyginiaethau dros y cownter y gallech fod yn eu cymryd. Mae hefyd yn iawn i chi gymryd rhan os ydych yn cymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil eraill.

Pan gaiff gwaed ei gymryd mae posibilrwydd y byddwch yn cleisio a/neu'n llewygu – mae'r nyrsys neu weithwyr iechyd yr astudiaeth a fydd yn gwneud hyn wedi cael eu hyfforddi i gymryd gwaed er mwyn lleihau'r risg hon.

Nôl i'r tabl cynnwys

28. Ydy'r prosiect hwn wedi cael ei adolygu'n foesegol?

Ydy. Mae'r prosiect hwn wedi cael cymeradwyaeth gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil South Central – Berkshire B (20/SC/0195).

Nôl i'r tabl cynnwys

29. Cyfrinachedd a diogelu data

Os bydd gennych gwestiwn am y ffordd rydym ni, SYG, yn prosesu eich data personol, neu os byddwch am ddysgu mwy am eich hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data, darllenwch dudalen SYG am ddiogelu data.

Bydd yr holl ddata personol a gaiff eu casglu fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael eu prosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 2018.

Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau i gadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel o ddifrif. Yn hyn o beth, rydym yn cymryd pob rhagofal posibl i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel rhag cael ei cholli, ei dwyn neu ei chamddefnyddio Mae'r rhagofalon hyn yn cynnwys diogelwch ffisegol priodol ar gyfer ein swyddfeydd, mynediad a reolir at ein systemau cyfrifiadurol, a defnyddio cysylltiadau wedi'u hamgryptio â'r rhyngrwyd wrth gasglu gwybodaeth bersonol.

Mae Prifysgol Rhydychen a SYG yn Rheolwyr Data ar y cyd ac maent yn gyfrifol am ofalu am eich gwybodaeth a'i defnyddio'n briodol.

Mae rheoliadau diogelu data yn ei gwneud yn ofynnol i ni nodi'r sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth amdanoch.

Yn achos y gwaith ymchwil, mae Prifysgol Rhydychen yn ymgymryd â'r gwaith ymchwil hwn fel "tasg er budd y cyhoedd". Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ei hysbysiad preifatrwydd.

Yn achos gwaith ymchwil, mae SYG yn prosesu'r wybodaeth hon gan ei bod yn angenrheidiol er mwyn i ni gyflawni ein swyddogaeth swyddogol, sef cynhyrchu ystadegau er budd y cyhoedd. Caiff eich gwybodaeth ei thrin yn gyfrinachol yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Bydd ond yn cael ei chadw cyhyd ag y bydd yn cael ei defnyddio i gynhyrchu ystadegau. Gall gwybodaeth o'r astudiaeth gael ei rhoi i sefydliadau neu ymchwilwyr cymeradwy eraill at ddibenion ystadegol yn unig.

Byddwn yn defnyddio gwybodaeth gennych chi ac NHS Digital. NHS Digital yw corff y GIG sy'n gofalu am holl ddata'r GIG I gynnal yr astudiaeth hon, byddwn yn defnyddio cyn lleied â phosibl o wybodaeth y gellir eich adnabod ohoni.

Bydd IQVIA a SYG yn defnyddio gwybodaeth y gellir eich adnabod ohoni o'r astudiaeth hon am hyd at 5 mlynedd ar ôl cwblhau'r astudiaeth.

Nôl i'r tabl cynnwys

30. Rhagor o help

I drefnu apwyntiad i gymryd rhan, ffoniwch IQVIA ar y rhif ffôn sydd yn y llythyr a anfonwyd atoch chi.

Amseroedd agor IQVIA yw:
Dydd Llun i ddydd Iau – 9:00am i 9:00pm
Dydd Gwener – 9:00am i 8:00pm
Dydd Sadwrn – 9:00am i 5:00pm
Dydd Sul – 9:00am i 5:00pm

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach am Arolwg Haint COVID-19, gallwch chi e-bostio COVID-19@ons.gov.uk

Nôl i'r tabl cynnwys

32. Rhannu data ag eraill

Weithiau, byddwn yn rhannu gwybodaeth a ddewiswyd â'n darparwyr gwasanaethau er mwyn ein helpu i gynnal ein hastudiaethau. Byddwn ond yn rhannu'r manylion personol y mae angen iddynt eu gwybod. I ddysgu mwy am ymrwymiad pob darparwr gwasanaeth wrth drin eich gwybodaeth, ewch i'w wefan.

Yn yr astudiaeth hon, rydym yn gweithio gyda sefydliadau eraill i ddarparu'r gwasanaethau canlynol:

Nôl i'r tabl cynnwys