1. Mae Arolwg Ansawdd y Cyfrifiad bellach wedi cau.

Arolwg dros y ffôn oedd Arolwg Ansawdd y Cyfrifiad a wnaethom ni yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol ei gynnal ar ôl y cyfrifiad.

Mae canlyniadau Arolwg Ansawdd y Cyfrifiad yn ein galluogi ni i weld pa mor gywir yw'r wybodaeth y gwnaethom ei chasglu yn y cyfrifiad ac i'n helpu i wella ein hystadegau.

Mae ystadegau'r cyfrifiad yn helpu i gynllunio ac ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn eich ardal.

Caeodd Arolwg Ansawdd y Cyfrifiad ar 27 Awst 2021.

Beth i'w wneud pe byddech chi wedi cael eich gwahodd i gymryd rhan

Os oedd eich cartref wedi cael ei ddewis i gymryd rhan yn yr arolwg, nid oes angen i chi ymateb mwyach. Rydym wedi cael digon o gartrefi yn gwirfoddoli ac rydym wedi cyrraedd ein targed ymateb.

Diolch i bawb sydd wedi gwirfoddoli i gymryd rhan.

Nôl i'r tabl cynnwys