Pam y cysylltwyd â mi dros y ffôn?

Caiff rhai o’n hastudiaethau eu cynnal dros y ffôn. Mae hyn yn aml oherwydd bod aelwyd wedi cymryd rhan yn yr un astudiaeth o'r blaen a bod gennym ddiddordeb i wybod a oedd unrhyw beth wedi newid. Weithiau byddwn yn cysylltu â chi am y tro cyntaf dros y ffôn yn hytrach nac ymweld â’ch cyfeiriad.

Fyddwn ni ddim yn galw’n ddigymell.

Cyn i ni eich ffonio, byddwch un ai wedi derbyn llythyr oddi wrthym ynghylch yr astudiaeth, neu eisoes wedi cymryd rhan yn yr astudiaeth gyda chyfwelydd. Os ydych chi wedi cael eich cyfweld eisoes, bydd y cyfwelydd wedi sôn wrthych am gysylltu â chi eto dros y ffôn. Os byddwch chi’n cymryd rhan mewn cyfweliad dros y ffôn, y rhif y byddwn yn ei ddefnyddio i’ch ffonio yw +44 (0)2392 958 174. Os oes gennych chi system hidlo galwadau ar eich ffôn, newidiwch hi i dderbyn galwadau o’r rhif hwn, os gwelwch yn dda.

Oes angen i mi wneud unrhyw beth?

Os fyddwch chi’n gwneud dim, fe fyddwn yn ceisio eich ffonio eto. Rydym yn ceisio cysylltu ag aelwydydd dros gyfnod o bythefnos, felly efallai y byddwch yn derbyn sawl galwad ffôn gennym. Mae hyn oherwydd, unwaith y byddwch chi a’ch aelwyd wedi cael eich dewis, allwn ni ddim gofyn i neb arall gymryd eich lle gan y byddai hyn yn effeithio ar ein hastudiaeth.

A oes modd i mi ffonio i wneud apwyntiad?

Gallwch, byddem yn gwerthfawrogi pe byddech yn gwneud apwyntiad er mwyn cwblhau’r astudiaeth bwysig hon yr ydych wedi cael eich gwahodd i fod yn rhan ohoni. Cysylltwch â’n llinell ymholiadau rhadffôn ar +44 (0) 800 298 5313 i wneud apwyntiad ar amser sy’n gyfleus i chi.

Yr amseroedd agor yw:
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8am i 7pm
Dydd Sadwrn 8am i 1pm

Nodwch fod y rhif ffôn hwn yn wahanol i’r rhif y byddwn yn ei ddefnyddio i’ch ffonio chi.

Rydw i wedi derbyn galwad ffôn yn hwyr y nos neu’n gynnar yn y bore. Pam hynny?

Rydyn ni’n gwneud galwadau ffôn o 8am tan 9pm ar y rhan fwyaf o ddyddiau’r wythnos. Mae hyn oherwydd ein bod yn ceisio cysylltu â gwahanol fathau o aelwydydd, felly mae galw ar amrywiol amseroedd yn rhoi’r cyfle gorau i ni allu cysylltu. Byddwn hefyd yn ffonio yn ystod y dydd ar benwythnosau am yr un rheswm.

Beth fydd pwnc yr astudiaeth?

I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol astudiaethau, ewch i’r dudalen Darganfod eich astudiaeth i ddarllen am yr astudiaeth yr ydych chi wedi eich gwahodd i gymryd rhan ynddi.

A oes modd i gyfwelydd ymweld â mi’n bersonol yn lle hynny?

Os hoffech chi gymryd rhan wyneb-yn-wyneb yn lle cwblhau’r astudiaeth dros y ffôn, cysylltwch â’n llinell ymholiadau rhadffôn ar +44 (0)800 298 5313 i drefnu hyn.

Yr amseroedd agor yw:
O ddydd Llun i ddydd Gwener 8am i 7pm
Dydd Sadwrn 8am i 1pm

Mae gen i drafferthion gyda fy nghlyw a’m lleferydd, ydw i’n dal i allu cymryd rhan?

Ydych, rydyn ni’n darparu gwasanaeth Testun y Genhedlaeth Nesaf (NGT) i helpu pobl sydd â thrafferthion gyda’u clyw a’u lleferydd i gyfathrebu dros y ffôn. I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, ffoniwch (18001) 0800 298 5313.