Rydym yn gwneud llawer o waith pwysig ledled Cymru a Lloegr ar hyn o bryd.

Cyfrifiad

Y cyfrifiad yw'r arolwg o bawb yng Nghymru a Lloegr a gaiff ei gynnal unwaith bob degawd. Mae'r gwaith o gasglu data Cyfrifiad 2021 bellach ar ben ac ni fydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cysylltu â chi'n uniongyrchol am y cyfrifiad, Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad nac Arolwg Ansawdd y Cyfrifiad. Bydd y cyfrifiad yn yr Alban yn digwydd ym mis Mawrth 2022 a chaiff ei gynnal gan Gofnodion Cenedlaethol yr Alban; dysgwch fwy ar wefan Cyfrifiad yr Alban.

Arolwg Heintiadau'r Coronafeirws

Caiff Arolwg Heintiadau'r Coronafeirwsei gynnal gan SYG ar y cyd agAsiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, sef asiantaeth weithredol a noddir gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a hwn yw'r arolwg rheolaidd mwyaf o heintiadau a gwrthgyrff yn y gymuned. Arolwg gwirfoddol yw hwn a bydd pobl yn cymryd rhan drwy lenwi holiadur a gwneud prawf swab neu brawf swab a phrawf gwaed eu hunain. Caiff profion swab a phrofion gwaed eu darparu drwy ymweliad dim cyswllt gan aelod o'r tîm maes â'r cartref. Mae rhai ysgolion hefyd yn cymryd rhan yn Arolwg Heintiadau Ysgolion COVID-19. Cysylltir â chyfranogwyr posibl drwy eu hysgol.

Pobl, teuluoedd a chartrefi

Ein cyfres barhaus o astudiaethau am bobl, teuluoedd ac aelwydydd. Mae'r rhain yn cynnwys: Arolwg Adnoddau Teuluol, Arolwg o Asedau Cartrefi, Arolwg o'r Llafurlu, Arolwg Costau Byw a Bwyd, Arolwg Cenedlaethol Cymru, Arolwg Barn a Ffordd o Fyw, Arolwg o Amodau Byw a sawl astudiaeth ar-lein.

Bydd pob cyfeiriad a gaiff ei ddewis ar gyfer yr astudiaethau hyn yn cael llythyr yn cynnwys manylion am sut i gymryd rhan. Ar hyn o bryd, rydym ni'n cynnal yr astudiaethau hyn dros y ffôn, a rhai ar lein, yn hytrach nag wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, rydym yn dechrau ailgyflwyno rhai o'n ffyrdd blaenorol o weithio, gan barhau i ddilyn mesurau i sicrhau diogelwch y cyhoedd a'n staff. Gallwch ddysgu rhagor yn y datganiad hwn.

Caiff yr Arolwg Teithwyr Rhyngwladol ei gynnal mewn porthladdoedd, meysydd awyr a gorsafoedd. Mae'r astudiaeth hon yn casglu gwybodaeth am drafnidiaeth a thwristiaeth, ac mae bellach hefyd yn casglu data am brofiadau ac agweddau teithwyr sy'n teithio yn ystod y pandemig. Rydym wedi rhoi mesurau cynhwysfawr ar waith i sicrhau y gellir cyfweld â phobl yn ddiogel.

Arolygon busnes

Ein cyfres barhaus o arolygon busnes yn cwmpasu agweddau amrywiol ar economi'r Deyrnas Unedig. Caiff yr arolygon hyn eu cynnal bob pythefnos, bob mis, bob chwarter a bob blwyddyn ac maent yn cynnwys: Arolygon Busnes Misol a Blynyddol, Arolwg o Ddirnadaethau ac Amodau Busnes ac Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion.

Bydd busnesau a gaiff eu dewis yn cael llythyr neu e-bost, a chaiff yr arolygon eu cwblhau ar lein, drwy'r post neu drwy roi data dros y ffôn. Ni fydd staff SYG yn ymweld â safleoedd busnesau.

Eich diogelwch

Ni fydd neb sy'n gweithio ar ein hastudiaethau na'n harolygon byth yn gofyn am eich manylion banc nac am arian am gymryd rhan. Bydd gan ein staff fathodynnau adnabod a byddwn yn casglu data mewn ffordd sy'n cadw'r cyhoedd a'n staff yn ddiogel, gan gydymffurfio â holl ganllawiau'r llywodraeth.

Gall SYG eich helpu i wybod a yw galwad ffôn neu lythyr, neges destun neu e-bost a gewch am astudiaeth neu arolwg yn ddilys. Gallwch gysylltu â SYG drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt yn cyfrifiad.gov.uk/cysylltu-a-ni, ar y dudalen 'Gwybodaeth ar gyfer busnesau' ar gyfer arolygon busnes, ac yn yr adran Eisiau cysylltu â ni? ar wefan SYG ar gyfer astudiaethau eraill.