Cyfrifiad 2011: Ystadegau Cyflym ar gyfer Cymru, Mawrth 2011

Mae'r bwletin hwn, sef Ystadegau Cyflym Cyfrifiad 2011 ar gyfer Cymru, yn ategu Ystadegau Allweddol Cymru a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2012 ac yn cyflwyno rhagor o nodweddion diffiniol y boblogaeth, pwy ydym ni, sut rydym yn byw a beth rydym yn ei wneud. Mae'r ystadegau o Gyfrifiad 2011 a drafodir yn unigryw gan mai'r cyfrifiad yw'r unig ffynhonnell wybodaeth sy'n mesur y nodweddion hyn gyda'i gilydd ar draws y boblogaeth gyfan.

Hwn yw'r datganiad diweddaraf. Gweld datganiadau blaenorol

This is an accredited National Statistic. Click for information about types of official statistics.

Cyswllt:
Email Emma White

Dyddiad y datganiad:
30 January 2013

Cyhoeddiad nesaf:
To be announced

1. Ffigurau allweddol

  • Ar 27 Mawrth 2011, roedd gan Gymru 3.1 miliwn o breswylwyr arferol.

  • O blith y rheini â phrif iaith heblaw am Gymraeg neu Saesneg (3 y cant, 84,000), gallai 77 y cant (65,000) siarad Cymraeg neu Saesneg yn dda iawn neu'n dda.

  • Nododd bron un o bob pump (19 y cant, 562,000) o breswylwyr arferol yng Nghymru a oedd yn dair oed a throsodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

  • Nododd 97 y cant (2.9 miliwn) o breswylwyr arferol yng Nghymru a oedd yn dair oed a throsodd mai Cymraeg neu Saesneg oedd eu prif iaith yn 2011.

  • Yr ail brif iaith fwyaf cyffredin yng Nghymru oedd Pwyleg (0.6 y cant, 17,000), ac yna Arabeg (0.2 y cant, 7,000).

  • Roedd 1,100 o breswylwyr arferol yn defnyddio iaith arwyddion, gyda'r mwyafrif ohonynt (800) yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.

  • Gostyngodd canran y preswylwyr arferol a oedd yn byw mewn cartref pâr priod un teulu lle'r oedd un aelod o'r cartref o leiaf o dan 65 oed o 50 y cant (1.4 miliwn) yn 2001 i 44 y cant (1.3 miliwn) yn 2011.

  • Cynyddodd canran y preswylwyr arferol a oedd yn byw mewn cartref pâr sy'n cyd-fyw un teulu lle'r oedd un aelod o'r cartref o leiaf o dan 65 oed o 9 y cant (258,000) yn 2001 i 12 y cant (367,000) yn 2011.

  • Yn 2011, roedd 7 y cant (204,000) o breswylwyr arferol yng Nghymru yn fyfyrwyr mewn addysg amser llawn rhwng 16 a 74 oed, y nododd 28 y cant (57,000) eu bod yn weithwyr cyflogedig ar adeg y cyfrifiad.

  • Canran y boblogaeth o oedran gweithio, rhwng 16 a 74 oed, a oedd yn gyrru car neu fan i'r gwaith yng Nghymru oedd 67 y cant (919,000) yn 2011.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Cyflwyniad

Mae'r bwletin ystadegol hwn yn dilyn yr Ystadegau Allweddol a gyhoeddwyd ar 11 Rhagfyr 2012 a bwletin Llywodraeth Cymru sef Y Canlyniadau Cyntaf am yr Iaith Gymraeg. Mae'n cynnwys dadansoddiadau daearyddol manylach o'r tablau hynny ynghyd â thablau manwl newydd ar gyfer rhai o nodweddion y bobl a oedd yn byw yng Nghymru ar 27 Mawrth 2011; er enghraifft ar brif iaith, y dull o deithio i'r gwaith a gweithgarwch economaidd myfyrwyr fel y'u hunangofnodwyd yn y cyfrifiad. Mae'r cyfrifiad yn unigryw gan mai dyma'r unig ffynhonnell wybodaeth sy'n mesur y nodweddion hyn ar draws y boblogaeth gyfan.

Mae'r bwletin hwn yn disgrifio canlyniadau newydd o'r cyfrifiad ar lefel ddaearyddol genedlaethol a rhanbarthol. Mae'r amcangyfrifon ategol o'r cyfrifiad ar gael ar y lefel isaf o ddaearyddiaeth y cyfrifiad, hierarchaeth daearyddiaeth ystadegol ardal cynnyrch (AC) a hefyd wardiau. Yn ddiweddarach yn 2013, caiff croesdablau o nodweddion, megis oedran, rhyw neu ethnigrwydd eu cyhoeddi. Bydd hyn yn rhoi ffynhonnell ddata hyd yn oed fwy gwerthfawr a chyfoethog i'r nifer sy'n defnyddio'r cyfrifiad, gan ein helpu i ddeall pwy ydym, sut rydym yn byw a beth rydym yn ei wneud.

Y cyfrifiad

Mae'r cyfrifiad wedi bod yn casglu gwybodaeth am y boblogaeth bob 10 mlynedd ers 1801 (heblaw am 1941). Cynhaliwyd y cyfrifiad diwethaf yng Nghymru a Lloegr ar 27 Mawrth 2011.

Mae amcangyfrifon y cyfrifiad yn disgrifio nodweddion ardaloedd hyd at lefelau daearyddol bach ac fe'u defnyddir i ddeall beth sy’n debyg ac yn wahanol o ran nodweddion y boblogaeth yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Defnyddir y wybodaeth hon i gynllunio a darparu gwasanaethau, er enghraifft defnyddir gwybodaeth am ethnigrwydd i fonitro cydraddoldeb, a defnyddir y dull o deithio i'r gwaith i gynllunio trafnidiaeth a ffyrdd. Y cyfrifiad yw'r unig ffynhonnell gynhwysfawr o ddata ardal fechan, ar bynciau megis sgiliau iaith Gymraeg a'r iaith a siaredir. Fe'i defnyddir i helpu llunwyr polisi i wneud penderfyniadau.

Mae rhagor o wybodaeth am amcangyfrifon y cyfrifiad, gan gynnwys manylion am y fethodoleg a ddefnyddir a gwybodaeth am sut y caiff is-grwpiau o'r boblogaeth eu diffinio a'u hamcangyfrif ar gael drwy hafan Cyfrifiad 2011.

Ni chaiff gwybodaeth bersonol o'r cyfrifiad ei rhannu ag unrhyw un o adrannau eraill y llywodraeth na chyrff cenedlaethol, rhanbarthol neu leol. Caiff y wybodaeth a gesglir ei chadw'n gyfrinachol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), a chaiff ei diogelu gan y gyfraith. Ni chaiff cofnodion unigol y cyfrifiad eu rhyddhau am 100 mlynedd.

Y gyfres hon

Mae ystadegau o Gyfrifiad 2011 ar gyfer Cymru a Lloegr yn cael eu cyhoeddi fesul cam. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y cyfresi arfaethedig ym mhrosbectws Cyfrifiad 2011. Mae'r bwletin hwn yn cyflwyno canfyddiadau allweddol ar gyfer awdurdodau unedol yng Nghymru o'r tablau Ystadegau Cyflym a gyhoeddwyd ar 30 Ionawr 2013. Caiff ystadegau'r DU eu crynhoi a'u cyhoeddi unwaith y bydd y data perthnasol ar gael ar gyfer pob un o'r pedair gwlad: Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae a wnelo'r bwletin hwn â'r boblogaeth breswyl arferol a chartrefi. Nid yw'n cyfeirio at ymwelwyr na phreswylwyr byrdymor. Ystyr preswylydd arferol yw unrhyw un a oedd, ar ddiwrnod y cyfrifiad, sef 27 Mawrth 2011, yn y DU ac wedi aros neu’n bwriadu aros yn y DU am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu oedd â chyfeiriad parhaol yn y DU ac a oedd y tu allan i’r DU ac yn bwriadu aros y tu allan i’r DU am lai na 12 mis.

Mae rhai amcangyfrifon o Gyfrifiad 2011 eisoes wedi'u cyhoeddi. Roedd y gyfres gyntaf yn cynnwys amcangyfrifon o'r boblogaeth breswyl arferol yn ôl oedran a rhyw, poblogaeth yn ôl y math o breswylfa, amcangyfrifon o gartrefi ac amcangyfrifon o nifer y preswylwyr byrdymor. Dilynwyd hyn gan wybodaeth am nifer y preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr a nododd fod ganddynt ail gyfeiriad y tu allan i'r awdurdod unedol lle'r oeddent fel arfer yn byw. Ym mis Rhagfyr 2012, cafodd gwybodaeth o'r tablau Ystadegau Cyflym am bynciau fel iechyd, grŵp ethnig, lefel cymwysterau, gwlad enedigol, crefydd, gweithgarwch economaidd, a deiliadaeth ei chyhoeddi yn unol â lefel ddaearyddol yr awdurdod unedol.

Wrth wneud cymariaethau â 2001, cymharwyd amcangyfrifon o'r boblogaeth y cyfrifiad (yn ôl oedran a rhyw) â'r amcangyfrifon canol blwyddyn ar gyfer 2001. Ar gyfer nodweddion eraill, gwneir cymariaethau ag amcangyfrifon Cyfrifiad 2001; mae'r ddwy ffynhonnell yn rhoi amcangyfrif wedi'i dalgrynnu o 2.9 miliwn o breswylwyr arferol yng Nghymru. Darperir troednodiadau gyda'r tablau a'r siartiau er mwyn nodi'r ffynonellau data a ddefnyddiwyd.

Mae dadansoddiadau manylach o amcangyfrifon y cyfrifiad ar gael ar gyfer rhai pynciau. Cyhoeddir tri o'r rhain ochr yn ochr â'r bwletin hwn ar wefan SYG. Maent yn cynnig dadansoddiadau o deuluoedd, iechyd cyffredinol ac anabledd. Cafodd dadansoddiad o ethnigrwydd, mudwyr rhyngwladol a chrefydd ei gyhoeddi ochr yn ochr â'r bwletin ar 11 Rhagfyr. Caiff dadansoddiadau pellach eu cyhoeddi yn ddiweddarach yn 2013.

Mae delweddau data rhyngweithiol a ddatblygwyd gan SYG hefyd ar gael i helpu i ddehongli'r canlyniadau. Gall defnyddwyr roi codau post yn y mapiau rhyngweithiol er mwyn canolbwyntio ar ardaloedd penodol.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. PWY YDYM NI

Mae gwybodaeth am nodweddion personol y boblogaeth breswyl arferol eisoes wedi cael ei chyhoeddi ac mae'r bwletin hwn yn adeiladu ar y negeseuon ym mwletin 11 Rhagfyr 2012 a wnaeth gwmpasu oedran a rhyw, iechyd, crefydd, grŵp ethnig, preswylwyr arferol a anwyd y tu allan i'r DU ac iaith y cartref. Roedd yn cynnwys dadansoddiadau manwl o amcangyfrifon yn ymwneud ag ethnigrwydd, mudwyr rhyngwladol a chrefydd.

Mae a wnelo'r wybodaeth yn y rhan hon â nodweddion personol y boblogaeth breswyl arferol yng Nghymru fel y'i hamcangyfrifwyd gan Gyfrifiad 2011. Mae'n cwmpasu ein prif iaith a sgiliau iaith Gymraeg. Cyhoeddwyd dadansoddiadau manylach ar iechyd cyffredinol ac anabledd ar y cyd â'r bwletin hwn.

  • Nododd 97 y cant (2.9 miliwn) o breswylwyr arferol yng Nghymru a oedd yn dair oed a throsodd mai Cymraeg neu Saesneg oedd eu prif iaith.

  • O blith y 3 y cant (84,000) â phrif iaith heblaw am Gymraeg neu Saesneg, gallai'r mwyafrif (77 y cant, 65,000) siarad Cymraeg neu Saesneg yn dda iawn neu'n dda.

  • Yr awdurdod unedol yng Nghymru â'r gyfran fwyaf o breswylwyr arferol tair oed neu drosodd a nododd brif iaith heblaw am Gymraeg neu Saesneg (8 y cant, 28,000) oedd Caerdydd.

  • Nododd bron un o bob pump (19 y cant, 562,000) o breswylwyr arferol yng Nghymru a oedd yn dair oed a throsodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

  • Yr ail brif iaith fwyaf cyffredin yng Nghymru oedd Pwyleg (0.6 y cant, 17,000), ac yna Arabeg (0.2 y cant, 7,000).

  • Roedd 1,100 o breswylwyr arferol yn defnyddio iaith arwyddion, gyda'r mwyafrif ohonynt (800) yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Medrusrwydd yn Gymraeg neu Saesneg

Cyfrifiad 2011 oedd y cyntaf i holi preswylwyr arferol am ba mor dda y gallent siarad Saesneg (yn Lloegr) a Chymraeg neu Saesneg (yng Nghymru)1 os nad eu prif iaith ydoedd.

Yng Nghymru, nododd 3 y cant (84,000) o bobl tair oed a throsodd eu bod yn siarad prif iaith heblaw am Gymraeg neu Saesneg2. O'r grŵp hwn, gallai 39 y cant (33,000) siarad Cymraeg neu Saesneg yn dda iawn, gallai 38 y cant (32,000) siarad Cymraeg neu Saesneg yn dda, gallai 19 y cant (16,000) siarad Cymraeg neu Saesneg ond ddim yn dda ac ni allai 4 y cant (4,000) siarad Cymraeg na Saesneg o gwbl. Roedd y grŵp na allai siarad Cymraeg na Saesneg o gwbl yn cynrychioli 0.1 y cant (4,000) o'r boblogaeth breswyl arferol tair oed a throsodd.

Dengys Ffigur 1 mai awdurdod unedol Caerdydd sydd â'r gyfran fwyaf (8 y cant, 28,000) o breswylwyr arferol tair oed a throsodd a nododd brif iaith heblaw am Gymraeg neu Saesneg.

Roedd canran y preswylwyr arferol yng Nghymru a oedd yn dair oed a throsodd ac nad Cymraeg na Saesneg oedd eu prif iaith ond a allai siarad Cymraeg neu Saesneg yn dda iawn dri phwynt canran islaw Lloegr (42 y cant, 1.7 miliwn).

Yn y tri chategori arall: siarad Cymraeg neu Saesneg yn dda, ddim yn gallu siarad Cymraeg na Saesneg yn dda neu ddim yn gallu siarad Cymraeg na Saesneg, roedd canran yr ymatebion yng Nghymru yn uwch na'r ganran yn Lloegr.

Ar gyfer y preswylwyr arferol hynny nad Cymraeg na Saesneg oedd eu prif iaith, roedd y ganran a allai siarad Saesneg yn dda iawn neu'n dda yn amrywio o 59 y cant (1,000) ym Merthyr Tudful i 87 y cant (2,000) yng Ngheredigion. Roedd y ganran na allai siarad Cymraeg na Saesneg o gwbl yn amrywio rhwng 2 y cant (18) yn Sir Fynwy a 9 y cant (356) yn Sir Gaerfyrddin.

Rhoddir gwybodaeth am brif iaith a medrusrwydd mewn Cymraeg neu Saesneg yn nhablau QS204EW (190.5 Kb Excel sheet) a QS205EW (86.5 Kb Excel sheet). Caiff dadansoddiad manylach o'r tablau iaith ei gyhoeddi yn ystod 2013.

Nodiadau ar gyfer Medrusrwydd yn Gymraeg neu Saesneg

  1. Yng Nghymru, gofynnodd y cwestiwn ar brif iaith i ymatebwyr nodi a oeddent yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel eu prif iaith, ond nid oedd modd iddynt gofnodi pa iaith oedd eu prif iaith.

  2. Mae’r cwestiwn ar brif iaith yn gofyn beth yw prif iaith unigolyn ac nid yw’n ystyried ieithoedd y gall fod yr un mor rhugl ynddynt, ond nas ystyrir yn brif iaith. Er enghraifft, caiff unigolyn sy’n ystyried mai Saesneg yw ei brif iaith ond sydd hefyd yn siarad Pwyleg yn rhugl ei gynnwys yn y categori Saesneg ac nid y categori Pwyleg.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Sgiliau iaith Gymraeg

Yng Nghymru, cafodd cwestiwn ychwanegol ei gynnwys yn holiadur y cyfrifiad a ofynnodd i ymatebwyr a allent ddeall, siarad, darllen neu ysgrifennu Cymraeg.

Mae Tabl 1 yn dangos bod 19 y cant (562,000) o breswylwyr arferol yng Nghymru a oedd yn dair oed a throsodd wedi nodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn 2011.

Yr awdurdod unedol â'r ganran leiaf o breswylwyr arferol tair oed a throsodd a nododd eu bod yn gallu siarad Cymraeg oedd Blaenau Gwent (8 y cant, 5,000). Blaenau Gwent oedd hefyd â'r ganran leiaf o breswylwyr arferol tair oed a throsodd a allai 'Deall Cymraeg llafar', 'Darllen Cymraeg', 'Ysgrifennu Cymraeg' a 'Siarad, darllen neu ysgrifennu Cymraeg'.

Gwynedd oedd yr awdurdod unedol â'r ganran fwyaf o breswylwyr arferol tair oed a throsodd a nododd eu bod yn gallu siarad Cymraeg, gyda 65 y cant (77,000) o ymatebwyr yn y categori hwn, a Gwynedd hefyd oedd yr awdurdod unedol â'r ganran fwyaf o breswylwyr arferol tair oed a throsodd mewn categorïau eraill.

Rhoddir gwybodaeth am sgiliau iaith Gymraeg yn nhablau QS206WA (110.5 Kb Excel sheet) a QS207WA (115.5 Kb Excel sheet) . Mae dadansoddiad mwy manwl o'r tablau am yr Iaith Gymraeg ar lefel lleol wedi'i gynhyrchu gan Lywodraeth Cymru.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Prif iaith

Cyfrifiad 2011 oedd y cyntaf i gasglu gwybodaeth am iaith1. Roedd Ystadegau Allweddol 11 Rhagfyr 2012 yn cynnwys gwybodaeth am iaith y cartref. Yn 2011, roedd pob preswylydd arferol mewn 97 y cant (1.3 miliwn) o gartrefi yng Nghymru yn siarad Cymraeg neu Saesneg2 fel prif iaith3. Mewn 1 y cant (18,000) o gartrefi eraill roedd o leiaf un oedolyn yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel prif iaith, ac mewn llai nag 1 y cant (3,000) o gartrefi, nid oedd unrhyw oedolion ond o leiaf un plentyn yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel prif iaith. Yn y 2 y cant (22,000) o gartrefi a oedd yn weddill, nid oedd unrhyw breswylwyr a nododd eu bod yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel prif iaith.

Dengys Tabl 2 mai Cymraeg neu Saesneg4 a gofnodwyd fel y brif iaith yng Nghymru ar gyfer 97 y cant (2.9 miliwn) o breswylwyr arferol tair oed a throsodd yn 2011. Roedd gan y 3 y cant (84,000) a oedd yn weddill brif iaith wahanol ond efallai eu bod yn dal wedi defnyddio Cymraeg neu Saesneg i ryw lefel o fedrusrwydd.

Ar ôl Cymraeg a Saesneg, y brif iaith nesaf oedd Pwyleg (0.6 y cant, 17,000), ac yna Arabeg (0.2 y cant, 7,000). O'r 20 o brif ieithoedd mwyaf cyffredin, roedd pedair yn ieithoedd o Dde Asia ac roedd wyth yn ieithoedd Ewropeaidd.

Gogledd-ddwyrain Lloegr oedd â'r ganran fwyaf (97 y cant, 2.4 miliwn) o bobl a nododd mai Saesneg oedd eu prif iaith, yna Cymru (97 y cant, 2.9 miliwn), tra Llundain oedd â'r ganran isaf (78 y cant, 6.1 miliwn).

Roedd 1,100 o breswylwyr arferol yn defnyddio iaith arwyddion, gyda'r mwyafrif ohonynt (800) yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.

Caerdydd, yr awdurdod unedol mwyaf amrywiol o ran ethnigrwydd yng Nghymru, oedd yr awdurdod unedol â'r ganran leiaf o breswylwyr arferol tair oed a throsodd a nododd mai Cymraeg neu Saesneg oedd eu prif iaith (92 y cant, 305,000).

Fel yn Lloegr, Pwyleg oedd y brif iaith fwyaf cyffredin heblaw am Gymraeg neu Saesneg (neu Saesneg yn Lloegr). Fodd bynnag, roedd yr 20 o ieithoedd mwyaf cyffredin yng Nghymru yn wahanol i'r rheini yn Lloegr; er enghraifft, yr iaith o Ddwyrain Asia Tagalog/Ffilipineg yw'r chweched iaith fwyaf cyffredin yng Nghymru (0.1 y cant, 2,700) ond y 19eg yn Lloegr (0.1 y cant, 68,000), Pwnjabeg yw'r 13eg iaith fwyaf cyffredin yng Nghymru (0.1 y cant, 1,700) ond y drydedd yn Lloegr (0.5 y cant, 272,000), a Gwjarati yw'r 32ain iaith fwyaf cyffredin yng Nghymru (0.03 y cant, 900) ond yn Lloegr dyma'r chweched iaith fwyaf cyffredin (0.4 y cant, 212,000).

Rhoddir gwybodaeth am brif iaith yn nhabl QS204EW (190.5 Kb Excel sheet) . Caiff dadansoddiad manylach o'r tablau iaith ei gyhoeddi yn ystod 2013.

Nodiadau ar gyfer Prif iaith

  1. Caiff dadansoddiad manylach o’r tablau iaith ei gyhoeddi yn ystod hanner cyntaf 2013.
  2. Yng Nghymru, gofynnodd y cwestiwn ar brif iaith i ymatebwyr nodi a oeddent yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel eu prif iaith, ond nid oedd modd iddynt gofnodi pa iaith oedd eu prif iaith.
  3. Mae’r cwestiwn ar brif iaith yn gofyn beth yw prif iaith unigolyn ac nid yw’n ystyried ieithoedd y gall fod yr un mor rhugl ynddynt, ond nas ystyrir yn brif iaith. Er enghraifft, caiff unigolyn sy’n ystyried mai Saesneg yw ei brif iaith ond sydd hefyd yn siarad Pwyleg yn rhugl ei gynnwys yn y categori Saesneg ac nid y categori Pwyleg.
  4. Saesneg yn unig yn Lloegr.
Nôl i'r tabl cynnwys

7. SUT RYDYM YN BYW

Mae gwybodaeth am gartrefi a sefydliadau cymunedol eisoes wedi cael ei chyhoeddi ac mae'r bwletin hwn yn adeiladu ar y canlyniadau ym mwletin 11 Rhagfyr 2012 a wnaeth gwmpasu llety a deiliadaeth, ystafelloedd, ystafelloedd gwely a gwres canolog, argaeledd car neu fan, statws priodasol, cyfansoddiad cartrefi a phreswylwyr mewn sefydliadau cymunedol. Rhydd yr adran hon ganfyddiadau allweddol ar gyfansoddiad cartrefi.

Cyhoeddwyd dadansoddiad manylach o gartrefi a theuluoedd ar y cyd â'r bwletin hwn.

  • Yn 2011, roedd 13 y cant (401,000) o breswylwyr arferol yn byw mewn cartrefi un person, un pwynt canran yn uwch nag yn 2001 (12 y cant, 352,000).

  • Gostyngodd canran y preswylwyr arferol1 a oedd yn byw mewn cartref pâr priod un teulu2 chwe phwynt canran o 50 y cant (1.4 miliwn) yn 2001 i 44 y cant (1.3 miliwn) yn 2011.

  • Cynyddodd canran y preswylwyr arferol1 a oedd yn byw mewn cartref pâr sy'n cyd-fyw un teulu2 dri phwynt canran o 9 y cant (258,000) yn 2001 i 12 y cant (367,000) yn 2011.

  • Cynyddodd canran y preswylwyr arferol1 a oedd yn byw mewn cartref un rhiant un teulu2 un pwynt canran o 12 y cant (333,000) yn 2001 i 13 y cant (378,000) yn 2011.

  • Nododd llai nag 1 y cant (3,000) o breswylwyr arferol1 eu bod yn byw mewn cartref partneriaeth sifil un teulu2 yn 2011.

Nodiadau ar gyfer SUT RYDYM YN BYW

  1. Lle'r oedd un aelod o'r cartref o leiaf o dan 65 oed.
  2. Caiff teulu ei ddiffinio fel pâr priod, partneriaid sifil neu bâr sy'n cyd-fyw, sydd â phlant neu heb blant, neu riant unigol sydd ag un plentyn o leiaf. Gall plentyn neu blant fod yn ddibynnol neu ddim yn ddibynnol. Os oes gan y plentyn ei blant ei hun fe'u hystyrir yn deulu ar wahân. Caiff cartrefi teuluoedd lluosog eu cynnwys yn 'cartrefi eraill'.
Nôl i'r tabl cynnwys

8. Cyfansoddiad cartrefi

Diffinnir cartref fel un person sy'n byw ar ei ben ei hun; neu grŵp o bobl (nid oes rhaid iddynt berthyn i’w gilydd) sy’n byw yn yr un cyfeiriad, ac sy’n rhannu cyfleusterau coginio ac ystafell fyw neu lolfa neu le bwyta. Nid yw'r boblogaeth ar gyfer cartrefi yn cynnwys y rheini sy'n byw mewn sefydliad cymunedol.

Yn 2011, roedd cyfanswm nifer y cartrefi yng Nghymru yn 1.3 miliwn, sef cynnydd o 8 y cant o 1.2 miliwn yn 2001.

Yn 2011, roedd 13 y cant (401,000) o breswylwyr arferol mewn cartrefi yng Nghymru yn byw ar eu pen eu hunain. Mae hyn un pwynt canran yn uwch nag yn 2001 (12 y cant, 352,000). O aelodau'r boblogaeth breswyl arferol a oedd yn byw ar eu pen eu hunain roedd 44 y cant (178,000) yn 65 oed a throsodd.

Yn 2011, roedd 77 y cant (2.3 miliwn) o breswylwyr arferol yn byw mewn cartrefi a oedd yn cynnwys un teulu1 yn unig. Mae hyn ddau bwynt canran yn is o ran preswylwyr arferol nag yn 2001 pan roedd 79 y cant (2.3 miliwn) o breswylwyr arferol yn byw mewn cartrefi un teulu.

Fel y gellir ei weld yn Nhabl 3, rhwng 2001 a 2011, gostyngodd canran y preswylwyr arferol2 a oedd yn byw mewn cartrefi pâr priod un teulu o 50 y cant (1.4 miliwn) yn 2001 i 44 y cant (1.3 miliwn) yn 2011. Cynyddodd canran y preswylwyr arferol2 a oedd yn byw mewn cartref pâr sy'n cyd-fyw un teulu dri phwynt canran rhwng 2001 a 2011 o 9 y cant (258,000) i 12 y cant (367,000). Cynyddodd canran y preswylwyr arferol2 a oedd yn byw mewn cartref un rhiant un teulu hefyd rhwng 2001 a 2011 o 12 y cant (333,000) i 13 y cant (378,000).

Nododd llai nag 1 y cant (3,000) o breswylwyr arferol2 eu bod yn byw mewn cartref partneriaeth sifil un teulu yn 2011.

Mae cartrefi sy'n cynnwys preswylwyr arferol heblaw am rai un person neu un teulu yn cynnwys y rheini lle'r oedd pob aelod yn perthyn (er enghraifft brodyr a chwiorydd yn cyd-fyw neu gartrefi'n cynnwys mwy na thair cenhedlaeth) a myfyrwyr neu weithwyr proffesiynol nad ydynt yn perthyn. Cynyddodd canran y preswylwyr arferol a oedd yn byw yn y cartrefi hyn rhwng 2001 a 2011 o 9 y cant (255,000) i 10 y cant (304,000).

Rhoddir gwybodaeth am gyfansoddiad cartrefi a theuluoedd yn nhablau QS112EW (121 Kb Excel sheet) a QS113EW (120.5 Kb Excel sheet). Cyhoeddwyd dadansoddiad manylach o gartrefi a theuluoedd ar y cyd â'r bwletin hwn.

Nodiadau ar gyfer Cyfansoddiad cartrefi

  1. Caiff teulu ei ddiffinio fel pâr priod, partneriaid sifil neu bâr sy'n cyd-fyw, sydd â phlant neu heb blant, neu riant unigol sydd ag un plentyn o leiaf. Gall plentyn neu blant fod yn ddibynnol neu ddim yn ddibynnol. Os oes gan y plentyn ei blant ei hun fe'u hystyrir yn deulu ar wahân. Caiff cartrefi teuluoedd lluosog eu cynnwys yn 'cartrefi eraill’.
  2. Lle'r oedd un aelod o'r cartref o leiaf o dan 65 oed.
Nôl i'r tabl cynnwys

9. BETH RYDYM YN EI WNEUD

Mae gwybodaeth am gartrefi a sefydliadau cymunedol eisoes wedi cael ei chyhoeddi ac mae'r bwletin hwn yn adeiladu ar y negeseuon ym mwletin 11 Rhagfyr 2012 a wnaeth gwmpasu darparu gofal di-dâl, gweithgarwch economaidd, cymwysterau, a diwydiant a galwedigaeth. Rhydd yr adran hon ganfyddiadau allweddol ar fyfyrwyr, y lluoedd arfog a'r dull o deithio i'r gwaith.

Mae'r cyfrifiad yn ffordd werthfawr o greu darlun manwl o nodweddion y boblogaeth ar adeg benodol. Mae a wnelo'r adran hon â sut roeddem yn teithio i'r gwaith a ph'un a oeddem yn gweithio os yn fyfyrwyr.

  • Yn 2011, nododd 7 y cant (204,000) o breswylwyr arferol yng Nghymru eu bod yn fyfyrwyr mewn addysg amser llawn rhwng 16 a 74 oed.

  • Nododd 28 y cant (57,000) o fyfyrwyr mewn addysg amser llawn yng Nghymru eu bod yn weithwyr cyflogedig ar adeg y cyfrifiad, roedd 8 y cant (16,000) yn ddi-waith ac roedd 64 y cant (130,000) yn anweithgar yn economaidd.

  • Yn 2011, roedd 0.2 y cant (6,900) o breswylwyr arferol yng Nghymru yn y lluoedd arfog.

  • Cyfran y boblogaeth o oedran gweithio, rhwng 16 a 74 oed, a oedd yn gyrru car neu fan i'r gwaith yng Nghymru oedd 67 y cant (919,000) yn 2011.

Caiff dadansoddiad manylach o'r preswylwyr arferol a oedd yn darparu gofal di-dâl ei gyhoeddi ar 15 Chwefror 2013.

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Myfyrwyr

Dosbarthiad

Yn 2011, nododd 7 y cant (204,000) o breswylwyr arferol yng Nghymru eu bod yn fyfyrwyr mewn addysg amser llawn rhwng 16 a 74 oed.

Cynyddodd cyfran y myfyrwyr mewn addysg amser llawn rhwng 16 a 74 oed ddau bwynt canran ers 2001 o 5 y cant (150,000). Gwelwyd sefyllfa debyg yn Lloegr, lle cynyddodd nifer y myfyrwyr mewn addysg amser llawn rhwng 16 a 74 oed o 5 y cant (2.5 miliwn) i 7 y cant (3.5 miliwn) o'r boblogaeth breswyl arferol rhwng 2001 a 2011.

Y rhanbarth o Loegr â'r ganran fwyaf o fyfyrwyr mewn addysg amser llawn rhwng 16 a 74 oed oedd Llundain (9 y cant, 700,000), gyda'r ganran leiaf yn Nwyrain Lloegr (5 y cant, 315,000).

Roedd gan y rhan fwyaf o awdurdodau unedol yng Nghymru lai na 10 y cant o breswylwyr arferol yn nodi eu bod yn fyfyrwyr mewn addysg amser llawn rhwng 16 a 74 oed. Yr eithriadau oedd Ceredigion (15 y cant, 11,000) a Chaerdydd (12 y cant, 43,000).

Gweithgarwch economaidd

Gall myfyrwyr naill ai fod yn weithgar yn economaidd1 (yn weithiwr cyflogedig neu'n ddi-waith) neu gallant fod yn anweithgar yn economaidd (ddim yn chwilio am waith).

O'r 204,000 o fyfyrwyr mewn addysg amser llawn rhwng 16 a 74 oed yng Nghymru2 yn 2011, nododd 28 y cant (57,000) eu bod yn weithwyr cyflogedig, nododd 8 y cant (16,000) eu bod yn ddi-waith, a nododd 64 y cant (130,000) eu bod yn anweithgar yn economaidd.

O blith Cymru a rhanbarthau Lloegr, De-orllewin Lloegr oedd â'r ganran uchaf (33 y cant, 100,000) o fyfyrwyr mewn cyflogaeth, yn ogystal â'r ganran isaf o bobl ddi-waith (8 y cant, 24,000).

Llundain oedd â'r ganran isaf o fyfyrwyr rhwng 16 a 74 oed mewn cyflogaeth (26 y cant, 182,000) a'r ganran fwyaf o fyfyrwyr a oedd yn anweithgar yn economaidd (65 y cant, 452,000).

O blith Cymru a rhanbarthau Lloegr, Gogledd-orllewin Lloegr oedd â'r ganran fwyaf o fyfyrwyr di-waith rhwng 16 a 74 oed (10 y cant, 45,000).

O fewn pob awdurdod unedol yng Nghymru, roedd canran y myfyrwyr mewn addysg amser llawn rhwng 16 a 74 oed mewn cyflogaeth yn amrywio o 21 y cant (2,400) yng Ngheredigion i 35 y cant (2,500) yn Sir y Fflint. Roedd canran y myfyrwyr di-waith yn amrywio o 5 y cant (300) ym Mhowys i 11 y cant (1,000) yng Nghasnewydd. Roedd canran y myfyrwyr mewn addysg amser llawn rhwng 16 a 74 oed a oedd yn anweithgar yn economaidd yn amrywio o 57 y cant (4,100) yn Sir y Fflint i 68 y cant (7,700) yng Ngheredigion.

Rhoddir gwybodaeth am weithgarwch economaidd myfyrwyr mewn addysg amser llawn yn nhabl QS603EW (91.5 Kb Excel sheet) .

Nodiadau ar gyfer Myfyrwyr

  1. Yn sgil gwahaniaethau diffiniadol, ac am fod holiadur y cyfrifiad ei hun yn cael ei hunanlenwi gan bobl Cymru a Lloegr, gall amcangyfrifon y cyfrifiad o bobl mewn cyflogaeth fod yn wahanol i ffynonellau eraill oherwydd gall rhai ymatebwyr, er enghraifft, gynnwys gwaith gwirfoddol pan ofynnir iddynt am eu gwaith. Yr amcangyfrifon mwyaf awdurdodol a chyfredol o statws y farchnad lafur gan gynnwys cyflogaeth a diweithdra yw'r ystadegau ar y farchnad lafur a gyhoeddir gan SYG bob mis. Mae'r cyfrifiad yn ffordd werthfawr o greu darlun manwl o nodweddion y boblogaeth sy'n weithgar yn economaidd ar adeg y cyfrifiad.

  2. Nid oedd modd i'r wybodaeth am weithgarwch economaidd a gasglwyd gan Gyfrifiad 2011 gael ei chymharu'n uniongyrchol â 2001 o ganlyniad i ffactorau'n cynnwys gwelliannau a newidiadau yn nosbarthiad sylfaenol y cwestiynau yn holiadur y cyfrifiad. Yn ddiweddarach yn 2013, bydd SYG yn cyhoeddi dadansoddiad er mwyn helpu defnyddwyr i ddeall sut mae'r amcangyfrifon hyn yn cymharu â'r rhai yn Arolwg y Llafurlu.

Nôl i'r tabl cynnwys

11. Lluoedd arfog

Yn 2011, roedd 0.2 y cant (6,900) o'r boblogaeth breswyl arferol yng Nghymru yn nodi eu bod yn y lluoedd arfog, yn debyg i 2001 (0.2 y cant, 5,300). Mewn cymhariaeth, roedd poblogaeth y lluoedd arfog yn Lloegr yn cyfateb i 0.3 y cant (146,000) o'r boblogaeth breswyl arferol.

Yn 2011, roedd y ganran fwyaf o breswylwyr arferol a nododd eu bod yn aelodau o'r lluoedd arfog yn byw yn Ne-orllewin Lloegr (0.6 y cant, 34,000) a De-ddwyrain Lloegr (0.4 y cant, 33,000). O blith Cymru a rhanbarthau Lloegr, Llundain oedd â'r ganran leiaf o breswylwyr arferol yn y lluoedd arfog (0.1 y cant, 6,300).

Bro Morgannwg (0.9 y cant, 1,100) oedd yr awdurdod unedol â'r ganran fwyaf o breswylwyr arferol yn y lluoedd arfog a Chaerdydd oedd yr awdurdod unedol â'r ganran leiaf (0.1 y cant, 500).

Rhoddir gwybodaeth am y lluoedd arfog yn nhabl QS121EW (117 Kb Excel sheet).

Nôl i'r tabl cynnwys

12. Y dull o deithio i’r gwaith

Y dull o deithio i’r gwaith1 yw'r dull trafnidiaeth a ddefnyddir ar gyfer y rhan hiraf, o ran pellter, o’r daith i’r gwaith. Cyhoeddir y wybodaeth hon ar gyfer preswylwyr arferol rhwng 16 a 74 oed a oedd yn gweithio yn ystod yr wythnos cyn diwrnod y cyfrifiad, 27 Mawrth 2011.

Yn 2011, roedd 61 y cant (1.4 miliwn) o breswylwyr arferol rhwng 16 a 74 oed yng Nghymru mewn cyflogaeth2.

Roedd y mwyafrif (67 y cant, 919,000) o bobl rhwng 16 a 74 oed yng Nghymru mewn cyflogaeth yn gyrru car neu fan i'r gwaith. Roedd 11 y cant (145,000) yn cerdded i'r gwaith, 7 y cant (93,000) yn teithio i'r gwaith fel teithiwr mewn car neu fan a 5 y cant (73,000) yn gweithio gartref neu o gartref yn bennaf. Fel y gellir ei weld yn Ffigur 5, nodwyd pob un o'r categorïau sy'n weddill gan lai na 5 y cant o breswylwyr arferol rhwng 16 a 74 oed yng Nghymru mewn cyflogaeth.

Nid yw'r ystadegau hyn o'r cyfrifiad yn caniatáu i ni wneud cymhariaeth uniongyrchol, rhwng 2001 a 2011, o'r dull o deithio i'r gwaith ar gyfer pobl rhwng 16 a 74 oed mewn cyflogaeth.3 Efallai y bydd modd gwneud cymhariaeth bellach pan gyhoeddir ystadegau ar gyfeiriadau gweithleoedd yn ddiweddarach yn 2013.

Dengys Ffigur 6 mai'r prif amrywiad rhwng Cymru a Lloegr yw cyfran y preswylwyr arferol rhwng 16 a 74 oed mewn cyflogaeth sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus (gan gynnwys bysys, trenau a threnau tanddaearol, rheilffordd ysgafn/tramiau), a'r rheini sy'n defnyddio ceir, faniau, beiciau modur a thacsis.

Yng Nghymru, roedd 75 y cant (1 filiwn) o breswylwyr arferol rhwng 16 a 74 oed mewn cyflogaeth yn teithio mewn car, fan, beic modur neu dacsi o gymharu â 63 y cant (16 miliwn) yn Lloegr. Roedd 7 y cant (91,000) o breswylwyr arferol rhwng 16 a 74 oed mewn cyflogaeth yn teithio ar fws, trên neu dram yng Nghymru o gymharu â 17 y cant (4.3 miliwn) yn Lloegr.

Yng Nghymru, roedd canran y gweithwyr a oedd yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn bennaf yn amrywio o 2 y cant (1,000) ym Mhowys i 14 y cant (22,000) yng Nghaerdydd. Roedd y ganran a oedd yn defnyddio ceir, faniau, beiciau modur neu dacsis yn amrywio o 63 y cant (100,000) yng Nghaerdydd i 83 y cant (24,000) ym Mlaenau Gwent.

Caerdydd oedd â'r ganran fwyaf o weithwyr yn cerdded neu'n defnyddio beic (19 y cant, 31,000) a Phowys oedd â'r ganran fwyaf o bobl a oedd yn gweithio o gartref (13 y cant, 8,000).

Rhoddir gwybodaeth am deithio i'r gwaith yn nhabl QS701EW (92.5 Kb Excel sheet) . Caiff dadansoddiad manylach o'r data hwn ei gyhoeddi ar 13 Chwefror 2013.

Nodiadau ar gyfer Y dull o deithio i’r gwaith

  1. Yn sgil gwahaniaethau diffiniadol, ac am fod holiadur y cyfrifiad yn cael ei hunanlenwi gan bobl Cymru a Lloegr, gall amcangyfrifon y cyfrifiad ar gyfer y dull o deithio i'r gwaith fod yn wahanol i ffynonellau eraill.

  2. Yn sgil gwahaniaethau diffiniadol, ac am fod holiadur y cyfrifiad yn cael ei hunanlenwi gan bobl Cymru a Lloegr, gall amcangyfrifon y cyfrifiad o bobl sy'n gweithio fod yn wahanol i ffynonellau eraill oherwydd gall rhai ymatebwyr, er enghraifft, gynnwys gwaith gwirfoddol pan ofynnir iddynt am eu gwaith. Yr amcangyfrifon mwyaf awdurdodol a chyfredol o statws y farchnad lafur gan gynnwys cyflogaeth a diweithdra yw ystadegau'r farchnad lafur a gyhoeddir gan SYG bob mis. Mae'r cyfrifiad yn ffordd werthfawr o greu darlun manwl o nodweddion y boblogaeth sy'n weithgar yn economaidd ar adeg y cyfrifiad.

  3. Nid yw'n bosibl gwneud cymariaethau uniongyrchol ar gyfer y dull o deithio i'r gwaith rhwng 2001 a 2011. Yn 2001, ystyriwyd mai gweithio gartref neu o gartref yn bennaf oedd y dull o deithio i'r gwaith ar gyfer pobl a nododd eu bod yn gweithio gartref neu o gartref yn bennaf. Yn 2011, gallai pobl a oedd yn gweithio gartref neu o gartref yn bennaf nodi, er enghraifft, eu bod yn teithio i'r gwaith fel gyrrwr mewn car neu fan, er eu bod yn gweithio gartref. Mae'r wybodaeth ychwanegol hon yn ddefnyddiol ar gyfer cynllunio trafnidiaeth.

Nôl i'r tabl cynnwys

13 .Nodiadau cefndirol

  1. Mae'r cyhoeddiad hwn yn dilyn cyfresi blaenorol o ddata'r cyfrifiad gan gynnwys cyfansymiau poblogaeth a chartrefi a thablau Ystadegau Allweddol ar lefel awdurdod unedol. Mae'r cyfrifiad yn rhoi amcangyfrifon o nodweddion pob unigolyn a chartref yng Nghymru a Lloegr ar ddiwrnod y cyfrifiad. Fe'u cynhyrchir ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddwyr gan gynnwys y llywodraeth, awdurdodau lleol ac unedol, busnesau a chymunedau. Mae'r cyfrifiad yn darparu ystadegau o'r boblogaeth o lefel genedlaethol i lefel leol. Mae'r bwletin hwn yn trafod y canlyniadau ar lefel genedlaethol a lefel awdurdod unedol ar gyfer Cymru.

  2. Wrth wneud cymariaethau â 2001, cymharwyd amcangyfrifon o'r boblogaeth (yn ôl oedran a rhyw) â'r amcangyfrifon canol blwyddyn ar gyfer 2001. Ar gyfer nodweddion eraill, gwnaed cymariaethau ag amcangyfrifon Cyfrifiad 2001. Mae'r ddwy ffynhonnell yn rhoi amcangyfrif wedi'i dalgrynnu o 2.9 miliwn o breswylwyr arferol yng Nghymru. Darperir troednodiadau gyda'r tablau a'r siartiau er mwyn nodi'r ffynonellau data a ddefnyddiwyd.

  3. Mae data o Gyfrifiad 2001 ar gael ar wefan Ystadegau Cymdogaeth. Rhoddir rhifau tablau perthnasol ar gyfer canlyniadau 2011 ym mhob ffeil i'w lawrlwytho yn y cyhoeddiad hwn.

  4. Mae delweddau data rhyngweithiol a ddatblygwyd gan SYG hefyd ar gael i helpu i ddehongli'r canlyniadau.

  5. Bydd data pellach o Gyfrifiad 2011 yn cynnwys mwy o fanylion mewn croesdablau, a thablau ar gyfer ardaloedd daearyddol eraill. Mae'r rhain yn cynnwys wardiau, ardaloedd iechyd, etholaethau seneddol, sectorau cod post a pharciau cenedlaethol. Mae rhagor o wybodaeth am ddata pellach ar gael ar lein ym Mhrosbectws Cyfrifiad 2011.

  6. Yn sgil gwahaniaethau diffiniadol, ac am fod holiadur y cyfrifiad yn cael ei hunanlenwi gan bobl Cymru a Lloegr, gall amcangyfrifon y cyfrifiad o bobl mewn cyflogaeth fod yn wahanol i ffynonellau eraill oherwydd gall rhai ymatebwyr, er enghraifft, gynnwys gwaith gwirfoddol pan ofynnir iddynt am eu gwaith. Yr amcangyfrifon mwyaf awdurdodol a chyfredol o statws y farchnad lafur gan gynnwys cyflogaeth a diweithdra yw ystadegau'r farchnad lafur a gyhoeddir gan SYG bob mis. Mae'r cyfrifiad yn ffordd werthfawr o greu darlun manwl o nodweddion y boblogaeth sy'n weithgar yn economaidd ar adeg y cyfrifiad.

  7. Nid yw'n bosibl gwneud cymariaethau uniongyrchol ar gyfer y dull o deithio i'r gwaith rhwng 2001 a 2011. Yn 2001, ystyriwyd mai gweithio gartref neu o gartref yn bennaf oedd y dull o deithio i'r gwaith ar gyfer pobl a nododd eu bod yn gweithio gartref neu o gartref yn bennaf. Yn 2011, gallai pobl a oedd yn gweithio gartref neu o gartref yn bennaf nodi, er enghraifft, eu bod yn teithio i'r gwaith fel gyrrwr mewn car neu fan, er eu bod yn gweithio gartref. Mae'r wybodaeth ychwanegol hon yn ddefnyddiol ar gyfer cynllunio trafnidiaeth.

  8. Mae SYG wedi sicrhau bod y data a gesglir yn diwallu anghenion defnyddwyr drwy ymgynghoriad helaeth ar allbynnau Cyfrifiad 2011 er mwyn sicrhau bod allbynnau Cyfrifiad 2011 o ddefnydd cynyddol wrth gynllunio gwasanaethau tai, addysg, iechyd a thrafnidiaeth mewn blynyddoedd i ddod.

  9. Mae unrhyw gyfeiriad at awdurdodau unedol yn cynnwys awdurdodau lleol ac awdurdodau unedol.

  10. Efallai na fydd ffigurau yn y cyhoeddiad hwn yn cydgrynhoi oherwydd talgrynnu. Mae newidiadau mewn pwyntiau canran yn y testun yn seiliedig ar ddata a dalgrynwyd.

  11. Mae swyddogion o Lywodraeth Cymru wedi bod ynghlwm wrth y broses o gynllunio Cyfrifiad 2011. Cynrychiolir Llywodraeth Cymru ar bob lefel o lywodraethu'r cyfrifiad. Yn arbennig, yn ystod 2011 a 2012, mae ystadegwyr o Gymru wedi bod ynghlwm wrth y broses sicrhau ansawdd a chynlluniau ar gyfer ystadegau'r cyfrifiad.

  12. Gofynnodd holiaduron cyfrifiad Cymru a Lloegr yr un cwestiynau namyn un; gofynnwyd cwestiwn ychwanegol am yr iaith Gymraeg yn holiadur Cymru.

  13. Mae SYG yn gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr. Cynhaliwyd cyfrifiadau gwahanol ond ar yr un pryd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Cafodd y rhain eu cynnal gan Gofnodion Cenedlaethol yr Alban (NRS) ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (NISRA) yn y drefn honno.

  14. SYG sy'n gyfrifol am gyhoeddi ystadegau'r DU (llunio ystadegau cymaradwy gan yr asiantaethau ystadegol uchod yn y DU). Caiff y rhain eu llunio wrth i'r tair asiantaeth ystadegol dan sylw gyhoeddi'r data perthnasol. Mae prosbectws cyfrifiad Gogledd Iwerddon a phrosbectws cyfrifiad yr Alban) ar gael ar lein. Cyhoeddwyd amcangyfrifon poblogaeth cyntaf y DU ar 17 Rhagfyr 2012.

  15. Yn y rhan fwyaf o achosion, preswylfa arferol unigolyn yw'r cyfeiriad lle mae'n aros y rhan fwyaf o'r amser. I lawer o bobl, hwn fydd eu cartref parhaol neu gartref y teulu. Os nad oedd gan aelod o'r lluoedd arfog gyfeiriad parhaol na chyfeiriad y teulu lle mae'n byw fel arfer, nodwyd eu bod fel arfer yn byw yng nghyfeiriad y ganolfan.

  16. Diffinnir cartref fel un person sy’n byw ar ei ben ei hun neu grŵp o bobl (nad ydynt o reidrwydd yn perthyn i’w gilydd) sy’n byw yn yr un cyfeiriad sy’n rhannu cyfleusterau coginio ac sydd hefyd yn rhannu lolfa, ystafell fyw neu le bwyta.

  17. Caiff yr holl dermau allweddol a ddefnyddir yn y cyhoeddiad hwn, fel preswylydd a phreswylwyr byrdymor, eu hegluro yng nghanllaw Cyfrifiad 2011 i ddefnyddwyr.

  18. Roedd holl amcangyfrifon poblogaeth y cyfrifiad yn destun proses sicrhau ansawdd helaeth, gan ddefnyddio ffynonellau gwybodaeth cenedlaethol a lleol eraill at ddiben eu cymharu a'u hadolygu gan gyfres o baneli sicrhau ansawdd. Cyhoeddwyd ystod eang o bapurau sicrhau ansawdd, gwerthuso a methodoleg ochr yn ochr â'r gyfres gyntaf o ddata ym mis Gorffennaf 2012 ac fe'u diweddarwyd yn y gyfres hon, gan gynnwys dogfen Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg (QMI). (152.8 Kb Pdf)

  19. Cyflawnodd Cyfrifiad 2011 ei gyfradd ymateb darged gyffredinol sef 94 y cant o'r boblogaeth breswyl arferol yng Nghymru a Lloegr, a thros 80 y cant ym mhob awdurdod lleol ac unedol. Amcangyfrifwyd poblogaeth Cymru a Lloegr sef 56.1 miliwn gyda chyfradd hyder o 95 y cant o fod yn gywir o fewn +/- 85,000 (0.15 y cant).

  20. Mae manylion y polisi ar ryddhau data newydd ar gael yn www.statisticsauthority.gov.uk/assessment/code-of-practice/index.html neu drwy anfon e-bost at y Swyddfa Cysylltiadau â'r Cyfryngau: media.relations@ons.gov.uk

    Caiff yr Ystadegau Gwladol hyn eu cynhyrchu yn unol â safonau proffesiynol uchel a'u rhyddhau yn unol â'r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r DU.

Nôl i'r tabl cynnwys

Manylion cyswllt ar gyfer y Bwletin ystadegol

Emma White
census.customerservices@ons.gov.uk
Ffôn: +44 (0)1329 444972