Heddiw mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi cyhoeddi'r cam nesaf o allbynnau Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr gan edrych ar bynciau gan gynnwys mudo, gwlad enedigol a maint a strwythur cartrefi.

Mae cynnydd bach i'w weld yn nifer y preswylwyr yng Nghymru a gafodd eu geni y tu allan i'r Deyrnas Unedig yn ystod y degawd ers y cyfrifiad diwethaf.

Mae data newydd o Gyfrifiad 2021 yn dangos bod 215,000 allan o 3.1 miliwn o breswylwyr (1 o bob 14) yng Nghymru wedi cael eu geni y tu allan i'r Deyrnas Unedig. Yn 2011, y ffigur oedd tua 1 o bob 18 o breswylwyr. Mae hefyd yn cymharu ag 1 o bob 6 ledled Cymru a Lloegr i gyd yn 2021.

Roedd bron i 25,000 (0.8% o boblogaeth Cymru) wedi cael eu geni yng Ngwlad Pwyl (i fyny o 18,000 yn 2011) ac roedd 13,400 (0.4%) wedi cael eu geni yn India (i fyny o 11,900 yn 2011).

Wrth edrych ar draws Cymru a Lloegr, roedd gan Gymru dri awdurdod lleol ymhlith y 10 oedd â'r gyfran isaf o breswylwyr a gafodd eu geni y tu allan i'r Deyrnas Unedig: Caerffili (2.9%), Blaenau Gwent (3.2%) ac Ynys Môn (3.3%).

Gan sôn am ffigurau heddiw, dywedodd Dirprwy Gyfarwyddwr y Cyfrifiad Jon Wroth-Smith:

"Mae'r cyfrifiad yn dangos sut mae cyfansoddiad y boblogaeth wedi newid dros y degawd diwethaf. Yn ystod y degawd hwnnw, wrth gwrs, gwnaethom adael yr Undeb Ewropeaidd a gorfod byw gyda'r pandemig.

"Er ei bod yn bosibl bod y digwyddiadau hyn wedi effeithio ar benderfyniadau neu allu pobl i fudo neu deithio ar adeg benodol, mae'r cyfrifiad yn dweud wrthym am y newid dros y degawd cyfan -- pwy oedd yn byw yma ym mis Mawrth 2021 o gymharu â mis Mawrth 2011. Fel y gallwn weld, yng Nghymru, mae'r boblogaeth a aned y tu allan i'r Deyrnas Unedig wedi cynyddu ychydig, a Gwlad Pwyl ac India yw'r gwledydd genedigol mwyaf cyffredin y tu allan i'r Deyrnas Unedig. Yng Nghymru, yr awdurdod lleol â'r gyfran uchaf o breswylwyr a aned y tu allan i'r Deyrnas Unedig oedd Caerdydd, gyda thua un o bob chwe phreswylydd wedi'u geni dramor."

Nodweddion y boblogaeth

Mae'r datganiad heddiw hefyd yn taflu goleuni ar nodweddion pobl sy'n byw yng Nghymru ac yn dangos darlun tebyg i 2011.

Yng Nghymru, roedd 2.3 o bobl yn byw ym mhob cartref ar gyfartaledd. Caerdydd a Chasnewydd oedd â'r maint cartref mwyaf ar gyfartaledd (2.4 o bobl), a Chonwy oedd â'r lleiaf (2.2 o bobl).

Yr awdurdodau lleol â'r gyfran uchaf o gartrefi un person oedd Gwynedd (34.6%), Abertawe (34.4%) a Chonwy (34.3%). Yr awdurdodau lleol â'r gyfran uchaf o gartrefi pum person oedd Caerdydd (4.6%), Casnewydd (4.4%) a Gwynedd (4.2%).

Caerdydd oedd â'r gyfran uchaf o bobl sengl yng Nghymru, sef 48.6%. Sir Fynwy oedd â'r isaf, sef 28.9%. Mae hyn yn cymharu â 37.2% yn genedlaethol ledled Cymru.

Roedd y gyfran uchaf o bobl briod (priodasau o'r naill ryw a phriodasau o'r un rhyw) yn Sir Fynwy, sef 51.1%. Roedd y gyfran isaf, sef 36.6%, yng Nghaerdydd. Mae hyn yn cymharu â 43.7% ledled Cymru.

Pa mor hen yw eich tref?

Oedran canolrifol y boblogaeth yng Nghymru oedd 42 oed, o gymharu â 41 oed yn 2011. Ond mae'r darlun a gyflwynir heddiw yn amrywio rhwng ardaloedd trefol a gwledig, ac ardaloedd â phoblogaethau myfyrwyr mawr.

Ledled Cymru, yr awdurdodau lleol â'r oedran canolrifol uchaf oedd Powys (50 oed) a Sir Fynwy a Chonwy (49 oed yn y ddau).

Yr awdurdodau lleol â'r oedran canolrifol isaf oedd Caerdydd (34 oed), yna Casnewydd (38 oed) a Merthyr Tudful (40 oed).

Rhagor o wybodaeth

Heddiw, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi rhyddhau data unnewidyn ar Ddemograffeg a Mudo ar ein gwefan. Mae’r data yn cael eu darparu fel taenlenni Excel y gellir eu lawrlwytho yn y lle cyntaf, gydag APIs ar gael yn fuan ar wefannau NOMIS a SYG. I gyd-fynd â’r data hyn, mae gennym ystod eang o gynhyrchion esboniadol ac archwiliol i ddangos cyfoeth y data hyn.

Mae Geiriadur Cyfrifiad 2021 yn darparu gwybodaeth fanwl am newidynnau, diffiniadau a dosbarthiadau er mwyn helpu wrth ddefnyddio data Cyfrifiad 2021.

Defnyddiwch fapiau'r cyfrifiad i ddysgu mwy am fywydau pobl ledled Cymru a Lloegr. Mae'r adnodd rhyngweithiol hwn yn eich galluogi i archwilio data Cyfrifiad 2021 ar bynciau gwahanol i lawr i ardal awdurdod lleol a lefel cymdogaeth. Gall eich helpu i ddysgu pethau fel pa ardaloedd sydd â'r poblogaethau hynaf a'r poblogaethau ieuengaf; pa gymdogaethau sydd â'r canrannau uchaf o bobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain neu ba ardaloedd sydd â'r canrannau uchaf neu isaf o bobl sy'n briod neu mewn partneriaeth sifil. Ar ôl i chi ddewis eich pwnc, gallwch ddefnyddio eich map dewisol yn eich gwefan eich hun drwy ddilyn y cyfarwyddiadau "defnyddio a rhannu".

Caiff datganiad nesaf Cyfrifiad 2021 ei ryddhau wythnos nesaf (10 Tachwedd 2022), ac mae'n edrych am y tro cyntaf ar gyn-aelodau o'r lluoedd arfog yn y Deyrnas Unedig.

Diwedd

Manylion cyswllt ar gyfer y cyfryngau

Swyddfa Cysylltiadau â'r Cyfryngau: +44 845 604 1858
Llinell ar alwad frys: +44 7867 906553
E-bost: media.relations@ons.gov.uk