Mae data newydd yn dangos bod 1 o bob 25 oedolyn yng Nghymru a Lloegr yn gyn-filwr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig ar adeg Cyfrifiad 2021.

Am y tro cyntaf – gan gefnogi Cyfamod y Lluoedd Arfog – casglodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wybodaeth o'r cyfrifiad am boblogaeth y cyn-filwyr sydd naill ai wedi gwasanaethu yn y lluoedd rheolaidd, yn y lluoedd wrth gefn, neu yn y ddau lu yn y gorffennol.

Mae canfyddiadau heddiw yn dangos bod 1.85 miliwn o bobl yng Nghymru a Lloegr wedi nodi eu bod wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn y gorffennol (3.8% o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd), gyda mwy na thri chwarter yn dweud eu bod wedi gwasanaethu yn y lluoedd rheolaidd yn y gorffennol.

Roedd yr awdurdodau lleol â'r gyfran uchaf o gyn-filwyr yn cynnwys Conwy (5.9%) yng Nghymru, a Gosport (12.5%), Gogledd Kesteven (10.2%) a Swydd Richmond (9.5%) yn Lloegr.

"Am y tro cyntaf, mae ein data yn gallu dangos maint gwirioneddol ein cymuned lluoedd arfog, sy'n wybodaeth hanfodol er mwyn helpu i ddarparu cefnogaeth a gwasanaethau lle mae eu hangen fwyaf," dywedodd Syr Ian Diamond, yr Ystadegydd Gwladol. "Mae cyfran fawr o'n cyn-filwyr yn byw ger sefydliadau milwrol, neu wedi'u lleoli gerllaw, gan awgrymu eu bod yn tueddu i aros yn yr un ardaloedd ar ôl iddynt adael y lluoedd arfog.

"Yn ystod y misoedd nesaf byddwn yn dysgu hyd yn oed mwy am ein cyn-filwyr wrth i ragor o ddata'r cyfrifiad gael eu rhyddhau, a fydd yn cael effaith enfawr ar bersonél y gwasanaeth, cyn-filwyr a'u teuluoedd."

Roedd cyfran cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn uwch yng Nghymru (4.5% o'r boblogaeth 16 oed a throsodd, 115,000) nag yn Lloegr (3.8%, 1.7 miliwn).

Yn Lloegr, y rhanbarthau â'r gyfran uchaf o gyn-filwyr oedd De-orllewin Lloegr (5.6%, 265,000 o bobl) a Gogledd-ddwyrain Lloegr (5.0%, 109,000 o bobl). Rhain oedd y rhanbarthau oedd â'r ganran uchaf o gartrefi ag o leiaf un cyn-filwr hefyd (10.1%, 247,000 o gartrefi yn Ne-orllewin Lloegr; 8.8%, 104,000 o gartrefi yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr).

I'r gwrthwyneb, Llundain oedd â'r gyfran isaf o gyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig (1.4%, 101,000 o bobl) a'r gyfran isaf o gartrefi ag o leiaf un cyn-filwr (2.8%, 96,000 o gartrefi).   

Cafodd y cwestiwn newydd ei gyflwyno yn y cyfrifiad i gefnogi Cyfamod y Lluoedd Arfog. Addewid gan y genedl yw hwn, sy'n sicrhau bod y rhai sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a'u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg.

Yn ogystal, mae'r SYG a'r Swyddfa Materion Cyn-filwyr hefyd wedi lansio Arolwg Cyn-filwyr penodol newydd i gyd-fynd â'r broses o ryddhau data Cyfrifiad 2021.

Dyma'r ymarfer cyntaf erioed i gasglu adborth gan y gymuned cyn-filwyr ledled y DU a gaiff ei gydgysylltu gan y Swyddfa Materion Cyn-filwyr a'r SYG.

Bydd yr arolwg ar-lein yn fyw am 12 wythnos, gan roi'r cyfle i gyn-bersonél lluoedd arfog y DU a'u teuluoedd roi adborth uniongyrchol i'r llywodraeth ar eu profiadau, y gwasanaethau i gyn-filwyr sydd ar gael iddynt a'u defnydd ohonynt.

Ychwanegodd Syr Ian Diamond:

"Bydd ymatebion i'r arolwg yn ein helpu i ddeall profiadau, anghenion a llesiant ein cymuned cyn-filwyr yn well, ac i lywio camau gweithredu ar gyfer y dyfodol. Mae'n bwysig ein bod yn clywed amrywiaeth eang o safbwyntiau.

"Rydym yn ymrwymedig i roi o'n hamser a'n gorau glas i gynhyrchu amcangyfrifon o ansawdd uchel a fydd yn ein helpu i ddeall sut y gallwn fodloni anghenion ein cyn-filwyr." 

I gael rhagor o wybodaeth am yr arolwg, ac i gymryd rhan ynddo, ewch i dudalen Arolwg Cyn-filwyr.

Gweler ein bwletin ystadegol i gael rhagor o wybodaeth am gyn-filwyr yng Nghymru a Lloegr: Cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Dywedodd y Gweinidog dros Faterion Cyn-filwyr, y Gwir Anrhydeddus Johnny Mercer AS:

“Mae'r llywodraeth yn ymrwymedig i sicrhau mai'r Deyrnas Unedig yw'r lle gorau yn y byd i'n holl gyn-filwyr.

“Ond ni fyddwn yn cyflawni hynny heb wybod faint o gyn-filwyr sydd, ble maen nhw a pha heriau sy'n eu hwynebu.

“Nawr rydym yn gwybod, ac rwy'n annog holl gyn-filwyr y Deyrnas Unedig i gefnogi hyn drwy gwblhau ein harolwg cyn-filwyr newydd fel y gallwn deilwra ein cymorth a gwasanaethu cyn-aelodau'r lluoedd arfog a'u cymunedau yn well.”

Diwedd

Manylion cyswllt ar gyfer y cyfryngau

Swyddfa Cysylltiadau â'r Cyfryngau: +44 845 604 1858
Llinell ar alwad frys: +44 7867 906553
E-bost: media.relations@ons.gov.uk