Trosolwg

Mae ystadegau mudo manwl yn darparu nodweddion pobl neu gartrefi sydd wedi symud o fewn Cymru a Lloegr, neu o wlad arall i Gymru a Lloegr, yn ystod y flwyddyn cyn Cyfrifiad 2021. Caiff pobl sy'n symud o fewn Cymru a Lloegr, neu rhyngddynt, eu galw'n fudwyr mewnol. Caiff pobl sy'n symud o wlad arall y tu allan i'r Deyrnas Unedig i mewn i Gymru a Lloegr eu galw'n fudwyr allanol.

Allbynnau mudo manwl Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr

Cafodd allbynnau mudo manwl Cyfrifiad 2021 eu rhyddhau ar 6 Medi 2023 ar wefan NOMIS. Rydym hefyd wedi cyhoeddi erthygl dadansoddi i ategu'r data ar wefan y SYG.

Rydym wedi trefnu'r newidynnau a'r dosbarthiadau sydd wedi'u cynnwys yn y setiau data mudo manwl yn nhabiau cyfatebol y daenlen 'Detailed migration specifications' (XLSX 172KB) .

Ni chofnododd Cyfrifiad 2021 symudiadau plant dan flwydd oed ar Ddiwrnod y Cyfrifiad (21 Mawrth 2021) am nad oedd ganddynt gyfeiriad flwyddyn yn ôl. Gwnaed amcangyfrif ar gyfer y symudiadau hyn yn 2011, ond nid ydym wedi gwneud hyn ar gyfer 2021.

Gwnaethom gyfuno data mudo mewnol y Deyrnas Unedig ar gyfer Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban yn 2011, ond nid oedd y data hyn gennym yn 2021. Ar gyfer 2021, nid oes gennym ddata ar gyfer Gogledd Iwerddon (oherwydd gwahaniaethau mewn amserlenni prosesu data) na'r Alban (oherwydd ym mis Mawrth 2022 y cynhaliwyd cyfrifiad yr Alban). Mae hyn yn golygu nad yw'r cyfrifon all-lif yn cynnwys pobl a oedd yn byw yng Nghymru a Lloegr yn ystod y flwyddyn cyn Cyfrifiad 2021 ond a oedd wedi symud i Ogledd Iwerddon neu'r Alban cyn 21 Mawrth 2021.

Allbynnau mudo manwl y Deyrnas Unedig

Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, cafodd y cyfrifiad ei gynnal ym mis Mawrth 2021. Yn yr Alban, penderfynwyd symud y cyfrifiad i fis Mawrth 2022 oherwydd effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae angen ystyried y gwahaniaeth hwn wrth wneud unrhyw waith dadansoddi mewn perthynas â'r Deyrnas Unedig gyfan gan ddefnyddio data mudo manwl y cyfrifiad. 

Mae data mudo manwl Cyfrifiad 2021 yn cwmpasu Cymru a Lloegr. Byddwn yn ceisio ychwanegu data'r cyfrifiad ar gyfer Gogledd Iwerddon pan fyddant ar gael. Cyhoeddir ystadegau mudo manwl yr Alban ar gyfer 2022 gan Gofnodion Cenedlaethol yr Alban.

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gynhyrchion mudo manwl Cyfrifiad 2021, e-bostiwch census.customer.services@ons.gov.uk.

Related downloads