Preswylwyr sefydliadau cymunedol, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Gwybodaeth am bobl sy'n byw mewn sefydliadau cymunedol, gan gynnwys oedran, rhyw a math o sefydliad, data Cyfrifiad 2021.

Hwn yw'r datganiad diweddaraf. Gweld datganiadau blaenorol

Census
This is an accredited National Statistic. Click for information about types of official statistics.

Cyswllt:
Email Michael Roskams

Dyddiad y datganiad:
5 January 2023

Cyhoeddiad nesaf:
I’w gyhoeddi

1. Prif bwyntiau

  • Yn 2021, roedd 1,042,000 o breswylwyr sefydliadau cymunedol yng Nghymru a Lloegr (1.7% o'r boblogaeth breswyl arferol).
  • Mae nifer y rheini sy'n byw mewn sefydliadau cymunedol wedi codi 37,000 ers 2011 (pan oedd 1,005,000 yn byw mewn sefydliadau cymunedol), ond gostyngodd ychydig bach fel cyfran o'r boblogaeth breswyl arferol (o 1.8%).
  • Roedd 51.1% o breswylwyr sefydliadau cymunedol yn fenywod a 48.9% yn ddynion.
  • Roedd bron hanner (46.3%) y preswylwyr sefydliadau cymunedol rhwng 16 a 24 oed, ac roedd 16.3% arall yn 85 oed a throsodd.
  • Roedd bron i hanner y preswylwyr sefydliadau cymunedol (45.7%, 477,00) yn byw mewn sefydliadau addysgol, ac roedd bron i draean (33.0%, 344,000) mewn cartrefi gofal
Nôl i'r tabl cynnwys

2. Preswylwyr sefydliadau cymunedol yng Nghymru a Lloegr

Sefydliad lle ceir goruchwyliaeth amser llawn neu ran amser sy’n darparu llety preswyl yw sefydliad cymunedol, fel neuaddau preswyl myfyrwyr, ysgolion preswyl, canolfannau’r lluoedd arfog, ysbytai, cartrefi gofal a charchardai.

Wrth ddehongli’r data, mae’n bwysig ystyried y cynhaliwyd y cyfrifiad yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), a all fod wedi effeithio ar nifer y preswylwyr mewn mathau penodol o sefydliadau cymunedol. Er enghraifft, gall y tarfu ar deithio rhyngwladol fod wedi golygu bod nifer llai o fyfyrwyr mewn sefydliadau addysgol na’r hyn y byddid wedi’i ddisgwyl fel arall, oherwydd y gostyngiad yn nifer y myfyrwyr sy’n cyrraedd o dramor.

Mae’r bwletin hwn yn disgrifio’r dadansoddiad o’r boblogaeth o breswylwyr sefydliadau cymunedol yn ôl oedran a rhyw, ac mae’n rhoi amcangyfrifon o faint y boblogaeth ar gyfer mathau gwahanol o sefydliadau cymunedol. Mae bwletinau eraill yn y crynodeb pwnc Tai yn canolbwyntio ar nodweddion tai a phobl ag ail gyfeiriadau.

Preswylwyr sefydliadau cymunedol yn ôl oedran a rhyw

Yn 2021, roedd 1,042,000 o breswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr (1.7% o’r holl breswylwyr arferol) a oedd yn byw mewn sefydliadau cymunedol, o gymharu â 58,556,000 (98.3%) a oedd yn byw mewn aelwydydd.

Mae nifer y bobl sy’n byw mewn sefydliadau cymunedol wedi codi bron 37,000 ers 2011 (pan oedd 1,005,000 yn byw mewn sefydliadau cymunedol), ond gostyngodd ychydig bach fel cyfran o’r boblogaeth breswyl arferol (o 1.8%).

Ffigur 1: Roedd y rhan fwyaf o’r preswylwyr sefydliadau cymunedol rhwng 16 a 24 oed neu’n 85 oed a throsodd

Preswylwyr sefydliadau cymunedol yn ôl rhyw a grwpiau oedran wedi’u bandio, 2011 a 2021, Cymru a Lloegr

Embed code

Nodiadau:
  1. Mae’r canrannau wedi’u cyfrifo ar wahân ar gyfer poblogaethau dynion a menywod, sy’n golygu y bydd pob rhyw yn creu cyfanswm o 100 y cant. Mae’r ffigur ond yn cynnwys preswylwyr mewn sefydliad cymunedol.
Lawrlwytho'r data

.xlsx

Yn ein hystadegau, rydym yn gwahaniaethu rhwng y rheini sy’n byw mewn sefydliad cymunedol a’r rheini sy’n ei reoli neu sy’n gweithio ynddo (a’u teuluoedd). Rydym yn rhoi dadansoddiadau yn ôl rhyw ac oedran ar gyfer preswylwyr, ond nid ar gyfer y nifer llai o berchnogion a staff sefydliadau cymunedol, aelodau o’u teuluoedd, a’r rheini a oedd yn aros mewn sefydliad cymunedol dros dro nad oedd ganddynt gyfeiriad arferol yn y Deyrnas Unedig (DU).

Dangosodd y dadansoddiad yn ôl rhyw ar gyfer y grŵp hwn fod 51.1% o’r preswylwyr sefydliadau cymunedol (512,000) yn fenywod a 48.9% (489,000) yn ddynion. Mae hyn yn debyg iawn i’r boblogaeth breswyl arferol ar gyfer Cymru a Lloegr i gyd (51.0% yn fenywod, 49.0% yn ddynion).

Mae’r dadansoddiad yn ôl oedran yn dangos bod y boblogaeth o breswylwyr sefydliadau cymunedol wedi’u crynodi o fewn dau grŵp oedran yn bennaf. Roedd 46.3% o breswylwyr sefydliadau cymunedol (463,000) rhwng 16 a 24 oed. Mae’n debygol bod y grŵp hwn yn cynnwys y rheini sydd mewn sefydliadau addysgol yn bennaf, fel neuaddau preswyl prifysgolion neu ysgolion preswyl, sef y math mwyaf cyffredin o sefydliad yr oedd preswylwyr yn byw ynddo.

Roedd 16.3% (163,000) arall yn 85 oed a throsodd. Mae’r dadansoddiad yn ôl rhyw yn y grŵp oedran hwn yn dangos bod canran y menywod (78.0% o’r holl breswylwyr sefydliadau cymunedol a oedd yn 85 oed a throsodd) yn uwch o lawer na chanran y dynion (22.0%). Gall hyn adlewyrchu’r boblogaeth o breswylwyr sefydliadau cymunedol sy’n byw mewn cartrefi gofal a’r gwahaniaeth mewn disgwyliad oes rhwng dynion a menywod. Yng Nghymru a Lloegr, mae’r disgwyliad oes yn is ar gyfer dynion (78.6 o flynyddoedd) nag ar gyfer menywod (82.6 o flynyddoedd) (yn Saesneg).

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Mathau o sefydliadau cymunedol

Mae data’r cyfrifiad yn dangos nifer y bobl sy’n byw mewn mathau penodol o sefydliadau cymunedol.

Ffigur 2: Ymhlith pobl mewn sefydliadau addysgol y gwelwyd y cynnydd mwyaf ers 2011

Math o sefydliad cymunedol, 2011 a 2021, Cymru a Lloegr

Embed code

Nodiadau:
  1. Yn 2011, dosbarthwyd "Tai gwarchod yn unig" fel sefydliadau cymunedol. Yn 2021, caiff ei ddosbarthu fel cartref.
  2. Mae'r categorïau "Llety i staff/gweithwyr yn unig" ac "Arall" wedi'u cyfuno yn nata 2011 i gyfateb i'r dosbarthiad yn 2021.
Lawrlwytho'r data

.xlsx

Y math mwyaf cyffredin o sefydliad cymunedol oedd "Addysg", sy'n cynnwys neuaddau preswyl prifysgolion ac ysgolion preswyl. Roedd 45.7% o breswylwyr sefydliadau cymunedol (477,000) mewn sefydliadau addysgol. Roedd hyn yn gynnydd o bron 89,000 o 2011 (i fyny o 388,000, 38.6%). Mae hyn, fwy na thebyg, yn adlewyrchu'r twf yn nifer y myfyrwyr prifysgol yng Nghymru a Lloegr dros y degawd diwethaf, a gall hefyd adlewyrchu newidiadau yn newisiadau tai myfyrwyr.

Roedd 33.0% pellach o breswylwyr sefydliadau cymunedol (344,000) mewn cartrefi gofal, i lawr o 38.0% (382,000) yn 2011. O'u plith:

  • roedd 53.4% (184,000) mewn cartrefi gofal heb ofal nyrsio (i lawr o 230,000 yn 2011)
  • roedd 46.6% (160,000) mewn cartrefi gofal gyda gofal nyrsio (i fyny o 151,000 yn 2011)

Roedd llai o lawer o bobl yn byw mewn mathau eraill o sefydliadau cymunedol:

  • roedd 67,200 (6.5% o'r holl breswylwyr sefydliadau cymunedol) mewn carchardai, canolfannau prawf neu gadw
  • roedd 42,100 (4.0%) mewn sefydliadau amddiffyn
  • roedd 17,800 (1.7%) mewn sefydliadau llety wrth deithio neu lety dros dro arall
  • roedd 14,100 (1.4%) mewn hostelau neu lochesi dros dro i bobl ddigartref
  • roedd 14,000 (1.3%) mewn ysbytai (gan gynnwys unedau diogel)
  • roedd 6,500 (0.6%) mewn sefydliadau meddygol a gofal eraill
  • roedd 3,700 (0.4%) mewn sefydliadau crefyddol
  • roedd 3,600 (0.3%) mewn cartref plant (gan gynnwys unedau diogel)

Roedd 23,800 (2.3%) pellach mewn llety i staff neu weithwyr yn y sefydliad cymunedol neu wedi rhestru math arall o sefydliad cymunedol.

Gwnaed mân newidiadau i'r diffiniadau tai ers Cyfrifiad 2011 (yn Saesneg), sy'n golygu bod rhai unedau tai gwarchod yn cael eu cyfrif fel sefydliadau cymunedol yn 2011 ond fel cartrefi yn 2021. Dylai defnyddwyr ystyried hyn wrth gymharu data cyfrifiad 2011 a 2021 ar gyfer y pwnc hwn, fel y'i disgrifir yn Newidynnau tai Cyfrifiad 2011.

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Sut roedd poblogaethau sefydliadau cymunedol yn amrywio ledled Cymru a Lloegr

Roedd cyfran y bobl a oedd yn byw mewn sefydliadau cymunedol yn debyg yng Nghymru a Lloegr. Yn Lloegr, roedd 1.74% o gyfanswm y boblogaeth breswyl arferol (986,000) yn byw mewn sefydliadau cymunedol, o gymharu ag 1.80% (56,000) yng Nghymru.

Sefydliadau addysgol a chartrefi gofal oedd y mathau mwyaf cyffredin o sefydliadau cymunedol yng Nghymru a Lloegr. Canran y boblogaeth breswyl arferol a oedd yn byw mewn sefydliadau addysgol yn Lloegr oedd 0.80% (452,000) a 0.79% yng Nghymru (24,000). Y ganran a oedd yn byw mewn cartrefi gofal oedd 0.57% (324,000) yn Lloegr a 0.63% yng Nghymru (20,000).

Yn Lloegr, Dwyrain Canolbarth Lloegr oedd â'r ganran uchaf o'r boblogaeth a oedd yn byw mewn sefydliadau addysgol (1.07%) o holl ranbarthau Lloegr, a Llundain oedd â'r ganran isaf (0.52%). Ar lefel awdurdod lleol, yr ardaloedd oedd â'r ganran uchaf o'r boblogaeth mewn sefydliadau addysgol oedd y dinasoedd a'r trefi prifysgol, gyda Rhydychen (12.41%) a Chaergrawnt (12.20%) ar frig y rhestr. Yr awdurdod lleol yng Nghymru â'r ganran uchaf oedd Ceredigion (4.34%).

Roedd y ganran o'r boblogaeth a oedd yn byw mewn cartrefi gofal yn amrywio o 0.7% yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr i 0.3% yn Llundain. Roedd y tri awdurdod lleol yn Lloegr â'r ganran uchaf o breswylwyr cartrefi gofal i gyd yn Ne-ddwyrain Lloegr: Worthing (1.32%), Eastbourne (1.25%) ac Arun (1.22%). Yng Nghymru, yr awdurdodau lleol oedd â'r canrannau uchaf o breswylwyr cartrefi gofal oedd Sir Ddinbych (1.22%) a Chonwy (1.16%).

Mae'r data hefyd yn dangos pa ardaloedd oedd â'r ganran uchaf o'r boblogaeth a oedd yn byw mewn hostelau neu lochesi dros dro i bobl ddigartref. Mae hyn yn cynnwys preswylwyr ac ymwelwyr dydd os nad oes ganddynt breswylfa arall. Yr ardal â'r ganran uchaf o'r boblogaeth a oedd yn byw yn y math hwn o sefydliad cymunedol oedd Dinas Llundain, lle roedd tua 1 o bob 100 o breswylwyr arferol yn byw mewn hostel neu loches dros dro i bobl ddigartref (0.99%). Caerwysg oedd â'r ganran uchaf nesaf (0.18%). Roedd gan bron bob awdurdod lleol arall yng Nghymru a Lloegr 0.1% neu lai o'r boblogaeth a oedd yn byw mewn hostelau neu lochesi dros dro i bobl ddigartref.

Ffigur 3: Poblogaethau preswylwyr sefydliadau cymunedol, 2021, awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, preswylwyr sefydliadau cymunedol fesul 10,000 o breswylwyr arferol

Embed code

Nodiadau:
  1. Caiff y gyfradd ei gyfrifo drwy ran y nifer y breswylwyr yn y sefydliad cymunedol â chyfanswm poblogaeth breswyl arferol yr awdurdod lleol, ac yna lluosi â 10,000.
Lawrlwytho'r data

.xlsx

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Cyhoeddiadau yn y dyfodol

Caiff data a dadansoddiadau manylach ar sefydliadau cymunedol eu cyhoeddi yn y misoedd i ddod, a chaiff data amlamryweb eu rhyddhau. Darllenwch fwy am ein cynlluniau dadansoddi tai (yn Saesneg) a'r cynlluniau datganiadau ar gyfer Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Sefydliadau cymunedol, Cymru a Lloegr: data

Preswylwyr sefydliadau cymunedol yn ôl oedran a rhyw (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 5 Ionawr 2023
Mae’r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy’n dosbarthu preswylwyr sefydliadau cymunedol yng Nghymru a Lloegr yn ôl oedran a rhyw.

Y math o sefydliad cymunedol, a’r gwaith o’i reoli (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 5 Ionawr 2023
Mae’r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy’n dosbarthu preswylwyr sefydliadau cymunedol yng Nghymru a Lloegr yn ôl y math o sefydliad cymunedol maent yn byw ynddo.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Geirfa

Sefydliad cymunedol

Lleoliad yw sefydliad cymunedol wedi'i reoli lle caiff y llety preswyl ei oruchwylio drwy'r amser neu am ran o'r amser.

Mae enghreifftiau yn cynnwys:

  • neuaddau preswyl prifysgolion ac ysgolion preswyl
  • cartrefi gofal, ysbytai, hosbisau ac unedau mamolaeth
  • gwestai, tai llety, hostelau a llety gwely a brecwast, sy'n cynnwys llety preswyl i saith gwestai neu fwy
  • carchardai a chyfleusterau diogel eraill
  • Llety Byw Unigol mewn canolfannau milwrol
  • llety i staff
  • sefydliadau crefyddol

Nid yw'n cynnwys llety gwarchod, fflatiau a wasanaethir, llety nyrsys, na thai a gaiff eu rhentu i fyfyrwyr gan landlordiaid preifat. Cartrefi yw'r rhain.

Preswylydd sefydliad cymunedol

Mae preswylydd arferol mewn sefydliad cymunedol naill ai yn:

  • rhywun sy'n byw yno
  • rhywun sy'n gweithio ac yn byw yno
  • rhywun sy'n perthyn i aelod o staff sy'n gweithio yno ac sy'n byw yno

Cartref

Diffinnir cartref fel:

  • un person sy'n byw ar ei ben ei hun, neu
  • grŵp o bobl (nad ydynt o reidrwydd yn perthyn i'w gilydd) sy'n byw yn yr un cyfeiriad sy'n rhannu cyfleusterau coginio ac yn rhannu ystafell fyw neu lolfa neu ardal fwyta

Mae hyn yn cynnwys:

  • unedau llety gwarchod mewn sefydliad (ni waeth p'un a oes cyfleusterau cymunedol eraill ai peidio),
  • pob person sy'n byw mewn carafán ar unrhyw fath o safle sy'n breswylfa arferol iddo; bydd hyn yn cynnwys unrhyw un nad oes ganddo breswylfa arferol rywle arall yn y Deyrnas Unedig

Rhaid i gartref gynnwys o leiaf un person y mae ei breswylfa arferol yn y cyfeiriad hwnnw. Ni chaiff grŵp o breswylwyr byrdymor sy'n byw gyda'i gilydd eu cyfrif yn gartref, nac ychwaith grŵp o bobl mewn cyfeiriad sy'n cynnwys ymwelwyr yn unig.

Preswylydd arferol

Ystyr preswylydd arferol yw unrhyw un a oedd, ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021, yn y Deyrnas Unedig ac wedi aros neu’n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu a oedd â chyfeiriad parhaol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac yn bwriadu aros y tu allan i’r Deyrnas Unedig am lai na 12 mis.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Mesur y data

Dyddiad cyfeirio

Mae'r cyfrifiad yn rhoi amcangyfrifon o nodweddion pob unigolyn a chartref yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021. Caiff ei gynnal unwaith bob 10 mlynedd ac mae'n rhoi'r amcangyfrif mwyaf cywir o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr i ni.

Rydym yn gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, ond byddwn hefyd yn rhyddhau allbynnau ar gyfer y Deyrnas Unedig mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cofnodion Cenedlaethol yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon. Cafodd y cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon ei gynnal ar 21 Mawrth 2021 hefyd, ond cafodd cyfrifiad yr Alban ei symud i 20 Mawrth 2022. Mae holl swyddfeydd y cyfrifiad yn y Deyrnas Unedig yn gweithio'n agos i ddeall sut y bydd y gwahaniaeth hwn mewn dyddiadau cyfeirio yn effeithio ar ystadegau poblogaeth a thai'r Deyrnas Unedig gyfan, o ran yr amseru a'r cwmpas.

Cyfradd ymateb

Cyfradd ymateb unigolion (yn Saesneg) ar gyfer y cyfrifiad yw nifer y preswylwyr arferol y cafodd manylion unigol eu darparu ar eu cyfer ar holiadur a ddychwelwyd, wedi'i rannu ag amcangyfrif o'r boblogaeth breswyl arferol.

Y gyfradd ymateb unigolion ar gyfer Cyfrifiad 2021 oedd 97% o boblogaeth breswyl arferol Cymru a Lloegr, a dros 88% ym mhob awdurdod lleol. Cafodd y rhan fwyaf o ffurflenni (89%) eu derbyn ar lein. Gwnaeth y gyfradd ymateb ragori ar ein targed, sef 94% yn gyffredinol ac 80% ym mhob awdurdod lleol.

Darllenwch fwy am gyfraddau ymateb ar gyfer cwestiynau penodol ar lefel awdurdod lleol yn Adran 4 o'n mesurau sy'n dangos ansawdd amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Cryfderau a chyfyngiadau

Ceir ystyriaethau o ansawdd ynghyd â chryfderau a chyfyngiadau Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol yn yr adroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg). Darllenwch fwy am wybodaeth am ansawdd y data ar dai o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Ceir rhagor o wybodaeth am ein prosesau sicrhau ansawdd yn ein methodoleg am sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o'r ansawdd gorau posibl (yn Saesneg).

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Dolenni cysylltiedig

Map y Cyfrifiad (yn Saesneg)
Cynnwys rhyngweithiol | Diweddarwyd ar 5 Ionawr 2023
Adnodd map rhyngweithiol sy'n delweddu data Cyfrifiad 2021 ar bynciau gwahanol i lawr i ardal awdurdod lleol a lefel cymdogaeth.

Gwybodaeth am ansawdd data am dai o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg)
Methodoleg | Rhyddhawyd ar 5 Ionawr 2023
Gwybodaeth hysbys am ansawdd sy'n effeithio ar ddata am dai o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr.

Newidynnau tai, Cyfrifiad 2021
Gwybodaeth ategol | Rhyddhawyd ar 4 Ionawr 2023
Newidynnau a dosbarthiadau a ddefnyddir yn nata Cyfrifiad 2021 am dai.

Tai yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)
Prif ddatganiad | Rhyddhawyd ar 5 Ionawr 2023
Crynodeb gan Lywodraeth Cymru o ddata Cyfrifiad 2021 ar dai yng Nghymru.

Nôl i'r tabl cynnwys

11. Cyfeirio at y bwletin ystadegol hwn

Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rhyddhawyd ar 5 Ionawr 2023, gwefan SYG, bwletin ystadegol, Preswylwyr sefydliadau cymunedol, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021.

Nôl i'r tabl cynnwys

Manylion cyswllt ar gyfer y Bwletin ystadegol

Michael Roskams
census.customerservices@ons.gov.uk
Ffôn: +44 1329 444972