1. Gwybodaeth allbwn

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

  • Ystadegyn Gwladol: Ydy
  • Sut y cafodd ei chasglu: Cyfrifiad 2021
  • Amlder: bob 10 mlynedd
  • Cwmpas daearyddol: Cymru a Lloegr
Nôl i'r tabl cynnwys

2. Ynglŷn â'r adroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg hwn

Mae'r adroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg hwn yn cynnwys gwybodaeth am ansawdd a nodweddion y data, gan gynnwys pum dimensiwn ansawdd y System Ystadegol Ewropeaidd (PDF, 916KB). Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y dulliau y gwnaethom ni yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) eu defnyddio i greu'r data a'r allbynnau.

Bydd y wybodaeth yn yr adroddiad hwn yn eich helpu chi i wneud y canlynol:

  • deall cryfderau a chyfyngiadau'r data
  • deall ystyriaethau o ran data mewn perthynas â'r data
  • dysgu am y modd y caiff y data eu defnyddio ar hyn o bryd a'r rhai sy'n eu defnyddio
  • deall y dulliau y gwnaethom eu defnyddio i greu'r data
  • penderfynu ar ffyrdd addas o ddefnyddio'r data
  • lleihau'r risg o gamddefnyddio'r data

Helpwch ni i wella ein cynnwys ar gyfer Cyfrifiad 2021 drwy gwblhau ein harolwg.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Pwyntiau pwysig

  • Gwnaethom ni, y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), gynnal Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr ddydd Sul 21 Mawrth 2021.

  • Cawsom gyfradd ymateb uchel iawn i'r cyfrifiad, sef 97% o boblogaeth breswyl arferol Cymru a Lloegr a mwy nag 88% ym mhob awdurdod lleol (gan ragori ar ein targedau, sef 94% yn gyffredinol ac 80% ym mhob awdurdod lleol).

  • Rydym yn cymryd llawer o gamau i sicrhau bod cynhyrchion y cyfrifiad o ansawdd da ac yn ddibynadwy; mae'r adroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg hwn yn rhoi crynodeb, ac mae ein hadroddiad Sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o'r ansawdd gorau posibl yn rhoi rhagor o fanylion.

  • Mae Cyfrifiad 2021 yn ffynhonnell bwysig o ddata o ansawdd uchel am y boblogaeth yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), ond mae'n bosibl y bydd yr amgylchiadau wedi effeithio ar breswylfa arferol rhai pobl; Mae Cynnal cyfrifiad yn ystod pandemig y coronafeirws yn esbonio beth mae hyn yn ei olygu i'r data.

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Crynodeb ansawdd

Trosolwg

Mae cyfrifiad Cymru a Lloegr wedi cael ei gynnal bob 10 mlynedd ers 1801, heblaw am yn 1941. Mae'n rhoi gwybodaeth fanwl i ni am nodweddion yr holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr. Yn unol â Deddf y Cyfrifiad 1920, mae'n ofyniad cyfreithiol i bawb yng Nghymru a Lloegr gael eu cyfrif yn y cyfrifiad a rhoi gwybodaeth gywir.

Yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), gwnaethom gynnal y cyfrifiad diweddaraf yng Nghymru a Lloegr ddydd Sul 21 Mawrth 2021. Gwnaethom sicrhau y byddai ein data a'n cynhyrchion o ansawdd uchel drwy osod nodau strategol ar gyfer llwyddiant ym Mhapur Gwyn y Cyfrifiad, Helpu i Lunio Ein Dyfodol, a rhagori arnynt. Er enghraifft, cawsom gyfradd ymateb uchel iawn, sef 97% o boblogaeth breswyl arferol Cymru a Lloegr ac 88% ym mhob awdurdod lleol. Gwnaeth hyn ragori ar ein targed, sef 94% yn gyffredinol ac 80% ym mhob awdurdod lleol.

Mae'r adroddiad hwn yn disgrifio'r fethodoleg y gwnaethom ei defnyddio i gynhyrchu ystadegau Cyfrifiad 2021 ac mae'n rhoi gwybodaeth am ansawdd ystadegau'r cyfrifiad.

Defnyddiau a defnyddwyr

Mae data'r cyfrifiad yn helpu amrywiaeth eang o sefydliadau i gynllunio ar gyfer y dyfodol, ac maent hefyd yn sail i ystadegau fel cyfraddau cynnyrch domestig gros, cyflogaeth a'r coronafeirws (COVID-19).

Mae defnyddwyr nodweddiadol data'r cyfrifiad yn cynnwys:

  • awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill, er mwyn llywio'r gwaith o ddatblygu polisïau, darparu gwasanaethau a chlustnodi cyllid

  • busnesau, er mwyn deall cwsmeriaid a phenderfynu ble y dylid agor siopau newydd

  • sefydliadau gwirfoddol, er mwyn dysgu am y cymunedau y maent yn gweithio ynddynt a chefnogi ceisiadau am gyllid

  • academyddion, er mwyn cefnogi gwaith ymchwil

Mae data dros dro o Gyfrifiad 2021 hefyd wedi cael eu defnyddio i ateb y galw am ddata cyflym ac amser real. Mae hyn yn cynnwys helpu i lywio ein hymateb i bandemig y coronafeirws a chefnogi ein hymateb dyngarol i ymosodiad Rwsia ar Wcráin.

Darllenwch straeon y cyfrifiad yn cyfrifiad.gov.uk i ddysgu mwy am sut mae sefydliadau gwahanol yn defnyddio gwybodaeth o'r cyfrifiad i gynllunio gwasanaethau.

Cryfderau a chyfyngiadau

Cryfderau

Mae'r cyfrifiad yn rhoi'r darlun manylaf o'r boblogaeth gyfan, a gofynnir yr un cwestiynau craidd i bawb ledled Cymru a Lloegr. Mae lwfans gwallau llai yn y cyfrifiad o gymharu ag arolygon yn seiliedig ar sampl o'r boblogaeth, oherwydd bod y boblogaeth gyfan yn cael ei chynnwys.

Mae cyfrifiadau'r Alban a Gogledd Iwerddon yn gofyn yr un cwestiynau craidd, sy'n golygu bod modd cymharu gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig. Gallwch hefyd gymharu'r Deyrnas Unedig â gwledydd eraill, gan ein bod yn cysoni cwestiynau a dosbarthiadau â safonau rhyngwladol lle bo modd.

Mae'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi asesu amcangyfrifon y cyfrifiad yn annibynnol a chadarnhau eu bod yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Cafodd allbynnau Cyfrifiad 2021 eu dynodi'n Ystadegau Gwladol gan Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig, gan roi sicrwydd bod yr ystadegau hyn o'r ansawdd a'r gwerth gorau posibl i ddefnyddwyr.

Gwnaethom ymgymryd â phroses sicrhau ansawdd drwyadl a chynhwysfawr, gan gynnwys cymharu â'r ystod ehangaf o ffynonellau data amgen ac ategol erioed. Yn ogystal, am y tro cyntaf, gwnaethom wahodd awdurdodau lleol i fwrw golwg dros amcangyfrifon dros dro o'r cyfrifiad, gan fanteisio ar eu harbenigedd lleol, ar yr un pryd â'n gwiriadau sicrhau ansawdd ein hunain. Ceir gwybodaeth fanwl yn ein hadroddiad Sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o'r ansawdd gorau posibl.

Mae amcangyfrifon y cyfrifiad yn bwysig ar gyfer deall cywirdeb amcangyfrifon eraill o'r boblogaeth. Er enghraifft, mae amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn (MYE) yn seiliedig ar y cyfrifiad diweddaraf a chânt eu haddasu ar gyfer genedigaethau byw, marwolaethau a mudo, ond bydd y posibilrwydd y gwneir gwall yn yr amcangyfrifon hyn yn cynyddu dros amser rhwng cyfrifiadau. Rydym hefyd yn defnyddio ffynonellau data niferus i gynhyrchu amcangyfrifon mwy rheolaidd ac amserol o'r boblogaeth genedlaethol a phoblogaethau lleol. Rydym yn bwriadu cyhoeddi adroddiadau yn cymharu amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 â'r MYE a'r amcangyfrifon poblogaeth yn seiliedig ar ddata gweinyddol (ABPE) diweddaraf, gan gynnwys esboniadau o unrhyw wahaniaethau, yn ddiweddarach eleni.

Mae ein cyfradd ymateb uchel iawn a'n proses casglu ar-lein helaeth wedi sicrhau ein bod wedi casglu data o ansawdd uchel iawn am y boblogaeth a'i nodweddion ar Ddiwrnod y Cyfrifiad. Roedd yn arbennig o bwysig deall sut y gwnaeth pandemig y coronafeirws (COVID-19) effeithio ar ein poblogaeth, a sut mae'n parhau i wneud hynny mewn amrywiaeth o ffyrdd (er enghraifft, effeithiau ar iechyd, gweithio gartref). Bydd data'r cyfrifiad a'n gwaith parhaus i drawsnewid ein system ystadegau cymdeithasol yn ein helpu i ddeall a mesur newidiadau yn y boblogaeth yn fwy effeithiol nag erioed o'r blaen.

Cyfyngiadau a chamau lliniaru

Dim ond unwaith bob 10 mlynedd y byddwn yn cynnal cyfrifiad oherwydd y gost a'r baich. Mae hyn yn golygu na chaiff y data eu diweddaru mor rheolaidd ag ystadegau poblogaeth, a gaiff eu hamcangyfrif gan ddefnyddio ffynonellau eraill.

Amcangyfrifon yw ystadegau'r cyfrifiad yn hytrach na chyfrifiadau, ac felly mae rhywfaint o ansicrwydd yn gysylltiedig â nhw. Rydym yn cymryd nifer o gamau i leihau gwallau posibl, a chaiff y rhain eu disgrifio yn yr adran Cywirdeb.

Mae'n bosibl bod pandemig y coronafeirws wedi effeithio ar y breswylfa arferol a ddewiswyd gan bobl ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, er enghraifft, myfyrwyr ac mewn rhai ardaloedd trefol. Gallai'r newidiadau hyn fod wedi bod yn rhai dros dro i rai pobl ac yn fwy hirdymor i bobl eraill. Mae Cynnal cyfrifiad yn ystod pandemig y coronafeirws yn esbonio beth mae hyn yn ei olygu i'r data.

Nid yw'r un cyfrifiad yn berffaith – mae'n anochel y bydd rhai pobl yn cael eu colli neu eu cyfrif ddwywaith. Mae Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad yn ein galluogi i amcangyfrif faint o bobl sydd wedi cael eu colli neu eu cyfrif ddwywaith. Mae gennym brosesau yn y cam glanhau sy'n chwilio am ymatebion lluosog a'u datrys hefyd, gan ein galluogi i addasu cyfrifiadau'r cyfrifiad yn briodol. Ceir mwy o wybodaeth yn ein hadroddiad Sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o'r ansawdd gorau posibl.

Fel gyda phob holiadur hunanlenwi, bydd rhai ffurflenni wedi cynnwys gwybodaeth anghywir, anghyflawn neu wybodaeth sydd ar goll am unigolyn neu gartref. Gwnaethom ddefnyddio strategaethau golygu a phriodoli i gywiro anghysondebau a gwybodaeth a oedd ar goll. Caiff rhagor o wybodaeth ei darparu yn yr adroddiad ar y Broses olygu a phriodoli ar gyfer Cyfrifiad 2021, adroddiad Cymru a Lloegr.

Gwelliannau dylunio a gweithredu diweddar

Ers 2011, rydym wedi:

Cynnal cyfrifiad yn ystod pandemig y coronafeirws

Mae gan bob cyfrifiad amgylchiadau unigryw. O ran Cyfrifiad 2021, mae'n bosibl y bydd pandemig y coronafeirws yn benodol wedi effeithio ar y data mewn ffyrdd gwahanol. Roedd yn bwysig deall y boblogaeth a'i nodweddion yn ystod y pandemig. Er enghraifft, mae data cynnar o'r cyfrifiad eisoes wedi cael eu defnyddio i lywio ein hymateb i bandemig y coronafeirws a chefnogi ein hymateb dyngarol i ymosodiad Rwsia ar Wcráin.

Dylai'r rhai sy'n defnyddio data'r cyfrifiad fod yn ymwybodol y bydd ystadegau am y boblogaeth gyfan yn natganiad cyntaf y cyfrifiad yn adlewyrchu amgylchiadau ym mis Mawrth 2021. I'r rhan fwyaf o'r boblogaeth, ni fyddai pandemig y coronafeirws wedi effeithio ar ble roeddent yn preswylio.

I rai myfyrwyr ac mewn rhai ardaloedd trefol, mae tystiolaeth bod pandemig y coronafeirws wedi arwain at newidiadau i ble roedd pobl yn byw. Gallai'r newidiadau hyn fod wedi bod yn rhai dros dro i rai pobl ac yn barhaol i bobl eraill.

Myfyrwyr

Mae'r cyfrifiad yn cyfrif myfyrwyr yn eu cyfeiriad yn ystod y tymor. Mae tystiolaeth o newidiadau i'r boblogaeth yn ystod y tymor yn deillio o bandemig y coronafeirws yn cynnwys:

  • dadansoddiad gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch yn dangos cynnydd amlwg yn nifer y myfyrwyr nad oeddent yn eu llety yn ystod y tymor yn ystod blwyddyn academaidd 2020-2021, o gymharu â'r nifer cyfatebol ym mhob blwyddyn ers blwyddyn academaidd 2016-2017

  • arolwg o neuaddau preswyl myfyrwyr y gwnaethom ei gynnal yn fuan ar ôl y cyfrifiad i lywio ein proses o gynhyrchu ystadegau'r cyfrifiad, lle gwnaethom ganfod nad oedd pob neuadd yn llawn

  • gwybodaeth gan awdurdodau lleol yn ystod prosesau sicrhau ansawdd – er enghraifft, gwnaeth dadansoddiad gan Gyngor Dinas Bryste a Phrifysgol Bryste ganfod bod rhwng 60% a 70% o'r holl fyfyrwyr yn y ddinas yn preswylio yno, gan nodi efallai na fyddai myfyrwyr rhyngwladol erioed wedi dod am y flwyddyn academaidd

  • dadansoddiad gan y Swyddfa Gartref sy'n awgrymu bod y cynnydd sylweddol yn nifer y fisâu astudio yn ystod y flwyddyn cyn mis Mawrth 2022 oherwydd bod myfyrwyr yn dechrau neu'n ailafael mewn cwrs a oedd wedi'i ohirio, neu'n newid o ddysgu o bell i ddysgu wyneb yn wyneb, ar ôl i'r cyfyngiadau ar bresenoldeb personol mewn perthynas â'r pandemig gael eu llacio

Darllenwch fwy am sut y gwnaethom sicrhau amcangyfrif cywir o fyfyrwyr.

Ardaloedd trefol

Cynhaliodd Awdurdod Llundain Fwyaf ddadansoddiad i ddeall y newid ym mhoblogaeth Llundain yn ystod y pandemig. Daeth y dadansoddiad hwn i'r casgliad bod poblogaeth Llundain wedi lleihau yn ystod blwyddyn gyntaf pandemig y coronafeirws, ond ei bod yn debygol bod y boblogaeth wedi dechrau cynyddu eto ers hynny. Awgrymodd y dadansoddiad y gellid priodoli hyn i'r canlynol:

  • llawer o oedolion ifanc yn gadael Llundain yn ystod y cyfnod clo, oherwydd bod y sectorau lletygarwch a thwristiaeth wedi cau dros dro fwyaf tebyg
  • mwy o farwolaethau, yn bennaf ymhlith y rhai 75 oed a throsodd, a pharhad yn y duedd ar i lawr o ran nifer y genedigaethau
  • colli mwy o bobl mewn grwpiau oedran eraill i ranbarthau amgylchynol, fel y mae data am brisiau tai a chofrestru yn ei ddangos – ystyrir y gallai hon fod yn duedd fwy parhaol

Mae'n bosibl bod ardaloedd eraill, yn enwedig ardaloedd trefol, wedi profi effeithiau tebyg.

Gwnaeth dadansoddiad Awdurdod Llundain Fwyaf dynnu sylw at natur dros dro bosibl y newid hwn. Cyfeiriodd at dystiolaeth bod llawer o oedolion ifanc yn dychwelyd i Lundain yn ystod gwanwyn a haf 2021, yn dilyn adferiad y sectorau lletygarwch a thwristiaeth. Hefyd, cyfeiriodd sawl awdurdod lleol at dueddiadau tebyg yn ystod y broses sicrhau ansawdd.

Datblygiadau yn y dyfodol

Rydym yn cydnabod bod y boblogaeth yn parhau i newid a bod angen i ni ddeall y newidiadau hyn. Gan ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau data, byddwn yn darparu ystadegau mwy rheolaidd, perthnasol ac amserol i'n galluogi i ddeall y newid ym mhoblogaeth ardaloedd lleol yn 2022 ac wedi hynny. Bydd canlyniadau Cyfrifiad 2021 felly yn cynnig pont bwysig o'r gorffennol i'r dyfodol.

Wrth i ni gyhoeddi rhagor o ystadegau'r cyfrifiad, byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth ategol i ystyried yr effaith y gall pandemig y coronafeirws fod wedi'i chael. Bydd hyn yn cynnwys sut y gall y pandemig fod wedi effeithio ar ddata am y farchnad lafur a theithio i'r gwaith.

Newidiadau i'r canllawiau ar gwestiwn am ryw

Nid yw'r cwestiwn “beth yw eich rhyw?” (benyw, gwryw) yn y cyfrifiad wedi newid ers 1801. Gwnaethom newid canllawiau ategol ar gyfer y cwestiwn am ryw yng Nghyfrifiad 2021 o 9 Mawrth 2021, ar ganol y cyfnod casglu, yn unol â gorchymyn llys.

Yn wreiddiol, roedd y canllaw yn dweud: "Os nad ydych chi'n siwr sut i ateb, defnyddiwch y rhyw sydd wedi ei gofnodi ar un o'ch dogfennau cyfreithiol fel tystysgrif geni, Tystysgrif Cydnabod Rhywedd, neu basbort." Cafodd ei newid i: "Os nad ydych chi'n siwr sut i ateb, defnyddiwch y rhyw sydd wedi ei gofnodi ar eich tystysgrif geni neu eich Tystysgrif Cydnabod Rhywedd." Cafodd yr un newid ei wneud ar dudalennau canllaw cyfatebol yn Saesneg.

Rydym wedi defnyddio gwybodaeth am sawl gwaith yr edrychwyd ar y tudalennau canllaw ac atebion dyblyg a gyflwynwyd i fesur effaith bosibl y newid i'r canllaw ar ddata'r cyfrifiad. Mae dadansoddiadau yn nodi mai bach iawn oedd unrhyw effaith bosibl. Nid ydym wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth yn dangos bod y newid i'r canllaw wedi effeithio ar ansawdd uchel data'r cyfrifiad am ryw.

Defnydd o'r canllawiau ar y cwestiwn rhyw

Aeth tudalennau gwe canllaw yn fyw gyda'r cyfrifiad ar-lein ar 22 Chwefror 2021. Daeth proses gasglu'r cyfrifiad ar lein i ben ar 30 Ebrill 2021. Cofnodwyd bod y dudalen ganllaw ar gyfer y cwestiwn am ryw wedi cael ei gweld oddeutu 3,320 o weithiau yn ystod y cyfnod hwn. O blith y rhain, roedd oddeutu:

  • 860 (25.9%) cyn 9 Mawrth
  • 360 (10.8%) ar 9 Mawrth
  • 2,100 (63.3%) ar ôl 9 Mawrth ac, o'r rheini, roedd
  • 270 (8.2%) ar 21 Mawrth, sef Diwrnod y Cyfrifiad

Wrth gymharu â'r ffurflenni ar-lein a ddychwelwyd yn ystod yr un cyfnod, gallwch ddefnyddio data o'n herthygl am ddylunio cyfrifiad digidol yn gyntaf i ddangos bod:

  • 14.5% wedi'u dychwelyd cyn 9 Mawrth
  • 2.9% wedi'u dychwelyd ar 9 Mawrth
  • 82.6% wedi'u dychwelyd ar ôl 9 Mawrth
  • 21.5% wedi'u dychwelyd ar 21 Mawrth, sef Diwrnod y Cyfrifiad

Nid oes modd cysylltu achosion o edrych ar y dudalen ganllaw ag ymatebion a gyflwynwyd. Felly, nid yw'n bosibl pennu:

  • faint o bobl a ddefnyddiodd y canllawiau wrth lenwi ffurflen y cyfrifiad
  • faint o achosion o edrych ar y tudalennau canllaw oedd gan bobl a oedd yn edrych o ran diddordeb yn unig
  • faint o bobl wnaeth newid eu hymateb i'r cwestiwn am ryw wrth edrych ar y canllaw neu ar ôl hynny
  • faint o achosion o edrych ar y tudalennau canllaw oedd gan unigolion a oedd eisoes wedi cyflwyno eu hymateb i'r cyfrifiad

Newidiadau o ymatebion dyblyg

Roedd achosion lle cafodd ymatebion dyblyg i'r cyfrifiad eu cyflwyno, er enghraifft, pan gyflwynodd rhywun ffurflen i unigolion ar wahân yn ogystal â chael ei gynnwys ar ffurflen y cartref.

Roedd llai na 100 o achosion lle roedd ymatebion i'r cwestiwn am ryw yn amrywio rhwng ffurflen a gyflwynwyd cyn y newid i'r canllawiau a ffurflen ddyblyg ar gyfer yr un person ar ôl y newid. Hyd yn oed ar gyfer yr achosion prin hyn, nid oes modd gwybod a oedd y gwahaniaethau hyn oherwydd y newid i'r canllawiau.

Nid oes modd gwybod beth oedd effaith y newid i'r canllawiau i bobl a gyflwynodd un ymateb yn unig.

Datblygiadau yn y dyfodol

Mae'r dadansoddiadau hyn yn rhan o ymchwiliadau pellach i sicrhau ansawdd y cyfrifiad. Byddwn yn cyhoeddi gwerthusiadau pellach o ansawdd y data o gwestiynau unigol yn y cyfrifiad, gan gynnwys y cwestiwn am ryw, yn nes ymlaen eleni.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Nodweddion ansawdd

Mae'r adran hon yn amlinellu ffyrdd gwahanol o fesur ansawdd data, gan adlewyrchu Pum dimensiwn ansawdd y System Ystadegol Ewropeaidd (PDF, 916KB) ac ystyriaethau pwysig eraill o ran ansawdd.

Perthnasedd

Mae perthnasedd yn cyfeirio at i ba raddau mae'r allbwn yn diwallu anghenion defnyddwyr.

Yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), gwnaethom ymgynghori'n helaeth â phrif ddefnyddwyr y cyfrifiad, i geisio adborth ar feysydd niferus, gan gynnwys:

  • dyluniad a datblygiad holiadur Cyfrifiad 2021
  • y broses o weithredu'r cyfrifiad
  • prosesau ystadegol
  • allbwn ystadegol

Gwnaethom werthuso'r holl ymatebion a gawsom gan ddefnyddwyr yn erbyn meini prawf cyhoeddedig yn ofalus, a gweithredu ar y rheini lle roedd angen cryf a ddiffiniwyd yn glir gan ddefnyddwyr. Gwnaeth hyn sicrhau bod Cyfrifiad 2021 yn casglu data perthnasol, dibynadwy a chywir, gan flaenoriaethu pynciau lle nad oedd ffynonellau gwybodaeth cymaradwy a hygyrch yn gallu diwallu'r angen hwnnw. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch yr adroddiadau manwl am y chwe ymgynghoriad rydym wedi'u cynnal ers 2011.

Cywirdeb

Mae cywirdeb yn cyfeirio at ba mor agos yw amcangyfrif at y gwerth gwirioneddol roedd yr ystadegau yn ei fesur.

Mae'n anochel y bydd y data y bydd cyfrifiad yn eu casglu yn cynnwys gwallau, ni waeth pa mor ddau y caiff y cyfrifiad ei ddylunio. Gall gwallau godi ar bob cam o'r prosesau casglu a chynhyrchu data.

Mathau o wallau

Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol o'r mathau posibl o wallau, fel y gallant asesu pa mor ddefnyddiol yw'r data at eu dibenion eu hunain.

Gwall cwmpas

Gwall sy'n digwydd drwy fethu â chael rhywfaint neu'r holl wybodaeth gan aelod o'r boblogaeth yw hwn. Mae hyn yn cynnwys pan fydd person neu gartref yn methu ag ymateb i'r cyfrifiad, a chaiff hyn ei alw'n ddiffyg ymateb gan berson neu gartref. Mae hefyd yn cynnwys achosion o ddiffyg ymateb i eitem, sef pan fydd ateb i gwestiwn ar goll, yn annilys neu'n anghyson â gweddill yr holiadur a gwblhawyd. Yn olaf, mae hefyd yn cynnwys achosion o orgwmpasu, er enghraifft ffurflenni dyblyg neu unigolion yn cael eu cyfrif yn y lleoliad anghywir. Rydym yn cywiro gwallau cwmpas yn ystod ein proses amcangyfrif.

Gwall mesur

Mae'r gwall hwn yn digwydd o ganlyniad i fethu â chasglu'r wybodaeth gywir gan ymatebwyr. Caiff gwallau mesur eu gwneud gan yr ymatebwyr eu hunain a gallant gynnwys camddeall yr hyn sydd ei angen, ymateb sawl gwaith (dyblygiadau) neu ymateb yn y cyfeiriad anghywir.

Modelu ansicrwydd

Mae'r amcangyfrifon o'r boblogaeth yn seiliedig ar gyfuno data'r cyfrifiad ac Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad â modelau atchweliad rhesymegol er mwyn amcangyfrif pa mor debygol yw unigolion a chartrefi o ymateb. Mae gan y modelau yr un cyfyngiadau cynhenid â phob model ystadegol, hynny yw eu bod wedi'u cyfyngu gan eu rhagdybiaethau ac na allant ragweld y canlyniad yn berffaith. Hefyd, oherwydd bod Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad yn seiliedig ar sampl yn hytrach na'r boblogaeth gyfan, mae data'r arolwg hwn hefyd yn cynnwys gwall samplu, hynny yw, y gwahaniaeth rhwng y sampl a'r boblogaeth.

Gwall prosesu

Gwallau sy'n digwydd wrth brosesu'r data yw'r rhain cyn i ni gynhyrchu'r amcangyfrifon terfynol. Maent yn cynnwys gwallau yn y canlynol:

  • dosbarthiad daearyddol
  • cipio data
  • codio
  • llwythi data
  • golygu
  • asesu cwmpas ac addasu

Sut y gwnaethom leihau gwallau

Nid oes modd cyfrifo pob math o wall yn fanwl gywir, ond gwnaethom roi mesurau amrywiol ar waith i sicrhau bod effeithiau gwallau yn cael eu lleihau.

Dylunio a phrofi'r holiadur

Cafodd holiadur y cyfrifiad ei hun ei ddylunio a'i brofi'n ofalus.

Ffurflen ar-lein y cyfrifiad

Gwnaeth ein dull digidol yn gyntaf o gwblhau'r cyfrifiad leihau'r risg o wall diffyg ymateb a gwall mesur, gan fod y ffurflen ar-lein yn ei gwneud yn ofynnol i ymatebwyr ddefnyddio'r fformat ymateb penodedig ac ateb pob cwestiwn gorfodol. Bydd manylion am y gweithdrefnau rheoli ansawdd helaeth y gwnaethom eu defnyddio drwy'r broses casglu data i leihau'r risg o wall mesur a phrosesu ar gael yn nes ymlaen eleni.

Gwaith maes dilynol wedi'i dargedu

Gwnaeth ein dull digidol yn gyntaf, ynghyd â system olrhain holiaduron er mwyn monitro cyfraddau dychwelyd mewn amser real, ein galluogi i anfon staff maes i ardaloedd â chyfraddau ymateb is ar gyfer gwaith dilynol wedi'i dargedu. Gwnaeth hyn leihau gwall diffyg ymateb ymhellach. Mae ein cyfradd ymateb gyffredinol o 97% yn cadarnhau effeithiolrwydd y strategaethau hyn. Ceir rhagor o wybodaeth am sut y gwnaethom amcangyfrif ac addasu graddau gorgwmpasu a thangwmpasu yn ein hadroddiad Sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o'r ansawdd gorau posibl.

Rydym wedi cyhoeddi manylion am gyfyngau hyder cenedlaethol ac is-genedlaethol ar gyfer yr amcangyfrifon o'r boblogaeth, y gellir eu defnyddio fel ffordd o fesur cywirdeb, yn ein hadnodd Cymharu.

Cydlyniaeth a chymharedd

Cydlyniaeth yw'r graddau y mae data sy'n deillio o ffynonellau neu ddulliau gwahanol, ond sy'n cyfeirio at yr un pwnc, yn debyg. Cymharedd yw'r graddau y gellir cymharu data dros amser a maes, er enghraifft, ar lefel ddaearyddol.

Cymharu amcangyfrifon poblogaeth y cyfrifiad â ffynonellau data eraill

Mae ein hadroddiad am Sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o'r ansawdd gorau posibl yn sôn yn fanwl am ein proses sicrhau ansawdd, gan gynnwys cymharu amcangyfrifon y cyfrifiad ag ystadegau sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol ar gyfer pob awdurdod lleol. Byddwn hefyd yn cyhoeddi cymhariaeth o amcangyfrifon y cyfrifiad ag amcangyfrifon poblogaeth eraill, fel yr amcangyfrifon canol blwyddyn (MYE) ac amcangyfrifon poblogaeth yn seiliedig ar ddata gweinyddol (ABPE), yn nes ymlaen eleni.

At hynny, byddwn yn cyhoeddi cymariaethau pwnc-benodol rhwng data'r cyfrifiad a ffynonellau data eraill fel rhan o'n gwaith dadansoddi pynciau. Er enghraifft, byddwn yn dadansoddi sut mae data'r cyfrifiad am y farchnad lafur yn cymharu â data o'r Arolwg o'r Llafurlu.

Newidiadau i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfrifiad

Arhosodd y mwyafrif o'r cwestiynau yr un peth ag yng Nghyfrifiad 2011, felly mae modd dadansoddi tueddiadau dros amser ar gyfer y rhan fwyaf o bynciau.

Gwnaed rhai newidiadau ers 2011 er mwyn diwallu anghenion defnyddwyr a gwella ansawdd y data. Er enghraifft, yng Nghyfrifiad 2021, gwnaethom ofyn cwestiwn newydd am wasanaeth blaenorol yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig a gofynnwyd cwestiynau gwirfoddol newydd am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd i'r rhai a oedd yn 16 oed a throsodd. Cafodd y cwestiynau hyn eu cynnwys yn y cyfrifiad oherwydd dangosodd adborth eu bod yn hynod bwysig ar gyfer monitro cydraddoldebau a darparu gwasanaethau, ac am nad oedd ffynonellau data amgen addas ar gael.

Gwnaethom ddileu dau gwestiwn o ffurflen y cyfrifiad rhwng 2011 a 2021. Gwnaethom ddileu'r cwestiwn am nifer yr ystafelloedd mewn cartref oherwydd bod data gweinyddol addas ar gael gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, a chafodd y cwestiwn am y flwyddyn olaf a weithiwyd ei ddileu oherwydd y baich sylweddol i ymatebwyr.

Hefyd cafodd opsiynau ymateb rhai cwestiynau eu diweddaru ar gyfer 2021. Er enghraifft, cafodd y cwestiwn am wres canolog ei ddiweddaru er mwyn cynnwys opsiynau ar gyfer ynni adnewyddadwy, a rhwydweithiau gwres rhanbarthol neu gymunedol.

Ceir mwy o fanylion am y newidiadau i'r cwestiynau a ofynnir yn y cyfrifiad ers 2011 yn y Papur Gwyn Helpu i Lunio Ein Dyfodol. Gallwch ddarllen mwy am ddatblygu a phrofi cwestiynau ar ein tudalen am ddatblygu cwestiynau.

Yn olaf, gwnaethom werthuso holiadur Cyfrifiad 2021 er mwyn deall effaith bosibl pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar y ffordd y mae ymatebwyr yn ateb cwestiynau. Yna gwnaethom ddiweddaru'r canllawiau ar y cwestiynau yn briodol er mwyn helpu ymatebwyr i ddeall sut y dylid ateb cwestiynau yn sgil y pandemig. Ceir mwy o wybodaeth ar y dudalen am ddiweddariadau i ganllawiau holiadur ar-lein Cyfrifiad 2021.

Cymaroldeb y Deyrnas Unedig

SYG sy'n cynnal y cyfrifiad ac yn cynhyrchu allbynnau ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (NISRA) a Chofnodion Cenedlaethol yr Alban (NRS) yn cynnal cyfrifiadau ar wahân ar gyfer Gogledd Iwerddon a'r Alban yn y drefn honno.

Mae'r cyfrifiadau yn holl wledydd cyfansoddol y Deyrnas Unedig wedi cael eu dylunio i gael eu cynnal mewn ffordd gyson ac mae cryn orgyffwrdd o ran pynciau a chwestiynau. Caiff hyn ei amlinellu yn y datganiad o gytundeb (PDF, 164KB) rhwng Ystadegydd Gwladol SYG a Chofrestrwyr Cyffredinol yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Fodd bynnag, mae gwahaniaethau bach rhwng y tri chyfrifiad, gan gynnwys lle y cânt eu cynnal. Cafodd cyfrifiadau Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon eu cynnal ym mis Mawrth 2021, ond ym mis Mawrth 2022 y cafodd cyfrifiad yr Alban ei gynnal. Mae holl swyddfeydd y cyfrifiad yn y Deyrnas Unedig yn cydweithio'n agos i ddeall sut y bydd hyn yn effeithio ar y broses o gynhyrchu a chymharu data ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan. Byddwn yn esbonio'r holl wahaniaethau mewn cyhoeddiadau yn y dyfodol am gysoni ledled y Deyrnas Unedig.

Darllenwch fwy ar ein tudalen am ddata cyfrifiad y Deyrnas Unedig.

Hygyrchedd ac eglurder

Ystyr hygyrchedd yw pa mor hawdd y gall defnyddwyr gael gafael ar y data, ac mae hefyd yn adlewyrchu'r fformat y mae'r data ar gael ynddo ac argaeledd gwybodaeth ategol. Mae eglurder yn cyfeirio at ansawdd a digonolrwydd manylion y datganiad, darluniau a chyngor ategol.

Rydym yn datblygu gwefan SYG er mwyn diwallu anghenion defnyddwyr am ystadegau ar-lein hygyrch. Rydym am i bawb sy'n mynd i'n gwefan gael profiad cadarnhaol, a gallu dod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt a'i defnyddio'n hawdd. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein datganiad hygyrchedd.

Rydym hefyd yn ymrwymedig i ddiwallu anghenion defnyddwyr gwahanol drwy gyhoeddi amrywiaeth o gynhyrchion ategol, gan gynnwys:

  • bwletinau ystadegol
  • erthyglau cynnwys digidol
  • delweddau data
  • adroddiadau gwybodaeth ategol

Rydym wedi cyhoeddi geiriadur Cyfrifiad 2021 i ddarparu mwy o wybodaeth am newidynnau, diffiniadau a dosbarthiadau. Bydd y cynhyrchion hyn yn helpu defnyddwyr i ddeall a dehongli data'r cyfrifiad. Lle y bo'n ymarferol, bydd cynhyrchion ar gael yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae amseroldeb yn cyfeirio at faint o amser sydd rhwng cyhoeddi'r data a'r cyfnod y mae'r data yn cyfeirio ato. Mae prydlondeb yn cyfeirio at y bwlch rhwng dyddiadau cyhoeddi a gynlluniwyd a'r dyddiadau cyhoeddi gwirioneddol.

Mae ehangder a manylder ystadegau'r cyfrifiad yn golygu y bydd data Cyfrifiad 2021 yn cael eu rhyddhau fesul cam. Caiff yr amserlen ei chynllunio yn unol ag anghenion defnyddwyr a'n nod oedd sicrhau bod ystadegau yn cael eu rhyddhau cyn gynted ag yr oeddent ar gael. Darllenwch fwy am ein cynlluniau ar gyfer rhyddhau data Cyfrifiad 2021.

Gwnaethom gyhoeddi amcangyfrifon cyntaf Cyfrifiad 2021 ar 28 Mehefin 2022. Roedd y datganiad cyntaf yn cynnwys amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi wedi'u talgrynnu ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys dadansoddiad o'r boblogaeth yn ôl bandiau oedran pum mlynedd ac yn ôl rhyw. Mae ein blog Census 2021 – the count is done, the data is in, so what happens next? yn amlinellu'r gwaith helaeth a wnaed rhwng Diwrnod y Cyfrifiad a chyhoeddi'r canlyniadau cyntaf.

Diffiniadau

Rydym wedi cyhoeddi newidynnau safonol a newidynnau deilliedig, dosbarthiadau a setiau data yng ngeiriadur Cyfrifiad 2021.

O ran y diffiniadau a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2021, gwnaed ymdrech i fod yn gyson â diffiniadau rhyngwladol lle bo modd. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda NISRA ac NRS i gysoni diffiniadau yn holl gyfrifiadau'r Deyrnas Unedig, lle bo modd; darllenwch ein tudalen we am ddata cyfrifiad y Deyrnas Unedig am ragor o wybodaeth.

Ardaloedd daearyddol

Roedd cynnal sefydlogrwydd mewn ardaloedd daearyddol ystadegol bach er mwyn gallu cymharu dros amser a ledled Cymru a Lloegr yn rhan bwysig o'r gwaith dylunio ar gyfer Cyfrifiad 2021. Fodd bynnag, mewn ardaloedd lle nododd Cyfrifiad 2021 newid sylweddol yn y boblogaeth ers 2011, bu'n rhaid gwneud newidiadau i rai Ardaloedd Cynnyrch, Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is ac Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol o 2011.

Disgwylir y gall oddeutu 5% o Ardaloedd Cynnyrch 2011 newid (drwy rannu ac uno) fel y bydd holl Ardaloedd Cynnyrch 2021 (sy'n cynnwys Ardaloedd Cynnyrch heb eu newid o 2011 a rhai newydd 2021) yn parhau i fod o fewn trothwyon poblogaeth a chartrefi sefydledig. Mae disgwyl y bydd cyfran lai o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is ac Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol yn newid nag Ardaloedd Cynnyrch. Byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth am y newidiadau i ardaloedd daearyddol ystadegol bach rhwng 2011 a 2021 yn nes ymlaen eleni.

Cydgasgliadau o Ardaloedd Cynnyrch cyfan yw amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 ar gyfer cynnyrch daearyddol, a oedd yn cyfateb orau i'r ardaloedd daearyddol a oedd yn gyfredol ar amser cyhoeddi. Dyma'r dull a ddefnyddir i gynhyrchu holl ystadegau Cyfrifiad 2021 ac ystadegau eraill, fel bod ystadegau gwahanol a gaiff eu cynhyrchu ar gyfer yr un ardal ddaearyddol yn gyson, yn gymaradwy ac yn peidio â datgelu. Yr unig eithriad yw canlyniadau Cyfrifiad 2021 ar gyfer parciau cenedlaethol. Mae'r rhain yn adlewyrchu'r boblogaeth o fewn pob parc, yn hytrach na chydgasgliadau o Ardaloedd Cynnyrch, oherwydd ystyriwyd nad oedd amcangyfrifon ffit orau Ardaloedd Cynnyrch yn briodol ar gyfer yr ardaloedd daearyddol hyn sy'n wledig i raddau helaeth.

Mae adroddiad Cyfrifiad 2011, An overview of best-fitting, yn esbonio'r fethodoleg a gaiff ei defnyddio ar gyfer amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 hefyd.

Cyfnewidiadau ansawdd cynnyrch

Mae cyfnewidiadau yn cyfeirio at i ba raddau y caiff dimensiynau ansawdd gwahanol eu cydbwyso yn erbyn ei gilydd.

Mae'r cynnyrch hwn yn amodol ar y ddau gyfnewidiad canlynol.

Gwella yn erbyn cysondeb

Yn yr un modd â chyfrifiadau blaenorol, gwnaethom rai newidiadau i gwestiynau'r cyfrifiad yn 2021 er mwyn parhau i ddiwallu anghenion defnyddwyr, fel y disgrifir yn Newidiadau i gwestiynau a gaiff eu gofyn yn y cyfrifiad. Fodd bynnag, mae'n anochel y bydd hyn yn cyfyngu ar y gallu i gymharu dros amser.

Sicrhau ansawdd yn erbyn amseroldeb

Gwnaethom wahodd awdurdodau lleol i sicrhau ansawdd amcangyfrifon dros dro'r cyfrifiad ar gyfer eu hardal drwy eu cymharu â ffynonellau data amgen, ar yr un pryd â'n dulliau sicrhau ansawdd ein hunain. Hwn yw'r ymarfer sicrhau ansawdd mwyaf cynhwysfawr rydym erioed wedi'i gynnal, ond bu'n rhaid cyfaddawdu amseroldeb yn gyfnewid am hyn.

Pam y gallwch ymddiried yn ein data

SYG yw sefydliad ystadegau gwladol cydnabyddedig y Deyrnas Unedig a'i chynhyrchydd ystadegau swyddogol annibynnol mwyaf. Mae ein polisïau data yn nodi sut rydym yn casglu, yn sicrhau ac yn defnyddio data wrth gyhoeddi ystadegau. Rydym yn trin y data sydd gennym â pharch, gan eu cadw'n ddiogel ac yn gyfrinachol, ac yn defnyddio dulliau ystadegol proffesiynol, moesegol a thryloyw.

Gallwch ddarllen am sut rydym yn sicrhau bod y canlyniadau o ansawdd uchel ac yn addas at y diben yn ein herthygl am ddyluniad ystadegol Cyfrifiad 2021, Cymru a Lloegr. Cafodd y dyluniad ei gymeradwyo'n annibynnol drwy broses adolygu allanol. Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at ein Hadolygiad Sicrwydd Methodolegol.

Caiff dibynadwyedd ei sicrhau ymhellach drwy asesiad achredu parhaus. Ym mis Mehefin 2022, cafodd Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr achrediad Ystadegau Gwladol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, sef cangen reoleiddiol Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae hyn yn cadarnhau bod yr ystadegau a gyhoeddwyd yn glynu wrth y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac o werth i'r cyhoedd, o ansawdd uchel, ac yn cael eu cynhyrchu gan bobl a sefydliadau dibynadwy. Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein herthygl How the ONS is ensuring Census 2021 will serve the public good.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Ystyriaethau o ran ansawdd sy'n effeithio ar y data

Rydym yn cynghori defnyddwyr i adolygu ystyriaethau o ansawdd wrth ddehongli data Cyfrifiad 2021. Mae'r ystyriaethau hyn yn effeithio ar bob pwnc. Mae dolen i ystyriaethau o ansawdd ar gyfer pynciau penodol ym mhob un o'r crynodebau pwnc cyhoeddedig.

Mae ystadegau'r cyfrifiad yn ymwneud â diffiniadau safonol, er enghraifft, pwy gaiff ei gyfrif fel rhywun sy'n byw mewn ardal a beth yw cartref. Mae'n bwysig deall y diffiniadau hyn wrth gymharu ystadegau'r cyfrifiad â ffynonellau eraill sy'n defnyddio diffiniadau gwahanol o bosibl.

Caiff data'r cyfrifiad eu haddasu i adlewyrchu diffyg ymateb amcangyfrifedig, a hynny er mwyn sicrhau bod y canlyniadau cyhoeddedig yn ymwneud â'r boblogaeth breswyl arferol gyfan fel yr oedd ar Ddiwrnod y Cyfrifiad (21 Mawrth 2021), nid dim ond i bobl a gwblhaodd holiadur y cyfrifiad. Ceir rhagor o wybodaeth yn yr adran sut rydym yn prosesu'r data.

Mae canlyniadau'r cyfrifiad yn amcangyfrifon sy'n cynnwys rhywfaint o ansicrwydd o'r modelau ystadegol, a ddefnyddir i amcangyfrif diffyg ymateb, ac effaith fach fel y'i disgrifiwyd yn Rheoli Datgelu Ystadegol. Am y rheswm hwn, ni ddylid dehongli eu bod yn gyfrif cwbl gywir o'r boblogaeth mewn ardal.

Gellir disgrifio aniscrwydd yn amcangyfrifon y cyfrifiad oherwydd amcangyfrif diffyg ymateb drwy ddefnyddio cyfyngau hyder. Amcangyfrifir ar gyfer diffyg ymateb yn bennaf ar gyfer grwpiau oedran pum mlynedd a bydd ansicrwydd yn fwy ar gyfer blynyddoedd oedran unigol na'r oedrannau cyfunol hynnny. Rydym yn cymryd nifer o gamau i leihau gwallau posibl, a chaiff y rhain eu disgrifio yn yr adran Cywirdeb.

Ceir rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i ddehongli data ar fyfyrwyr yn gywir yn yr adran Myfyrwyr.

Pobl 19 oed

Gall ffigurau oedran sengl fod yn ansicr wrth ddadgrynhoi amcangyfrifon grŵp oedran (a all hefyd fod yn ansicr i ryw raddau) yn flwyddyn oedran sengl. Disgrifir hyn yn fanylach yn yr adran Modelu ansicrwydd o Nodweddion ansawdd. Effeithiwyd ar y grŵp oedran hwn yn benodol gan addasiadau a wnaed o ran myfyrwyr er mwyn cyfrifo am y rhai a oedd yn byw mewn Neuaddau Preswyl.

O edrych ar y niferoedd a rhai o nodweddion y grŵp hwn awgrymir goramcangyfrif bach iawn o bosibl. Ni fyddai hyn yn effeithio ar ddibynadwyedd y rhan fwyaf o ddadansoddiadau o'r boblogaeth ond dylid cymryd gofal os cymherir cyfraddau deilliedig ar gyfer pobl 19 oed â'r oedrannau amgylchynnol. Mae hyn yn arbennig o wir mewn ardaloedd â phoblogaethau mawr o fyfyrwyr.

Newidiadau mewn amcangyfrifon o'r boblogaeth ers y datganiad cyntaf

Cyhoeddwyd y canlyniadau cyntaf o Gyfrifiad 2021 ym mis Mehefin 2022. Amcangyfrifon o nifer y cartrefi ac o'r boblogaeth o grwpiau oedran pum mlynedd ar gyfer pob dosbarth awdurdod lleol oedd y rhain.

Cawsant eu cynhyrchu cyn bod camau olaf prosesu data'r cyfrifiad wedi'u cwblhau. Ceir mân wahaniaethu rhwng yr amcangyfrifon yn y datganiad hwnnw a'r amcangyfrifon terfynol a roddwyd ym mhob datganiad wedi hynny.

Y gwahaniaethau mwyaf yw gwahaniaethau yn nosbarthiad oedran y boblogaeth 80 oed a throsodd. Mae nifer y bobl yr amcangyfrifwyd eu bod yn y grŵp oedran 80 i 84 oed wedi lleihau yn ôl ffigur wedi'i dalgrynnu o 2,000. Caiff y lleihad hwn ei wrthbwyso gan gynnydd o tua 200 yn yr amcangyfrif ar gyfer y grŵp oedran 85 i 89 a thua 1,700 ar gyfer y grŵp oedran 90 oed a throsodd.

Gall y broses o gymharu canlyniadau Cyfrifiad 2011 â chanlyniadau Cyfrifiad 2021 yn ôl ardaloedd daearyddol gael ei chymhlethu gan unrhyw newidiadau i'r ardaloedd daearyddol bach cyfansoddol a ddefnyddir i ddiffinio ardaloedd daearyddol lefel uwch, a hefyd o ganlyniad i unrhyw newidiadau i'r ardal ddaearyddol lefel uwch (er enghraifft, wardiau).

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Y dulliau a ddefnyddir i gynhyrchu'r data

Sut rydym yn casglu'r data, prif ffynonellau data a chywirdeb

Yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), gwnaethom ein gorau glas i sicrhau bod Cyfrifiad 2021 yn cyfrif pawb. Gwnaethom ddefnyddio AddressBase Premium i sicrhau bod pob cartref yng Nghymru a Lloegr yn cael gwahoddiadau i gwblhau holiadur y cyfrifiad. Gwnaethom ategu hyn â ffynonellau data eraill yn nodi sefydliadau cymunedol, fel neuaddau preswyl a chartrefi gofal. Gwnaethom sicrhau bod data cyfeiriadau mor gywir â phosibl drwy weithio gyda GeoPlace i ddiweddaru ein ffrâm cyfeiriadau cyn Diwrnod y Cyfrifiad.

Gallai unigolion a chartrefi ofyn am holiadur y cyfrifiad mewn sawl ffordd ac ychwanegu eu cyfeiriad at ein ffrâm os nad oeddem wedi cysylltu â nhw ymlaen llaw. Ochr yn ochr â strategaethau gwahanol ar gyfer cyfrif pobl sy'n byw mewn sefydliadau cymunedol, gwnaethom roi mesurau ar waith i gysylltu â grwpiau poblogaeth heb gartrefi penodol – fel y rhai sy'n byw mewn carafán, ar gwch neu'n cysgu allan – er mwyn iddynt allu cymryd rhan.

Gwnaethom annog cyfranogwyr i lenwi ffurflen ar-lein y cyfrifiad yn hytrach na holiadur papur, lle bynnag y bo modd. Ledled Cymru a Lloegr, cafodd 89% o gartrefi lythyr â chod mynediad ar-lein, ac opsiwn i ofyn am ffurflen bapur pe bai angen. O blith y cartrefi yn yr ardaloedd “ar lein yn gyntaf” hyn, cwblhaodd 94.2% ffurflen y cyfrifiad ar lein. Darllenwch fwy yn ein herthygl am ddylunio cyfrifiad digidol yn gyntaf.

Roedd yr 11% o gartrefi a oedd yn weddill yng Nghymru a Lloegr mewn ardaloedd “papur yn gyntaf”. Ardaloedd lle roeddem yn rhagweld y byddai cyfraddau cwblhau ar lein yn isel oedd y rhain. Gwnaethom anfon holiaduron papur, a oedd yn cynnwys cod mynediad ar-lein hefyd, at bob cartref mewn ardaloedd “papur yn gyntaf”. Ar y cyfan, cwblhaodd 46.4% o gartrefi mewn ardaloedd “papur yn gyntaf” ffurflen y cyfrifiad ar lein.

Yn ystod prif gyfnod casglu'r cyfrifiad, gwnaethom fonitro cyfraddau dychwelyd lleol. Gwnaeth swyddogion maes y cyfrifiad ymweld â chartrefi nad oeddent wedi ymateb ar ôl Diwrnod y Cyfrifiad, gan gynnig cymorth a ffurflenni papur neu godau mynediad ar-lein pan fo angen. Gwnaethom hefyd gynnig cymorth i gwblhau holiaduron drwy Ganolfannau Cymorth y Cyfrifiad, digwyddiadau cwblhau a'n canolfan gyswllt.

Sut rydym yn prosesu’r data

Cipio, codio a glanhau data

Yr her ar gyfer y cam prosesu hwn oedd sicrhau bod data a gasglwyd drwy'r holl sianeli ymateb yn addas ar gyfer prosesau a dadansoddiadau ystadegol diweddarach. Gwnaethom gyflawni hyn mewn tri cham.

Nod Cam 1 oedd trawsnewid y data crai i fformat safonol ac ymgymryd â thasgau glanhau a dilysu hanfodol. Gwnaethom y canlynol:

  • sganio, cipio a fformatio data o holiaduron papur er mwyn cyfateb â data'r holiadur electronig, a oedd yn cael eu cipio'n awtomatig
  • dileu nodau diangen, fel gwepluniau, o'r holl ymatebion testun ysgrifenedig
  • cadarnhau bod y cyfeiriad ar bob holiadur yn gywir a chywiro unrhyw anghysondebau drwy ddefnyddio Gwasanaeth Paru Mynegai Cyfeiriadau SYG

Cafodd Cam 2 ei ddylunio i gydgrynhoi a safoni ymatebion a gasglwyd o bob un o'r sianeli ymateb gwahanol. Gwnaethom y canlynol:

  • datrys gwallau aml-dic a gwahaniaethau mewn ymatebion rhwng holiaduron papur ac electronig gan ddefnyddio set fanwl o reolau cipio a chodio data
  • rhoi gwerthoedd rhifiadol i'r holl ymatebion testun ysgrifenedig gan ddefnyddio dulliau codio a dosbarthu ystadegol a seiliedig ar reolau; gwnaeth hyn gysoni'r data â fframiau codio cenedlaethol safonedig, fel y Dosbarthiad Diwydiannol Safonol a'r Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol

Canolbwyntiodd Cam 3 ar ddatrys tri mater penodol yn ymwneud â data'r cyfrifiad a oedd yn debygol o gael effaith andwyol ar amcangyfrifon y cyfrifiad a dadansoddiadau parhaus.

Roedd y tri mater fel a ganlyn:

  • cafodd rhai holiaduron eu dychwelyd â dim digon o wybodaeth, neu ddim gwybodaeth o gwbl
  • cyflwynodd rhai pobl fwy nag un ymateb, boed yn fwriadol neu drwy gamgymeriad, gan arwain at holiaduron lluosog a data dyblyg am unigolion mewn cyfeiriad penodol, nad oeddent yn gyson bob amser
  • oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19), ymatebodd llawer o fyfyrwyr o'u cyfeiriad cartref ond gwnaethant roi manylion cyfeiriad yn ystod y tymor hefyd

Gwnaethom ddatrys y materion hyn drwy wneud y canlynol:

  • tynnu'r holiaduron heb ddigon o wybodaeth, neu ddim gwybodaeth o gwbl, o'r data
  • defnyddio dull datrys cymhleth yn seiliedig ar reolau a rhesymeg ystadegol i gyfuno'r holl ddata a oedd ar gael o holiaduron lluosog a data dyblyg am unigolion mewn ymateb cydlynol ac ar wahân
  • rhoi dull ar waith i gopïo myfyrwyr i'w cyfeiriad yn ystod y tymor, os nad oeddent wedi llenwi ffurflen ar gyfer y cyfeiriad hwnnw

Ar y cyfan, llwyddodd y broses gipio, codio a glanhau i ddatrys amrywiaeth eang o faterion a gwallau data, gan wella ansawdd a defnyddioldeb y data

Golygu a phriodoli

I ddechrau, caiff strategaethau golygu a phriodoli eu defnyddio ar ffurflenni'r cyfrifiad sydd wedi'u cwblhau ac sy'n rhoi data anghywir, anghyflawn neu sydd ar goll.

Er enghraifft, efallai bod ymatebwyr wedi colli cwestiwn ar ddamwain neu ddewis neidio dros gwestiwn os nad oeddent yn gwybod yr ateb neu ddim am roi ateb. Mae'n bosibl hefyd eu bod wedi rhoi ymatebion annilys a oedd yn anghyson â gwerthoedd eraill ar yr holiadur. Gellir nodi rhai o'r anghysondebau hyn yng nghofnod un person, er enghraifft, os gwnaeth person roi 5 oed fel ei oedran a dweud bod ganddo radd prifysgol. Gellir nodi rhai eraill rhwng dau neu fwy o gofnodion yn yr un cartref, er enghraifft, rhiant yn iau na'i blentyn.

Gwnaeth y dull digidol yn gyntaf o gasglu data leihau'r mathau hyn o gamgymeriadau, gan fod ffurflenni papur yn fwy tebygol o gynnwys gwerthoedd anghywir na ffurflenni ar-lein. Mae hyn oherwydd rheolau wedi'u gosod mewn ffurflenni ar-lein sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r ymatebydd ateb cwestiynau gorfodol a defnyddio'r ystod ddisgwyliedig o ymatebion cyn y gall gyflwyno'r ffurflen ar-lein.

Serch hynny, roedd rhai ffurflenni a ddychwelwyd yn cynnwys data anghywir, data anghyflawn neu ddata coll o hyd. Byddai gadael y camgymeriadau hyn yn y data yn gwneud i ystadegau'r cyfrifiad edrych yn anghywir, gan ddifetha ymddiriedaeth yn y set ddata werthfawr a phwysig hon. Felly, gwnaethom ddefnyddio strategaethau golygu a phriodoli ar lefel eitem byd-enwog sydd wedi'u profi'n dda i gywiro anghysondebau a phriodoli eitemau coll, wrth gynnal y cydberthnasau rhwng nodweddion data'r cyfrifiad. Cafodd y data a welwyd eu pasio drwy System Golygu a Phriodoli Cyfrifiadau Canada (CANCEIS) a chafodd unrhyw ddata coll neu anghyson eu priodoli. Roedd hyn yn golygu bod set ddata'r cyfrifiad yn gyflawn ac yn gyson.

Rydym wedi cynnwys rhagor o wybodaeth am y strategaeth yn ein herthygl ar y Broses olygu a phriodoli ar gyfer Cyfrifiad 2021, erthygl Cymru a Lloegr.

Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad

Mae angen priodoli cofnodion llawn ar gyfer pobl neu gartrefi coll yr amcangyfrifwyd eu bod wedi cael eu colli yng Nghyfrifiad 2021 hefyd. I gefnogi'r broses hon o addasu amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi, mae Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad yn amcangyfrif y graddau tangwmpasu.

Roedd fformat Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad 2021 yn dra thebyg i'r arolwg yn 2011. Gwnaethom gynnal Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad yn yr wythnosau yn dilyn Diwrnod y Cyfrifiad, gan samplu oddeutu 350,000 o gartrefi yng Nghymru a Lloegr mewn sampl o godau post a ddewiswyd ar hap mewn Ardaloedd Cynnyrch wedi'u trefnu yn ôl ardal awdurdod lleol. Gwnaethom ddefnyddio'r Mynegai Anodd eu Cyfrif (Word, 1.28KB) i nodi a chynnwys ardaloedd lle roedd pobl yn llai tebygol o gwblhau ffurflen y cyfrifiad. Roedd cyfranogiad yn Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad yn wirfoddol.

Byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth am y ffordd y cyfrannodd Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad at waith prosesu data mewn cyhoeddiadau yn y dyfodol.

Asesu cwmpas ac addasu

Mae'r broses asesu cwmpas ac addasu yn defnyddio canlyniadau Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad i nodi nifer y bobl a'r cartrefi na chawsant eu cyfrif, y rhai a gafodd eu cyfrif fwy nag unwaith, a'r rhai a gafodd eu cyfrif yn y lle anghywir yng Nghyfrifiad 2021, ac addasu ar gyfer hyn. Yn gyntaf, gwnaethom amcangyfrif lefelau tangwmpasu a gorgwmpasu yn y data a gasglwyd drwy wneud y canlynol:

  • paru cofnodion Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad â rhai Cyfrifiad 2021 gan ddefnyddio prosesau paru awtomataidd a chlercol
  • defnyddio data'r cyfrifiad ac Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad a gafodd eu paru mewn techneg Amcangyfrif System Ddeuol i amcangyfrif nifer y bobl a'r cartrefi a gafodd eu colli gan y cyfrifiad
  • chwilio cronfa ddata Cyfrifiad 2021 am gofnodion dyblyg a defnyddio Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad i amcangyfrif lefel y gorgyfrif yn y cyfrifiad
  • amcangyfrif poblogaethau ar gyfer pob awdurdod lleol yn ôl oedran, rhyw, grŵp ethnig, gweithgarwch economaidd a nodweddion pwysig eraill, gan gydbwyso goramcangyfrifon a thanamcangyfrifon, a defnyddio cyfuniad o dechnegau atchweliad ystadegol ac amcangyfrif ardaloedd bach
  • asesu a chywiro ar gyfer tueddiadau

Yna gwnaethom addasu'r data drwy wneud y canlynol:

  • priodoli cartrefi cyfan, gan gynnwys y bobl a oedd ar goll o gyfrif y cyfrifiad
  • dewis cartrefi “Rhoddwr” drwy broses o'r enw Optimeiddio Cyfuniadol, gan ystyried amrywiaeth o nodweddion demograffig a chartrefi – roedd hyn yn cynnwys pobl â nodweddion tebyg i'r rhai hynny a oedd ar goll yn y cyfrifiad
  • ychwanegu nodweddion unigolion a chartrefi at y cofnodion a gafodd eu priodoli
  • cymryd camau i geisio dod o hyd i'r pâr gorau posibl rhwng cartrefi rhoddwr a chartrefi coll, gan gynnwys defnyddio data gweinyddol
  • priodoli nodweddion gan ddefnyddio dulliau CANCEIS

Byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth am brosesau asesu cwmpas ac addasu, gan gynnwys modelau addasu penodol, mewn cyhoeddiadau yn y dyfodol.

Sut rydym yn sicrhau ansawdd ac yn dilysu'r data

Gwnaethom amlinellu ein strategaeth sicrhau ansawdd yn ein dyluniad ystadegol ar gyfer Cyfrifiad 2021. Mae ein strategaeth yn sicrhau:

  • ein bod yn cynhyrchu data o ansawdd uchel
  • ein bod yn rhoi hyder i'n defnyddwyr
  • bod ein hamcangyfrifon yn adlewyrchu poblogaeth Cymru a Lloegr yn gywir

Gwnaethom roi gwiriadau amrywiol ar waith i leihau'r posibilrwydd o wallau a allai godi wrth gasglu a phrosesu data'r cyfrifiad, a'u heffaith, fel y gwnaethom ei drafod yn yr adran Nodweddion ansawdd. Gwnaethom wneud hyn drwy ddilysu ymatebion, monitro llwyddiant prosesau a chywiro data coll neu anghyflawn.

Gwnaethom hefyd ddefnyddio tri phrif ddull sicrhau ansawdd pellach:

  • cymharu amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 ag amcangyfrifon canol blwyddyn ac amcangyfrifon poblogaeth yn seiliedig ar ddata gweinyddol a drosglwyddwyd o 2020, i nodi a chywiro gwallau posibl yn nata'r cyfrifiad
  • gwahodd awdurdodau lleol i gynorthwyo ein prosesau sicrhau ansawdd drwy adolygu amcangyfrifon dros dro'r cyfrifiad, a defnyddio eu hadborth yn ein proses ddilysu ochr yn ochr â'r ymchwiliadau a oedd eisoes ar waith
  • defnyddio Arolwg Ansawdd y Cyfrifiad, sef arolwg gwirfoddol o sampl bach a gynhaliwyd sawl wythnos ar ôl Diwrnod y Cyfrifiad, i amcangyfrif lefel y gwall drwy gymharu ymatebion i gwestiynau yn y cyfrifiad ac Arolwg Ansawdd y Cyfrifiad

Ceir rhagor o wybodaeth am y rhain a phrosesau sicrhau ansawdd eraill yn ein hadroddiad Sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o'r ansawdd gorau posibl. Byddwn yn cyhoeddi gwerthusiadau ansawdd pellach yn nes ymlaen eleni.

Sut rydym yn lledaenu’r data

Yr amserlen ar gyfer rhyddhau allbynnau a gwaith dadansoddi

Caiff cynigion ar gyfer rhyddhau data, adroddiadau dadansoddi a chynhyrchion eraill ar ein tudalen we cynlluniau rhyddhau. Mae'r drefn y caiff data a chynhyrchion dadansoddol eu rhyddhau ynddi wedi cael ei hystyried yn ofalus, gan ymgorffori adborth gan ddefnyddwyr yn ystod yr ymgynghoriad ar allbynnau Cyfrifiad 2021.

Bydd cyfres o grynodebau o bynciau yn dilyn y canlyniadau cyntaf o Gyfrifiad 2021. Data a sylwadau sydd wedi'u grwpio yn themâu seiliedig ar bynciau yw'r rhain, yn seiliedig ar setiau data “unamrywedd”, sy'n rhoi dadansoddiadau o un newidyn yn unig. Ar ôl hyn, byddwn yn rhyddhau data “amlamrywedd”, sef setiau data sy'n cyfuno dau neu fwy o newidynnau'r cyfrifiad, a dadansoddiad manylach o'r cyfrifiad. Darllenwch fwy am ein cynigion ar gyfer amserlen rhyddhau dadansoddiadau'r cyfrifiad.

Fel gyda chyfrifiadau blaenorol, caiff data Cyfrifiad 2021 eu lletya ar wefan SYG ac ar Nomis, sydd hefyd yn lletya data o gyfrifiadau cynharach. Bydd trydydd partïon hefyd yn gallu cael gafael ar y data yn uniongyrchol drwy Ryngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau. Mae'r holl allbynnau safonol ar gael am ddim o dan y Drwydded Llywodraeth Agored. Mae gwybodaeth bellach hefyd ar gael drwy'r canlynol:

Er y byddwn yn parhau i ryddhau rhai setiau data wedi'u creu yn barod, ar gyfer Cyfrifiad 2021, rydym hefyd wedi datblygu dull newydd i alluogi defnyddwyr i greu eu setiau data eu hunain drwy nodi cyfuniad o newidynnau, dosbarthiadau ac ardaloedd daearyddol.

Os bydd angen setiau data ar ddefnyddwyr na ellir cael gafael arnynt na'u cynhyrchu drwy ddefnyddio gwefan SYG, gallant gomisiynu setiau data, ond codir tâl am hyn. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau ar gyfer gwneud cais am Dabl Cyfrifiad wedi'i Gomisiynu.

Microdata

Yn ogystal â data'r cyfrifiad yn eu crynswth, byddwn hefyd yn darparu mynediad at samplau o ficrodata dienw o'r cyfrifiad, sy'n rhoi data lefel cofnodion ar gyfer unigolion a chartrefi.

Mae'r amodau y gall defnyddwyr gael gafael ar samplau microdata yn unol â nhw yn dibynnu ar lefel y manylder ym mhob ffeil, er enghraifft, y wybodaeth ddaearyddol sy'n gysylltiedig â phob cofnod. Gall pawb gael gafael ar y sampl microdata sydd ar gael i'r cyhoedd. Dim ond i ddadansoddwyr data drwy Wasanaeth Data'r Deyrnas Unedig y bydd samplau microdata “wedi'u diogelu” Cyfrifiad 2021 ar gael, a hynny ar ôl iddynt gytuno i delerau ac amodau safonol y Gwasanaeth Data, sydd wedi'u cymeradwyo gan SYG. Caiff y samplau microdata “diogel” mwyaf manwl eu storio yn ein Gwasanaeth Ymchwil Diogel a dim ond ymchwilwyr cymeradwy neu achrededig fydd yn gallu cael gafael ar y rhain. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein gwefan am ein cynlluniau ar gyfer samplau microdata Cyfrifiad 2021.

Ein nod yw darparu cymaint o ficrodata'r cyfrifiad i'r cyhoedd â phosibl, lle na fyddai gwneud hynny yn datgelu pwy yw'r bobl dan sylw.

Data tarddiad-cyrchfan

Byddwn hefyd yn rhyddhau setiau data tarddiad-cyrchfan y cyfrifiad, sy'n mesur patrymau teithio i'r gwaith a mudo rhwng ardaloedd. Caiff y rhain hefyd eu dosbarthu fel data cyhoeddus, wedi'u diogelu, neu ddiogel, yn dibynnu ar lefel y manylder ynddynt.

Gallwch ddarllen mwy am sut i gael gafael ar ddata tarddiad-cyrchfan Cyfrifiad 2021 ar ein gwefan, sy'n cynnwys crynodeb o'r ffordd y gallai pandemig y coronafeirws (COVID-19) a gadael yr Undeb Ewropeaidd fod wedi effeithio ar ddata tarddiad-cyrchfan.

Rheoli datgelu ystadegol

Caiff mesurau rheoli datgelu ystadegol eu defnyddio i ddiogelu cyfrinachedd ymatebwyr y cyfrifiad.

Ac eithrio microdata, caiff holl ddata'r cyfrifiad eu cydgrynhoi yn ôl ardal ddaearyddol. Ar ôl eu cydgrynhoi, gallai fod risg o adnabod unigolion a busnesau pe bai nodwedd, neu gyfuniad o nodweddion, sydd ganddynt yn anghyffredin mewn ardal benodol – er enghraifft, os mai unigolyn yw'r unig berson sydd wedi'i gyflogi mewn galwedigaeth benodol. Mae'r risg o ddatgelu yn uwch mewn ardaloedd daearyddol llai, lle gall pobl fod yn adnabyddus yn eu cymuned.

Mae ein hadroddiad Statistical Disclosure Control (SDC) for 2021 UK Census (Word, 257KB) yn amlinellu'r strategaethau a ddefnyddiwyd i leihau'r risg o ddatgelu. Caiff techneg cyfnewid cofnodion wedi'i thargedu ei defnyddio i symud unigolion neu gartrefi sydd â risg uwch o gael eu hadnabod i ardaloedd daearyddol eraill. Caiff yr unigolion a'r cartrefi hyn eu cyfnewid ag eraill, gan baru rhai nodweddion sylfaenol fel nad yw cyfanswm y boblogaeth yn newid. Yn ogystal, er mwyn diogelu rhag datgelu drwy newid er mwyn gwahaniaethu, caiff ychydig o sŵn ei ychwanegu at rai celloedd mewn setiau data cyhoeddedig drwy'r “dull allweddi celloedd”, gan olygu hefyd y byddai defnyddwyr yn llai sicr o ran a yw cyfrifiadau bach yn cyfeirio at gofnodion unigolion go iawn. Mae defnyddio dull aflonyddu yn arwain at newidiadau bach i gelloedd ond, yn y bôn, nid yw'n effeithio ar y ffordd y caiff y data eu dehongli. Pan gaiff tablau eu ffurfio mewn ffyrdd gwahanol, bydd y dull aflonyddu a ddefnyddir yn wahanol, gan arwain at wahaniaethau rhwng cyfansymiau a thablau nad ydynt yn ‘ffurfio’ eu cyfansymiau. Er mwyn lleihau effaith dull aflonyddu, lle y bo modd, rydym yn argymell defnyddio cyfansymiau o dablau â llai o gelloedd, gan ddefnyddio ardaloedd daearyddol lefel uwch. Ceir rhagor o wybodaeth am y prosesau a ddefnyddiwyd ar gyfer rheoli datgelu ystadegol mewn cyhoeddiadau yn y dyfodol.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Gwybodaeth arall

Sut i ddyfynnu'r ddogfennaeth hon

I ddyfynnu'r ddogfennaeth hon, defnyddiwch y fformat canlynol:

  • Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), cyhoeddwyd 28 Mehefin 2022, gwefan SYG, adroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg, Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021

Dolenni defnyddiol eraill

I gael gwybodaeth arall am ansawdd neu fethodoleg ystadegau'r cyfrifiad, gweler:

Sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o'r ansawdd gorau posibl
Methodoleg | Rhyddhawyd 28 Mehefin 2022
Sut y gwnaethom sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o'r ansawdd gorau posibl wrth brosesu a sicrhau ansawdd yr ystadegau terfynol.

Cymharu amcangyfrifon oedran-rhyw o Gyfrifiad 2021 ag ardaloedd yng Nghymru a Lloegr
Methodoleg | Rhyddhawyd 28 Mehefin 2022
Adnodd rhyngweithiol i gymharu awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr gan ddefnyddio amcangyfrifon oedran-rhyw a gwybodaeth sicrhau ansawdd.

Nôl i'r tabl cynnwys

Manylion cyswllt ar gyfer y Methodoleg

Michael Roskams
census.customerservices@ons.gov.uk
Ffôn: +44 1329 44 4972