Roedd 262,000 o bobl yn byw yng Nghymru a Lloegr ym mis Mawrth 2021 a nododd rywedd sy'n wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni, yn ôl ffigurau diweddaraf Cyfrifiad 2021 a gyhoeddwyd heddiw.

Am y tro cyntaf, gofynnodd cyfrifiad o Gymru a Lloegr am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd pobl. Bydd y ffigurau newydd hyn yn hanfodol i helpu i lywio gwasanaethau am flynyddoedd i ddod.

Cafwyd ymatebion gan 45.7 miliwn (94.0%) o bobl 16 oed a throsodd i'r cwestiwn gwirfoddol “Ydy’r rhywedd rydych chi’n uniaethu ag ef yr un peth â’r rhyw a gofrestrwyd pan gawsoch chi eich geni?” Atebodd tua 45.4 miliwn (93.5%) “Ydy”, ac atebodd cyfanswm o 262,000 (0.5%) o bobl “Nac ydy”, gan nodi bod eu hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni. O fewn y grŵp hwn:

  • atebodd 118,000 (0.24%) "Nac ydy" ond heb ysgrifennu ymateb 

  • nododd 48,000 (0.10%) ddyn traws 

  • nododd 48,000 (0.10%) fenyw draws 

  • nododd 30,000 (0.06%) anneuaidd

  • ysgrifennodd 18,000 (0.04%) hunaniaeth o ran rhywedd gwahanol

Ni wnaeth y 2.9 miliwn sy'n weddill (6.0%) ateb y cwestiwn ar hunaniaeth o ran rhywedd.

Yn y cyfamser, gofynnodd SYG gwestiwn gwirfoddol am gyfeiriadedd rhywiol am y tro cyntaf hefyd i bobl 16 oed a throsodd.

Atebodd cyfanswm o 44.9 miliwn o bobl (92.5%) y cwestiwn. Nododd tua 43.4 miliwn o bobl (89.4%) eu bod yn heterorywiol neu'n strêt, a nododd 1.5 miliwn o bobl (3.2%) gyfeiriadedd LHD+ (“Hoyw neu Lesbiaidd”, “Deurywiol/Bi” neu “Cyfeiriadedd rhywiol arall”). I gyd:

  • Disgrifiodd 748,000 (1.5%) eu bod yn hoyw neu'n lesbiaidd 

  • Disgrifiodd 6234,000 (1.3%) eu bod yn ddeurywiol 

  • Dewisodd 165,000 (0.3%) yr opsiwn "Cyfeiriadedd rhywiol arall"

O'r rheini a ddewisodd “Cyfeiriadedd rhywiol arall”, ymysg yr ymatebion mwyaf cyffredin a ysgrifennwyd roedd:

  • panrywiol (112,000, 0.23%) 

  • anrhywiol (28,000, 0.06%)

  • cwiar (15,000, 0.03%)

Ysgrifennodd 10,000 (0.02%) arall gyfeiriadedd rhywiol gwahanol, ac ni wnaeth y 3.6 miliwn o bobl sy'n weddill (7.5%) ateb y cwestiwn.

“Mae cael amcangyfrifon cyntaf y cyfrifiad am boblogaeth [Cymru a Lloegr] mewn perthynas â hunaniaeth o ran rhywedd yn ogystal â chyfeiriadedd rhywiol ar lefel leol yn hollbwysig,” meddai cyfarwyddwr y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), Jen Woolford. “Byddant yn sicrhau bod gan y sawl sy'n gwneud penderfyniadau y wybodaeth orau fel y gallant ddeall yn well raddau a natur yr anfantais y gall pobl fod yn ei brofi o ran canlyniadau addysgol, iechyd, cyflogaeth a thai.

“Y ciplun cyntaf yn unig yw hwn. Mewn dadansoddiadau yn y dyfodol, byddwn yn ystyried cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd yn ôl newidynnau demograffig allweddol, fel oedran a rhyw, yn ogystal â chyflogaeth, addysg ac ethnigrwydd, ymhlith eraill.”

Hunaniaeth o ran rhywedd

Roedd 8 o'r 10 awdurdod lleol â'r gyfran uchaf o'r boblogaeth 16 oed a throsodd yr oedd eu hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i'w rhyw pan gawsant eu geni, yn Llundain; Newham (1.51%) a Brent (1.31%) oedd â'r cyfrannau uchaf. Y ddau awdurdod lleol y tu allan i Lundain a oedd â'r cyfrannau uchaf oedd Rhydychen (1.25%) a Norwich (1.07%). Yng Nghymru, yr awdurdodau lleol oedd â'r canrannau uchaf oedd Caerdydd (0.71%) a Cheredigion (0.70%).

O ran hunaniaethau penodol o ran rhywedd, Brent a Newham oedd â'r canrannau uchaf a nododd ddyn traws (0.28% a 0.25%, yn y drefn honno), a Barking a Dagenham oedd â'r ganran uchaf a nododd fenyw draws (0.25%).

Yng Nghymru, Caerdydd oedd â'r ganran uchaf a nododd ddyn traws (0.12%) a'r ganran uchaf a nododd fenyw draws (0.13%).

Roedd y pum awdurdod lleol â'r gyfran uchaf o'r boblogaeth 16 oed a throsodd a nododd anneuaidd i gyd y tu allan i Lundain. Brighton a Hove oedd â'r ganran uchaf (0.35%), yna Norwich (0.33%) a Chaergrawnt (0.26%). Ceredigion (0.23%) oedd â'r ganran uchaf o bobl a nododd anneuaidd mewn unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru.

Cyfeiriadedd rhywiol

Yr awdurdod lleol oedd â'r boblogaeth LHD+ fwyaf ymysg y rheini oedd yn 16 oed a throsodd oedd Brighton a Hove (10.7%). Roedd saith o'r awdurdodau eraill yn y 10 uchaf yn Llundain, gyda'r poblogaethau LHD+ mwyaf yn byw yn Ninas Llundain (10.3%), Lambeth (8.3%), a Southwark (8.1%). Yng Nghymru, yr awdurdodau lleol â'r poblogaethau LHD+ mwyaf oedd Caerdydd (5.3%), Ceredigion (4.9%), ac Abertawe (3.4%).

Diwedd

Manylion cyswllt ar gyfer y cyfryngau

Swyddfa Cysylltiadau â'r Cyfryngau: +44 845 604 1858
Llinell ar alwad frys: +44 7867 906553
E-bost: media.relations@ons.gov.uk