Cyfrifiad 2011: Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru, Mawrth 2011

Mae'r bwletin hwn, sef Ystadegau Allweddol Cyfrifiad 2011 ar gyfer Cymru, yn cyflwyno nodweddion diffiniol y boblogaeth, pwy ydym, sut rydym yn byw a beth rydym yn ei wneud. Mae'r ystadegau a gwmpesir o Gyfrifiad 2001 yn unigryw oherwydd y cyfrifiad yw'r unig ffynhonnell wybodaeth sy'n mesur y nodweddion hyn gyda'i gilydd ar draws y boblogaeth gyfan.

Hwn yw'r datganiad diweddaraf. Gweld datganiadau blaenorol

This is an accredited National Statistic. Click for information about types of official statistics.

Cyswllt:
Email Emma White

Dyddiad y datganiad:
11 December 2012

Cyhoeddiad nesaf:
To be announced

1. Ffigurau allweddol

  • Roedd gan Gymru boblogaeth breswyl arferol o 3.1 miliwn yn 2011, cynnydd o 5 y cant ers 2001. Roedd bron un o bob pump (18 y cant, 563,000) o breswylwyr yn 65 oed neu drosodd.

  • Yn 2011, fel y gwelwyd yn 2001, roedd gan Gymru fwy o breswylwyr â phroblem iechyd neu anabledd hirdymor, ychydig o dan chwarter (23 y cant, 696,000), yn uwch nag unrhyw ranbarth yn Lloegr.

  • Nododd 58 y cant (1.8 miliwn) o breswylwyr Cymru eu bod yn Gristnogion yn 2011, 14 pwynt canran yn is na 2001 a gostyngiad is nag unrhyw un o ranbarthau Lloegr. Nododd bron draean (32 y cant, 983,000) o'r boblogaeth yng Nghymru nad oedd ganddynt grefydd yn 2011, mwy nag unrhyw un o ranbarthau Lloegr.

  • Nododd bron dwy ran o dair (66 y cant, 2.0 miliwn) o breswylwyr Cymru eu bod yn Gymry yn 2011. O'r rhain, nododd 218,000 ohonynt eu bod yn ystyried eu hunain yn Brydeinwyr hefyd.

  • Roedd 96 y cant (2.9 miliwn) o boblogaeth breswyl arferol Cymru yn Wyn yn 2011, canran uwch nag unrhyw un o ranbarthau Lloegr.

  • Roedd 5 y cant (168,000) o bobl yng Nghymru wedi'u geni y tu allan i'r DU yn 2011, cynnydd o ddau bwynt canran ers 2001 (3 y cant, 92,000).

  • Roedd 30 y cant (169,000) o breswylwyr arferol Cymru a oedd yn dair oed a throsodd ac a allai siarad Cymraeg (562,000) yn 2011 rhwng tair a 15 oed. Gwelwyd gostyngiad o un pwynt canran yn y grŵp o bobl tair oed a throsodd a allai siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg o 16 y cant (458,000) yn 2001 i 15 y cant (431,000) yn 2011.

  • Yn 2011, roedd mwy o bobl yng Nghymru (67 y cant, 879,000) yn berchen ar eu cartrefi nag yn Lloegr (63 y cant, 14.0 miliwn).

  • Cynyddodd nifer y ceir a faniau a oedd ar gael i gartrefi yng Nghymru o 1.3 i 1.6 miliwn rhwng 2001 a 2011. Yn 2001, roedd 11 car i bob 10 o gartrefi ar gyfartaledd tra roedd 12 car i bob 10 o gartrefi yn 2011.

  • Nododd bron pob cartref yng Nghymru fod ganddynt wres canolog yn 2011 (98 y cant, 1.3 miliwn), cynnydd o chwe phwynt canran ers 2001 (92 y cant, 1.1 miliwn).

  • Roedd mwy o bobl (12 y cant, 370,000) yng Nghymru yn ofalwyr nag yn unrhyw un o ranbarthau Lloegr yn 2011. Roedd canrannau uwch o bobl yn darparu rhwng 20 a 49 awr a 50 awr neu fwy o ofal yng Nghymru yn 2011 nag yn unrhyw ranbarth yn Lloegr; 2 y cant (54,000) a 3 y cant (104,000) yn y drefn honno.

  • Nododd un o bob pedwar o'r boblogaeth breswyl arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru (26 y cant, 651,000) nad oedd ganddynt unrhyw gymwysterau cydnabyddedig yn 2011. Yr ail gategori fwyaf o ran cymwysterau yng Nghymru yn 2011 oedd Lefel 4 neu uwch e.e. gradd Baglor neu uwch (24 y cant, 614,000).

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Cyflwyniad

Mae'r bwletin hwn yn disgrifio poblogaeth Cymru yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd yng Nghyfrifiad 2011. Mae'n cyflwyno nodweddion diffiniol y boblogaeth, pwy ydym, sut rydym yn byw a beth rydym yn ei wneud. Rhennir y bwletin hwn yn dair rhan fel a ganlyn.

Mae'r cyfrifiad yn unigryw gan mai dyma'r unig ffynhonnell wybodaeth sy'n mesur y nodweddion hyn gyda'i gilydd ar draws y boblogaeth gyfan. Cyhoeddir yr allbynnau ar lefel genedlaethol, ranbarthol ac awdurdod lleol ac mae'r bwletin hwn yn rhoi sylwebaeth ar lefel genedlaethol a rhanbarthol. Fe'i cyhoeddir ochr yn ochr â bwletin ar gyfer Cymru a Lloegr.

Yn ystod 2013, bydd SYG yn cyflwyno'r wybodaeth hon ar lefelau daearyddol llai o faint na'r awdurdod lleol, ac yna mewn croes-dablau rhwng nodweddion, fel oedran neu ethnigrwydd. Bydd hyn yn rhoi ffynhonnell ddata hyd yn oed fwy gwerthfawr i'r nifer sy'n defnyddio'r cyfrifiad.

Y cyfrifiad

Mae'r cyfrifiad wedi bod yn casglu gwybodaeth am y boblogaeth bob 10 mlynedd ers 1801 (heblaw am 1941). Cynhaliwyd y cyfrifiad diwethaf yng Nghymru a Lloegr ar 27 Mawrth 2011.

Mae amcangyfrifon y cyfrifiad yn disgrifio nodweddion ardaloedd hyd at lefelau daearyddol bach ac fe'u defnyddir i ddeall beth sy’n debyg ac yn wahanol o ran nodweddion y boblogaeth yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Defnyddir y wybodaeth hon i gynllunio a darparu gwasanaethau, er enghraifft defnyddir gwybodaeth am ethnigrwydd i fonitro cydraddoldeb, a defnyddir gwybodaeth am fod yn berchen ar gerbyd i gynllunio trafnidiaeth a ffyrdd. Y cyfrifiad yw'r unig ffynhonnell gynhwysfawr o ddata ardal fach ar y gofal di-dâl a ddarperir ac fe'i defnyddir i helpu llunwyr polisi i wneud penderfyniadau. Mae cyfresi blaenorol o amcangyfrifon y cyfrifiad wedi darparu rhagor o wybodaeth am y modd y caiff ei ddefnyddio; cyfres a gyhoeddwyd ar 16 Gorffennaf 2012.

Mae rhagor o wybodaeth am amcangyfrifon y cyfrifiad, gan gynnwys manylion am y fethodoleg a ddefnyddir a gwybodaeth am sut y caiff is-grwpiau o'r boblogaeth eu diffinio a'u hamcangyfrif ar gael drwy hafan Cyfrifiad 2011.

Ni chaiff gwybodaeth bersonol o'r cyfrifiad ei rhannu ag unrhyw un o adrannau eraill y llywodraeth na chyrff cenedlaethol, rhanbarthol neu leol. Caiff y wybodaeth a gesglir ei chadw'n gyfrinachol gan SYG, a chaiff ei diogelu gan y gyfraith. Ni chaiff cofnodion unigol y cyfrifiad eu rhyddhau am 100 mlynedd.

Y gyfres hon

Mae amcangyfrifon o Gyfrifiad 2011 ar gyfer Cymru a Lloegr yn cael eu cyhoeddi fesul cam cyn gynted ag y maent ar gael gan SYG. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y cyfresi arfaethedig ym mhrosbectws Cyfrifiad 2011. Mae'r bwletin hwn yn cyflwyno canfyddiadau allweddol o'r holl dablau Ystadegau Allweddol a naw tabl Ystadegau Cryno yng Nghymru. Caiff ystadegau'r DU eu crynhoi a'u cyhoeddi pan fydd y data perthnasol ar gael ar gyfer pob un o'r pedair gwlad: Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae a wnelo'r bwletin hwn â'r boblogaeth breswyl arferol a chartrefi neu leoedd cartrefi yng Nghymru. Nid yw'n cyfeirio at ymwelwyr na phreswylwyr byrdymor. Ystyr 'preswylydd arferol' yw unrhyw un a oedd, ar ddiwrnod y cyfrifiad, yn y DU ac wedi aros neu’n bwriadu aros yn y DU am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu â chyfeiriad parhaol yn y DU a’r tu allan i’r DU ac yn bwriadu aros y tu allan i’r DU am lai na 12 mis.

Mae rhai amcangyfrifon o Gyfrifiad 2011 eisoes wedi'u cyhoeddi. Er enghraifft, rhoddodd y gyfres a gyhoeddwyd ar 16 Gorffennaf 2012 amcangyfrifon o'r boblogaeth breswyl arferol yn ôl oedran a rhyw, poblogaeth yn ôl y math o breswylfa, amcangyfrifon o gartrefi ac amcangyfrifon o nifer y preswylwyr byrdymor. Cyhoeddwyd gwybodaeth am nifer y preswylwyr ag ail gyfeiriad hefyd.

Wrth wneud cymariaethau â 2001, cymharwyd amcangyfrifon o'r boblogaeth (yn ôl oedran a rhyw) â'r amcangyfrifon canol blwyddyn ar gyfer 2001. Ar gyfer nodweddion eraill, gwneir cymariaethau ag amcangyfrifon Cyfrifiad 2001. Rhydd y ddwy ffynhonnell amcangyfrif wedi'i dalgrynnu o 2.9 miliwn o breswylwyr arferol yng Nghymru. Darperir troednodiadau gyda'r tablau er mwyn nodi'r ffynonellau data a ddefnyddiwyd.

Mae dadansoddiadau manylach o amcangyfrifon y cyfrifiad ar gael ar gyfer rhai pynciau drwy "straeon byrion" SYG. Cyhoeddir pedair o'r rhain ochr yn ochr â'r bwletin hwn ar wefan SYG. Mae tair ohonynt yn dadansoddi mudo rhyngwladol, ethnigrwydd a chrefydd. Mae'r bedwaredd yn nodi sut mae ystadegau'r farchnad lafur yn wahanol i'r rheini a amcangyfrifwyd o'r Arolwg o'r Llafurlu ar lefel genedlaethol, rhanbarthol, lleol ac awdurdod unedol.

Caiff tablau Ystadegau Allweddol ac Ystadegau Cryno ar gyfer lefelau is hierarchaeth ddaearyddol ystadegol yr ardal allbwn a hierarchaeth ddaearyddol wardiau eu cyhoeddi ar 30 Ionawr 2013. Cyhoeddir rhagor o straeon byrion ochr yn ochr â'r gyfres hon ac wedi hynny, gan gwmpasu teuluoedd, iechyd cyffredinol ac anabledd, gofal di-dâl, iaith, galwedigaeth a diwydiant, cymwysterau a gweithgarwch economaidd.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Pwy ydym ni

Mae a wnelo'r wybodaeth yn y rhan hon â nodweddion personol y boblogaeth breswyl arferol fel y'i hamcangyfrifwyd gan Gyfrifiad 2011 ar gyfer Cymru. Mae'n cwmpasu ein hoedran a'n rhyw, ein hiechyd cyffredinol, p'un a oes gennym salwch neu anabledd sy'n cyfyngu ar ein gweithgareddau dyddiol, ein credoau crefyddol, ein hethnigrwydd, ein hunaniaeth genedlaethol, p'un a gawsom ein geni yn y DU ai peidio ac, os na chawsom, pa basbortau a ddelir gennym a'n sgiliau iaith.

  • Roedd gan Gymru boblogaeth breswyl arferol o 3.1 miliwn yn 2011, cynnydd o 5 y cant ers 2001. Roedd bron un o bob pump (18 y cant, 563,000) o breswylwyr yn 65 oed neu drosodd.

  • Roedd gan ychydig o dan 23 y cant o breswylwyr (696,000) broblem iechyd neu anabledd hirdymor, canran uwch nag unrhyw ranbarth yn Lloegr.

  • Nododd 58 y cant (1.8 miliwn) o breswylwyr Cymru eu bod yn Gristnogion, gostyngiad o 14 pwynt canran ers 2001 a mwy o ostyngiad nag unrhyw un o ranbarthau Lloegr.

  • Nododd bron dwy ran o dair (66 y cant, 2.0 miliwn) o breswylwyr Cymru eu bod yn Gymry. O'r rhain, nododd 218,000 eu bod yn ystyried eu hunain yn Brydeinwyr hefyd.

  • Roedd 30 y cant (169,000) o breswylwyr arferol Cymru a oedd yn dair oed a throsodd a allai siarad Cymraeg (562,000) rhwng tair a 15 oed.

  • Gwelwyd gostyngiad o un pwynt canran yng nghanran preswylwyr Cymru a oedd yn dair oed a throsodd a allai siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg o 16 y cant (458,000) yn 2001 i 15 y cant (431,000) yn 2011.

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Oedran a rhyw

Ar 16 Gorffennaf 2012, cyhoeddwyd amcangyfrifon Cyfrifiad 2011 o'r boblogaeth a chartrefi ar gyfer Cymru.

Dangosodd y rhain fod gan Gymru boblogaeth breswyl arferol o 3.1 miliwn ar 27 Mawrth 2011; 1.5 miliwn o ddynion ac 1.6 miliwn o ferched. Gwelwyd twf o 5 y cant (153,000) yn y boblogaeth ers 2001, ac roedd mudo yn cyfrif am 92 y cant (141,000) o'r cynnydd yn y boblogaeth yng Nghymru yn ystod y cyfnod 10 mlynedd, a hynny'n fudo o'r DU a thramor.

Roedd bron un o bob pump (18 y cant, 563,000) o'r boblogaeth yn 65 oed a throsodd, cynnydd o un pwynt canran (56,700) ers 2001. Fel yn 2011, roedd plant o dan bump oed yn cyfrif am 6 y cant (178,000) o'r boblogaeth breswyl arferol yng Nghymru, cynnydd o 11,300.

Roedd 1.3 miliwn o gartrefi yng Nghymru, gyda 2.3 o breswylwyr fesul cartref ar gyfartaledd. Gwelwyd twf yn y boblogaeth ym mhob rhan o Gymru rhwng 2001 a 2011, ac eithrio Blaenau Gwent.

Mae'r wybodaeth a gyhoeddwyd hyd yn hyn o Gyfrifiad 2011 ar gael.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Lechyd

Iechyd cyffredinol

Gofynnwyd i breswylwyr arferol asesu eu hiechyd yn gyffredinol gan ddefnyddio graddfa pum pwynt: da iawn, da, gweddol, gwael neu wael iawn. Nododd y mwyafrif o'r preswylwyr arferol yng Nghymru, 78 y cant (2.4 miliwn), fod eu hiechyd yn dda neu'n dda iawn. Nododd 15 y cant (448,000) fod eu hiechyd yn weddol, a nododd yr 8 y cant a oedd yn weddill (234,000) fod eu hiechyd yn wael neu'n wael iawn; nododd mwy o breswylwyr arferol fd eu hiechyd yn wael neu'n wael iawn nag yn unrhyw ranbarth yn Lloegr.

Nid oedd hwn yn gwestiwn newydd yn 2011 ond mae ei strwythur wedi newid. Yn 2011, roedd yn seiliedig ar raddfa tri phwynt: da, gweddol dda neu ddim yn dda. Felly, ni ellir cymharu'r canfyddiadau yn uniongyrchol. Er enghraifft, gallai rhai pobl a nododd fod eu hiechyd yn 'weddol' yn 2011 fod wedi nodi bod eu hiechyd yn 'weddol dda' gan ddefnyddio graddfa 2001 ond gallai rhai fod wedi nodi 'ddim yn dda'. Cyhoeddir dadansoddiad o amcangyfrifon sy'n ymwneud ag iechyd a gofal ar 30 Ionawr 2013. Bydd y stori hon yn cymharu data ar iechyd cyffredinol gyda 2001 drwy gymhwyso pwysoliadau i'r categorïau ymateb (275.3 Kb Pdf).

Rhoddir gwybodaeth am iechyd yn nhabl KS301EW (102 Kb Excel sheet).

Salwch hirdymor sy'n cyfyngu ar weithgareddau

Yn 2011, gofynnwyd i'r rheini a nododd fod ganddynt broblem iechyd neu anabledd hirdymor (gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig ag oedran) sy'n cyfyngu ar eu gweithgareddau dyddiol ac a oedd wedi para, neu yr oedd disgwyl iddo bara o leiaf 12 mis, asesu p'un a oedd problem iechyd o'r fath yn cyfyngu'n fawr neu'n cyfyngu ychydig ar eu gweithgareddau dyddiol, neu p'un a oedd yn cyfyngu ar eu gweithgareddau dyddiol o gwbl. Mae'r amcangyfrifon ar gyfer 2011 yn Nhabl 1.

Yn 2001, y categorïau ymateb ar gyfer salwch hirdymor sy'n cyfyngu ar weithgareddau oedd 'oes' a 'nac oes'. Er mwyn cymharu 2001 a 2011, rhaid cyfuno canlyniadau 2011 ar gyfer 'Oes, yn cyfyngu'n fawr' ac 'Oes, yn cyfyngu ychydig' yn un ymateb, sef 'Oes'.

Rhoddir gwybodaeth am broblemau iechyd hirdymor sy'n cyfyngu ar weithgareddau yn nhabl KS301EW (102 Kb Excel sheet).

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Crefydd

Cyflwynwyd y cwestiwn am ymlyniad crefyddol yn y cyfrifiad yn 2001 ac roedd yn wirfoddol. Ni welwyd gwahaniaeth yn nhrefn y prif grwpiau crefyddol yn ôl maint rhwng 2001 a 2011. Mae Tabl 2 yn dangos mai Cristnogaeth oedd y grŵp mwyaf; 58 y cant (1.8 miliwn) o breswylwyr arferol yng Nghymru.

Mae hwn yn ostyngiad o 14 pwynt canran ers 2001 pan nododd 72 y cant (2.1 miliwn) o breswylwyr arferol eu bod yn Gristnogion. Dyma'r unig grŵp a welodd leihad mewn niferoedd rhwng 2001 a 2011 er gwaethaf twf yn y boblogaeth.

Yr ail grŵp mwyaf o ran ymatebion i'r cwestiwn hwn yn 2011 oedd dim crefydd. Gwelwyd cynnydd o 19 y cant (538,000) o breswylwyr arferol yn 2001 i 32 y cant (983,000) yn 2011. Roedd y cynnydd hwn o 14 pwynt canran yn fwy nag yn unrhyw ranbarth yn Lloegr.

Fel y gellir ei weld yn Ffigur 1, yn rhanbarthol, Llundain oedd â'r ganran isaf o bobl a nododd eu bod yn Gristnogion yn 2001 a 2011; fodd bynnag, gwelwyd gostyngiad o ran y gwahaniaeth rhwng y gwerthoedd ar gyfer Cymru a Llundain, o 14 i naw pwynt canran.

Rhoddir gwybodaeth am grefydd yn nhablau KS209EW (108.5 Kb Excel sheet) a QS210EW (150 Kb Excel sheet) .

Trafodir ymhellach amcangyfrifon sy'n ymwneud ag ymlyniad crefyddol preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr mewn stori fer a gyhoeddir fel rhan o'r gyfres hon.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Grŵp ethnig a hunaniaeth

Grŵp ethnig cyffredinol

Yn 2011, roedd 96 y cant (2.9 miliwn) o boblogaeth breswyl arferol Cymru yn Wyn, gostyngiad o ddau bwynt canran o gymharu ag amcangyfrif 2001, sef 98 y cant (2.8 miliwn). Ar gyfer 2001 a 2011, roedd canran uwch yn y grŵp ethnig hwn nag yn unrhyw un o ranbarthau Lloegr. Mae Ffigur 2 yn dangos yr ymatebion i'r cwestiwn am grwpiau ethnig yng Nghymru yn 2011.

Grŵp ethnig o fewn cartrefi

Gwelwyd cynnydd o un pwynt canran yn nifer y cartrefi sy'n cynnwys preswylwyr arferol o fwy nag un grŵp ethnig, o 3 y cant (42,000) yn 2001, i 4 y cant (55,000) yn 2011. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, cartrefi lle mae partneriaid neu aelodau o wahanol genedlaethau yn perthyn i wahanol grwpiau ethnig. Gwelwyd cynnydd yn y ganran hon ym mhob rhanbarth yn Lloegr hefyd.

Gallai'r newidiadau a welwyd rhwng 2001 a 2011 fod o ganlyniad i fudo, naill ai o fewn y DU neu fannau eraill, gan gynnwys oedolion ifanc yn mynychu neu'n dychwelyd o'r brifysgol. Gwelir newidiadau hefyd yn sgil marwoldeb neu wrth i ymatebwyr newid eu canfyddiad o'u hethnigrwydd dros amser.

Rhoddir gwybodaeth am grwpiau ethnig yn nhablau KS201EW (113 Kb Excel sheet) a QS202EW (117 Kb Excel sheet) .

Trafodir ymhellach amcangyfrifon sy'n ymwneud â grwpiau ethnig preswylwyr arferol mewn stori fer a gyhoeddir fel rhan o'r gyfres hon.

Hunaniaeth genedlaethol

Casglodd Cyfrifiad 2011 ddata ar hunaniaeth genedlaethol am y tro cyntaf. Mewn cyfresi diweddarach o wybodaeth am y cyfrifiad a gyhoeddir pan fydd croes-dablau ar gael, bydd yn bosibl gweld rhagor o wybodaeth am y gydberthynas rhwng hunaniaeth genedlaethol a phynciau eraill, er enghraifft ethnigrwydd a gwlad enedigol.

Gallai unigolion nodi ar holiadur y cyfrifiad fod ganddynt fwy nag un hunaniaeth genedlaethol; er enghraifft, gallai unigolyn nodi ei fod yn Gymro ac yn Brydeiniwr. Yng Nghymru, nododd 66 y cant (2.0 miliwn) o breswylwyr arferol eu bod yn Gymry (naill ai fel unig ateb neu mewn cyfuniad â hunaniaethau eraill). Nododd y mwyafrif o breswylwyr arferol yng Nghymru (96 y cant, 2.9 miliwn) fod ganddynt o leiaf un hunaniaeth genedlaethol o blith Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig.

O'r 66 y cant (2.0 miliwn) o breswylwyr arferol yng Nghymru a ystyriai eu bod yn Gymry yn 2011, nododd 218,000 fod ganddynt hunaniaeth Gymreig a Phrydeinig. Roedd ychydig o dan 17 y cant (519,00) yn ystyried eu bod yn Brydeinwyr yn unig. Mae Ffigur 3 yn dangos gwybodaeth am hunaniaeth genedlaethol Gymreig, Prydeinig a Seisnig ar gyfer Cymru a Lloegr.

Yn Lloegr, nododd 70 y cant (37.2 miliwn) o'r boblogaeth breswyl arferol fod ganddynt hunaniaeth Seisnig. O'r ffigur hwnnw, roedd 60 y cant (32.0 miliwn) yn ystyried bod ganddynt hunaniaeth Seisnig yn unig a nododd 9 y cant (4.8 miliwn) fod ganddynt hunaniaeth Seisnig a Phrydeinig. Nododd ychydig dros 19 y cant (10.2 miliwn) fod ganddynt hunaniaeth Brydeinig yn unig.

Gallai'r gwahaniaeth hwn wrth nodi hunaniaeth genedlaethol yng Nghymru a Lloegr fod yn gysylltiedig â phatrymau mudo mewnol yn y DU; cafodd 21 y cant (636,000) o'r boblogaeth breswyl arferol yng Nghymru eu geni yn Lloegr, tra cafodd 1 y cant (507,000) o boblogaeth breswyl arferol Lloegr eu geni yng Nghymru.

Rhoddir gwybodaeth am hunaniaeth genedlaethol yn nhabl KS202EW (134.5 Kb Excel sheet).

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Preswylwyr arferol a aned y tu allan i'r DU

Gwlad enedigol

Mae Tabl 3 yn dangos bod 73 y cant (2.2 miliwn) o breswylwyr arferol yng Nghymru wedi cael eu geni yno, dau bwynt canran yn llai nag yn 2001. Gellir priodoli'r newid hwn i fudo rhyngwladol a mewnol. Yn Lloegr, nododd 84 y cant (44.2 miliwn) o'r boblogaeth breswyl arferol iddynt gael eu geni yno. Fel yng Nghymru, mae hyn yn llai nag yn 2001, ond mae mwy o'r newid yn gysylltiedig â mudo rhyngwladol.

Yn 2001, cafodd 20 y cant (590,000) o'r boblogaeth breswyl arferol yng Nghymru eu geni yn Lloegr. Yn 2011, roedd hyn wedi cynyddu un pwynt canran (21 y cant, 636,000).

Rhoddir gwybodaeth am wledydd genedigol yn nhablau KS204EW (112.5 Kb Excel sheet) a QS203EW (172 Kb Excel sheet) .

Trafodir ymhellach amcangyfrifon sy'n ymwneud â phreswylwyr arferol nas ganwyd yn y DU yng Nghymru a Lloegr mewn stori fer a gyhoeddir fel rhan o'r gyfres hon.

Pasbortau a ddelir

Am y tro cyntaf, casglodd Cyfrifiad 2011 wybodaeth am basbortau a ddelir. Roedd gan 78 y cant (2.4 miliwn) o breswylwyr arferol yng Nghymru o leiaf un pasbort ac nid oedd 22 y cant (688,000) o breswylwyr arferol yn meddu ar basbort. Dangosir canrannau'r pasbortau a ddelir yng Nghymru a rhanbarthau Lloegr yn Ffigur 4.

Yng Nghymru, roedd 7 y cant (201,000) o breswylwyr arferol yn meddu ar basbort nad oedd yn basbort y DU. Roedd hyn yn is nag yn unrhyw ranbarth yn Lloegr ac eithrio'r Gogledd-ddwyrain (6 y cant, 148,000).

Rhoddir gwybodaeth am basbortau a ddelir yn nhabl KS205EW (149 Kb Excel sheet).

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Iaith Cartrefi

Casglodd y cyfrifiad wybodaeth am brif iaith a sgiliau iaith Cymraeg a Saesneg am y tro cyntaf. Gallai pobl na wnaethant nodi Cymraeg na Saesneg fel prif iaith fod yn rhugl yn Gymraeg neu Saesneg ac roeddent yn gallu nodi bod eu medrusrwydd yn yr iaith Gymraeg neu Saesneg yn 'dda' neu'n 'dda iawn'.

Roedd pob preswylydd arferol mewn 97 y cant (1.3 miliwn) o gartrefi yng Nghymru yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel prif iaith. Mewn 1 y cant (18,000) o gartrefi eraill roedd o leiaf un oedolyn yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel prif iaith, ac mewn llai nag 1 y cant (3,000) o gartrefi, nid oedd unrhyw oedolion ond o leiaf un plentyn yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel prif iaith. Yn y 2 y cant (22,000) o gartrefi eraill yng Nghymru, nid oedd unrhyw breswylwyr arferol a nododd eu bod yn siarad naill ai Cymraeg neu Saesneg fel prif iaith.

Rhoddir gwybodaeth am iaith cartrefi yn nhabl KS206EW (103.5 Kb Excel sheet).

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Medrusrwydd yn y Gymraeg

Mae Tabl 4 yn dangos mai 19 y cant (562,000) o breswylwyr arferol yng Nghymru a oedd yn dair oed a throsodd a nododd eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn 2011. Roedd 30 y cant (169,000) o'r grŵp hwn rhwng tair a 15 oed.

Mae'r nifer amcangyfrifedig o siaradwyr Cymraeg ddau bwynt canran yn is nag amcangyfrif 2001 sef 21 y cant (576,000) er, yn 2001, nid oedd y nifer amcangyfrifedig o bobl a oedd yn 'Gallu siarad Cymraeg' yn cynnwys y rheini a nododd fod siarad Cymraeg yn un o'u sgiliau yn y categori 'Cyfuniad arall o sgiliau'.

Yn 2011, cynyddodd nifer y preswylwyr arferol yng Nghymru a oedd yn dair oed a throsodd a ddywedodd nad oedd ganddynt unrhyw sgiliau Cymraeg bron ddau bwynt canran i 73 y cant (2.2 miliwn). Lleihaodd y grŵp a nododd eu bod yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg dros un pwynt canran i 15 y cant (431,000).

Rhoddir gwybodaeth am sgiliau Cymraeg yn nhablau KS207WA (108 Kb Excel sheet) , KS208WA (112.5 Kb Excel sheet) , QS206WA (118 Kb Excel sheet) a QS207WA (123.5 Kb Excel sheet) .

Trafodir ymhellach amcangyfrifon sy'n ymwneud â medrusrwydd yn y Gymraeg mewn bwletin ystadegol sydd wedi'i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

Nôl i'r tabl cynnwys

11. Sut rydym yn byw

Mae'r rhan hon yn sôn am y boblogaeth breswyl arferol sy'n byw mewn cartrefi ac mae'n nodi'r math o lety rydym yn byw ynddo a ph'un a ydym yn berchen arno neu'n ei rentu, sawl ystafell sydd gennym, p'un a oes gennym wres canolog a nifer y ceir a faniau y mae gennym fynediad iddynt. Yna, mae'n nodi'r bobl rydym yn byw gyda hwy mewn cartrefi a'n statws priodasol. Yn olaf, mae'n cyflwyno amcangyfrifon cryno o gyfran y boblogaeth a oedd byw mewn sefydliad cymunedol.

  • Roedd mwy o gartrefi yng Nghymru (67 y cant, 879,000) yn berchen ar eu llety nag yn Lloegr (63 y cant, 14.0 miliwn).

  • Nododd bron pob cartref yng Nghymru fod ganddynt wres canolog yn 2011 (98 y cant, 1.3 miliwn), sef cynnydd o chwe phwynt canran ers 2001 (92 y cant, 1.1 miliwn).

  • Cynyddodd nifer y ceir a faniau a oedd ar gael i gartrefi yng Nghymru o 1.3 i 1.6 miliwn rhwng 2001 a 2011. Yn 2001, roedd 11 car i bob 10 o gartrefi ar gyfartaledd tra roedd 12 car i bob 10 o gartrefi yn 2011.

  • Y ddau gategori a nodwyd amlaf gan breswylwyr arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru o ran eu statws priodasol oedd priod (47 y cant, 1.2 miliwn) a sengl (erioed wedi priodi na chofrestru partneriaeth sifil) (34 y cant, 840,000).

Nôl i'r tabl cynnwys

12. Llety a deiliadaeth

Math o lety

Fel y gellir ei weld yn Ffigur 5, byngalos neu dai semi oedd y math mwyaf cyffredin o lety yng Nghymru yn 2011 (31 y cant, 430,000), wedi'i ddilyn gan fyngalos neu dai teras (28 y cant, 385,000) a byngalos neu dai ar wahân (28 y cant, 384,000). Roedd trefn dosbarthiad y mathau hyn o lety fel yr oedd yn 2001.

Rhwng 2001 a 2011, cynyddodd canran y cartrefi a oedd yn byw mewn blociau o fflatiau neu denementau a adeiladwyd yn bwrpasol ddau bwynt canran o 8 y cant (102,000) yn 2001 i 10 y cant (134,000) yn 2011.

Wrth edrych ar Ffigur 6, gwelir bod Cymru a rhanbarthau Lloegr yn dilyn patrymau tebyg o ran y cartrefi sy'n byw mewn mathau gwahanol o lety, ac eithrio Llundain a oedd â'r ganran leiaf (48 y cant, 1.6 miliwn) o gartrefi yn byw mewn tai neu fyngalos cyfan, p'un a oeddent ar wahân, yn dai semi neu'n dai teras.

Rhoddir gwybodaeth am y math o lety yn nhabl KS401EW (115.5 Kb Excel sheet).

Deiliadaeth

Mae math o ddeiliadaeth yn cyfeirio at b'un a yw unigolyn yn berchen ar gartref neu'n ei rentu. Yng Nghymru, fel yn Lloegr, mae'r rhan fwyaf o bobl naill ai'n berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl (35 y cant, 461,000), neu gyda morgais neu fenthyciad (32 y cant, 417,000). Mae hyn yn ganran uwch o'r boblogaeth (67 y cant, 879,000) nag yn Lloegr (63 y cant, 14.0 miliwn), fel y dangosir yn Nhabl 5. Gall hyn fod yn gysylltiedig â'r boblogaeth gymharol hŷn yng Nghymru o gymharu â rhanbarthau Lloegr. Bydd gwybodaeth bellach o'r cyfrifiad yn croes-dablu deiliadaeth yn ôl oedran.

Yn 2011, y trydydd categori mwyaf o ran deiliadaeth oedd rhentu llety'n breifat gan landlord neu asiantaeth gosod tai (13 y cant, 164,800). Mae hyn yn wahanol i 2001 pan mae'r trydydd categori mwyaf oedd rhentu llety gan y cyngor (14 y cant, 166,000). Mae'r newid hwn yn adlewyrchu'r gostyngiad o bedwar pwynt canran mewn rhentu llety gan y cyngor i 10 y cant (128,000), a'r cynnydd o bum pwynt canran mewn rhentu llety gan landlordiaid preifat neu asiantaethau gosod tai i 13 y cant (165,000). Mae'r gostyngiad mewn cyfraddau rhentu gan y cyngor hefyd yn adlewyrchiad rhannol o'r polisi o drosglwyddo stoc tai o gynghorau i gymdeithasau tai 1.

Rhoddir gwybodaeth am ddeiliadaeth yn nhabl KS402EW (111 Kb Excel sheet) .

Nodiadau ar gyfer - Llety a deiliadaeth

  1. Gofynnodd y Cyfrifiad i ymatebwyr nodi pwy yw eu landlord ac mae’r canlyniadau’n adlewyrchu’r ymatebion a roddwyd. Dros y degawd diwethaf, mae hanner yr awdurdodau lleol yng Nghymru wedi trosglwyddo’r gwaith o reoli eu holl stoc tai awdurdodau lleol i landlordiaid cymdeithasol eraill. Bydd unigolion sy’n ymateb i’r cyfrifiad yn adrodd eu dealltwriaeth o’u landlord ac efallai na fydd hyn yn adlewyrchu’r trefniadau rheoli gwirioneddol ym mhob achos.
Nôl i'r tabl cynnwys

13. Ystafelloedd, ystafelloedd gwely a gwres canolog

Ystafelloedd ac ystafelloedd gwely

Yng Nghymru yn 2011 roedd 5.7 o ystafelloedd fesul cartref ar gyfartaledd, sydd ychydig yn uwch na'r amcangyfrif o 5.6 yn 2001.

Mae hyn yn uwch na'r ffigurau cyfartalog ar gyfer unrhyw ranbarth yn Lloegr, sy'n amrywio o 4.7 yn Llundain, sef yr unig ranbarth â llai na 5.3 ystafell ar gyfartaledd, i 5.6 yn Nwyrain Canolbarth Lloegr, Dwyrain Lloegr, De-ddwyrain Lloegr a De-orllewin Lloegr.

Gofynnodd Cyfrifiad 2011 am nifer yr ystafelloedd gwely mewn cartrefi am y tro cyntaf. Yng Nghymru, roedd 2.8 ystafell wely fesul cartref ar gyfartaledd. Nid oedd fawr ddim amrywiad ledled Cymru a rhanbarthau Lloegr, gyda Llundain yn nodi'r cyfartaledd isaf, sef 2.5 ystafell wely fesul cartref.

Mae cyfraddau deiliadaeth ystafelloedd ac ystafelloedd gwely yn ddangosyddion amddifadedd a gorboblogi mewn cartref. Mae cyfradd ddeiliadaeth o -1 yn awgrymu bod un ystafell yn brin ar gyfer nifer y bobl sy'n byw yn y cartref. Yn 2011, roedd gan 5 y cant (67,000) o gartrefi yng Nghymru gyfradd ddeiliadaeth o -1 neu lai ar gyfer ystafelloedd. Mae hyn yn gynnydd o un pwynt canran ar 2001, pan nodwyd bod gan 4 y cant (53,000) o gartrefi yng Nghymru gyfradd ddeiliadaeth o -1 neu lai ar gyfer ystafelloedd. Roedd gan 3 y cant (40,000) gyfradd ddeiliadaeth o -1 neu lai ar gyfer ystafelloedd gwely1.

Heblaw am ranbarth Gogledd-ddwyrain Lloegr (5 y cant, 57,000), Cymru oedd â'r ganran isaf o gartrefi â chyfraddau deiliadaeth o -1 neu lai ar gyfer ystafelloedd, a Chymru oedd â'r ganran isaf o gartrefi â chyfraddau deiliadaeth o -1 neu lai ar gyfer ystafelloedd gwely ar wahân i Dde-orllewin Lloegr (3 y cant, 66,000).

Rhoddir gwybodaeth am ystafelloedd ac ystafelloedd gwely yn nhabl KS403EW (121 Kb Excel sheet) .

Gwres canolog

Nododd bron pob cartref yng Nghymru fod ganddynt wres canolog yn 2011 (98 y cant, 1.3 miliwn). Mae hyn chwe phwynt canran yn uwch na 2001 (92 y cant, 1.1 miliwn). Gallai'r tai a adeiladwyd yn y 10 mlynedd wedyn fod wedi cynnwys gwres canolog fel nodwedd safonol.

Rhoddir gwybodaeth am wres canolog yn nhabl KS403EW (121 Kb Excel sheet) .

Nodiadau ar gyfer - Ystafelloedd, ystafelloedd gwely a gwres canolog

  1. Cyflwynwyd y defnydd o ystafelloedd gwely fel dangosydd gorboblogi ym Mesur Tai (Gorboblogi) 46 (2003). Mae’r diffiniad o’r safon ystafell wely yn cyfeirio at ystafelloedd gwely ac ystafelloedd na ellir byw ynddynt â llai na 50 troedfedd sgwâr o arwynebedd llawr. Nid yw’r cyfrifiad yn casglu’r wybodaeth hon ac ni chaiff ei defnyddio i lunio cyfraddau deiliadaeth ystafelloedd gwely Cyfrifiad 2011.
Nôl i'r tabl cynnwys

14. Argaeledd car neu fan

Cynyddodd nifer y ceir neu faniau a oedd ar gael i'w defnyddio gan gartrefi yng Nghymru o 1.3 miliwn i 1.6 miliwn rhwng 2001 a 2011. Yn 2001, roedd cyfartaledd o 11 car i bob 10 o gartrefi tra roedd 12 car i bob 10 o gartrefi yn 2011.

Mae Ffigur 7 yn dangos bod canran y cartrefi â dau, tri, neu bedwar neu fwy o geir neu faniau wedi cynyddu rhwng 2001 a 2011, tra gwnaeth y nifer heb ddim un neu un leihau. Mae hyn i'w ddisgwyl o ystyried y cynnydd cyffredinol mewn ceir a faniau fesul cartref. Efallai y bydd croes-dablu Cyfrifiad 2011 mewn cyfresi data pellach yn helpu i egluro'r cynnydd mewn ceir neu faniau fesul cartref, er enghraifft, cyhoeddir pobl mewn cartrefi yn ôl oedran yn 2013.

Rhoddir gwybodaeth am argaeledd car neu fan yn nhabl KS404EW (107 Kb Excel sheet).

Nôl i'r tabl cynnwys

15. Statws priodasol

Mae Tabl 6 yn dangos mai'r grŵp statws priodasol mwyaf yng Nghymru yn 2011 oedd preswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd yn briod, sef 47 y cant (1.2 miliwn), fel yn 2001. Mae hyn bum pwynt canran yn llai na'r amcangyfrif o 52 y cant yn 2001 (1.2 miliwn). Cynyddodd canran y bobl sengl chwe phwynt canran o 28 y cant (650,000) yn 2001 i 34 y cant (840,000) yn 2011. Roedd partneriaethau sifil, fel statws priodasol cyfreithiol newydd1, yn gyfran fechan o'r cyfanswm - llai na hanner y cant (4,700). Roedd gweddill y boblogaeth breswyl arferol 16 oed a throsodd yn 2011 yn cynnwys pobl a oedd wedi ysgaru (10 y cant, 242,000), gweddwon (8 y cant, 198,000), a phobl a oedd wedi gwahanu (2 y cant, 55,000), ac mae pob un o'r tri grŵp hyn yn cynnwys unigolion o gydberthnasau o'r ddau ryw neu'r un rhyw.

Gostyngodd canran y preswylwyr arferol a oedd yn briod rhwng pedwar a chwe phwynt canran yng Nghymru a holl ranbarthau Lloegr ac eithrio Llundain lle gostyngodd ddau bwynt canran. Roedd cyfran y bobl briod yn Llundain yn 2011 bum pwynt canran yn is na'r rhanbarth isaf nesaf, sef Gogledd-orllewin Lloegr, ar ôl bod wyth pwynt canran yn is na Gogledd-orllewin Lloegr yn 2001.

Rhoddir gwybodaeth am statws priodasol a phartneriaeth sifil yn nhabl KS103EW (108 Kb Excel sheet) .

Nodiadau ar gyfer - Statws priodasol

  1. Daeth Deddf Partneriaeth Sifil 2004 i rym yn y DU ar 5 Rhagfyr 2005.
Nôl i'r tabl cynnwys

16. Cyfansoddiad cartrefi

Mae cyfansoddiad cartrefi yn cyfeirio at y preswylwyr arferol mewn cartref a sut maent yn cydberthyn. Gall cartref gynnwys teulu neu gall gynnwys un person yn byw ar ei ben ei hun neu oedolion nad ydynt yn perthyn yn rhannu llety. Mae teulu yn bâr (priod, partneriaid sifil neu'n cyd-fyw), sydd â phlant neu heb blant, neu riant unigol ag un plentyn o leiaf. Gall 'plant' fod yn ddibynnol neu ddim yn ddibynnol.

O'r 1.3 miliwn o gartrefi yng Nghymru ar 27 Mawrth 2011, y math mwyaf cyffredin o gartref oedd cartref un teulu (63 y cant, 817,000) wedi'i ddilyn gan y rheini ag un person yn byw ar ei ben ei hun (31 y cant, 401,000). Nodir y manylion yn Nhabl 7.

Y newid mwyaf o ran y math o gartrefi yng Nghymru ers 2001 oedd cynnydd o ddau bwynt canran mewn cartrefi ag un teulu pâr sy'n cyd-fyw; o 8 y cant (90,000) yn 2001 i 10 y cant (126,000) yn 2011.

Gostyngodd cyfran y cartrefi ag un teulu priod bedwar pwynt canran o 37 y cant (449,000) yn 2001 i 33 y cant (428,000) yn 2011. Er bod y gostyngiad yn adlewyrchu'r ffaith bod llai o briodasau ers y 1970au, nid oes modd cymharu'r categori hwn yn uniongyrchol rhwng 2001 a 2011 am fod categori 2011 yn cynnwys partneriaethau sifil am y tro cyntaf. Yng Nghymru yn 2011, nododd 4,700 o bobl eu bod mewn partneriaeth sifil.

Rhoddir gwybodaeth am gyfansoddiad cartrefi yn nhabl KS105EW (126.5 Kb Excel sheet).

Nôl i'r tabl cynnwys

17. Preswylwyr mewn sefydliadau cymunedol

Yng Nghyfrifiad 2011, amcangyfrifwyd bod 98 y cant (3.0 miliwn) o breswylwyr arferol yng Nghymru yn byw mewn cartrefi. Roedd y 2 y cant (52,000) sy'n weddill yn byw mewn sefydliadau cymunedol. Mae sefydliadau cymunedol yn darparu llety preswyl a reolir; mae'r enghreifftiau o sefydliadau cymunedol yn cynnwys unedau llety gwarchod, neuaddau preswyl myfyrwyr, gwestai mawr, ysbytai a charchardai.

Yn 2011, roedd 54 y cant (28,000) o'r holl breswylwyr mewn sefydliadau cymunedol yng Nghymru yn byw mewn sefydliadau anfeddygol, gan gynnwys gwestai mawr neu neuaddau preswyl myfyrwyr. Roedd hyn naw pwynt canran yn uwch na 2001 (45 y cant, 18,000).

Roedd 46 y cant (24,000) o breswylwyr mewn sefydliadau cymunedol mewn sefydliadau meddygol a gofal; roedd 23 y cant (12,000) o'r grŵp hwn mewn cartrefi gofal ac roedd 21 y cant (11,000) mewn sefydliadau meddygol eraill1.

Newid bach iawn a fu yng nghanran y boblogaeth a oedd yn byw mewn unrhyw fath o sefydliad cymunedol rhwng 2001 a 2011 - cynnydd o lai na hanner pwynt canran i 2 y cant (52,000) yn 2011. Mae hyn yn debyg i'r cynnydd mwyaf yn rhanbarthau Lloegr; fe'i gwelwyd yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr a Swydd Efrog a'r Humber. Roedd Cymru yn dal i fod â llai o breswylwyr mewn sefydliadau cymunedol na'r rhan fwyaf o ranbarthau Lloegr heblaw am Ddwyrain Lloegr, Gogledd-ddwyrain Lloegr a Lundain.

Rhoddir gwybodaeth am breswylwyr arferol mewn cartrefi a sefydliadau cymunedol yn nhabl KS405EW (113 Kb Excel sheet) a KS101EW (121.5 Kb Excel sheet).

Nodiadau ar gyfer - Preswylwyr mewn sefydliadau cymunedol

  1. Mae’r sefydliadau meddygol eraill yn cynnwys sefydliadau a gaiff eu rhedeg gan y GIG, cartrefi plant a sefydliadau meddygol a gaiff eu rhedeg gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.
Nôl i'r tabl cynnwys

18. Beth rydym yn ei wneud

Mae'r cyfrifiad yn ffordd werthfawr o greu darlun manwl o nodweddion y boblogaeth sy'n weithgar yn economaidd ar adeg y cyfrifiad. Mae'r rhan hon yn nodi'r hyn rydym yn ei wneud, p'un a ydym yn gofalu am aelodau llai abl o gymdeithas, yr hyn rydym yn ei wneud i ennill arian, pa gymwysterau sydd gennym, a sawl awr yr wythnos rydym yn gweithio.

  • Roedd mwy o bobl (12 y cant, 370,000) yng Nghymru yn ofalwyr nag yn unrhyw un o ranbarthau Lloegr.

  • Roedd canrannau uwch o bobl yn darparu rhwng 20 a 49 awr a 50 awr neu fwy o ofal yng Nghymru nag yn unrhyw ranbarth yn Lloegr; 2 y cant (54,000) a 3 y cant (104,000) yn y drefn honno.

  • Nododd un o bob pedwar (26 y cant, 651,000) o'r boblogaeth breswyl arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru nad oedd ganddynt unrhyw gymwysterau cydnabyddedig.

  • Yr ail gategori mwyaf o ran cymwysterau yng Nghymru oedd Lefel 4 neu uwch e.e. gradd Baglor neu uwch (24 y cant, 614,000).

Nôl i'r tabl cynnwys

19. Darparu gofal di-dâl

Mae unigolyn yn darparu gofal di-dâl os yw'n gofalu am aelodau o’r teulu, ffrindiau, cymdogion neu eraill, neu’n rhoi help neu gefnogaeth iddynt, oherwydd salwch neu anabledd corfforol/meddyliol hirdymor, neu broblemau sy'n gysylltiedig â henaint. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw weithgareddau fel rhan o waith â thâl.

Mae Tabl 8 yn dangos bod 12 y cant (370,000) o breswylwyr arferol yng Nghymru yn darparu gofal. Roedd hyn yn uwch nag unrhyw ranbarth yn Lloegr, a Chymru hefyd oedd â'r canrannau uchaf o ran darparu rhwng 20 a 49 a 50 awr neu fwy o ofal; dau y cant (54,000) a thri y cant (104,000) yn y drefn honno.

Fel gydag iechyd cyffredinol a phroblem iechyd neu anabledd hirdymor, gall hyn fod yn gysylltiedig â'r demograffeg pobl hŷn yng Nghymru o gymharu â rhanbarthau Lloegr.

Rhoddir gwybodaeth am ddarparu gofal di-dâl yn nhabl KS301EW (102 Kb Excel sheet).

Nôl i'r tabl cynnwys

20. Gweithgarwch economaidd

Ar gyfer y wybodaeth ystadegol hon, nodir gweithgarwch economaidd1 ar gyfer preswylwyr arferol rhwng 16 a 74 oed. Ystyrir bod preswylydd arferol yn weithgar yn economaidd os yw'n weithiwr cyflogedig, yn hunangyflogedig neu'n ddi-waith ond ei fod yn chwilio am waith ac yn gallu dechrau ymhen pythefnos. Yn 2011, roedd 66 y cant (1.5 miliwn) o breswylwyr arferol rhwng 16 a 74 oed (2.2 miliwn) yng Nghymru yn weithgar yn economaidd.

Roedd canran y bobl a oedd yn weithgar yn economaidd yng Nghymru yn is nag yn Lloegr (70 y cant, 38.9 miliwn).

Yn sgil ffactorau yn cynnwys newidiadau i'r dosbarthiad sylfaenol a gwelliannau i'r cwestiynau yn holiadur y cyfrifiad, ni ellir cymharu data ar ddiweithdra a gasglwyd yng Nghyfrifiad 2011 â 2001 yn uniongyrchol. Yn 2013, bydd SYG yn cyhoeddi dadansoddiad er mwyn helpu defnyddwyr i ddeall sut mae'r amcangyfrifon hyn wedi newid yn ystod y cyfnod 10 mlynedd.

Caiff gweithgarwch economaidd ei gategoreiddio'n grwpiau gwahanol2 fel y dangosir yn Ffigur 8. Mae Ffigur 8 hefyd yn tynnu sylw at y gwahaniaethau yn y mathau o waith a wneir gan ddynion a merched sy'n weithgar yn economaidd a rhwng 16 a 74 oed. Yn 2011, roedd bron bedair gwaith yn fwy o ferched (35 y cant, 245,000) yn weithwyr cyflogedig rhan amser o gymharu â dynion (9 y cant, 68,000).

Rhoddir gwybodaeth am weithgarwch economaidd yn nhablau KS601EW (122.5 Kb Excel sheet) , KS602EW (122.5 Kb Excel sheet) a KS603EW (122.5 Kb Excel sheet) .

Oriau a weithiwyd

Lleihaodd nifer yr oriau a weithiwyd1 gan breswylwyr arferol cyflogedig rhwng 16 a 74 oed yng Nghymru yn gyffredinol rhwng 2001 a 2011. Yn 2001, roedd 15 y cant (177,000) o breswylwyr arferol cyflogedig rhwng 16 a 74 oed yn gweithio 49 awr neu fwy, a ostyngodd dri phwynt canran i 12 y cant (161,000) yn 2011. Yn yr un modd; yn 2001 roedd 60 y cant (709,000) o breswylwyr arferol cyflogedig rhwng 16 a 74 oed yn gweithio rhwng 31 a 48 awr, a ostyngodd ddau bwynt canran i 58 y cant (791,000) yn 2011.

Mae Ffigur 9 yn dangos y gwahaniaeth clir rhwng dynion a merched o ran nifer yr oriau a weithiwyd.

Rhoddir gwybodaeth am nifer yr oriau a weithiwyd yn nhabl KS604EW (126 Kb Excel sheet) .

Diweithdra

Yn 2011, nododd 5 y cant (97,000) o'r boblogaeth breswyl arferol yng Nghymru rhwng 16 a 74 oed a oedd yn weithgar yn economaidd eu bod yn ddi-waith1 yn y cyfrifiad. O'r rheini a nododd eu bod yn ddi-waith, nid oedd 15 y cant (15,000) erioed wedi gweithio ac roedd 40 y cant arall (38,000) wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir.

Yn sgil ffactorau yn cynnwys newidiadau i'r dosbarthiad sylfaenol a gwelliannau i'r cwestiynau yn holiadur y cyfrifiad, ni ellir cymharu data ar ddiweithdra a gasglwyd yng Nghyfrifiad 2011 â 2001 yn uniongyrchol. Yn 2013, bydd SYG yn cyhoeddi dadansoddiad er mwyn helpu defnyddwyr i ddeall sut mae'r amcangyfrifon hyn wedi newid yn ystod y cyfnod 10 mlynedd.

Roedd lefelau diweithdra yn amrywio rhwng rhanbarthau Lloegr o 8 y cant (1.0 miliwn) yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr i 5 y cant (127,000) yn Ne-orllewin Lloegr.

Rhoddir gwybodaeth am ddiweithdra fel y'i nodwyd yn y cyfrifiad yn nhablau KS601EW (122.5 Kb Excel sheet) , KS602EW (122.5 Kb Excel sheet) a KS603EW (122.5 Kb Excel sheet) .

Nodiadau ar gyfer - Gweithgarwch economaidd

  1. Yn sgil gwahaniaethau diffiniadol, ac am fod holiadur y cyfrifiad ei hun yn cael ei hunanlenwi gan bobl Cymru a Lloegr, gall amcangyfrifon y cyfrifiad o bobl sy’n gweithio fod yn wahanol i ffynonellau eraill oherwydd gall rhai ymatebwyr, er enghraifft, gynnwys gwaith gwirfoddol pan ofynnir iddynt am eu gwaith. Yr amcangyfrifon mwyaf awdurdodol a chyfredol o statws y farchnad lafur gan gynnwys cyflogaeth a diweithdra yw’r ystadegau ar y farchnad lafur a gyhoeddir gan SYG bob mis. Mae’r cyfrifiad yn ffordd werthfawr o roi darlun manwl o nodweddion y boblogaeth sy'n weithgar yn economaidd ar adeg y cyfrifiad.

  2. Gall myfyrwyr mewn addysg amser llawn a gweithwyr hunangyflogedig fod yn weithwyr rhan amser hefyd.

Nôl i'r tabl cynnwys

21. Cymwysterau

Mae'r dosbarthiad cymwysterau yn ei gwneud yn bosibl i lunio amcangyfrifon o ganran y boblogaeth sy'n cael y lefel uchaf o gymwysterau academaidd a galwedigaethol neu broffesiynol. Er nad oedd hwn yn gwestiwn newydd yn 2011, nid oes modd cymharu rhai o'r amcangyfrifon cymwysterau yn uniongyrchol â 2001. Mae hyn am sawl rheswm gan gynnwys newidiadau i'r lefel a bennir ar gyfer rhai cymwysterau ac ychwanegu blwch ticio cymwysterau tramor. Yn fras, caiff y lefelau eu categoreiddio fel a ganlyn:

  • Dim cymwysterau: Dim cymwysterau ffurfiol;

  • Lefel 1: 1-4 TGAU neu gymwysterau cyfatebol;

  • Lefel 2: 5 TGAU neu gymwysterau cyfatebol;

  • Prentisiaethau;

  • Lefel 3: 2 Safon Uwch neu fwy, neu gymwysterau cyfatebol;

  • Lefel 4 neu uwch: Gradd baglor neu gymhwyster cyfatebol, a chymwysterau uwch;

  • Cymwysterau eraill gan gynnwys cymwysterau tramor.

Yng Nghymru, y categori ymateb mwyaf yn 2011 oedd dim cymwysterau; 26 y cant (651,000) o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd, yn debyg i bump o ranbarthau Lloegr. Mae'r grŵp a nododd nad oedd ganddo unrhyw gymwysterau yn cynnwys pobl dros 16 oed a oedd yn dal i astudio h.y. rhai ymatebwyr nad oeddent wedi cwblhau eu haddysg.

Yr ail gategori mwyaf yng Nghymru oedd Lefel 4 ac uwch (24 y cant, 614,000) fel y dangosir yn Ffigur 10, wedi'i ddilyn gan Lefel 2 (16 y cant, 394,000).

Yn Nwyrain Lloegr, De-ddwyrain Lloegr, De-orllewin Lloegr a Llundain, roedd mwy o breswylwyr arferol â chymwysterau Lefel 4 ac uwch na heb unrhyw gymwysterau. Yn Llundain roedd mwy o breswylwyr arferol â chymwysterau Lefel 4 ac uwch na chymwysterau Lefel 2 neu ddim un cymhwyster.

Rhoddir gwybodaeth am gymwysterau yn nhabl KS501EW (116 Kb Excel sheet) .

Nôl i'r tabl cynnwys

22. Diwydiant a galwedigaeth

Yng Nghymru yn 2011, nododd 1.4 miliwn o breswylwyr arferol cyflogedig rhwng 16 a 74 oed eu diwydiant a'u galwedigaeth1.

Diwydiant

Fel y gellir ei weld yn Nhabl 9, y sector Manwerthu a chyfanwerthu oedd y cyflogwr mwyaf o'r grŵp 16 i 74 oed gydag 16 y cant (213,000) o breswylwyr arferol cyflogedig yn gweithio yn y sector hwn. I'r pegwn arall, y sector Mwyngloddio a chwarela sydd â'r nifer leiaf o weithwyr cyflogedig (llai nag 1 y cant, 3,000).

Yn sgil ffactorau yn cynnwys newidiadau i'r dosbarthiad sylfaenol a gwelliannau i'r cwestiynau yn holiadur y cyfrifiad, ni ellir cymharu data ar ddiweithdra a gasglwyd yng Nghyfrifiad 2011 â 2001 yn uniongyrchol. Yn 2013, bydd SYG yn cyhoeddi dadansoddiad er mwyn helpu defnyddwyr i ddeall sut mae'r amcangyfrifon hyn wedi newid yn ystod y cyfnod 10 mlynedd.

Yn ogystal â bod y prif ddiwydiant cyflogi yng Nghymru yn 2011, y sector Manwerthu a chyfanwerthu oedd y cyflogwr mwyaf ym mhob un o ranbarthau Lloegr hefyd bron - ac eithrio Llundain, lle'r sector Gweithgareddau eiddo tiriog, rhentu a busnes oedd â'r gweithlu mwyaf (19 y cant, 748,000).

Rhoddir gwybodaeth am ddiwydiant yn nhablau KS605EW (130 Kb Excel sheet) , KS606EW (130 Kb Excel sheet) a KS607EW (130 Kb Excel sheet) .

Galwedigaeth

Yn Nhabl 10, gellir gweld mai'r alwedigaeth1 â'r nifer fwyaf o ymatebwyr yng Nghymru yn 2011 oedd y grŵp Proffesiynol (16 y cant, 215,000), gyda Gweithredwyr prosesau, safleoedd a pheiriannau i'r pegwn arall (8 y cant, 112,000).

Yn sgil ffactorau yn cynnwys newidiadau i'r dosbarthiad sylfaenol a gwelliannau i'r cwestiynau yn holiadur y cyfrifiad, ni ellir cymharu data ar alwedigaethau a gasglwyd yng Nghyfrifiad 2011 â 2001 yn uniongyrchol. Yn 2013, bydd SYG yn cyhoeddi dadansoddiad er mwyn helpu defnyddwyr i ddeall sut mae'r amcangyfrifon hyn wedi newid yn ystod y cyfnod 10 mlynedd.

Rhoddir gwybodaeth am alwedigaethau yn nhablau KS608EW (113 Kb Excel sheet) , KS609EW (113 Kb Excel sheet) a KS610EW (113.5 Kb Excel sheet) .

Nodiadau ar gyfer - Diwydiant a galwedigaeth

  1. Yn sgil gwahaniaethau diffiniadol, ac am fod holiadur y cyfrifiad ei hun yn cael ei hunanlenwi gan bobl Cymru a Lloegr, gall amcangyfrifon y cyfrifiad o bobl sy’n gweithio fod yn wahanol i ffynonellau eraill oherwydd gall rhai ymatebwyr, er enghraifft, gynnwys gwaith gwirfoddol pan ofynnir iddynt am eu gwaith. Yr amcangyfrifon mwyaf awdurdodol a chyfredol o statws y farchnad lafur gan gynnwys cyflogaeth a diweithdra yw’r ystadegau ar y farchnad lafur a gyhoeddir gan SYG bob mis. Mae’r cyfrifiad yn ffordd werthfawr o roi darlun manwl o nodweddion y boblogaeth sy'n weithgar yn economaidd ar adeg y cyfrifiad.
Nôl i'r tabl cynnwys

23 .Nodiadau cefndirol

  1. Mae'r cyhoeddiad hwn yn dilyn Amcangyfrifon o Boblogaeth a Chartrefi Cyfrifiad 2011 ar gyfer Cymru. Mae'r cyfrifiad yn rhoi amcangyfrifon o nodweddion pob unigolyn a chartref yng Nghymru a Lloegr ar noson y cyfrifiad. Fe'u cynhyrchir ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddwyr gan gynnwys y llywodraeth, awdurdodau lleol ac unedol, busnesau a chymunedau. Mae'r cyfrifiad yn darparu ystadegau o'r boblogaeth o lefel genedlaethol i lefel leol. Mae'r bwletin hwn yn trafod y canlyniadau ar lefel genedlaethol i Gymru, gan gymharu rhywfaint o ddata â rhanbarthau Lloegr.

  2. Wrth wneud cymariaethau â 2001, cymharwyd amcangyfrifon o'r boblogaeth (yn ôl oedran a rhyw) â'r amcangyfrifon canol blwyddyn ar gyfer 2001. Ar gyfer nodweddion eraill, gwneir cymariaethau ag amcangyfrifon Cyfrifiad 2001. Mae'r ddwy ffynhonnell yn rhoi amcangyfrif wedi'i dalgrynnu o 2.9 miliwn o breswylwyr arferol yng Nghymru. Darperir nodiadau gyda'r tablau er mwyn nodi'r ffynonellau data a ddefnyddiwyd.

  3. Mae data o Gyfrifiad 2001 ar gael ar wefan Ystadegau Cymdogaeth. Rhoddir rhifau tablau perthnasol ym mhob ffeil i'w lawrlwytho yn y cyhoeddiad hwn.

  4. Mae delweddau data rhyngweithiol a ddatblygwyd gan SYG hefyd ar gael i helpu i ddehongli'r canlyniadau

  5. Bydd data pellach o Gyfrifiad 2011 yn cynnwys mwy o fanylion mewn croes-dablau, a thablau ar gyfer ardaloedd daearyddol eraill. Mae'r rhain yn cynnwys wardiau, ardaloedd iechyd, etholaethau seneddol, sectorau cod post a pharciau cenedlaethol. Mae rhagor o wybodaeth am ddata pellach ar gael ar lein ym Mhrosbectws Cyfrifiad 2011.

  6. Yn sgil gwahaniaethau diffiniadol, ac am fod holiadur y cyfrifiad ei hun yn cael ei hunanlenwi gan bobl Cymru a Lloegr, gall amcangyfrifon y cyfrifiad o bobl sy'n gweithio fod yn wahanol i ffynonellau eraill oherwydd gall rhai ymatebwyr, er enghraifft, gynnwys gwaith gwirfoddol pan ofynnir iddynt am eu gwaith. Yr amcangyfrifon mwyaf awdurdodol a chyfredol o statws y farchnad lafur gan gynnwys cyflogaeth a diweithdra yw'r ystadegau ar y farchnad lafur a gyhoeddir gan SYG bob mis. Mae'r cyfrifiad yn ffordd werthfawr o roi darlun manwl o nodweddion y boblogaeth sy'n weithgar yn economaidd ar adeg y cyfrifiad.

  7. Mae SYG wedi sicrhau bod y data a gesglir yn diwallu anghenion defnyddwyr drwy ymgynghoriad helaeth ar allbynnau Cyfrifiad 2011 er mwyn sicrhau bod allbynnau Cyfrifiad 2011 o ddefnydd cynyddol wrth gynllunio gwasanaethau tai, addysg, iechyd a thrafnidiaeth mewn blynyddoedd i ddod.

  8. Mae unrhyw gyfeiriad at awdurdodau lleol yn cynnwys awdurdodau lleol ac awdurdodau unedol.

  9. Efallai na fydd ffigurau yn y cyhoeddiad hwn yn cydgrynhoi oherwydd talgrynnu.

  10. Mae swyddogion o Lywodraeth Cymru wedi bod ynghlwm wrth y broses o gynllunio Cyfrifiad 2011. Cynrychiolir Llywodraeth Cymru ar bob lefel o lywodraethu'r cyfrifiad. Yn arbennig, yn ystod 2011 a 2012, mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru wedi bod ynghlwm wrth y broses sicrhau ansawdd a chynlluniau ar gyfer ystadegau'r cyfrifiad.

  11. Gofynnodd holiaduron cyfrifiad Cymru a Lloegr yr un cwestiynau namyn un; gofynnwyd cwestiwn ychwanegol am yr iaith Gymraeg yn holiadur Cymru.

  12. SYG sy'n gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr. Cynhaliwyd cyfrifiadau gwahanol ar yr un pryd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Cafodd y rhain eu cynnal gan Gofnodion Cenedlaethol yr Alban (NRS) ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (NISRA) yn y drefn honno.

  13. SYG sy'n gyfrifol am gyhoeddi ystadegau'r DU (llunio ystadegau cymaradwy gan yr asiantaethau ystadegol uchod yn y DU). Caiff y rhain eu llunio wrth i'r tair asiantaeth ystadegol dan sylw gyhoeddi'r data perthnasol. Mae prosbectws cyfrifiad Gogledd Iwerddon a phrosbectws cyfrifiad yr Alban ar gael ar lein. Caiff amcangyfrifon poblogaeth cyntaf y DU eu rhyddhau ar 17 Rhagfyr 2012.

  14. Yn y rhan fwyaf o achosion, preswylfa arferol unigolyn yw'r cyfeiriad lle mae'n aros y rhan fwyaf o'r amser. I lawer o bobl, hwn fydd eu cartref parhaol neu gartref y teulu. Os nad oedd gan aelod o'r lluoedd arfog gyfeiriad parhaol na chyfeiriad y teulu lle mae'n byw fel arfer, nodwyd eu bod fel arfer yn byw yng nghyfeiriad y ganolfan.

  15. Diffinnir cartref fel un person sy’n byw ar ei ben ei hun neu grŵp o bobl (nad ydynt o reidrwydd yn perthyn i’w gilydd) sy’n byw yn yr un cyfeiriad sy’n rhannu cyfleusterau coginio ac sydd hefyd yn rhannu lolfa, ystafell fyw neu le bwyta.

  16. Caiff yr holl dermau allweddol a ddefnyddir yn y cyhoeddiad hwn, fel preswylydd a phreswylwyr byrdymor eu hegluro yng ngeirfa Cyfrifiad 2011. Mae gwybodaeth am Gynhyrchion Daearyddiaeth Cyfrifiad 2011 ar gyfer Cymru a Lloegr hefyd ar gael.

  17. Roedd holl amcangyfrifon poblogaeth y cyfrifiad yn destun proses sicrhau ansawdd helaeth, gan ddefnyddio ffynonellau gwybodaeth cenedlaethol a lleol eraill at ddiben eu cymharu a'u hadolygu gan gyfres o baneli sicrhau ansawdd. Cyhoeddwyd ystod eang o bapurau sicrhau ansawdd, gwerthuso a methodoleg ochr yn ochr â'r gyfres gyntaf o ddata ym mis Gorffennaf 2012 ac fe'u diweddarwyd yn y gyfres hon, gan gynnwys dogfen Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg (QMI). (152.8 Kb Pdf)

  18. Cyflawnodd Cyfrifiad 2011 ei gyfradd ymateb darged gyffredinol sef 94 y cant o'r boblogaeth breswyl arferol yng Nghymru a Lloegr, a thros 80 y cant ym mhob awdurdod lleol ac unedol. Amcangyfrifwyd poblogaeth Cymru a Lloegr sef 56.1 miliwn gyda chyfradd hyder o 95 y cant o fod yn gywir o fewn +/- 85,000 (0.15 y cant).

  19. Mae manylion y polisi ar ryddhau data newydd ar gael yn www.statisticsauthority.gov.uk/assessment/code-of-practice/index.html neu drwy anfon e-bost at y Swyddfa Cysylltiadau â'r Cyfryngau: media.relations@ons.gov.uk

    Caiff yr Ystadegau Gwladol hyn eu cynhyrchu yn unol â safonau proffesiynol uchel a'u rhyddhau yn unol â'r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r DU.

Nôl i'r tabl cynnwys

Manylion cyswllt ar gyfer y Bwletin ystadegol

Emma White
census.customerservices@ons.gov.uk
Ffôn: +44 (0)1329 444972