Tai, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Math o gartref, deiliadaeth, nifer yr ystafelloedd a’r ystafelloedd gwely, gwres canolog ac argaeledd car neu fan yng Nghymru a Lloegr, data Cyfrifiad 2021.

Hwn yw'r datganiad diweddaraf. Gweld datganiadau blaenorol

Census
This is an accredited National Statistic. Click for information about types of official statistics.

Cyswllt:
Email Beth Waddington

Dyddiad y datganiad:
5 January 2023

Cyhoeddiad nesaf:
I’w gyhoeddi

1. Prif bwyntiau

  • Ledled Cymru a Lloegr, roedd 77.9% (19.3 miliwn) o gartrefi yn byw mewn tŷ neu fyngalo, roedd 21.7% (5.4 miliwn) yn byw mewn fflat neu maisonette ac roedd 0.4% (104,000) yn byw mewn carafan, neu fath arall o strwythur symudol neu dros dro.
  • Cyfran y cartrefi sy'n byw mewn fflat neu maisonette a gynyddodd fwyaf dros y degawd, o 21.0% (4.9 miliwn) yn 2011 i 21.7% (5.4 miliwn) yn 2021.
  • Yn 2021, roedd 62.5% (15.5 miliwn) o gartrefi yn berchen ar y cartref roeddent yn byw ynddo, roedd 37.3% (9.3 miliwn) yn rhentu eu cartref ac roedd 0.1% (33,000) o gartrefi yn byw heb dalu rhent.
  • Ledled Cymru a Lloegr, roedd gan nifer tebyg, ond cyfran lai, o gartrefi lai o ystafelloedd gwely na'r hyn sydd ei angen (4.3%, 1.1 miliwn), o gymharu â 2011 (4.5%, 1.1 miliwn).
  • Nododd bron bob cartref bod ganddynt wres canolog yn 2021 (98.5%, 24.4 miliwn); o'r rhain, roedd 0.9% (233,000) yn defnyddio o leiaf un ffynhonnell o ynni adnewyddadwy.
  • Yn 2021, nid oedd gan 23.3% (5.8 miliwn) o gartrefi unrhyw geir na faniau (i lawr o 25.6%, 6.0 miliwn yn 2011).
Nôl i'r tabl cynnwys

2. Math o gartref (accommodation)

Yn 2021, roedd 24.8 miliwn o gartrefi yng Nghymru a Lloegr (1.3 miliwn yng Nghymru, 23.4 miliwn yn Lloegr), lle roed 58.6 miliwn o breswylwyr arferol (98.3% o'r holl breswylwyr arferol) yn byw. Mae nifer y cartrefi wedi cynyddu mwy nag 1.4 miliwn ers 2011 (o 23.4 miliwn).

Roedd y cyfrannau mewn mathau gwahanol o gartrefi yn debyg iawn drwy gydol y degawd o 2011 i 2021.

Roedd bron 8 o bob 10 cartref yn byw mewn tai neu fyngalos, ond gostyngodd y gyfran dros y degawd diwethaf (o 78.6%, 18.4 miliwn yn 2011 i 77.9%, 19.3 miliwn yn 2021).

Roedd data manylach yn dangos newidiadau bach yng nghyfran y cartrefi a oedd yn byw mewn mathau gwahanol o dŷ neu fyngalo gan gynnwys:

  • 7.8 miliwn o gartrefi (31.5% o bob cartref) a oedd yn byw mewn eiddo semi, i fyny o 31.3% (7.3 miliwn) yn 2011
  • 5.8 miliwn (23.2%) a oedd yn byw mewn eiddo ar wahân, i fyny o 5.3 miliwn (22.7%) yn 2011
  • 5.7 miliwn (23.2%) a oedd yn byw mewn eiddo teras, i lawr o 5.8 miliwn (24.6%) yn 2011

Ffigur 1: Math o gartref, 2021, Cymru a Lloegr, pob cartref

Embed code

Lawrlwytho'r data

.xlsx

Y cynnydd mwyaf a welwyd ar gyfer unrhyw fath o gartref oedd ar gyfer fflat neu maisonette. Yn 2021, roedd 21.7% (5.4 miliwn) o gartrefi mewn fflat neu maisonette, i fyny o 21.0% (4.9 miliwn) yn 2011.

Roedd y 0.4% (104,000) a oedd yn weddill yn gartrefi a oedd yn byw mewn carafan, neu fath arall o strwythur symudol neu dros dro. Roedd hyn yn debyg i'r gyfran yn 2011, ond gyda chynnydd yn y niferoedd (0.4%, 85,000).

Mae cyfran y mathau gwahanol o gartrefi yn gymharol debyg ledled Cymru a Lloegr. Yn Llundain y ceir yr eithriad mwyaf; roedd mwy na hanner y cartrefi yn Llundain yn byw mewn fflat neu maisonette (54.0%, 1.8 miliwn). Mae hyn yn uwch o lawer na phob rhanbarth arall yn Lloegr (gan amrywio o 21.6% yn Ne-ddwyrain Lloegr i 11.4% yn Nwyrain Canolbarth Lloegr) a Chymru (12.5%).

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Deiliadaeth

Deiliadaeth yw p'un a yw aelodau cartref yn berchen ar y cartref y maent yn byw ynddo neu'n ei rentu. Gofynnwyd i aelodau cartrefi a oedd yn rhentu eu cartref pa fath o landlord sy'n berchen arno neu sy'n ei reoli.

Mae data'r cyfrifiad ar ddeiliadaeth yng Nghymru a Lloegr yn dangos:

  • gostyngiad yng nghyfran y cartrefi a oedd yn berchen ar eu cartref eu hunain, i 62.5%, 15.5 miliwn, yn 2021 (o 64.3%, 15.0 miliwn, yn 2011)
  • cynnydd yng nghyfran y cartrefi a oedd yn rhentu eu cartref, i 37.3%, 9.3 miliwn, yn 2021 (o 34.3%, 8.0 miliwn, yn 2011)
  • gostyngiad yng nghyfran y cartrefi a oedd yn byw heb dalu rhent, i 0.1%, 33,000, yn 2021 (o 1.4%, 315,000, yn 2011)

Gellir dadansoddi'r data ar berchentyaeth a rhentu cartrefi ymhellach i ddangos:

  • bod 32.8% o gartrefi (8.1 miliwn) yn berchen ar y cartref roeddent yn byw ynddo yn gyfan gwbl, i fyny o 30.8% (7.2 miliwn) yn 2011
  • bod 29.7% (7.4 miliwn) yn berchen ar eu cartref gyda morgais neu fenthyciad neu gynllun rhanberchnogaeth, sy'n gyfran lai nag yn 2011 (33.5%, 7.8 miliwn)
  • bod 20.3% (5.0 miliwn) yn rhentu eu cartref yn breifat, i fyny o 16.7% (3.9 miliwn) yn 2011
  • bod 17.1% (4.2 miliwn) yn y sector rhentu'n gymdeithasol, er enghraifft drwy gyngor lleol neu gymdeithas dai; mae hon yn gyfran lai nag yn 2011 (17.6%, 4.1 miliwn)

Sut roedd deiliadaeth yn amrywio ledled Cymru a Lloegr

Roedd perchentyaeth gyffredinol (canran y cartrefi a oedd yn berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl neu gyda morgais, benthyciad neu gynllun rhanberchnogaeth) yn uwch yng Nghymru (66.4%) nag yn Lloegr (62.3%). Roedd perchentyaeth wedi gostwng ychydig yn y ddwy wlad ers 2011 (o 67.8% yng Nghymru a 64.1% yn Lloegr).

Ffigur 2: Math o ddeiliadaeth, 2021, Cymru a Lloegr a rhanbarthau Lloegr, pob cartref

Embed code

Lawrlwytho'r data

.xlsx

Roedd gan ddau ranbarth yn Lloegr gyfraddau uwch o berchentyaeth gyffredinol na Chymru: De-ddwyrain Lloegr (67.1%) a De-orllewin Lloegr (67.0%). Fodd bynnag, roedd gan Gymru ganran uwch o'r rheini a oedd yn berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl (38.0%) o gymharu ag unrhyw ranbarth yn Lloegr.

Yn Lloegr, yn Llundain y gwelwyd y lefel isaf o berchentyaeth gyffredinol (46.8%) o blith rhanbarthau Lloegr. Yn Llundain y gwelwyd y gyfran uchaf o gartrefi a oedd yn rhentu'n breifat hefyd (30.0%) neu yn y sector rhentu'n gymdeithasol (23.1%).

Yng Nghymru, roedd perchentyaeth gyffredinol yn amrywio o 58.3% yng Nghaerdydd i 72.3% yn Sir Fynwy. Caerdydd oedd â'r gyfran uchaf o gartrefi a oedd yn rhentu eu cartref yn breifat (24.3%) a Thorfaen oedd â'r ganran uchaf o gartrefi yn y sector rhentu'n gymdeithasol (23.8%).

Ffigur 3: Math o ddeiliadaeth, 2021, awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr

Embed code

Source: Office for National Statistics – Census 2021
Lawrlwytho'r data

.xlsx

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Ystafelloedd, ystafelloedd gwely a chyfraddau defnydd

Ystafelloedd

Defnyddiodd Cyfrifiad 2021 ddata Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) i gyfrif nifer yr ystafelloedd mewn annedd. Roedd hyn yn lle defnyddio'r dull o gyfrifiadau blaenorol o ofyn y cwestiwn ar ffurflen y cyfrifiad. Caiff pob ystafell mewn annedd heblaw ystafelloedd ymolchi, toiledau, cynteddau neu landins, ceginau, ystafelloedd gwydr neu ystafelloedd amlbwrpas eu cyfrif. Ar gyfer cartrefi sy'n byw mewn annedd sy'n cael ei rhannu, caiff nifer yr ystafelloedd eu cyfrif ar gyfer yr annedd gyfan ac nid y cartref unigol.

Ledled Cymru a Lloegr, roedd gan 10.9% (2.7 miliwn) o gartrefi un neu ddwy ystafell, roedd gan 74.1% (18.4 miliwn) dair, pedair neu bump ystafell, roedd gan 13.9% (3.5 miliwn) chwech, saith neu wyth ystafell ac roedd gan 1.1% (278,000) naw neu fwy o ystafelloedd.

Mae dull Asiantaeth y Swyddfa Brisio o gyfrif nifer yr ystafelloedd yn wahanol mewn sawl ffordd i'r dull a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Er enghraifft, mae dull Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cynnwys ystafelloedd storio (nad oeddent wedi'u cynnwys yng Nghyfrifiad 2011) ond nid yw'n cynnwys ceginau, ystafelloedd gwydr ac ystafelloedd amlbwrpas (a oedd wedi'u cynnwys yng Nghyfrifiad 2011). Oherwydd hyn, ni ddylid cymharu data Cyfrifiad 2021 ar nifer yr ystafelloedd â'r data cyfatebol o Gyfrifiad 2011. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein herthygl sy'n cynnwys Amcangyfrif o nifer yr ystafelloedd yng Nghyfrifiad 2021: diweddariad ar ddulliau priodoli ar gyfer data Asiantaeth y Swyddfa Brisio (yn Saesneg).

Ystafelloedd gwely

Fel yn 2011, roedd Cyfrifiad 2021 yn gofyn yn uniongyrchol am nifer yr ystafelloedd gwely a oedd ar gael i'r cartref.

Mae'r data yn dangos bod cyfran y cartrefi ag un, dwy neu dair ystafell wely wedi gostwng dros y degawd diwethaf, a bod y gyfran â phedair neu bump ystafell wely wedi cynyddu:

  • roedd gan 11.4% (2.8 miliwn) o gartrefi un ystafell wely (i lawr o 11.8%, 2.8 miliwn yn 2011)
  • roedd gan 27.1% (6.7 miliwn) ddwy ystafell wely (i lawr o 27.6%, 6.5 miliwn yn 2011)
  • roedd gan 40.4% (10.0 miliwn) dair ystafell wely (i lawr o 41.6%, 9.7 miliwn yn 2011)
  • roedd gan 21.1% (5.2 miliwn) bedair neu bump ystafell wely (i fyny o 19.0%, 4.4 miliwn yn 2011)

Roedd canran y cartrefi oedd â thair ystafell wely yn uwch yng Nghymru (48.0%) nag yn Lloegr (40.0%), ac roedd canran y cartrefi oedd â phedair neu fwy o ystafelloedd gwely ychydig yn uwch yn Lloegr (21.1%) nag yng Nghymru (20.6%).

Gorlenwi a thanfeddiannu

Mae’r gyfradd defnydd yn rhoi mesur o b’un a yw cartref wedi’i orlenwi neu ei danfeddiannu.

Mae cyfradd defnydd o negatif 1 neu lai yn nodi bod gan gartref lai o ystafelloedd gwely na'r gofyniad safonol, mae negatif 1 yn nodi bod ganddo fwy o ystafelloedd gwely na'r hyn sydd ei angen, ac mae 0 yn nodi ei fod yn bodloni'r safon ofynnol. Ceir rhagor o wybodaeth am y diffiniad ar gyfer defnydd o ystafelloedd gwely yn yr Eirfa.

Ledled Cymru a Lloegr, roedd gan 4.3% o gartrefi (1.1 miliwn) lai o ystafelloedd gwely na'r hyn sydd ei angen, i lawr o 4.5% (1.1 miliwn) yn 2011. Roedd gan tua 26.5% (6.6 miliwn) y nifer gofynnol o ystafelloedd gwely, ac roedd gan y 69.2% (17.2 miliwn) yn weddill o gartrefi fwy o ystafelloedd gwely na'r hyn sydd ei angen.

Yng Nghymru, roedd cyfran y cartrefi oedd â llai o ystafelloedd gwely na'r hyn oedd ei angen (2.2%, 30,000) yn is nag yn Lloegr (4.4%, 1.0 miliwn). Yn y ddwy wlad, mae'r gyfran wedi gostwng ers 2011, pan oedd yn 2.9%, (38,000) yng Nghymru, a 4.6%, (1.0 miliwn) yn Lloegr.

I'r gwrthwyneb, roedd cyfran y cartrefi oedd â mwy o ystafelloedd gwely na'r hyn oedd ei angen yn uwch yng Nghymru (76.3%, 1.0 miliwn) nag yn Lloegr (68.8%, 16.1 miliwn).

Ffigur 4: Cyfradd y defnydd o ystafelloedd gwely, 2011 a 2021, Cymru a Lloegr

Embed code

Lawrlwytho'r data

.xlsx

O blith rhanbarthau Lloegr, Llundain oedd â'r gyfran uchaf o gartrefi oedd â llai o ystafelloedd gwely na'r hyn sydd ei angen (11.1%, 380,000). Roedd hyn ar ei huchaf ar gyfer awdurdodau lleol Newham (21.5%, 25,000) a Barking a Dagenham (17.8%, 13,000).

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Gwres canolog

Nododd y mwyafrif helaeth o gartrefi ledled Cymru a Lloegr bod ganddynt wres canolog yn 2021 (98.5%, 24.4 miliwn). Fodd bynnag, nid oedd gan 1.5% (367,000) o gartrefi unrhyw wres canolog.

Yr ymatebion mwyaf cyffredin oedd prif gyflenwad nwy (73.8%, 18.3 miliwn), dau neu fwy o fathau o wres canolog (heb gynnwys ynni adnewyddadwy; 8.5%, 2.1 miliwn) a thrydan (8.5%, 2.1 miliwn).

Ffigur 5: Mathau o wres canolog, 2021, Cymru a Lloegr

Embed code

Nodiadau:
  1. Mae’r categori “Gwers canolog arall” hefyd yn cynnwys “Nwy tanc neu botel yn unig”, “Olew yn unig”, “Pren yn unig” a “Tanwydd solet yn unig”.
Lawrlwytho'r data

.xlsx

Cartrefi heb unrhyw wres canolog

Roedd gan Loegr gyfran uwch o gartrefi heb unrhyw wres canolog (1.5%, 352,000) o gymharu â Chymru (1.2%, 15,000).

Ledled y ddwy wlad, yr awdurdod lleol oedd â'r gyfran uchaf o gartrefi heb unrhyw wres canolog oedd Ynysoedd Scilly (17.5%). Roedd hyn bron 12 gwaith yn uwch na'r amcangyfrif cenedlaethol, a mwy na phedair gwaith yn uwch na'r gyfradd yn yr awdurdod lleol nesaf uchaf, Westminster (3.9%).

Yng Nghymru, Gwynedd oedd â'r gyfradd uchaf o gartrefi heb unrhyw wres canolog (3.2%), sydd fwy na dwywaith yr amcangyfrif ar gyfer Cymru gyfan. Nesaf roedd Ceredigion (2.6%) ac Ynys Môn (2.3%).

Ynni adnewyddadwy

Am y tro cyntaf, cofnododd Cyfrifiad 2021 a oedd gwres canolog cartref yn defnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy. Roedd 0.9% o gartrefi yng Nghymru a Lloegr (233,000) yn defnyddio o leiaf un ffynhonnell o ynni adnewyddadwy. Nododd 0.5% (135,000) eu bod yn defnyddio ynni adnewyddadwy ynghyd â math arall o wres canolog, ac roedd y 0.4% (99,000) sy'n weddill ond yn defnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy.

Roedd cyfran y cartrefi a oedd yn defnyddio o leiaf un ffynhonnell o ynni adnewyddadwy ychydig yn uwch yng Nghymru (1.1%, 14,000) nag yn Lloegr (0.9%, 219,000).

Ledled y ddwy wlad, yr awdurdod lleol oedd â'r gyfran uchaf o gartrefi a oedd yn defnyddio o leiaf un ffynhonnell o ynni adnewyddadwy oedd Ynysoedd Scilly (6.1%), yna Ceredigion (4.1%). Hefyd, Ceredigion oedd â'r ganran uchaf o gartrefi a oedd ond yn defnyddio ynni adnewyddadwy (2.6%).

Yr awdurdod lleol oedd â'r ganran isaf o gartrefi a oedd yn defnyddio unrhyw ffynhonnell o ynni adnewyddadwy oedd Blackpool (0.2%).

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Argaeledd car neu fan

Fel mewn cyfrifiadau blaenorol, gofynnodd Cyfrifiad 2021 i gartrefi faint o geir neu faniau oedd aelodau'r cartref yn berchen arnynt neu a oedd ar gael iddynt. Yn 2021:

  • nid oedd gan 23.3% (5.8 miliwn) o gartrefi unrhyw geir na faniau (i lawr o 25.6%, 6.0 miliwn yn 2011)
  • roedd gan 41.3% (10.2 miliwn) un car neu fan (i lawr o 42.2%, 9.9 miliwn yn 2011)
  • roedd gan 26.2% (6.5 miliwn) ddau gar neu fan (i fyny o 24.7%, 5.8 miliwn yn 2011)
  • roedd gan 9.2% (2.3 miliwn) dri neu fwy o geir neu faniau (i fyny o 7.4%, 1.7 miliwn yn 2011)

Gostyngodd canran y cartrefi heb unrhyw geir na faniau dros y degawd diwethaf yng Nghymru (19.4% yn 2021, 22.9% yn 2011) a Lloegr (23.5% yn 2021, 25.8% yn 2011).

Roedd gan Lundain ganran uwch o gartrefi heb unrhyw geir na faniau (42.1%) na Chymru a rhanbarthau eraill Lloegr. Roedd yr awdurdodau lleol oedd â'r canrannau uchaf o gartrefi heb unrhyw geir na faniau i gyd yn Llundain hefyd, gyda Dinas Llundain (77.2%), Islington (66.9%), a Tower Hamlets (66.4%) ar frig y rhestr.

Ffigur 6: Argaeledd car neu fan, 2021, Cymru, Lloegr, a rhanbarthau Lloegr

Embed code

Lawrlwytho'r data

.xlsx

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Sut roedd tai yn amrywio ledled Cymru a Lloegr

Defnyddiwch Map y Cyfrifiad (yn Saesneg) i weld y dosbarthiad o newidynnau tai hyd at lefel cymdogaeth.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Cyhoeddiadau yn y dyfodol

Caiff data a dadansoddiadau manylach ar dai eu cyhoeddi yn y misoedd i ddod, a chaiff data amlamryweb a data am anheddau eu rhyddhau. Darllenwch fwy am ein cynlluniau dadansoddi tai (yn Saesneg) a'n cynlluniau datganiadau ar gyfer Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol.

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Tai, Cymru a Lloegr: data

Math o gartref (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 5 Ionawr 2023
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu cartrefi yng Nghymru a Lloegr yn ôl y math o gartref. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.

Argaeledd car neu fan (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 5 Ionawr 2023
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 am nifer y ceir neu'r faniau sydd ar gael i aelodau cartrefi yng Nghymru a Lloegr. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.

Gwres canolog (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 5 Ionawr 2023
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu lleoedd cartref â rhywun yn byw ynddynt yng Nghymru a Lloegr yn ôl y math o wres canolog sydd yno. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.

Nifer yr ystafelloedd gwely (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 5 Ionawr 2023
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu pob lle cartref ag o leiaf un preswylydd arferol yng Nghymru a Lloegr yn ôl nifer yr ystafelloedd gwely. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.

Nifer yr ystafelloedd (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 5 Ionawr 2023
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu pob lle cartref ag o leiaf un preswylydd arferol yng Nghymru a Lloegr yn ôl nifer yr ystafelloedd. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.

Y defnydd o ystafelloedd gwely (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 5 Ionawr 2023
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu cartrefi yng Nghymru a Lloegr yn ôl nifer yr ystafelloedd gwely yn y cartref a'r defnydd ohonynt. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.

Y defnydd o ystafelloedd (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 5 Ionawr 2023
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu cartrefi yng Nghymru a Lloegr yn ôl nifer yr ystafelloedd yn y cartref a'r defnydd ohonynt. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.

Deiliadaeth (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 5 Ionawr 2023
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu cartrefi yng Nghymru a Lloegr yn ôl deiliadaeth. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Geirfa

Math o gartref (accommodation)

Y math o adeilad neu gartref a gaiff ei ddefnyddio neu sydd ar gael i unigolyn neu gartref. Gallai hyn gynnwys:

  • tŷ neu fyngalo cyfan
  • fflat neu maisonette
  • cartref symudol neu dros dro, fel carafán

Tŷ neu fyngalo cyfan

Nid yw’r math hwn o eiddo wedi’i rannu yn fflatiau nac yn fan arall lle mae rhywun yn byw. Mae tri math o dŷ neu fyngalo cyfan.

Adeilad ar wahân

Nid oes unrhyw ran o’r man lle mae rhywun yn byw ynghlwm wrth eiddo arall ond gall fod ynghlwm wrth garej.

Tŷ neu fyngalo semi

Mae’r man lle mae rhywun yn byw ynghlwm wrth dŷ neu fyngalo arall ac yn rhannu wal gyffredin.

Tŷ neu fyngalo mewn teras

Mae tŷ yng nghanol teras rhwng dau dŷ arall ac yn rhannu dwy wal gyffredin. Mae tŷ ar ben teras yn rhan o ddatblygiad teras ond dim ond un wal gyffredin a rennir.

Fflatiau a maisonettes

Fflat â dau lawr yw maisonette.

Math o ddeiliadaeth

P’un a yw aelodau cartref yn berchen ar y cartref y maent yn byw ynddo neu’n ei rentu.

Gall cartref sy’n eiddo i berchen-feddiannydd gynnwys y canlynol:

  • yn berchen arno’n gyfan gwbl, lle mae aelodau o’r cartref yn berchen ar yr holl gartref
  • gyda morgais neu fenthyciad
  • yn berchen arno’n rhannol â chynllun rhanberchnogaeth

Gall cartref sy’n cael ei rentu gynnwys y canlynol:

  • wedi’i rentu’n breifat, er enghraifft, drwy landlord preifat neu asiantaeth gosod
  • wedi’i rentu’n gymdeithasol drwy gyngor lleol neu gymdeithas dai

Nid yw’r wybodaeth hon ar gael ar gyfer lleoedd cartref lle nad oes unrhyw breswylwyr arferol.

Math o wres

System ar gyfer cynhesu sawl ystafell mewn adeilad drwy gylchdroi aer neu ddŵr wedi’i wresogi drwy bibellau i wresogyddion neu awyrellau yw gwres canolog. Gall ffynonellau tanwydd unigol neu luosog gyflenwi’r systemau hyn.

Caiff systemau gwres canolog nad ydynt yn cael eu defnyddio neu nad ydynt yn gweithio eu hystyried o hyd. Nid oes gwybodaeth ar gael ar gyfer lleoedd cartref lle nad oes unrhyw breswylwyr arferol.

Cartref

Diffinnir cartref fel:

  • un person sy’n byw ar ei ben ei hun, neu

  • grŵp o bobl (nad ydynt o reidrwydd yn perthyn i’w gilydd) sy’n byw yn yr un cyfeiriad sy’n rhannu cyfleusterau coginio ac yn rhannu ystafell fyw neu lolfa neu ardal fwyta

Mae hyn yn cynnwys:

  • unedau llety gwarchod mewn sefydliad (ni waeth p’un a oes cyfleusterau cymunedol eraill ai peidio),
  • pob person sy’n byw mewn carafán ar unrhyw fath o safle sy’n breswylfa arferol iddo; bydd hyn yn cynnwys unrhyw un nad oes ganddo breswylfa arferol rywle arall yn y Deyrnas Unedig

Rhaid i gartref gynnwys o leiaf un person y mae ei breswylfa arferol yn y cyfeiriad hwnnw. Ni chaiff grŵp o breswylwyr byrdymor sy’n byw gyda’i gilydd eu cyfrif yn gartref, nac ychwaith grŵp o bobl mewn cyfeiriad sy’n cynnwys ymwelwyr yn unig.

Nifer yr ystafelloedd gwely

Nifer yr ystafelloedd gwely sydd ar gael i’w defnyddio mewn cartref. Nid yw’r nifer hwn ar gael ar gyfer lleoedd cartref lle nad oes unrhyw breswylwyr arferol.

Nifer yr ystafelloedd (Asiantaeth y Swyddfa Brisio)

Gall ystafell fod yn unrhyw ystafell mewn annedd heblaw am ystafelloedd gwely, toiledau, cynteddau neu landins, ceginau, ystafelloedd gwydr neu ystafelloedd amlbwrpas. Mae pob ystafell arall, er enghraifft ystafelloedd byw, stydis, ystafelloedd gwely, ystafelloedd bwyta ar wahân ac ystafelloedd y gellir ond eu cynnwys fel storfa, wedi’u cynnwys. Os yw dwy ystafell wedi’u trosi’n un, cânt eu cyfrif fel un ystafell.

Caiff nifer yr ystafelloedd eu cyfrif fesul cyfeiriad. Mae hyn yn golygu, ar gyfer cartrefi sy’n byw mewn annedd sy’n cael ei rhannu, y caiff nifer yr ystafelloedd eu cyfrif ar gyfer yr annedd gyfan ac nid y cartref unigol.

Mae’r diffiniad hwn yn seiliedig ar ddiffiniad Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Y defnydd o ystafelloedd gwely

P’un a yw’r llety mewn cartref yn orlawn, yn cynnwys y nifer delfrydol o bobl neu wedi’i danfeddiannu. Caiff hyn ei gyfrifo drwy gymharu nifer yr ystafelloedd sydd eu hangen ar y cartref â nifer yr ystafelloedd sydd ar gael.

Mae nifer yr ystafelloedd sydd eu hangen ar gartref yn defnyddio fformiwla sy’n nodi:

  • bod angen tair ystafell ar gartrefi ag un person, sy’n cynnwys dwy ystafell gyffredin ac un ystafell wely
  • bod angen o leiaf ddwy ystafell gyffredin ac ystafell wely ar gyfer pob person mewn cartrefi sydd â dau berson neu fwy, yn unol â’r Safon Ystafelloedd Gwely

Pobl a ddylai gael eu hystafell eu hunain yn ôl y Safon Ystafelloedd Gwely:

  1. Pâr priod neu gwpwl sy’n cyd-fyw

  2. Rhiant sengl

  3. Person 16 oed neu drosodd

  4. Pâr o bobl o’r un rhyw rhwng 10 a 15 oed

  5. Person rhwng 10 a 15 oed gyda phlentyn dan 10 oed o’r un rhyw

  6. Pâr o blant dan 10 oed, ni waeth beth fo’u rhyw

  7. Person dan 16 oed na all rannu ystafell wely â rhywun yn 4, 5 neu 6 uchod

Mae cyfradd deiliadaeth o:

  • -1 neu lai yn nodi bod llai o ystafelloedd mewn cartref na’r hyn sydd ei angen (gorlawn)
  • +1 neu fwy yn nodi bod mwy o ystafelloedd mewn cartref na’r hyn sydd ei angen (tanfeddiannu)
  • 0 yn awgrymu bod y nifer delfrydol o ystafelloedd mewn cartref pobl a ddylai gael eu hystafell eu hunain yn ôl y Safon Ystafelloedd Gwely

Preswylydd arferol

Ar gyfer Cyfrifiad 2021, ystyr preswylydd arferol y Deyrnas Unedig yw unrhyw un a oedd, ar ddiwrnod y cyfrifiad, yn y Deyrnas Unedig ac wedi aros neu’n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am gyfnod o 2021 mis neu fwy, neu oedd â chyfeiriad parhaol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac yn bwriadu aros y tu allan i’r Deyrnas Unedig am lai na 12 mis.

Nôl i'r tabl cynnwys

11. Mesur y data

Dyddiad cyfeirio

Mae’r cyfrifiad yn rhoi amcangyfrifon o nodweddion pob unigolyn a chartref yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021. Caiff ei gynnal unwaith bob 10 mlynedd ac mae’n rhoi’r amcangyfrif mwyaf cywir o’r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr i ni.

Rydym yn gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, ond byddwn hefyd yn rhyddhau allbynnau ar gyfer y Deyrnas Unedig mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cofnodion Cenedlaethol yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon. Cafodd y cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon ei gynnal ar 21 Mawrth 2021 hefyd, ond cafodd cyfrifiad yr Alban ei symud i 20 Mawrth 2022. Mae holl swyddfeydd y cyfrifiad yn y Deyrnas Unedig yn gweithio’n agos i ddeall sut y bydd y gwahaniaeth hwn mewn dyddiadau cyfeirio yn effeithio ar ystadegau poblogaeth a thai’r Deyrnas Unedig gyfan, o ran yr amseru a’r cwmpas.

Cyfradd ymateb

Cyfradd ymateb unigolion (yn Saesneg) yw nifer y preswylwyr arferol y cafodd manylion unigol eu darparu ar eu cyfer ar holiadur a ddychwelwyd, wedi’i rannu ag amcangyfrif o’r boblogaeth breswyl arferol.

Y gyfradd ymateb unigolion ar gyfer Cyfrifiad 2021 oedd 97% o boblogaeth breswyl arferol Cymru a Lloegr, a dros 88% ym mhob awdurdod lleol. Cafodd y rhan fwyaf o ffurflenni (89%) eu derbyn ar lein. Gwnaeth y gyfradd ymateb ragori ar ein targed, sef 94% yn gyffredinol ac 80% ym mhob awdurdod lleol.

Darllenwch fwy am gyfraddau ymatebion ar gyfer cwestiynau penodol ar lefel awdurdod lleol yn Adran 4 o’n mesurau sy’n dangos ansawdd amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Nôl i'r tabl cynnwys

12. Cryfderau a chyfyngiadau

Ceir ystyriaethau o ansawdd ynghyd â chryfderau a chyfyngiadau Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol yn ein hadroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021. Darllenwch fwy am wybodaeth am ansawdd y data ar dai o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Ceir rhagor o wybodaeth am ein prosesau sicrhau ansawdd eraill yn ein hadroddiad Sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o’r ansawdd gorau posibl (yn Saesneg).

Nôl i'r tabl cynnwys

13. Dolenni cysylltiedig

Map y cyfrifiad (yn Saesneg)
Cynnwys rhyngweithiol | Diweddarwyd ar 5 Ionawr 2023
Adnodd map rhyngweithiol sy’n delweddu data Cyfrifiad 2021 ar bynciau gwahanol i lawr i ardal awdurdod lleol a lefel cymdogaeth.

Gwybodaeth am ansawdd tai o Gyfrifiad 2021 (yn Saesneg)
Methodoleg | Rhyddhawyd ar 5 Ionawr 2023
Gwybodaeth hysbys am ansawdd sy’n effeithio ar ddata am dai o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr.

Newidynnau tai, Cyfrifiad 2021
Gwybodaeth ategol | Rhyddhawyd ar 4 Ionawr 2023
Newidynnau a dosbarthiadau a ddefnyddir yn nata Cyfrifiad 2021 am dai.

Tai yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)
Prif ddatganiad | Rhyddhawyd ar 5 Ionawr 2023
Crynodeb gan Lywodraeth Cymru o ddata Cyfrifiad 2021 ar dai yng Nghymru.

Nôl i'r tabl cynnwys

14. Cyfeirio at y bwletin ystadegol hwn

Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rhyddhawyd ar 5 Ionawr 2023, gwefan SYG, bwletin ystadegol, Tai, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Nôl i'r tabl cynnwys

Manylion cyswllt ar gyfer y Bwletin ystadegol

Beth Waddington
census.customerservices@ons.gov.uk
Ffôn: +44 1329 444972