Roedd poblogaeth breswyl arferol Cymru yn 3,107,500 ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021. Dyma'r boblogaeth fwyaf a gofnodwyd erioed drwy gyfrifiad yng Nghymru – cynnydd o 44,000 (1.4%) o gymharu â Diwrnod y Cyfrifiad yn 2011.

Fodd bynnag, roedd cyfradd twf y boblogaeth yng Nghymru yn sylweddol is nag yn Lloegr, lle cynyddodd y boblogaeth 6.6%. Roedd twf y boblogaeth hefyd yn is yng Nghymru nag yn holl ranbarthau Lloegr.

Casnewydd oedd yr awdurdod lleol a dyfodd gyflymaf yng Nghymru ers 2011, sef 9.5%. Caerdydd (4.7%) oedd â'r ail gyfradd uchaf o dwf yn y boblogaeth, ac yna Pen-y-bont ar Ogwr (4.5%).

Roedd gan sawl awdurdod lleol boblogaethau is yn 2021 nag yn 2011. Roedd y cyfraddau mwyaf o leihad yn y boblogaeth ers 2011 yng Ngheredigion (5.8%), Blaenau Gwent (4.2%) a Gwynedd (3.7%).

Gan sôn am ffigurau cyfrifiad heddiw ar gyfer Cymru, dywedodd Cyfarwyddwr y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Jen Woolford:

“Mae ystadegau'r cyfrifiad heddiw yn dechrau creu ciplun cyfoethog a manwl o'r genedl a sut roeddem yn byw yn ystod y pandemig. Maent yn dangos, er bod poblogaeth gyffredinol Cymru wedi parhau i dyfu yn ystod y degawd, nid dyna'r achos ym mhob awdurdod lleol yn y wlad.

“Mae'r boblogaeth wedi lleihau ers y cyfrifiad diwethaf mewn rhanbarthau gwledig a/neu arfordirol fel Ceredigion, Blaenau Gwent a Gwynedd. Roedd ardaloedd gwledig hefyd yn tueddu i gael poblogaethau hŷn a dwysedd poblogaeth is, yn enwedig Powys. Mae'r rhannau ieuengaf a mwyaf poblog o Gymru i gyd mewn ardaloedd trefol yn y de, fel Caerdydd a Chasnewydd.

“Yn y pen draw, bydd y gyfres lawn o ganlyniadau'r cyfrifiad, yn seiliedig ar y wybodaeth a roddwyd gan bob un ohonom, yn sicrhau bod penderfyniadau ynghylch y biliynau o bunnoedd rydym yn eu gwario bob blwyddyn fel cenedl yn cael eu gwneud gan ddefnyddio’r dystiolaeth orau bosibl. Mae hyn yn cynnwys cynllunio ein gwasanaethau brys, gofal iechyd meddwl, lleoedd mewn ysgolion, gwelyau mewn ysbytai, tai, ffyrdd, bysiau, trenau, tramiau, meddygfeydd a gwasanaethau deintyddol.”

Ychwanegodd Jen: “Ers diwrnod y cyfrifiad, mae'r byd wedi parhau i newid. Mae pobl yn parhau i symud tŷ, bydd rhai pobl wedi gadael y wlad, bydd eraill wedi cyrraedd. Bydd pobl wedi newid swyddi, mae rhai ohonom yn gweithio mewn swyddfeydd unwaith eto, tra bo eraill yn parhau i weithio gartref.

“Mae angen i ni ddeall hyn i gyd a mwy. Mae'r canlyniadau o Gyfrifiad 2021 – ac mae llawer mwy i ddod – felly'n cynnig pont bwysig o'r gorffennol i'r dyfodol wrth i ni ddarparu ystadegau mwy rheolaidd, perthnasol ac amserol gan ddefnyddio data o bob rhan o'r llywodraeth i'n galluogi i ddeall newidiadau yn y boblogaeth mewn ardaloedd lleol eleni a thu hwnt.”

Yr awdurdod lleol â'r boblogaeth fwyaf yn 2021 oedd Caerdydd, oedd â 362,400 o breswylwyr arferol. Yr awdurdod lleol â'r boblogaeth leiaf oedd Merthyr Tudful (58,800).

Gallwch ddysgu mwy am y ffordd y mae'r boblogaeth wedi newid mewn ardaloedd awdurdod lleol gwahanol a sut maent yn cymharu â rhai eraill ledled Cymru a Lloegr yn ein herthygl ryngweithiol.

Canfyddiadau allweddol eraill:

  • Roedd 1,586,600 o fenywod (51.1% o'r boblogaeth) a 1,521,000 o ddynion (48.9%) yng Nghymru.

  • Mae poblogaeth Cymru yn heneiddio, gan fod 21.3% o bobl yn 65 a throsodd, o gymharu ag 18.4% ddegawd ynghynt.

  • Roedd 1,347,100 o gartrefi yng Nghymru ar Ddiwrnod y Cyfrifiad – cynnydd o 44,400 (3.4%) ers 2011, pan oedd 1,302,676 o gartrefi.

  • Roedd 150 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr yng Nghymru yn 2021. Mae hyn tua'r un faint â 1.1 preswylydd fesul darn o dir maint cae pêl-droed.

Y ffigurau hyn am y boblogaeth a chartrefi yw'r rhai cyntaf mewn cyfres o ddata Cyfrifiad 2021 a gaiff eu rhyddhau dros y ddwy flynedd nesaf. O fis Hydref, tan ddiwedd y flwyddyn, caiff adroddiadau crynodeb pwnc cychwynnol, gan gynnwys demograffeg, y Gymraeg, mudo, ethnigrwydd, crefydd, cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig, addysg, iechyd, y farchnad lafur, cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd, eu rhyddhau. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein Cynlluniau ar gyfer rhyddhau.

Nodyn i olygyddion:

  • Ym mis Gorffennaf, byddwn yn esbonio sut rydym yn trawsnewid ein hystadegau poblogaeth a mudo y tu hwnt i gyfrifiad traddodiadol. Byddwn yn cyhoeddi prawf o gysyniad ar gyfer cynhyrchu amcangyfrifon poblogaeth yn ‘yn seiliedig ar ddata gweinyddol’ gan ddefnyddio gwybodaeth o ffynonellau data iechyd, treth, budd-daliadau ac addysg, ymhlith rhai eraill. Byddwn hefyd yn cyhoeddi dyluniad ystadegol ar gyfer amcangyfrifon mudo yn seiliedig ar ddata gweinyddol.