Mae'r canfyddiadau diweddaraf o Gyfrifiad 2021 yn dangos bod cyfran y bobl a nododd fod eu hiechyd yn dda iawn wedi cynyddu dros y degawd blaenorol.

Ar ôl addasu ar gyfer gwahaniaethau ym mhroffiliau oedran y boblogaeth rhwng 2011 a 2021, mae data'r cyfrifiad ar iechyd cyffredinol yn dangos cynnydd yng nghyfran y bobl ledled Cymru a Lloegr a nododd fod eu hiechyd yn dda iawn i 47.5% (28.8 miliwn) yn 2021, o 45.0% (26.4 miliwn) yn 2011.

Mae datganiadau heddiw hefyd yn dangos bod cyfran lai o bobl yn disgrifio eu hunain yn anabl, ac mae cyfran y gofalwyr di-dâl 5 oed a throsodd wedi lleihau ers Cyfrifiad 2011 hefyd.

“Mae data Cyfrifiad 2021 yn dangos ein bod wedi nodi bod ein hiechyd cyffredinol wedi gwella dros y degawd, gan gyd-fynd â gostyngiad yng nghyfran y bobl anabl,” meddai Cyfarwyddwr Cyfrifiad 2021, Jon Wroth-Smith. “Amcangyfrif o bwynt mewn amser yw'r cyfrifiad a chafodd ei gynnal yn ystod pandemig a chyfnod o gyfyngiadau symud. Mae'n bosibl bod amgylchiadau unigryw y pandemig wedi dylanwadu ar y canlyniadau.

“Er enghraifft, rydym yn gweld llai o ofalwyr di-dâl hefyd. Gallai'r newid mawr hwn mewn darparu gofal di-dâl fod o ganlyniad i'r cyfyngiadau symud, gyda phobl a oedd yn arfer rhannu cyfrifoldebau gofalu â brawd neu chwaer, er enghraifft, yn ymgymryd â'r rôl honno ar eu pen eu hunain oherwydd y cyfyngiadau ar gymysgu rhwng cartrefi. Gallai hyn esbonio pam, er bod nifer y gofalwyr di-dâl wedi lleihau, ein bod wedi gweld cynnydd yng nghyfran y bobl a oedd yn darparu mwy o oriau o ofal wrth i unigolion ymgymryd â mwy o gyfrifoldeb.

“Fodd bynnag, dim ond un esboniad posibl yw hyn. Rheswm posibl arall yw'r nifer mawr o farwolaethau o ganlyniad i COVID-19 yn 2020 ac ar ddechrau 2021. Yn anffodus, gallai hyn fod wedi arwain at ostyngiad yn yr angen am ofal di-dâl, a gall newidiadau i eiriad y cwestiynau am ofal di-dâl ac anabledd rhwng 2011 a 2021 fod wedi cael effaith ar y canlyniadau hefyd.

“Bydd rhagor o wybodaeth o'r cyfrifiad i ddilyn wrth i ni edrych ar iechyd, anabledd a gofal di-dâl yn ôl pynciau fel amddifadedd a nodweddion gwarchodedig eraill, a fydd yn rhoi darlun hyd yn oed cliriach i ni ledled Cymru a Lloegr.”

Iechyd cyffredinol – y prif ganfyddiadau

  • Yn Lloegr, cynyddodd y gyfran wedi'i safoni yn ôl oedran o bobl a nododd fod eu hiechyd yn dda iawn (o 45.0% yn 2011, i 47.5% yn 2021), a gwelwyd gostyngiadau yng nghyfran y bobl a nododd fod eu hiechyd yn dda (o 34.8% yn 2011, i 34.2% yn 2021), yn wael (o 4.6% yn 2011, i 4.1% yn 2021) ac yn wael iawn (o 1.4% yn 2011, i 1.2% yn 2021).
  • Gogledd-ddwyrain Lloegr oedd y rhanbarth yn Lloegr â'r gyfran uchaf o bobl a nododd fod eu hiechyd yn wael iawn, sef 1.6% o'r boblogaeth.
  • Yng Nghymru, gwelwyd cynnydd yng nghyfran y bobl a nododd fod eu hiechyd yn dda iawn (o 45.7% yn 2011, i 46.6% yn 2021) ac yn dda (o 31.4% yn 2011, i 32.5% yn 2021), a gostyngiadau yng nghyfran y bobl a nododd fod eu hiechyd yn wael (o 6.0% yn 2011, i 5.1% yn 2021) ac yn wael iawn (o 1.9% yn 2011, i 1.6% yn 2021).
  • Yn Lloegr, ar lefel awdurdod lleol, roedd cyfran y bobl a nododd fod eu hiechyd yn dda iawn yn amrywio o 40.2% yn Stoke on Trent i 58.0% yn Kensington a Chelsea; Tower Hamlets oedd â'r gyfran uchaf o bobl a nododd fod eu hiechyd yn wael (7.0%) neu'n wael iawn (2.5%).
  • Yng Nghymru, roedd cyfran y bobl a nododd fod eu hiechyd yn dda iawn yn amrywio o 41.5% ym Mlaenau Gwent i 51.5% yng Ngwynedd. O blith yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru, Merthyr Tudful (2.4%) oedd â'r gyfran uchaf o bobl a nododd fod eu hiechyd yn wael iawn, ond ym Merthyr Tudful y gwelwyd y gostyngiad mwyaf yng nghyfran y bobl a nododd fod eu hiechyd yn wael iawn hefyd (gostyngiad o 0.7 pwynt canran, o 3.1% yn 2011).

Anabledd – y prif ganfyddiadau

Er mwyn nodi anabledd yng Nghymru a Lloegr, gwnaethom ofyn i bobl “Oes gennych chi gyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol sydd wedi para neu sy’n debygol o bara 12 mis neu fwy?” Os gwnaethant ateb “Oes”, gofynnwyd cwestiwn pellach, sef “Ydy unrhyw gyflwr neu salwch sydd gennych chi’n lleihau eich gallu i wneud gweithgareddau pob dydd?”

  • Yn Lloegr, yn 2021, roedd cyfran lai wedi'i safoni yn ôl oedran ond nifer mwy o bobl yn anabl (17.7%, 9.8 miliwn), o gymharu â 2011 (19.3%, 9.4 miliwn).
  • Yng Nghymru, yn 2021, roedd cyfran lai a nifer llai o bobl yn anabl (21.1%, 670,000), o gymharu â 2011 (23.4%, 696,000).
  • Gogledd-ddwyrain Lloegr oedd y rhanbarth yn Lloegr â'r gyfran uchaf o bobl anabl (21.2%, 567,000).
  • O blith yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, Blackpool (24.7%), Blaenau Gwent (24.6%) a Chastell-nedd Port Talbot (24.6%) oedd â'r cyfrannau uchaf o bobl anabl.

Gofal di-dâl – y prif ganfyddiada

  • Yng Nghymru a Lloegr, amcangyfrifwyd bod 5.0 miliwn o breswylwyr arferol 5 oed a throsodd yn darparu gofal di-dâl yn 2021; mae hyn yn gyfran wedi'i safoni yn ôl oedran o 9.0%, gostyngiad o 11.4% yn 2011 (5.8 miliwn).
  • Gostyngodd cyfran y bobl a oedd yn darparu 19 awr neu lai o ofal di-dâl yr wythnos o 7.2% (3.7 miliwn) yn 2011 i 4.4% (2.4 miliwn) yn 2021.
  • Cynyddodd cyfran y bobl a oedd yn darparu rhwng 20 a 49 awr o ofal di-dâl yr wythnos o 1.5% (775,000) yn 2011 i 1.9% (1.0 miliwn) yn 2021.
  • Cynyddodd cyfran y bobl a oedd yn darparu 50 awr neu fwy o ofal di-dâl yr wythnos ychydig o 2.7% yn 1.4 i 2.8% yn 1.5.
  • Roedd cyfran fwy o bobl yn darparu unrhyw ofal di-dâl yng Nghymru (10.5%) nag yn Lloegr (8.9%) yn 2021; yng Nghymru, roedd cyfran fwy o bobl yn darparu 50 awr neu fwy o ofal di-dâl yr wythnos (3.6%, o gymharu â 2.7% yn Lloegr).
  • Roedd cyfran lai o ofalwyr di-dâl yn 2021 o gymharu â 2011 ym mhob rhanbarth yn Lloegr; Gogledd-ddwyrain Lloegr oedd y rhanbarth â'r gyfran fwyaf o bobl a oedd yn darparu unrhyw swm o ofal di-dâl yn 2021 (10.1%, o gymharu ag 11.8% yn 2011), hwn oedd y rhanbarth â'r gyfran fwyaf o bobl a oedd yn darparu 50 awr neu fwy o ofal di-dâl yr wythnos hefyd (3.4%, o gymharu â 3.3% yn 2011).
  • I gymharu, Llundain oedd y rhanbarth â'r gyfran leiaf o bobl a oedd yn darparu unrhyw swm o ofal di-dâl yn 2021 (7.8%, gostyngiad o 10.3% yn 2011).
  • Yn Lloegr, y pum awdurdod lleol â'r cyfrannau mwyaf o breswylwyr arferol 5 oed a throsodd a oedd yn darparu unrhyw swm o ofal di-dâl oedd St. Helens (11.7%), Ashfield (11.6%), Mansfield (11.5%), Knowsley (11.5%) a Halton (11.3%).
  • Yng Nghymru, y pum awdurdod lleol â'r cyfrannau mwyaf o breswylwyr arferol 5 oed a throsodd a oedd yn darparu unrhyw swm o ofal di-dâl oedd Castell-nedd Port Talbot (12.3%), Caerffili (11.4%), Torfaen (11.4%), Blaenau Gwent (11.3%) a Merthyr Tudful (11.3%).

Diwedd

Nodyn ar gyfer golygyddion

Manylion cyswllt ar gyfer y cyfryngau

Swyddfa Cysylltiadau â'r Cyfryngau: +44 845 604 1858
Llinell ar alwad frys: +44 7867 906553
E-bost: media.relations@ons.gov.uk