Cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig, Cymru a Lloegr : Cyfrifiad 2021

Poblogaeth cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig sydd naill ai wedi gwasanaethu yn y lluoedd rheolaidd, y lluoedd wrth gefn neu'r ddau yn y gorffennol: Data Cyfrifiad 2021.

Hwn yw'r datganiad diweddaraf. Gweld datganiadau blaenorol

11 November 2022 09:00

Rydym wedi cywiro gwallau yn y ffigurau yn Adrannau 2 a 3.

Adran 2

"O blith y cartrefi hyn, roedd y mwyafrif helaeth... yn cynnwys un cyn-filwr yn unig, roedd 70,000 (3.9%) yn cynnwys dau gyn-filwr."

dylai fod wedi darllen

"O blith y cartrefi hyn, roedd y mwyafrif helaeth... yn cynnwys un cyn-filwr yn unig, roedd 68,000 (3.9%) yn cynnwys dau gyn-filwr."

Adran 3

"O blith poblogaeth cyn-filwyr y lluoedd arfog y Deyrnas Unedig... roedd cyfrannau tebyg o'r rheini a oedd wedi gwasanaethu yn y lluoedd rheolaidd yn unig (76.3% yng Nghymru, 78.7% yn Lloegr), y lluoedd wrth gefn yn unig (19.3% yng Nghymru, 17.1% yn Lloegr), a'r lluoedd arfog rheolaidd ac wrth gefn (4.5% yng Nghymru, 4.2% yn Lloegr). Yn Lloegr, y rhanbarthau â'r gyfran uchaf o gyn-filwyr oedd De-orllewin Lloegr (5.6%, 317,000 o bobl)"

dylai fod wedi darllen

"O blith poblogaeth cyn-filwyr y lluoedd arfog y Deyrnas Unedig... roedd cyfrannau tebyg o'r rheini a oedd wedi gwasanaethu yn y lluoedd rheolaidd yn unig (76.3% yng Nghymru, 76.3% yn Lloegr), y lluoedd wrth gefn yn unig (19.3% yng Nghymru, 19.5% yn Lloegr), a'r lluoedd arfog rheolaidd ac wrth gefn (4.5% yng Nghymru, 4.3% yn Lloegr). Yn Lloegr, y rhanbarthau â'r gyfran uchaf o gyn-filwyr oedd De-orllewin Lloegr (5.6%, 265,000 o bobl)"

Digwyddodd hyn oherwydd camgymeriad dynol. Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.

Gweld y fersiwn wedi'i disodli
Census
This is an accredited National Statistic. Click for information about types of official statistics.

Cyswllt:
Email Michael Roskams

Dyddiad y datganiad:
10 November 2022

Cyhoeddiad nesaf:
I’w gyhoeddi

1. Prif bwyntiau

  • Yn 2021, nododd 1,853,112 o bobl yng Nghymru a Lloegr eu bod wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn y gorffennol (3.8% o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd).

  • O blith cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yng Nghymru a Lloegr, roedd 76.3% (1.4 miliwn o bobl) wedi gwasanaethu yn y lluoedd rheolaidd yn y gorffennol, roedd 19.5% (361,000 o bobl) wedi gwasanaethu yn y lluoedd wrth gefn, ac roedd 4.3% (79,000 o bobl) wedi gwasanaethu yn y lluoedd rheolaidd ac wrth gefn.

  • Roedd 37,000 o gyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig (2.0%) yn byw mewn sefydliadau cymunedol ac roedd y gweddill (ychydig dros 1.8 miliwn, 98.0%) yn byw mewn cartrefi.

  • Roedd 1.7 miliwn o gartrefi (7.0% o'r holl gartrefi) lle roedd un person neu fwy wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig.

  • Roedd yr awdurdodau lleol â'r gyfran uchaf o gyn-filwyr yn cynnwys Conwy (5.9%) yng Nghymru, a Gosport (12.5%), Gogledd Kesteven (10.2%) a Swydd Richmond (9.5%) yn Lloegr.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Y boblogaeth yng Nghymru a Lloegr a oedd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn y gorffennol

Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr oedd y cyfrifiad cyntaf i ofyn i bobl a oeddent wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn y gorffennol. Gofynnwyd i bobl 16 oed a throsodd a oeddent wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog rheolaidd neu wrth gefn y Deyrnas Unedig yn y gorffennol, neu'r ddau. Cafodd pobl sy'n gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd a'r rheini nad ydynt erioed wedi gwasanaethu eu cynghori i ddewis "nac ydw".

Yn aml, byddwn yn cyfeirio at bobl sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog rheolaidd neu wrth gefn y Deyrnas Unedig yn y gorffennol fel y boblogaeth cyn-filwyr ac maent yn rhan o gymuned y lluoedd arfog (yn ogystal â'r rheini sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog neu'r Llynges Fasnachol ar hyn o bryd a'u teuluoedd). Cafodd y cwestiwn am gyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig ei ychwanegu er mwyn diwallu anghenion darparwyr gwasanaethau ac eraill sy'n cefnogi cyn-filwyr yn well, yn unol â Chyfamod y Lluoedd Arfog (yn Saesneg). Gallwch ddarllen mwy am y rhesymau dros ychwanegu'r cwestiwn hwn yn ein papur gwyn, Helpu i Lunio Ein Dyfodol: Cyfrifiad o Boblogaeth a Thai yng Nghymru a Lloegr 2021 (PDF, 967KB), ac am ein cynlluniau ar gyfer data ar gymuned y lluoedd arfog yn fwy cyffredinol ar ein tudalen we am ddatblygu'r cwestiwn am gymuned y lluoedd arfog (yn Saesneg).

Yn 2021, roedd 1,853,112 o bobl yng Nghymru a Lloegr a oedd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn y gorffennol, sef 3.8% o'r boblogaeth 16 oed a throsodd. Mae hyn bron yn 1 ym mhob 25 o bobl 16 oed a throsodd yng Nghymru a Lloegr.

Roedd dros dri chwarter o gyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig a oedd yn byw yng Nghymru a Lloegr wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog rheolaidd yn unig (1.4 miliwn, 76.3%), tra bo 361,000 (19.5%) wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog wrth gefn yn unig. Roedd y 79,000 (4.3%) a oedd yn weddill wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog rheolaidd ac wrth gefn.

Ffigur 1: Roedd bron 1 ym mhob 25 o bobl 16 oed a throsodd yng Nghymru a Lloegr yn gyn-filwr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig

Canran y boblogaeth 16 oed a throsodd a oedd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn y gorffennol, 2021, Cymru a Lloegr

Embed code

Lawrlwytho'r data

.xlsx

O blith poblogaeth cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yng Nghymru a Lloegr, roedd 98.0% (1,816,299) yn byw mewn cartrefi a 2.0% (36,813) yn byw mewn sefydliadau cymunedol. Mae hyn yn debyg i'r ffordd roedd y boblogaeth gyffredinol wedi'i rhannu; roedd 98.3% o'r preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr yn byw mewn cartrefi ac roedd 1.7% yn byw mewn sefydliadau cymunedol.

Gwnaethom hefyd ddefnyddio'r atebion i'r cwestiwn hwn i gyfrifo nifer y cartrefi a oedd yn cynnwys un cyn-filwr neu fwy. Yn 2021, roedd cyfanswm o 1,745,078 o gartrefi yng Nghymru a Lloegr lle roedd o leiaf un person wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn y gorffennol (7.0% o'r holl gartrefi yng Nghymru a Lloegr).

O blith y cartrefi hyn, roedd y mwyafrif helaeth (bron 1.7 miliwn o gartrefi, 96.0% o'r holl gartrefi ag o leiaf un cyn-filwr) yn cynnwys un cyn-filwr yn unig, roedd 68,000 (3.9%) yn cynnwys dau gyn-filwr, ac roedd y 2,000 (0.1%) sy'n weddill yn cynnwys tri chyn-filwr neu fwy.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Sut roedd poblogaeth cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn amrywio ledled Cymru a Lloegr

Roedd cyfran cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn uwch yng Nghymru (4.5% o'r boblogaeth 16 oed a throsodd, 115,000) nag yn Lloegr (3.8%, 1.7 miliwn).

O blith poblogaeth cyn-filwyr y lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn y ddwy wlad, roedd cyfrannau tebyg o'r rheini a oedd wedi gwasanaethu yn y lluoedd rheolaidd yn unig (76.3% yng Nghymru, 76.3% yn Lloegr), y lluoedd wrth gefn yn unig (19.3% yng Nghymru, 19.5% yn Lloegr), a'r lluoedd arfog rheolaidd ac wrth gefn (4.5% yng Nghymru, 4.3% yn Lloegr).

Yn Lloegr, y rhanbarthau â'r gyfran uchaf o gyn-filwyr oedd De-orllewin Lloegr (5.6%, 265,000 o bobl) a Gogledd-ddwyrain Lloegr (5.0%, 109,000 o bobl). Rhain oedd y rhanbarthau oedd â'r ganran uchaf o gartrefi ag o leiaf un cyn-filwr hefyd (10.1%, 247,000 o gartrefi yn Ne-orllewin Lloegr; 8.8%, 104,000 o gartrefi yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr).

I'r gwrthwyneb, Llundain oedd â'r gyfran isaf o gyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig (1.4%, 101,000 o bobl) a'r gyfran isaf o gartrefi ag o leiaf un cyn-filwr (2.8%, 96,000 o gartrefi).

Ffigur 2: De-orllewin Lloegr oedd â'r gyfran uchaf o gyn-filwyr lluoedd arfog y DU

Canran y boblogaeth 16 oed a throsodd a oedd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn y gorffennol, 2021, Cymru, Lloegr, a rhanbarthau Lloegr

Embed code

Lawrlwytho'r data

.xlsx

Ledled Cymru a Lloegr, roedd yr awdurdodau lleol â'r gyfran uchaf o gyn-filwyr yn cynnwys Gosport (12.5%), Gogledd Kesteven (10.2%) a Swydd Richmond (9.5%). Roedd yr awdurdodau lleol oedd â'r gyfran uchaf o gartrefi ag o leiaf un cyn-filwr yn debyg iawn; Gosport (21.2%) a Gogledd Kesteven (17.8%) oedd yn gyntaf ac yn ail, a Fareham yn drydydd (16.7%).

Yng Nghymru, Conwy oedd yr awdurdod lleol â'r gyfran uchaf o gyn-filwyr (5.9%) a'r gyfran uchaf o gartrefi ag o leiaf un cyn-filwr (10.2%). Sir Benfro oedd â'r ail gyfran uchaf o gyn-filwyr (5.7%), ac Ynys Môn oedd â'r ail gyfran uchaf o gartrefi ag o leiaf un cyn-filwr (9.9%). Mae'r holl awdurdodau lleol hyn yn cynnwys sefydliadau milwrol, neu wedi'u lleoli wrth eu hymyl, gan awgrymu bod cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn tueddu i aros yn yr un ardaloedd ar ôl iddynt adael y lluoedd arfog.

Yr awdurdodau lleol â'r gyfran uchaf o bobl a oedd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog wrth gefn yn unig oedd Gogledd Tyneside (1.5%), Northumberland (1.3%) a De Tyneside (1.3%), pob un yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr.

Ffigur 3: Roedd yr ardaloedd â'r gyfran uchaf o gyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn tueddu i fod wrth ymyl canolfannau presennol y lluoedd arfog

Canran y boblogaeth 16 oed a throsodd a oedd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn y gorffennol, 2021, awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr

Embed code

Lawrlwytho'r data

.xlsx

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Cyhoeddiadau yn y dyfodol

Caiff data a dadansoddiadau manylach ar gyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig eu cyhoeddi yn y misoedd i ddod, a chaiff data amlamryweb eu rhyddhau. Bydd hyn yn ein galluogi i ddadansoddi poblogaeth cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn ôl newidynnau eraill y cyfrifiad, fel oedran, iechyd a nodweddion y farchnad lafur. Darllenwch fwy am ein cynlluniau dadansoddi ynghylch lluoedd arfog y Deyrnas Unedig (yn Saesneg) a'r cynlluniau datganiadau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg) yn fwy cyffredinol.

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig, Cymru a Lloegr: data

Wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn y gorffennol (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 10 Tachwedd 2022
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr yn ôl p'un a ydynt wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig o'r blaen ai peidio. Nid yw hyn yn cynnwys pobl sy'n gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021. 

Nifer y bobl yn y cartref sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn y gorffennol (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 10 Tachwedd 2022
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu cartrefi yng Nghymru a Lloegr yn ôl nifer y bobl yn y cartref sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn flaenorol. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.  

Poblogaeth sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn y gorffennol sy'n byw mewn sefydliad cymunedol ac mewn cartrefi (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 10 Tachwedd 2022
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn y gorffennol yn ôl a ydynt yn byw mewn sefydliadau cymunedol ac mewn cartrefi. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.  

Person cyswllt y cartref wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn y gorffennol (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 10 Tachwedd 2022
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu cartrefi yng Nghymru a Lloegr yn ôl a yw Person Cyswllt y Cartref wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn y gorffennol ai peidio. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Rhestr termau

Cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig

Pobl sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn y gorffennol. Mae hyn yn cynnwys y rhai sydd wedi gwasanaethu am o leiaf ddiwrnod yn lluoedd arfog Ei Fawrhydi, naill ai'r lluoedd rheolaidd neu wrth gefn, neu Fasnachlongwyr, sydd wedi bod ar ddyletswydd ar ymgyrchoedd milwrol a ddiffiniwyd yn gyfreithiol.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Mesur y data

Dyddiad cyfeirio

Mae'r cyfrifiad yn rhoi amcangyfrifon o nodweddion pob unigolyn a chartref yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021. Caiff ei gynnal unwaith bob 10 mlynedd ac mae'n rhoi'r amcangyfrif mwyaf cywir o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr i ni.

Rydym yn gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, ond byddwn hefyd yn rhyddhau allbynnau ar gyfer y Deyrnas Unedig mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cofnodion Cenedlaethol yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon. Cafodd y cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon ei gynnal ar 21 Mawrth 2021 hefyd, ond cafodd cyfrifiad yr Alban ei symud i 20 Mawrth 2022. Mae holl swyddfeydd y cyfrifiad yn y Deyrnas Unedig yn gweithio'n agos i ddeall sut y bydd y gwahaniaeth hwn mewn dyddiadau cyfeirio yn effeithio ar ystadegau poblogaeth a thai'r Deyrnas Unedig gyfan, o ran yr amseru a'r cwmpas.

Rydym hefyd yn cydweithio i ddeall sut mae gwahaniaethau rhwng cyfrifiadau'r Deyrnas Unedig yn effeithio ar ein gallu i gynhyrchu ystadegau wedi'u cysoni ar gyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Gofynnwyd cwestiwn am wasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn y gorffennol yng Nghyfrifiad 2022 yn yr Alban. Ni wnaeth y cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon ofyn cwestiwn am wasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn y gorffennol ond mae NISRA yn archwilio ffynonellau gweinyddol er mwyn deall y boblogaeth cyn-filwyr. Mae'n bosibl y caiff amcangyfrif ei lunio ar gyfer Prydain Fawr gyda'r cafeatau perthnasol.

Cyfradd ymateb

Cyfradd ymateb unigolion yw nifer y preswylwyr arferol y cafodd manylion unigol eu darparu ar eu cyfer ar holiadur a ddychwelwyd, wedi'i rannu ag amcangyfrif o'r boblogaeth breswyl arferol.

Y gyfradd ymateb unigolion ar gyfer Cyfrifiad 2021 oedd 97% o boblogaeth breswyl arferol Cymru a Lloegr, a dros 88% ym mhob awdurdod lleol. Cafodd y rhan fwyaf o ffurflenni (89%) eu derbyn ar lein. Gwnaeth y gyfradd ymateb ragori ar ein targed, sef 94% yn gyffredinol ac 80% ym mhob awdurdod lleol.

Caiff rhagor o wybodaeth am gyfraddau ymateb ar gyfer cwestiynau penodol ei chyhoeddi mewn adroddiad ar wahân yn ddiweddarach eleni.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Cryfderau a chyfyngiadau

Ceir ystyriaethau o ansawdd ynghyd â chryfderau a chyfyngiadau Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol yn ein hadroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021. Darllenwch fwy am yr ystyriaethau o ansawdd penodol ar gyfer cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein prosesau sicrhau ansawdd eraill yn ein hadroddiad Sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o'r ansawdd gorau posibl (yn Saesneg).

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Dolenni cysylltiedig

Map y cyfrifiad (yn Saesneg)
Cynnwys rhyngweithiol | Rhyddhawyd ar 2 Tachwedd 2022
Adnodd map rhyngweithiol sy'n delweddu data Cyfrifiad 2021 ar bynciau gwahanol i lawr i ardal awdurdod lleol a lefel cymdogaeth.

Tudalen we ansawdd pwnc cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig (yn Saesneg)
Methodoleg | Rhyddhawyd ar 10 Tachwedd 2022
Crynodeb o'r prosesau sicrhau ansawdd a ddefnyddir i lunio amcangyfrifon y cyfrifiad, ynghyd ag ystyriaethau o ansawdd y dylid bod yn ymwybodol ohonynt wrth ddehongli'r data.

Newidynnau cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig Cyfrifiad 2021
Gwybodaeth ategol | Rhyddhawyd ar 9 Tachwedd 2022 Rhestr o newidynnau a'r dosbarthiadau a ddefnyddir yn nata Cyfrifiad 2021 am cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig.

Datblygu'r cwestiwn am gymuned y lluoedd arfog (cyn-filwyr) ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg)
Methodoleg | Rhyddhawyd ar 27 Ionawr 2021
Gwybodaeth am sut gwnaethom ymchwilio, datblygu a phrofi cwestiwn Cyfrifiad 2021 am gymuned y lluoedd arfog, gan gynnwys manylion ychwanegol am y diffiniadau o'r prif dermau.

Safon wedi'i chysoni ar gyfer gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn y gorffennol (yn Saesneg)
Methodoleg | Rhyddhawyd ar 16 Mawrth 2022
Manylion am sut y gwnaed y ffordd o fesur gwasanaeth yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn y gorffennol yn fwy cymaradwy, cyson a chydlynol.

Cyfrifiad 2011: Cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig o oedran gweithio yng Nghymru a Lloegr (yn Saesneg)
Bwletin | Rhyddhawyd ar 27 Medi 2018
Mae hwn yn amcangyfrif maint a nodweddion poblogaeth cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig (rhwng 16 a 64 oed), gan gysylltu data am ymadawyr y lluoedd arfog â data o Gyfrifiad 2011 yng Nghymru a Lloegr.

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Cyfeirio at y bwletin ystadegol hwn

Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rhyddhawyd ar 10 Tachwedd 2022, gwefan SYG, bwletin ystadegol, Cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Nôl i'r tabl cynnwys

Manylion cyswllt ar gyfer y Bwletin ystadegol

Michael Roskams
census.customerservices@ons.gov.uk
Ffôn: +44 1329 444972