Heddiw mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi cyhoeddi'r cam nesaf o allbynnau Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr gan edrych ar bynciau gan gynnwys mudo, gwlad enedigol a maint a strwythur cartrefi.

Mae nifer y preswylwyr yng Nghymru a Lloegr a gafodd eu geni y tu allan i'r DU wedi cynyddu 2.5 miliwn yn ystod y degawd ers y cyfrifiad diwethaf.

Mae data newydd o Gyfrifiad 2021 yn dangos mai pobl o Rwmania oedd yn cyfrif am y rhan fwyaf o'r cynnydd yn nifer y preswylwyr sydd wedi'u geni y tu allan i'r Deyrnas Unedig, ar ôl i gyfyngiadau gweithio gael eu codi yn 2014, gydag India a Gwlad Pwyl yn dilyn.

Ganed un o bob chwe phreswylydd arferol, neu 10 miliwn (16.8%), yng Nghymru a Lloegr y tu allan i'r Deyrnas Unedig ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021, i fyny o 7.5 miliwn (13.4%) yn 2011.

Cynyddodd nifer y bobl a nododd mai Rwmania oedd eu gwlad enedigol 576% ers y cyfrifiad blaenorol (o 80,000 yn 2011 i 539,000 yn 2021), ond India oedd y wlad enedigol fwyaf cyffredin o hyd y tu allan i'r Deyrnas Unedig yn 2021 gyda mwy na 900,000 o breswylwyr.

Y gwledydd nad oeddent ymhlith y 10 gwlad enedigol fwyaf cyffredin y tu allan i'r Deyrnas Unedig mwyach oedd yr Unol Daleithiau a Jamaica.

Lleihaodd nifer y bobl a nododd mai Iwerddon oedd eu gwlad enedigol o 407,000 yn 2011 i 325,000 yn 2021 (lleihad o 83,000 neu 20.3%). Mae hyn yn dilyn tuedd hirdymor ers i ni weld y nifer uchaf yng Nghyfrifiad 1961.

Gan sôn am ffigurau heddiw, dywedodd Dirprwy Gyfarwyddwr y Cyfrifiad Jon Wroth-Smith:

"Mae'r cyfrifiad yn dangos sut mae cyfansoddiad y boblogaeth wedi newid dros y degawd diwethaf. Yn ystod y degawd hwnnw, wrth gwrs, gwnaethom adael yr Undeb Ewropeaidd a gorfod byw gyda'r pandemig.

"Er ei bod yn bosibl bod y digwyddiadau hyn wedi effeithio ar benderfyniadau neu allu pobl i fudo neu deithio ar adeg benodol, mae'r cyfrifiad yn dweud wrthym am y newid dros y degawd cyfan – pwy oedd yn byw yma ym mis Mawrth 2021 o gymharu â mis Mawrth 2011. Gallwn weld bod pobl o Rwmania wedi bod yn sbardun mawr yn y newid hwn, a bod cynnydd wedi digwydd hefyd wrth i bobl fudo o India, Pacistan a Gwlad Pwyl, yn ogystal â gwledydd yn ne Ewrop fel yr Eidal.

"Gallwn weld hefyd fod lefelau mudo yn ystod y flwyddyn cyn y cyfrifiad yn is yn 2021 nag yn 2011. Mae'n debygol mai'r rheswm dros hyn, i raddau helaeth, oedd y cyfyngiadau teithio amrywiol a oedd mewn grym yn ystod pandemig y coronafeirws."

Llundain yw'r rhanbarth lle gwelir y gyfran fwyaf o bobl o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig a'r gyfran fwyaf o bobl sydd â phasbortau nad ydynt yn basbortau'r Deyrnas Unedig o hyd. Yn 2021, nid oedd mwy na 4 o bob 10 (40.6%) o breswylwyr arferol yn Llundain wedi cael eu geni yn y Deyrnas Unedig, ac roedd gan fwy nag 1 o bob 5 (23.3%) basbort nad yw'n basbort y Deyrnas Unedig.

I'r gwrthwyneb, roedd tua 1 o bob 14 o breswylwyr arferol yng Nghymru (6.9%) a Gogledd-ddwyrain Lloegr (6.8%) wedi cael eu geni y tu allan i'r Deyrnas Unedig. Yn yr un modd, yng Nghymru (4.0%) a Gogledd-ddwyrain Lloegr (3.7%) y gwelwyd y gyfran isaf o'r boblogaeth â phasbortau nad ydynt yn basbortau'r Deyrnas Unedig.

Nodweddion y boblogaeth

Mae'r datganiad heddiw hefyd yn taflu goleuni ar nodweddion pobl sy'n byw yng Nghymru a Lloegr ac yn dangos darlun tebyg i 2011.

Er y bu cynnydd yn nifer y cartrefi, yn unol â'r cynnydd yn y boblogaeth gyffredinol, mae cyfansoddiad y cartrefi hynny yn debyg, gyda 6 o bob 10 yn gartrefi un teulu a 3 o bob 10 yn gartrefi un person. Maint cartref ar gyfartaledd yng Nghymru a Lloegr yn 2021 oedd 2.4 o bobl fesul cartref, yr un fath ag yr oedd yn 2011.

Ar gyfer y rhanbarthau yn Lloegr, roedd y cartrefi mwyaf ar gyfartaledd yn Llundain (2.5 o breswylwyr fesul cartref) ac roedd y cartrefi lleiaf yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr (2.2 o breswylwyr fesul cartref).

Yr awdurdodau lleol â'r maint cartref mwyaf ar gyfartaledd oedd Caerdydd a Chasnewydd (y ddau â 2.4 o breswylwyr fesul cartref) yng Nghymru, a Newham, Slough a Redbridge (pob un â 3.0 o breswylwyr fesul cartref) yn Lloegr.

Yr awdurdodau lleol â'r maint cartref lleiaf ar gyfartaledd oedd Conwy (2.2 o breswylwyr fesul cartref) yng Nghymru, a Dinas Llundain (1.7 o breswylwyr fesul cartref) a Gogledd Norfolk (2.1 o breswylwyr fesul cartref) yn Lloegr – a oedd hefyd yn gartref i'r gyfran uchaf o bobl 65 oed a throsodd.

Ychwanegodd Mr Wroth-Smith:

"Wrth edrych ychydig yn fanylach, gallwn weld bod cyfran y bobl sy'n briod neu mewn partneriaeth sifil wedi gostwng, sy'n cyd-fynd â'r duedd hirdymor o lai o briodasau. I'r gwrthwyneb, mae nifer y bobl sydd erioed wedi priodi na bod mewn partneriaeth sifil wedi cynyddu i 3 miliwn bron.

"Gwyddom hefyd mai Wokingham (54.9%), Hart (54.5%) a Hambleton (53.7%) sydd â'r gyfran uchaf o gyplau priod, tra bod y gyfran uchaf o bobl sydd wedi ysgaru yn Hastings (12.6%), Torbay (12.6%) a Blackpool (12.5%)."

Pa mor hen yw eich tref?

Yr oedran canolrifol yng Nghymru a Lloegr yn 2021 oedd 40 oed (42 oed yng Nghymru, 40 oed yn Lloegr); mae hyn yn uwch na'r oedran canolrifol yn Lloegr, sef 39 oed, ac yng Nghymru, sef 41 oed, yn 2011. Ond mae'r darlun a gyflwynir heddiw yn amrywio rhwng ardaloedd trefol a gwledig, ac ardaloedd â phoblogaethau myfyrwyr mawr.

Y rhanbarth o Loegr â'r oedran canolrifol uchaf oedd De-orllewin Lloegr (44 oed) a'r rhanbarth â'r oedran canolrifol isaf oedd Llundain (35 oed).

Ledled Cymru a Lloegr, yr awdurdodau lleol â'r oedran canolrifol uchaf oedd Gogledd Norfolk (54 oed), Rother (53 oed) a Dwyrain Lindsey (52 oed).

Yr awdurdod lleol â'r oedran canolrifol isaf oedd Tower Hamlets (30 oed), yna Nottingham, Caergrawnt, Rhydychen a Manceinion (pob un yn 31 oed).

Rhagor o wybodaeth

Heddiw, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi rhyddhau data unnewidyn ar Ddemograffeg a Mudo ar ein gwefan. Mae’r data yn cael eu darparu fel taenlenni Excel y gellir eu lawrlwytho yn y lle cyntaf, gydag APIs ar gael yn fuan ar wefannau NOMIS a SYG. I gyd-fynd â’r data hyn, mae gennym ystod eang o gynhyrchion esboniadol ac archwiliol i ddangos cyfoeth y data hyn.

Mae Geiriadur Cyfrifiad 2021 yn darparu gwybodaeth fanwl am newidynnau, diffiniadau a dosbarthiadau er mwyn helpu wrth ddefnyddio data Cyfrifiad 2021.

Defnyddiwch fapiau'r cyfrifiad i ddysgu mwy am fywydau pobl ledled Cymru a Lloegr. Mae'r adnodd rhyngweithiol hwn yn eich galluogi i archwilio data Cyfrifiad 2021 ar bynciau gwahanol i lawr i ardal awdurdod lleol a lefel cymdogaeth. Gall eich helpu i ddysgu pethau fel pa ardaloedd sydd â'r poblogaethau hynaf a'r poblogaethau ieuengaf; pa gymdogaethau sydd â'r canrannau uchaf o bobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain neu ba ardaloedd sydd â'r canrannau uchaf neu isaf o bobl sy'n briod neu mewn partneriaeth sifil. Ar ôl i chi ddewis eich pwnc, gallwch ddefnyddio eich map dewisol yn eich gwefan eich hun drwy ddilyn y cyfarwyddiadau "defnyddio a rhannu".

Voices of our ageing population: Living longer lives

Caiff datganiad nesaf Cyfrifiad 2021 ei ryddhau wythnos nesaf (10 Tachwedd 2022), ac mae'n edrych am y tro cyntaf ar gyn-aelodau o'r lluoedd arfog yn y Deyrnas Unedig.

Diwedd

Manylion cyswllt ar gyfer y cyfryngau

Swyddfa Cysylltiadau â'r Cyfryngau: +44 845 604 1858
Llinell ar alwad frys: +44 7867 906553
E-bost: media.relations@ons.gov.uk