Crefydd, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Crefydd preswylwyr arferol a chyfansoddiad crefyddol cartrefi yng Nghymru a Lloegr, data Cyfrifiad 2021.

Hwn yw'r datganiad diweddaraf. Gweld datganiadau blaenorol

5 December 2022 12:00

Rydym wedi cywiro gwall yng ngeiriad brawddeg yn Adran 2.

“Hwn oedd yr ateb mwyaf cyffredin yng Nghymru (43.6%) ac yn Lloegr (46.3%).”

dylai fod wedi darllen

“Hwn oedd y grŵp crefyddol mwyaf cyffredin yng Nghymru (43.6%) ac yn Lloegr (46.3%).”

Digwyddodd hyn oherwydd camgymeriad dynol. Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.

Gweld y fersiwn wedi'i disodli
Census
This is an accredited National Statistic. Click for information about types of official statistics.

Cyswllt:
Email Michael Roskams

Dyddiad y datganiad:
29 November 2022

Cyhoeddiad nesaf:
I’w gyhoeddi

1. Prif bwyntiau

  • Mae'r cwestiwn am grefydd yn wirfoddol; atebodd 94.0% (56.0 miliwn) o breswylwyr arferol y cwestiwn yn 2021, cynnydd o 92.9% (52.1 miliwn) yn 2011.
  • Am y tro cyntaf mewn cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, gwnaeth llai na hanner y boblogaeth (46.2%, 27.5 miliwn o bobl) ddisgrifio eu crefydd fel "Cristnogaeth", gostyngiad o 13.1 pwynt canran o 59.3% (33.3 miliwn) yn 2011; er gwaethaf y gostyngiad hwn, "Cristnogaeth" oedd yr ateb mwyaf cyffredin i'r cwestiwn am grefydd o hyd.
  • "Dim crefydd" oedd yr ail ymateb mwyaf cyffredin, gan gynyddu 12.0 pwynt canran i 37.2% (22.2 miliwn) o 25.2% (14.1 miliwn) yn 2011.
  • Gwelwyd cynnydd yn nifer y bobl a nododd "Islam" fel crefydd (3.9 miliwn, 6.5% yn 2021, i fyny o 2.7 miliwn, 4.9% yn 2011) yn ogystal â "Hindŵaeth" (1.0 miliwn, 1.7% yn 2021, i fyny o 818,000, 1.5% yn 2011).
  • Gwelwyd gostyngiad mwy yn nifer y bobl a nododd "Cristnogaeth" fel crefydd yng Nghymru (gostyngiad o 14.0 pwynt canran, o 57.6% yn 2011 i 43.6% yn 2021) a chynnydd yn y nifer a nododd "Dim crefydd" (cynnydd o 14.5 pwynt canran, o 32.1% yn 2011 i 46.5% yn 2021) o gymharu â Chymru a Lloegr yn gyffredinol.
  • Llundain oedd y rhanbarth mwyaf amrywiol yn Lloegr o ran crefydd o hyd yn 2021, gyda thros chwarter (25.3%) o'r holl breswylwyr arferol yn nodi crefydd heblaw am "Cristnogaeth"; Gogledd-ddwyrain Lloegr a De-orllewin Lloegr yw'r rhanbarthau lleiaf amrywiol o ran crefydd, gyda 4.2% a 3.2%, yn y drefn honno, yn dewis crefydd heblaw am "Cristnogaeth".
Nôl i'r tabl cynnwys

2. Crefydd yng Nghymru a Lloegr

Roedd y cwestiwn am grefydd yn wirfoddol

Cyflwynodd y cyfrifiad gwestiwn gwirfoddol am grefydd yn 2001. Yn nata'r cyfrifiad, mae crefydd yn cyfeirio at ymlyniad crefyddol (yn Saesneg) person. Y grefydd y maent yn cysylltu neu'n uniaethu â hi yw hon, yn hytrach na'u credoau neu eu harfer crefyddol gweithredol. Gan fod y cwestiwn yn wirfoddol, byddwch yn ofalus wrth gymharu'r ffigurau hyn rhwng ardaloedd gwahanol neu rhwng cyfrifiadau oherwydd bod y cyfraddau ymateb yn amrywio.

Caiff canrannau eu cyfrifo yn seiliedig ar y boblogaeth gyffredinol, yn hytrach na'r boblogaeth a atebodd y cwestiwn am grefydd. Mae hyn yn ein helpu i gymharu dros amser a rhwng ardaloedd, gan fod canran y boblogaeth sy'n ateb y cwestiwn yn amrywio.

At ei gilydd, dewisodd 94.0% o'r boblogaeth gyffredinol yng Nghymru a Lloegr (56.0 miliwn o bobl) ateb y cwestiwn am grefydd yn 2021. Mae'r ganran hon yn uwch nag yn 2011, pan ddewisodd 92.9% (52.1 miliwn) ateb y cwestiwn am grefydd a dewisodd 7.1% (4.0 miliwn) beidio ag ateb.

Cyfansoddiad crefyddol Cymru a Lloegr

Mae data 2021 yn dangos mai ar gyfer y rhai a ddisgrifiodd eu crefydd fel "Cristnogaeth" a'r rhai a nododd "Dim crefydd" y gwelwyd y newidiadau mwyaf ers 2011.

Ffigur 1: Mae canran y boblogaeth a nododd “Dim crefydd” wedi cynyddu

Cyfansoddiad crefyddol, 2011 a 2021, Cymru a Lloegr

Embed code

Nodiadau:
  1. Poblogaeth gyffredinol Cymru a Lloegr yw’r sail boblogaeth a ddefnyddir i gyfrifo canrannau.
Lawrlwytho'r data

.xlsx

Fel yn 2011, "Cristnogaeth" oedd yr ymateb mwyaf cyffredin i'r cwestiwn am grefydd yng Nghymru a Lloegr (46.2% o'r boblogaeth gyffredinol, 27.5 miliwn o bobl). Hwn oedd y grŵp crefyddol mwyaf cyffredin yng Nghymru (43.6%) ac yn Lloegr (46.3%).

Fodd bynnag, gostyngodd nifer y bobl a ddisgrifiodd eu crefydd fel "Cristnogaeth" i lai na hanner y boblogaeth am y tro cyntaf. Roedd yn ostyngiad o 13.1 pwynt canran o 59.3% yn 2011 (33.3 miliwn o bobl). Mae'r ffigur yn parhau i ostwng ers 2001 felly, pan ddisgrifiodd 71.7% (37.3 miliwn) eu crefydd fel "Cristnogaeth".

Gwnaeth hyn gyd-daro â chynnydd yn nifer y bobl a nododd "Dim crefydd" i 37.2% (22.2 miliwn) yn 2021 o 25.2% (14.1 miliwn) yn 2011. Eto, mae hyn yn parhau â'r duedd rhwng 2001 a 2011, pan oedd nifer y bobl a nododd "Dim crefydd" wedi codi i 14.8% (7.7 miliwn o bobl).

Mae llawer o ffactorau a all fod yn cyfrannu at gyfansoddiad crefyddol newidiol Cymru a Lloegr, fel patrymau gwahanol o ran heneiddio, ffrwythlondeb, marwolaeth, a mudo. Gall gwahaniaethau yn y ffordd roedd unigolion yn dewis ateb y cwestiwn am grefydd rhwng cyfrifiadau fod wedi arwain at newidiadau hefyd.

Grwpiau crefyddol eraill

Mae pob un o'r grwpiau a ddangoswyd hyd yn hyn yn cyfateb i'r ymatebion blwch ticio ar gyfer y cwestiwn am grefydd. Gallai person nodi ei grefydd drwy'r opsiwn ymateb "Unrhyw grefydd arall, nodwch" hefyd. Mae'r cyfleuster ysgrifennu hwn wedi ein galluogi i gynhyrchu dosbarthiad manwl ar gyfer crefydd yn ein set ddata Crefydd (manwl) yng Nghymru a Lloegr, gan roi gwybodaeth am 58 o grwpiau crefyddol. Darllenwch fwy yn ein blog ar daith yr ateb ysgrifenedig ar gyfer y cwestiynau am grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd (yn Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Ymhlith y 405,000 (0.7% o'r boblogaeth gyffredinol yng Nghymru a Lloegr) a ddewisodd ysgrifennu ymateb drwy'r opsiwn "Unrhyw grefydd arall" roedd y crefyddau canlynol:

  • Paganiaeth (74,000)
  • Alevi (26,000)
  • Jainiaeth (25,000)
  • Wicca (13,000)
  • Ravidassia (10,000)
  • Siamaniaeth (8,000)
  • Rastaffariaeth (6,000)
  • Zoroastriaeth (4,000)

Yn nifer y bobl a ddisgrifiodd eu crefydd fel "Siamaniaeth" y gwelwyd y cynnydd mwyaf, gan gynyddu fwy na ddengwaith i 8,000 o 650 yn 2011.

O blith y rheini a ysgrifennodd grŵp anghrefyddol yn yr opsiwn ymateb "Unrhyw grefydd arall", gwelwyd y niferoedd mwyaf yn y canlynol:

  • Agnostigiaeth (32,000)
  • Anffyddiaeth (14,000)
  • Dyneiddiaeth (10,000)
Nôl i'r tabl cynnwys

3. Sut mae ymlyniad crefyddol yn amrywio ledled Cymru a Lloegr

Cymru a Lloegr

Yn Lloegr, gwelwyd gostyngiad yng nghanran y boblogaeth a nododd "Cristnogaeth" ac roedd hyn yn cyd-daro â chynnydd yng nghanran y bobl a nododd "Dim crefydd" yng Nghymru ac yn holl ranbarthau Lloegr.

Gwelwyd gostyngiad mwy yn nifer y bobl a nododd "Cristnogaeth" fel crefydd yng Nghymru (gostyngiad o 14.0 pwynt canran, o 57.6% yn 2011 i 43.6% yn 2021) a chynnydd mwy yn y nifer a nododd "Dim crefydd" (cynnydd o 14.5 pwynt canran, o 32.1% yn 2011 i 46.5% yn 2021) o gymharu â Chymru a Lloegr yn gyffredinol.

Rhanbarthau yn Lloegr

Llundain oedd y rhanbarth mwyaf amrywiol o ran crefydd yn Lloegr o hyd. Cristnogaeth oedd yr ymateb mwyaf cyffredin yn Llundain o hyd (40.7%, 3.6 miliwn o'r holl breswylwyr arferol). Nododd dros chwarter (25.3%, 2.2 miliwn) o boblogaeth Llundain grefydd heblaw am Gristnogaeth, i fyny o 22.6%, 1.8 miliwn, yn 2011. Y grwpiau crefyddol mwyaf cyffredin nesaf yn Llundain oedd Islam (15.0%, i fyny o 12.6% yn 2011) a Hindŵaeth (5.1%, i fyny o 5.0% yn 2011).

Awdurdodau lleol ledled Cymru a Lloegr

Mae ystadegau ar gyfer awdurdodau lleol yn rhoi dealltwriaeth bellach o ble mae grwpiau crefyddol yn tueddu i fod wedi'u crynhoi yng Nghymru a Lloegr.

Ffigur 2: Crefydd yn ôl awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr, 2021

Embed code

Source: Office for National Statistics – Census 2021
Lawrlwytho'r data

.xlsx

Mae ardaloedd sydd wedi gweld gostyngiadau yng nghanran y boblogaeth a ddisgrifiodd eu crefydd fel "Cristnogaeth" wedi cyd-daro â chynnydd yn yr opsiynau ymateb eraill i'r cwestiwn am grefydd.

“Cristnogaeth” a “Dim crefydd” yn ôl awdurdod lleol

Roedd yr awdurdodau lleol yn Lloegr lle nododd y ganran uchaf o bobl a Gristnogaeth fel eu crefydd oll mewn ardaloedd yng Ngogledd-orllewin Lloegr: Knowsley (66.6%), Ribble Valley (66.4%), a Copeland (65.1%). Ynys Môn a Sir y Fflint oedd yr awdurdodau lleol yng Nghymru lle disgrifiodd y gyfran uchaf o bobl eu crefydd fel "Cristnogaeth" (51.5% ar gyfer y ddau).

Roedd yr ardaloedd o Gymru a Lloegr lle nododd y ganran uchaf o bobl "Dim crefydd" yn gyffredinol yng Nghymru: Caerffili (56.7%), Blaenau Gwent (56.4%), a Rhondda Cynon Taf (56.2%). Yn Lloegr, Brighton a Hove oedd yr ardal lle nododd y ganran uchaf o'r boblogaeth nad oedd ganddynt grefydd (55.2%), a gwelwyd gostyngiad cymharol fawr yng nghanran y bobl a ddewisodd Gristnogaeth hefyd (30.9%, o 42.9% yn 2011). Roedd ardaloedd yng Nghymru lle gwelwyd y gostyngiad mwyaf yng nghanran y bobl a ddisgrifiodd eu crefydd fel "Cristnogaeth" hefyd, gyda Blaenau Gwent (36.5%, i lawr o 49.9% yn 2011) a Chaerffili (36.4%, i lawr o 50.7% yn 2011) yn y ddau safle uchaf eto.

Yn ogystal â bod yr awdurdod lleol â'r ganran uchaf o bobl a nododd Cristnogaeth wrth ddisgrifio eu crefydd, gwelwyd cynnydd canrannol mawr yn nifer y bobl a ddewisodd Dim crefydd yn Knowsley hefyd, o 12.6% (18,000) yn 2011 i 27.2% (42,000) yn 2021. Mae'r cynnydd hwn (14.6 pwynt canran) yn cyfateb i'r gostyngiad o 14.3 pwynt canran yng nghanran y bobl yn Knowsley a ddewisodd Gristnogaeth (o 80.9% yn 2011 i 66.6% yn 2021).

Grwpiau crefyddol eraill yn ôl awdurdod lleol

Ar gyfer grwpiau crefyddol eraill, roedd yr awdurdodau lleol â'r canrannau uchaf o bob grŵp crefyddol yn tueddu i fod yn ardaloedd trefol. Fel yn 2011, Tower Hamlets oedd yr ardal â'r ganran uchaf o bobl a nododd Islam fel crefydd (39.9%, i fyny o 38.0% yn 2011) [nodyn 1]. Roedd ardaloedd eraill â chanrannau uchel o bobl a ddewisodd Islam yn cynnwys Blackburn gyda Darwen (35.0%) a Newham (34.8%).

Harrow yw'r awdurdod lleol â'r ganran uchaf o'r boblogaeth a ddewisodd Hindŵaeth yn y cwestiwn am grefydd o hyd (25.8%, i fyny o 25.3% yn 2011), ond gwelwyd cynnydd mwy yng Nghaerlŷr, yr awdurdod lleol â'r ail ganran uchaf, sef 2.7 pwynt canran (17.9%, i fyny o 15.2% yn 2011).

Wolverhampton (12.0%, i fyny o 9.1% yn 2011) a Sandwell (11.5%, i fyny o 8.7%) oedd yr ardaloedd lle gwelwyd y ganran uchaf yn gyffredinol a'r cynnydd canrannol mwyaf o bobl a ddewisodd Siciaeth i ddisgrifio eu crefydd. Hertsmere (17.0%) a Barnet (14.5%) oedd yr ardaloedd â'r cyfrannau uchaf o bobl a roddodd Iddewiaeth fel crefydd, a Rushmoor oedd yr ardal â'r gyfran uchaf o Fwdhyddion (4.7%).

Enfield (3.1%) oedd yr ardal â'r ganran uchaf o bobl a ddewisodd yr opsiwn unrhyw grefydd arall yn 2021, a hon oedd yr ardal a welodd y cynnydd mwyaf hefyd (i fyny 2.5 pwynt canran, o 0.6% yn 2011).

  1. O ganlyniad i wall wrth brosesu data Cyfrifiad 2011, cafodd nifer y preswylwyr arferol yn y categori crefydd heb ei nodi ei oramcangyfrif o gyfanswm o 62,000 ar gyfer tri awdurdod lleol: Camden, Islington, a Tower Hamlets. Mae'r data o 2011 a ddarperir yma wedi cael eu cywiro gan ddefnyddio ffactorau cywiro cyhoeddedig sydd ar gael yn yr hysbysiad cynhyrchion Cyfrifiad 2011: materion a chywiriadau (yn Saesneg).
Nôl i'r tabl cynnwys

4. Crefydd o fewn cartrefi

Am y tro cyntaf, mae Cyfrifiad 2021 yn rhoi gwybodaeth am gyfansoddiad crefyddol yr 17.3 miliwn o gartrefi â mwy nag un person (69.8% o gyfanswm y cartrefi â rhywun yn byw ynddynt):

  • mewn 32.7% o gartrefi (8.1 miliwn), nododd pob aelod a atebodd y cwestiwn am grefydd yr un grefydd
  • mewn 20.4% o gartrefi (5.1 miliwn), nododd pob aelod a atebodd y cwestiwn "Dim crefydd"
  • mewn 13.7% o gartrefi (3.4 miliwn), nododd aelodau a atebodd y cwestiwn gyfuniad o'r un grefydd a "Dim crefydd"
  • mewn 1.9% o gartrefi (460,000), ni wnaeth pob aelod ateb y cwestiwn
  • mewn 1.1% o gartrefi (285,000), nodwyd o leiaf ddwy grefydd wahanol
Nôl i'r tabl cynnwys

5. Cyhoeddiadau yn y dyfodol

Caiff data a dadansoddiadau manylach ar grefydd eu cyhoeddi yn y misoedd i ddod, a chaiff data amlamryweb eu rhyddhau. Darllenwch fwy am ein cynlluniau dadansoddi ynghylch grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd (yn Saesneg) a'r cynlluniau datganiadau ar gyfer Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Crefydd, Cymru a Lloegr: data

Crefydd yng Nghymru a Lloegr (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 29 Tachwedd 2022
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr yn ôl crefydd.

Crefydd (manwl) yng Nghymru a Lloegr (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 29 Tachwedd 2022
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr yn ôl crefydd.

Cartrefi â sawl crefydd yng Nghymru a Lloegr (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 29 Tachwedd 2022
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu cartrefi yng Nghymru a Lloegr yn ôl cartrefi â sawl crefydd.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Rhestr termau

Cartref â sawl crefydd

Mae'n dosbarthu cartrefi yn ôl p'un a wnaeth aelodau nodi'r un grefydd, dim crefydd, peidio ag ateb y cwestiwn, neu gyfuniad o'r opsiynau hyn.

Roedd y cwestiwn hwn yn wirfoddol ac mae'r newidyn yn cynnwys y rhai a atebodd y cwestiwn ochr yn ochr â'r rhai a ddewisodd beidio ag ateb y cwestiwn.

Crefydd

Y grefydd y mae pobl yn cysylltu neu'n uniaethu â hi (eu hymlyniad crefyddol), p'un a ydynt yn ei harfer neu'n credu ynddi ai peidio.

Roedd y cwestiwn hwn yn wirfoddol ac mae'r newidyn yn cynnwys pobl a atebodd y cwestiwn, gan gynnwys "Dim crefydd", ochr yn ochr â'r rhai a ddewisodd beidio ag ateb y cwestiwn hwn.

Mae'r newidyn hwn yn dosbarthu pobl i'r 8 opsiwn ymateb â blwch ticio. Caiff ymatebion ysgrifenedig eu dosbarthu yn ôl eu hymlyniad crefyddol "gwreiddiol", gan gynnwys "Dim crefydd", pan fo'n gymwys.

Preswylydd arferol

Ystyr preswylydd arferol yw unrhyw un a oedd, ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021, yn y Deyrnas Unedig ac wedi aros neu'n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu a oedd â chyfeiriad parhaol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac yn bwriadu aros y tu allan i'r Deyrnas Unedig am lai na 12 mis.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Mesur y data

Dyddiad cyfeirio

Mae'r cyfrifiad yn rhoi amcangyfrifon o nodweddion pob unigolyn a chartref yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021. Caiff ei gynnal unwaith bob 10 mlynedd ac mae'n rhoi'r amcangyfrif mwyaf cywir o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr i ni.

Rydym yn gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, ond byddwn hefyd yn rhyddhau allbynnau ar gyfer y Deyrnas Unedig mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cofnodion Cenedlaethol yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon. Cafodd y cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon ei gynnal ar 21 Mawrth 2021 hefyd, ond cafodd cyfrifiad yr Alban ei symud i 20 Mawrth 2022. Mae holl swyddfeydd y cyfrifiad yn y Deyrnas Unedig yn gweithio'n agos i ddeall sut y bydd y gwahaniaeth hwn mewn dyddiadau cyfeirio yn effeithio ar ystadegau poblogaeth a thai'r Deyrnas Unedig gyfan, o ran yr amseru a'r cwmpas.

Cyfradd ymateb

Cyfradd ymateb gyffredinol unigolion ar gyfer y cyfrifiad yw nifer y preswylwyr arferol y cafodd manylion unigol eu darparu ar eu cyfer ar holiadur a ddychwelwyd, wedi'i rannu ag amcangyfrif o'r boblogaeth breswyl arferol.

Y gyfradd ymateb unigolion ar gyfer Cyfrifiad 2021 oedd 97% o boblogaeth breswyl arferol Cymru a Lloegr, a dros 88% ym mhob awdurdod lleol. Cafodd y rhan fwyaf o ffurflenni (89%) eu derbyn ar lein. Gwnaeth y gyfradd ymateb ragori ar ein targed, sef 94% yn gyffredinol ac 80% ym mhob awdurdod lleol.

Caiff rhagor o wybodaeth am gyfraddau ymateb ar gyfer cwestiynau penodol ei chyhoeddi mewn adroddiad ar wahân yn ddiweddarach eleni.

Grwpiau crefyddol yn y dosbarthiad crefydd manwl

Mae'r cyfrifon ar gyfer grwpiau crefyddol a nodir yn ein set ddata Crefydd (manwl) yng Nghymru a Lloegr yn cynrychioli'r rheini a ddewisodd ysgrifennu eu crefydd. Mae'n bosibl y bydd rhai pobl wedi dewis disgrifio un o enwadau'r ymatebion blwch ticio (er enghraifft, Catholigiaeth fel un o enwadau Cristnogaeth, neu Uniongred fel un o enwadau Iddewiaeth) drwy'r opsiwn i ysgrifennu ymateb o dan "Unrhyw grefydd arall".

Cymerwch ofal wrth gymharu'r data ar grefydd o Gyfrifiad 2021 â'r dosbarthiad crefydd manwl o Gyfrifiad 2011. O ganlyniad i wall wrth brosesu data'r cyfrifiad yn 2011, cafodd nifer y preswylwyr arferol yn y categori crefydd heb ei nodi ei oramcangyfrif o gyfanswm o 62,000 ar gyfer tri awdurdod lleol canlynol: Camden, Islington a Tower Hamlets.

Rydym wedi cyhoeddi ffigurau wedi'u cywiro ar gyfer amcangyfrifon yn seiliedig ar y dosbarthiad blychau ticio. Fodd bynnag, nid oedd modd cywiro'r dosbarthiad crefydd manwl oherwydd bod y gwaith prosesu a'r cydberthnasau â newidynnau allbynnau eraill mor gymhleth.

Am y rheswm hwn, dylech ond ddefnyddio'r dosbarthiad blychau ticio wrth gymharu'r tri awdurdod lleol hyn, gan ddefnyddio'r ffigurau sydd wedi'u cywiro yn ein hysbysiad cynhyrchion Cyfrifiad 2011: materion a chywiriadau (yn Saesneg).

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Cryfderau a chyfyngiadau

Ceir ystyriaethau o ansawdd ynghyd â chryfderau a chyfyngiadau Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol yn yr adroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg). Darllenwch fwy am yr ystyriaethau o ansawdd penodol ar gyfer grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein prosesau sicrhau ansawdd eraill yn ein methodoleg Sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o'r ansawdd gorau posibl (yn Saesneg).

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Dolenni cysylltiedig

Map y cyfrifiad (yn Saesneg)
Cynnwys rhyngweithiol | Diweddarwyd ar 29 Tachwedd 2022
Adnodd map rhyngweithiol sy'n delweddu data Cyfrifiad 2021 ar bynciau gwahanol i lawr i ardal awdurdod lleol a lefel cymdogaeth.

Gwybodaeth am ansawdd grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith, a chrefydd ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg)
Methodoleg | Rhyddhawyd ar 29 Tachwedd 2022
Gwybodaeth hysbys am ansawdd sy'n effeithio ar ddata grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr.

Newidynnau grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd Cyfrifiad 2021
Gwybodaeth ategol | Rhyddhawyd ar 29 Tachwedd 2022
Newidynnau a dosbarthiadau a ddefnyddir yn nata Cyfrifiad 2021 am grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd.

Grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith, a chrefydd yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)
Bwletin ystadegol | Rhyddhawyd ar 29 Tachwedd 2022
Crynodeb gan Lywodraeth Cymru o ddata Cyfrifiad 2021 am grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd yng Nghymru.

Nôl i'r tabl cynnwys

11. Cyfeirio at y bwletin ystadegol hwn

Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rhyddhawyd ar 29 Tachwedd 2022, gwefan SYG, bwletin ystadegol, Crefydd, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Nôl i'r tabl cynnwys

Manylion cyswllt ar gyfer y Bwletin ystadegol

Michael Roskams
census.customerservices@ons.gov.uk
Ffôn: +44 1329 444972