Bydd trigolion pedair ardal yng Nghymru a Lloegr yn cymryd rhan mewn ymarfer a fydd yn sicrhau llwyddiant cyffredinol Cyfrifiad 2021.

Gofynnir i bobl yn Carlisle, Ceredigion, Hackney a Tower Hamlets gwblhau holiadur am y rhai sy'n byw yn eu cartref ar 13 Hydref 2019.

Bydd yr ymarfer yn galluogi'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i brofi rhai o'r systemau a'r prosesau y mae wedi'u rhoi ar waith cyn Cyfrifiad digidol yn gyntaf 2021.

Mae'r pedwar lleoliad yn cynnwys ardaloedd trefol, gwledig a chymysg sy'n amrywio o ran cysylltedd â'r we, lleoedd sydd â siaradwyr Cymraeg, myfyrwyr a thrigolion o sawl cefndir ac ethnigrwydd.

Bydd yr ymarfer arlein, a bydd cymorth ar gael os oes angen. Caiff trigolion eu gwahodd i gymryd rhan yn nes ymlaen eleni.

Yn ôl Cyfarwyddwr Gweithrediadau'r Cyfrifiad, Pete Benton:

“Mae'r cyfrifiad yn helpu i lywio gwasanaethau cyhoeddus hanfodol fel nifer y lleoedd i blant mewn ysgolion, gwasanaethau ysbytai a meddygon teulu a darpariaeth gofal cymdeithasol mewn ardaloedd lleol.

“Gan mai dim ond bob deng mlynedd y caiff y cyfrifiad ei gynnal, mae'n bwysig ein bod yn cynnal ymarfer gweithredol er mwyn sicrhau bod ein holl brosesau'n rhedeg yn esmwyth.

“Bydd pawb sy'n cymryd rhan yn helpu i sicrhau llwyddiant cyffredinol Cyfrifiad 2021.”

Cyhoeddwyd argymhellion SYG ar gyfer y cyfrifiad nesaf mewn Papur Gwyn gan y Llywodraeth ym mis Rhagfyr.

Am y tro cyntaf, bydd Cyfrifiad 2021 yn casglu gwybodaeth am gyn-filwyr o Luoedd Arfog y DU. Drwy wneud hyn gellir monitro cyfamod y Lluoedd Arfog, sef y cytundeb rhwng y wlad a'r rheini sy'n ei gwasanaethu.

Hefyd, cynigir y bydd cwestiwn gwirfoddol newydd am gyfeiriadedd rhywiol i bobl 16 oed a throsodd. Yn ogystal â'r cwestiwn arferol am fod yn wryw neu'n fenyw, bydd hefyd gwestiwn gwirfoddol am hunaniaeth o ran rhywedd i bobl 16 oed a throsodd.

I drefnu cyfweliadau cysylltwch â swyddfa’r wasg ar 0845 604 1858 neu 0203 684 5070 neu ebostiwch Media.Relations@ons.gov.uk

Diwedd