Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn helpu i lywio Cyfrifiad 2031 yng Nghymru a Lloegr.

Ers dros ddwy ganrif, mae cyfrifiad dengmlwyddol wedi darparu gwybodaeth am y boblogaeth a thai, gan helpu i lywio penderfyniadau am wasanaethau cyhoeddus a deall yr economi, iechyd y cyhoedd ac anghydraddoldeb yn well.

Dros amser, mae wedi datblygu i adlewyrchu'r ffordd rydym yn byw ac ymateb i newidiadau cymdeithasol a thechnolegol.

Er bod llawer o'r pynciau craidd ar oedran, addysg a galwedigaethau wedi aros yn gyson dros amser, mae pynciau newydd wedi cael eu hychwanegu, gan gynnwys ethnigrwydd yn 1991, ac yn 2021, gofynnwyd i bobl a ydynt wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn y gorffennol am y tro cyntaf.

Bydd yr ymgynghoriad 14 wythnos hwn yn helpu i lywio pa bynciau sydd fwyaf pwysig i'w cynnwys yn y cyfrifiad nesaf i sicrhau ei fod yn darparu'r allbynnau mwyaf gwerthfawr er mwyn llywio penderfyniadau am bolisïau a diwallu anghenion ehangach defnyddwyr.

Dywedodd Darren Tierney, Ysgrifennydd Parhaol y Swyddfa Ystadegau Gwladol:

“Fy uchelgais yw i Gyfrifiad 2031 adeiladu ar lwyddiant Cyfrifiad 2021. Bydd yn defnyddio dull cynhwysol a digidol yn gyntaf, gan fanteisio i'r eithaf ar ddata gweinyddol i gefnogi prosesau casglu data a'u hansawdd, a byddwn yn cydweithio'n agos â chydweithwyr yn y Llywodraethau Datganoledig i gynhyrchu allbynnau cydlynol.  

“Fel gyda'n holl ystadegau, mae anghenion ein defnyddwyr yn parhau i fod wrth wraidd ein prosesau gwneud penderfyniadau ar y cyfrifiad.

“Drwy ymateb i'r ymgynghoriad hwn, byddwch yn chwarae rôl allweddol o ran llywio pa bynciau a gaiff eu cynnwys, a sicrhau bod Cyfrifiad 2031 yn darparu'r allbynnau mwyaf gwerthfawr ar gyfer llywio penderfyniadau polisi hanfodol.”

Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, bydd y SYG yn parhau i ymgysylltu â defnyddwyr i gefnogi'r gwaith o ddatblygu cwestiynau a chynllun yr holiadur ar gyfer y cyfrifiad. Byddant hefyd yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ar gynnal y cyfrifiad yng Nghymru.

Fel o'r blaen, cynigir y bydd cyfrifiadau ar wahân yn cael eu cynnal yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn 2031. Mae'r SYG yn gweithio gyda Chofnodion Cenedlaethol yr Alban (NRS) ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (NISRA) i gydlynu dulliau gweithredu mewn perthynas â chynllunio'r cyfrifiad yn y dyfodol.

Ochr yn ochr â'r ymgynghoriad ar bynciau Cyfrifiad 2031, mae Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth yn cynnal ymgynghoriad ar wahân er mwyn casglu barn am opsiynau ymateb blwch ticio ychwanegol a all fod yn ofynnol ar gyfer safon wedi'i chysoni newydd ar gyfer casglu data ar ethnigrwydd. Mae'r SYG yn disgwyl i'r cwestiwn perthnasol yn y cyfrifiad gyd-fynd â'r safon hon yng Nghymru a Lloegr.

Bydd y ddau ymgynghoriad yn cau ar 4 Chwefror 2026.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad ar bynciau Cyfrifiad 2031 yma.

Mae'r ymgynghoriad ar y Safon wedi'i Chysoni ar gyfer Ethnigrwydd ar gael yma.