Trosolwg 

Mae data tarddiad-cyrchfan yn dangos symudiad pobl o un lleoliad i'r llall. Caiff y rhain eu galw'n ddata llif hefyd. 

Gall y wybodaeth hon helpu llywodraeth leol a chanolog i gynllunio ac ariannu seilwaith ar gyfer: 

  • addysg 

  • gofal iechyd 

  • tai 

  • trafnidiaeth 

Caiff data tarddiad-cyrchfan eu defnyddio i ddadansoddi tueddiadau symud y boblogaeth ar gyfer patrymau mudo a chymudo hefyd. 

Setiau data cyhoeddus  

Mynediad   

Mae ein data cyhoeddus ar gael i'w lawrlwytho ar wefan Nomis.

Gwybodaeth   

Llifau unigol a setiau data unamryweb yw'r rhan fwyaf o'r data cyhoeddus, a fydd yn cwmpasu pob math o ddata tarddiad-cyrchfan. Mae'r rhan fwyaf o ddata cyhoeddus ar gael hyd at lefel awdurdod lleol, a bydd peth data llif Gweithleoedd ar gael hyd at lefel Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Ganol.  

Dyddiad y datganiad   

Gwnaethom gyhoeddi'r setiau data hyn ar wefan Nomis ar 26 Hydref 2023. Gwnaethom hefyd gyhoeddi bwletin ystadegol i roi sylwebaeth ar y data a chanllaw defnyddiwr er mwyn rhoi arweiniad. Gellir dod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf am y datganiad cyhoeddus ar dudalen y datganiad am ddata tarddiad-cyrchfan. 

Setiau data wedi'u diogelu 

Mynediad   

Gall dadansoddwyr data gael gafael ar y data drwy Wasanaeth Data'r DU yn unol â chyfrifiadau blaenorol. Mae'n rhaid i ddadansoddwyr data gofrestru â Gwasanaeth Data'r DU a chytuno i delerau ac amodau Trwydded Defnyddiwr Gwasanaeth Data'r DU (PDF, 216KB).   

Gwybodaeth   

Bydd data wedi'u diogelu yn cynnwys pob math o ddata tarddiad-cyrchfan mewn mwy o fanylder na'r setiau data cyhoeddus. Byddant yn cael eu rhyddhau fel setiau data unamryweb ac amlamryweb. Caiff y rhan fwyaf o'r data eu darparu ar lefel awdurdod lleol, ond caiff data â nodweddion llai manwl eu darparu hyd at lefel Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Ganol neu lefel Ardal Gynnyrch. 

Dyddiad y datganiad   

Cyhoeddodd Gwasanaeth Data'r DU ddata wedi'u diogelu ar 2 Tachwedd 2023. Gellir cael gafael ar y data tarddiad-cyrchfan wedi'u diogelu drwy wefan Gwasanaeth Data'r DU.

Setiau data diogel  

Mynediad   

Dim ond i ymchwilwyr achrededig drwy'r Gwasanaeth Data Integredig (y Gwasanaeth Ymchwil Diogel gynt) y mae'r data ar gael. Darllenwch sut i fod yn ymchwilydd achrededig. 

Gwybodaeth   

Mae data diogel yn cynnwys y data tarddiad-cyrchfan mwyaf manwl. Byddant yn cael eu rhyddhau mewn setiau data unamryweb ac amlamryweb, ar gyfer llifau mudo a llifau myfyrwyr. Caiff y rhain eu rhyddhau hyd at lefel Ardal Gynnyrch. 

Dyddiad y datganiad   

Bydd data tarddiad-cyrchfan diogel ar gael ar ddechrau 2024.

Mathau o ddata tarddiad-cyrchfan 

Byddwn yn rhyddhau pedwar math o ddata tarddiad-cyrchfan. 

Data llif mudo 

Mae data llif mudo yn dangos patrymau mudo cenedlaethol a rhyngwladol preswylwyr â chyfeiriad gwahanol yn ystod y flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad. 

Cafodd Cyfrifiad 2021 ei gynnal yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), lle roedd cyfyngiadau teithio amrywiol, gan gynnwys cyfnodau clo, ar waith o fis Mawrth 2020. O ganlyniad, roedd llai o fudo rhyngwladol i mewn i'r Deyrnas Unedig. Er mwyn sicrhau cyfrinachedd, bydd ein setiau data llif mudo cyhoeddus ac wedi'u diogelu yn cynnwys llai o fanylion am wlad wreiddiol mudwyr rhyngwladol, na'r hyn a ddarparwyd ar gyfer 2011.  

Data llif gweithleoedd 

Mae data llif gweithleoedd yn cynrychioli preswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd yn gweithio yn ystod yr wythnos cyn y cyfrifiad. Maent yn dangos lleoliad gweithleoedd mewn perthynas â man preswylio arferol unigolyn. Mae rhai o'r setiau data hefyd yn ystyried ail gyfeiriadau sy'n gysylltiedig â gwaith. 

Data llif ail gyfeiriad 

Mae data llif ail gyfeiriad yn dangos lleoliad ail gyfeiriadau pobl a pha mor bell yw'r rhain o'u preswylfa arferol neu eu gweithle.  

Data llif myfyrwyr 

Mae data llif myfyrwyr yn dangos patrymau mudo unigolion a oedd yn byw mewn cyfeiriad myfyriwr yn ystod y tymor neu gyfeiriad ysgol breswyl yn y Deyrnas Unedig flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad. Nid oedd y bobl hyn o reidrwydd yn fyfyrwyr ar adeg Cyfrifiad 2021.  

 Felly: 

  • mae data llif myfyrwyr yn cynnwys graddedigion a fudodd o gyfeiriad yn ystod y tymor yn y Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn cyn y cyfrifiad 

  • mae data llif myfyrwyr yn cynnwys myfyrwyr cartref, Undeb Ewropeaidd a rhyngwladol gyda'i gilydd a fudodd o gyfeiriad myfyriwr yn ystod y tymor yn y Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn cyn y cyfrifiad 

  • nid yw data llif myfyrwyr yn cynnwys myfyrwyr prifysgol blwyddyn gyntaf a oedd yn byw yng nghyfeiriad rhiant flwyddyn cyn y cyfrifiad 

  • nid yw data llif myfyrwyr yn cynnwys myfyrwyr rhyngwladol a oedd yn byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn cyn y cyfrifiad

Rydym wedi nodi'r newidynnau, y dosbarthiadau a'r ardaloedd daearyddol sydd wedi'u cynnwys yn y setiau data tarddiad-cyrchfan cyhoeddus, wedi'u diogelu a diogel yn nhabiau cyfatebol taenlen manyleb y set ddata tarddiad-cyrchfan.  

Newidiadau i ddata tarddiad-cyrchfan y Deyrnas Unedig 

Cafodd cyfrifiadau Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon eu cynnal ym mis Mawrth 2021 a chynhaliwyd cyfrifiad yr Alban ym mis Mawrth 2022. Mae'r gwahaniaeth rhwng y dyddiadau hyn yn golygu na allwn gyfuno'r data hyn i gynhyrchu un set ddibynadwy o setiau data tarddiad-cyrchfan ar gyfer y Deyrnas Unedig.  

Bydd y datganiad cyntaf am ddata tarddiad-cyrchfan yn cynnwys data ar gyfer Cymru a Lloegr yn unig. Mae Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (NISRA) ar gamau cynnar rhyddhau data cyfrifiad Gogledd Iwerddon o hyd. Byddwn yn ceisio cynnwys data llif Gogledd Iwerddon ar ôl ein datganiad cychwynnol; fodd bynnag, bydd angen i ni sicrhau nad yw cynnwys data Gogledd Iwerddon yn peryglu cyfrinachedd ymatebwyr.  

Mae setiau data tarddiad-cyrchfan ar gyfer Cymru a Lloegr yn unig yn cynnwys y llifau canlynol mewn perthynas â'r Alban a Gogledd Iwerddon: 

  • i Ogledd Iwerddon neu'r Alban, pan oedd preswylwyr arferol Cymru a Lloegr yn gweithio yng Ngogledd Iwerddon neu'r Alban  

  • o Ogledd Iwerddon neu'r Alban, pan oedd gan breswylwyr arferol Cymru a Lloegr gyfeiriad yng Ngogledd Iwerddon neu'r Alban, flwyddyn cyn Diwrnod y Cyfrifiad 

  • i Ogledd Iwerddon neu'r Alban, pan oedd gan breswylwyr arferol Cymru a Lloegr ail gyfeiriad yng Ngogledd Iwerddon neu'r Alban 

Ni fydd lefelau daearyddol yr Alban, yn seiliedig ar gyfrifiad yr Alban yn 2022, ar gael ar yr adeg y byddwn yn cynhyrchu setiau data tarddiad-cyrchfan. Felly, pan fo angen, byddwn yn defnyddio lefelau daearyddol yr Alban y gwnaethom eu defnyddio ar gyfer allbynnau tarddiad-cyrchfan Cyfrifiad 2011. Unwaith y bydd lefelau daearyddol manylach yr Alban ar gael, byddwn yn ymchwilio i ba mor ymarferol yw ymgorffori'r rhain yn ein setiau data tarddiad-cyrchfan. 

Lle y bo'n bosibl, ac er mwyn gallu cymharu, rydym wedi cysoni setiau data a dosbarthiadau allbwn ledled y Deyrnas Unedig ac â 2011. 

Rhagor o wybodaeth 

Os oes gennych gwestiynau am ddata tarddiad-cyrchfan Cyfrifiad 2021, e-bostiwch census.customerservices@ons.gov.uk.

Related downloads