Sut rydym yn cael gafael ar eich manylion cyswllt 

Er mwyn cysylltu â chi ynglŷn â'n harolygon, gallwn ddefnyddio ffynhonnell allanol i ddod o hyd i'ch cyfeiriad a'ch rhif ffôn.  

Cyfeiriadau 

Ar gyfer rhai o'n harolygon, byddwn yn cael cyfeiriadau ar hap o'r Ffeil Cyfeiriadau Cod Post (PAF).  

Mae'r arolygon hyn yn cynnwys y canlynol: 

  • Yr Arolwg Adnoddau Teuluol 

  • Yr Arolwg o Asedau Cartrefi 

  • Yr Arolwg Costau Byw a Bwyd 

  • Yr Arolwg o'r Llafurlu 

  • Yr Arolwg ar Amodau Byw 

Mae'r PAF yn cynnwys cyfeiriadau yn y DU a chaiff ei lesio i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) gan y Post Brenhinol.\ Caiff "Ffeil Defnyddwyr Bach" y PAF ei defnyddio gan y SYG i ddewis samplau ar gyfer arolygon o gartrefi. Mae'r ffeil yn cynnwys cyfeiriadau preswyl ac mae'n cwmpasu oddeutu 95% o'r boblogaeth.  

I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at hysbysiad preifatrwydd yr International Distributions Services.  

Ar gyfer arolygon eraill, fel astudiaeth Llywio Yfory, rydym yn defnyddio AddressBase i samplu data ar sail ddaearyddol gan ddefnyddio Cyfeirnodau Eiddo Unigryw (UPRN).  

Cynnyrch gan yr Arolwg Ordnans yw AddressBase. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan yr Arolwg Ordnans

Rhifau ffôn 

Rydym yn cynnal llawer o'n harolygon dros y ffôn.  

Ar gyfer astudiaeth Llywio Yfory, rydym yn cael rhifau ffôn o ffynhonnell sydd ar gael yn fasnachol o'r enw Sagacity, sy'n darparu cyfleuster i baru rhifau ffôn â'n cyfeiriadau a samplwyd. 

Ar gyfer rhai o'n hastudiaethau, rydym yn cael rhifau gan adrannau eraill y llywodraeth, fel yr Adran Gwaith a Phensiynau.  

Dileu eich manylion o'r cronfeydd data hyn 

Sagacity 

Gallwch wneud cais i'ch rhif ffôn gael ei atal o gronfa ddata Sagacity.  

Dim ond yr unigolyn y mae'r wybodaeth yn perthyn iddo all wneud cais o'r fath. Ni all cyfwelwyr wneud hyn ar ran yr ymatebydd.  

I wneud hyn, gwnewch gais i Sagacity atal eich gwybodaeth

Yr Adran Gwaith a Phensiynau 

I gael gwybodaeth am ddileu eich data o gronfa ddata'r Adran Gwaith a Phensiynau, darllenwch am eich hawliau pan fydd DWP yn defnyddio'ch gwybodaeth (GOV.UK)

I gael gwybodaeth am y ffordd y mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn prosesu eich gwybodaeth, cyfeiriwch at y siarter gwybodaeth bersonol (GOV.UK)

Gallwch hefyd ofyn am eich gwybodaeth bersonol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (GOV.UK)

AddressBase 

Dim ond eich cyfeiriad ac UPRN wedi'i neilltuo gaiff eu cadw yn AddressBase, nid yw'n cynnwys manylion personol fel eich enw.  

Ni allwch wneud cais i dynnu eich hun o gronfa ddata AddressBase.  

Gwybodaeth rydym yn ei chasglu gennych 

Gall ein hastudiaethau ofyn cwestiynau am bob aelod o'ch cartref a gallant gwmpasu amrywiaeth o bynciau. Dylech wneud yn siŵr bod pawb yn eich cartref wedi darllen y dudalen hon a deunyddiau'r arolwg yn llawn cyn cwblhau arolwg. 

Caiff yr arolygon hyn eu defnyddio i lunio ystadegau ar bynciau fel:  

  - cyflogaeth 

  - addysg 

  - iechyd a llesiant 

  - tai 

Yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ni fydd modd eich adnabod mewn unrhyw ganlyniadau a gaiff eu cyhoeddi.  

Gall ymchwilydd arsylwi ar eich rhyngweithio â chyfwelydd. Gall nodi manylion am y rhyngweithio a fydd yn ein helpu i wella ein dulliau er mwyn sicrhau ein bod mor gynhwysol â phosibl yn ein hymchwil.  

Rhannu data 

Weithiau rhoddir gwybodaeth o arolygon i adrannau eraill o'r llywodraeth, sefydliadau cymeradwy ac ymchwilwyr achrededig at ddibenion ystadegol yn unig. 

Weithiau, byddwn yn rhannu gwybodaeth ddethol â'n darparwyr gwasanaethau er mwyn ein helpu i gynnal ein harolygon. Byddwn ond yn rhannu'r manylion personol y mae angen iddynt eu gwybod, fel eich cyfeiriad i anfon llythyrau.  

Ni chaiff gwybodaeth a gasglwn wrth wneud gwaith ymchwil ei defnyddio at ddibenion marchnata, ac ni fyddwn yn gwerthu nac yn trosglwyddo eich gwybodaeth i unrhyw drydydd parti chwaith.  

Caiff manylion am ddarparwyr gwasanaethau ar gyfer pob arolwg eu darparu ar ein tudalennau gwybodaeth am arolygon. I ddod o hyd i'r dudalen wybodaeth ar gyfer yr astudiaeth rydych yn ei chwblhau ewch i'r dudalen, Canfod astudiaethau am bobl, teuluoedd a chartrefi

Eich atebion 

Byddwn yn cadw eich atebion yn gyfrinachol.  

Ar gyfer arolygon ar-lein, byddwch yn cael cod mynediad unigryw y bydd ei angen arnoch i agor yr arolwg. Dylech gadw'r cod hwn yn ddiogel a dylech ond ei rannu â phobl yn eich cartref.  

Er mwyn cadw eich data yn ddiogel, bydd adrannau'r arolwg yn cael eu cloi yn awtomatig wrth i chi fynd drwyddyn nhw. Mae hyn yn golygu na allwch chi nac unrhyw aelod arall o'r cartref eu gweld mwyach. Ar ôl i'r adrannau gael eu cloi, ni allwch newid atebion. 

Cysylltu data 

Mae'n bosibl y byddwn yn prosesu eich data gan ddefnyddio dull o'r enw cysylltu data.  

Cysylltu data yw'r broses o uno cofnodion am yr un person neu sefydliad.  

Gellir gwneud cysylltiadau (neu "barau") drwy gymharu "allweddi adnabod" unigryw sy'n benodol i bob darn o ddata a gesglir gennym. Er enghraifft, eich rhif Yswiriant Gwladol.  

Gall cysylltu data yn y ffordd hon ein helpu i ddeall pethau mewn ffyrdd newydd a lleihau'r angen i ni gasglu mwy o ddata gennych.  

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n tudalen ar ffynonellau data

Storio eich data  

Dim ond i gynhyrchu ystadegau neu i wneud gwaith ymchwil ystadegol y caiff eich ymatebion i'n hastudiaethau eu defnyddio a chânt eu storio ar wahân i'ch data personol.  

Caiff eich cyfranogiad yn ein harolygon, ynghyd â'ch ymatebion unigol i'r cwestiynau eu cadw'n gyfrinachol.  

Gwybodaeth ystadegol ddienw yn unig fydd canlyniadau ein gwaith ymchwil. Ni fydd modd eich adnabod mewn unrhyw ganlyniadau a gaiff eu cyhoeddi. 

Diogelwch gwybodaeth 

Rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb i gadw eich data personol yn ddiogel o ddifrif. 

Fel y cyfryw, rydym yn cymryd pob rhagofal rhesymol i sicrhau nad yw eich gwybodaeth yn cael ei cholli, ei dwyn na'i chamddefnyddio. Mae'r rhagofalon hyn yn cynnwys:  

  • diogelwch ffisegol priodol yn ein swyddfeydd 

  • mynediad a reolir at ein systemau cyfrifiadurol 

  • y defnydd o gysylltiadau diogel ac wedi'u hamgryptio â'r rhyngrwyd 

Rhagor o wybodaeth 

I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelu data a'ch hawliau, ewch i'n tudalen diogelu data

Dychwelyd i'r arolwg 

Os ydych wedi cael gwahoddiad i gwblhau arolwg, ewch i'r dudalen Canfod astudiaethau am bobl, teuluoedd a chartrefi

Cysylltu â ni 

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, os byddwch am roi adborth neu os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni.