Cynnwys
- Ffigurau allweddol
- Cyflwyniad
- Pwy ydym ni
- Oedran a rhyw
- Lechyd
- Crefydd
- Grŵp ethnig a hunaniaeth
- Preswylwyr arferol a aned y tu allan i'r DU
- Iaith Cartrefi
- Medrusrwydd yn y Gymraeg
- Sut rydym yn byw
- Llety a deiliadaeth
- Ystafelloedd, ystafelloedd gwely a gwres canolog
- Argaeledd car neu fan
- Statws priodasol
- Cyfansoddiad cartrefi
- Preswylwyr mewn sefydliadau cymunedol
- Beth rydym yn ei wneud
- Darparu gofal di-dâl
- Gweithgarwch economaidd
- Cymwysterau
- Diwydiant a galwedigaeth
- Nodiadau cefndirol
1. Ffigurau allweddol
Roedd gan Gymru boblogaeth breswyl arferol o 3.1 miliwn yn 2011, cynnydd o 5 y cant ers 2001. Roedd bron un o bob pump (18 y cant, 563,000) o breswylwyr yn 65 oed neu drosodd.
Yn 2011, fel y gwelwyd yn 2001, roedd gan Gymru fwy o breswylwyr â phroblem iechyd neu anabledd hirdymor, ychydig o dan chwarter (23 y cant, 696,000), yn uwch nag unrhyw ranbarth yn Lloegr.
Nododd 58 y cant (1.8 miliwn) o breswylwyr Cymru eu bod yn Gristnogion yn 2011, 14 pwynt canran yn is na 2001 a gostyngiad is nag unrhyw un o ranbarthau Lloegr. Nododd bron draean (32 y cant, 983,000) o'r boblogaeth yng Nghymru nad oedd ganddynt grefydd yn 2011, mwy nag unrhyw un o ranbarthau Lloegr.
Nododd bron dwy ran o dair (66 y cant, 2.0 miliwn) o breswylwyr Cymru eu bod yn Gymry yn 2011. O'r rhain, nododd 218,000 ohonynt eu bod yn ystyried eu hunain yn Brydeinwyr hefyd.
Roedd 96 y cant (2.9 miliwn) o boblogaeth breswyl arferol Cymru yn Wyn yn 2011, canran uwch nag unrhyw un o ranbarthau Lloegr.
Roedd 5 y cant (168,000) o bobl yng Nghymru wedi'u geni y tu allan i'r DU yn 2011, cynnydd o ddau bwynt canran ers 2001 (3 y cant, 92,000).
Roedd 30 y cant (169,000) o breswylwyr arferol Cymru a oedd yn dair oed a throsodd ac a allai siarad Cymraeg (562,000) yn 2011 rhwng tair a 15 oed. Gwelwyd gostyngiad o un pwynt canran yn y grŵp o bobl tair oed a throsodd a allai siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg o 16 y cant (458,000) yn 2001 i 15 y cant (431,000) yn 2011.
Yn 2011, roedd mwy o bobl yng Nghymru (67 y cant, 879,000) yn berchen ar eu cartrefi nag yn Lloegr (63 y cant, 14.0 miliwn).
Cynyddodd nifer y ceir a faniau a oedd ar gael i gartrefi yng Nghymru o 1.3 i 1.6 miliwn rhwng 2001 a 2011. Yn 2001, roedd 11 car i bob 10 o gartrefi ar gyfartaledd tra roedd 12 car i bob 10 o gartrefi yn 2011.
Nododd bron pob cartref yng Nghymru fod ganddynt wres canolog yn 2011 (98 y cant, 1.3 miliwn), cynnydd o chwe phwynt canran ers 2001 (92 y cant, 1.1 miliwn).
Roedd mwy o bobl (12 y cant, 370,000) yng Nghymru yn ofalwyr nag yn unrhyw un o ranbarthau Lloegr yn 2011. Roedd canrannau uwch o bobl yn darparu rhwng 20 a 49 awr a 50 awr neu fwy o ofal yng Nghymru yn 2011 nag yn unrhyw ranbarth yn Lloegr; 2 y cant (54,000) a 3 y cant (104,000) yn y drefn honno.
Nododd un o bob pedwar o'r boblogaeth breswyl arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru (26 y cant, 651,000) nad oedd ganddynt unrhyw gymwysterau cydnabyddedig yn 2011. Yr ail gategori fwyaf o ran cymwysterau yng Nghymru yn 2011 oedd Lefel 4 neu uwch e.e. gradd Baglor neu uwch (24 y cant, 614,000).
2. Cyflwyniad
Mae'r bwletin hwn yn disgrifio poblogaeth Cymru yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd yng Nghyfrifiad 2011. Mae'n cyflwyno nodweddion diffiniol y boblogaeth, pwy ydym, sut rydym yn byw a beth rydym yn ei wneud. Rhennir y bwletin hwn yn dair rhan fel a ganlyn.
Mae'r cyfrifiad yn unigryw gan mai dyma'r unig ffynhonnell wybodaeth sy'n mesur y nodweddion hyn gyda'i gilydd ar draws y boblogaeth gyfan. Cyhoeddir yr allbynnau ar lefel genedlaethol, ranbarthol ac awdurdod lleol ac mae'r bwletin hwn yn rhoi sylwebaeth ar lefel genedlaethol a rhanbarthol. Fe'i cyhoeddir ochr yn ochr â bwletin ar gyfer Cymru a Lloegr.
Yn ystod 2013, bydd SYG yn cyflwyno'r wybodaeth hon ar lefelau daearyddol llai o faint na'r awdurdod lleol, ac yna mewn croes-dablau rhwng nodweddion, fel oedran neu ethnigrwydd. Bydd hyn yn rhoi ffynhonnell ddata hyd yn oed fwy gwerthfawr i'r nifer sy'n defnyddio'r cyfrifiad.
Y cyfrifiad
Mae'r cyfrifiad wedi bod yn casglu gwybodaeth am y boblogaeth bob 10 mlynedd ers 1801 (heblaw am 1941). Cynhaliwyd y cyfrifiad diwethaf yng Nghymru a Lloegr ar 27 Mawrth 2011.
Mae amcangyfrifon y cyfrifiad yn disgrifio nodweddion ardaloedd hyd at lefelau daearyddol bach ac fe'u defnyddir i ddeall beth sy’n debyg ac yn wahanol o ran nodweddion y boblogaeth yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Defnyddir y wybodaeth hon i gynllunio a darparu gwasanaethau, er enghraifft defnyddir gwybodaeth am ethnigrwydd i fonitro cydraddoldeb, a defnyddir gwybodaeth am fod yn berchen ar gerbyd i gynllunio trafnidiaeth a ffyrdd. Y cyfrifiad yw'r unig ffynhonnell gynhwysfawr o ddata ardal fach ar y gofal di-dâl a ddarperir ac fe'i defnyddir i helpu llunwyr polisi i wneud penderfyniadau. Mae cyfresi blaenorol o amcangyfrifon y cyfrifiad wedi darparu rhagor o wybodaeth am y modd y caiff ei ddefnyddio; cyfres a gyhoeddwyd ar 16 Gorffennaf 2012.
Mae rhagor o wybodaeth am amcangyfrifon y cyfrifiad, gan gynnwys manylion am y fethodoleg a ddefnyddir a gwybodaeth am sut y caiff is-grwpiau o'r boblogaeth eu diffinio a'u hamcangyfrif ar gael drwy hafan Cyfrifiad 2011.
Ni chaiff gwybodaeth bersonol o'r cyfrifiad ei rhannu ag unrhyw un o adrannau eraill y llywodraeth na chyrff cenedlaethol, rhanbarthol neu leol. Caiff y wybodaeth a gesglir ei chadw'n gyfrinachol gan SYG, a chaiff ei diogelu gan y gyfraith. Ni chaiff cofnodion unigol y cyfrifiad eu rhyddhau am 100 mlynedd.
Y gyfres hon
Mae amcangyfrifon o Gyfrifiad 2011 ar gyfer Cymru a Lloegr yn cael eu cyhoeddi fesul cam cyn gynted ag y maent ar gael gan SYG. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y cyfresi arfaethedig ym mhrosbectws Cyfrifiad 2011. Mae'r bwletin hwn yn cyflwyno canfyddiadau allweddol o'r holl dablau Ystadegau Allweddol a naw tabl Ystadegau Cryno yng Nghymru. Caiff ystadegau'r DU eu crynhoi a'u cyhoeddi pan fydd y data perthnasol ar gael ar gyfer pob un o'r pedair gwlad: Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae a wnelo'r bwletin hwn â'r boblogaeth breswyl arferol a chartrefi neu leoedd cartrefi yng Nghymru. Nid yw'n cyfeirio at ymwelwyr na phreswylwyr byrdymor. Ystyr 'preswylydd arferol' yw unrhyw un a oedd, ar ddiwrnod y cyfrifiad, yn y DU ac wedi aros neu’n bwriadu aros yn y DU am gyfnod o 12 mis neu fwy, neu â chyfeiriad parhaol yn y DU a’r tu allan i’r DU ac yn bwriadu aros y tu allan i’r DU am lai na 12 mis.
Mae rhai amcangyfrifon o Gyfrifiad 2011 eisoes wedi'u cyhoeddi. Er enghraifft, rhoddodd y gyfres a gyhoeddwyd ar 16 Gorffennaf 2012 amcangyfrifon o'r boblogaeth breswyl arferol yn ôl oedran a rhyw, poblogaeth yn ôl y math o breswylfa, amcangyfrifon o gartrefi ac amcangyfrifon o nifer y preswylwyr byrdymor. Cyhoeddwyd gwybodaeth am nifer y preswylwyr ag ail gyfeiriad hefyd.
Wrth wneud cymariaethau â 2001, cymharwyd amcangyfrifon o'r boblogaeth (yn ôl oedran a rhyw) â'r amcangyfrifon canol blwyddyn ar gyfer 2001. Ar gyfer nodweddion eraill, gwneir cymariaethau ag amcangyfrifon Cyfrifiad 2001. Rhydd y ddwy ffynhonnell amcangyfrif wedi'i dalgrynnu o 2.9 miliwn o breswylwyr arferol yng Nghymru. Darperir troednodiadau gyda'r tablau er mwyn nodi'r ffynonellau data a ddefnyddiwyd.
Mae dadansoddiadau manylach o amcangyfrifon y cyfrifiad ar gael ar gyfer rhai pynciau drwy "straeon byrion" SYG. Cyhoeddir pedair o'r rhain ochr yn ochr â'r bwletin hwn ar wefan SYG. Mae tair ohonynt yn dadansoddi mudo rhyngwladol, ethnigrwydd a chrefydd. Mae'r bedwaredd yn nodi sut mae ystadegau'r farchnad lafur yn wahanol i'r rheini a amcangyfrifwyd o'r Arolwg o'r Llafurlu ar lefel genedlaethol, rhanbarthol, lleol ac awdurdod unedol.
Caiff tablau Ystadegau Allweddol ac Ystadegau Cryno ar gyfer lefelau is hierarchaeth ddaearyddol ystadegol yr ardal allbwn a hierarchaeth ddaearyddol wardiau eu cyhoeddi ar 30 Ionawr 2013. Cyhoeddir rhagor o straeon byrion ochr yn ochr â'r gyfres hon ac wedi hynny, gan gwmpasu teuluoedd, iechyd cyffredinol ac anabledd, gofal di-dâl, iaith, galwedigaeth a diwydiant, cymwysterau a gweithgarwch economaidd.
Nôl i'r tabl cynnwys3. Pwy ydym ni
Mae a wnelo'r wybodaeth yn y rhan hon â nodweddion personol y boblogaeth breswyl arferol fel y'i hamcangyfrifwyd gan Gyfrifiad 2011 ar gyfer Cymru. Mae'n cwmpasu ein hoedran a'n rhyw, ein hiechyd cyffredinol, p'un a oes gennym salwch neu anabledd sy'n cyfyngu ar ein gweithgareddau dyddiol, ein credoau crefyddol, ein hethnigrwydd, ein hunaniaeth genedlaethol, p'un a gawsom ein geni yn y DU ai peidio ac, os na chawsom, pa basbortau a ddelir gennym a'n sgiliau iaith.
Roedd gan Gymru boblogaeth breswyl arferol o 3.1 miliwn yn 2011, cynnydd o 5 y cant ers 2001. Roedd bron un o bob pump (18 y cant, 563,000) o breswylwyr yn 65 oed neu drosodd.
Roedd gan ychydig o dan 23 y cant o breswylwyr (696,000) broblem iechyd neu anabledd hirdymor, canran uwch nag unrhyw ranbarth yn Lloegr.
Nododd 58 y cant (1.8 miliwn) o breswylwyr Cymru eu bod yn Gristnogion, gostyngiad o 14 pwynt canran ers 2001 a mwy o ostyngiad nag unrhyw un o ranbarthau Lloegr.
Nododd bron dwy ran o dair (66 y cant, 2.0 miliwn) o breswylwyr Cymru eu bod yn Gymry. O'r rhain, nododd 218,000 eu bod yn ystyried eu hunain yn Brydeinwyr hefyd.
Roedd 30 y cant (169,000) o breswylwyr arferol Cymru a oedd yn dair oed a throsodd a allai siarad Cymraeg (562,000) rhwng tair a 15 oed.
Gwelwyd gostyngiad o un pwynt canran yng nghanran preswylwyr Cymru a oedd yn dair oed a throsodd a allai siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg o 16 y cant (458,000) yn 2001 i 15 y cant (431,000) yn 2011.
4. Oedran a rhyw
Ar 16 Gorffennaf 2012, cyhoeddwyd amcangyfrifon Cyfrifiad 2011 o'r boblogaeth a chartrefi ar gyfer Cymru.
Dangosodd y rhain fod gan Gymru boblogaeth breswyl arferol o 3.1 miliwn ar 27 Mawrth 2011; 1.5 miliwn o ddynion ac 1.6 miliwn o ferched. Gwelwyd twf o 5 y cant (153,000) yn y boblogaeth ers 2001, ac roedd mudo yn cyfrif am 92 y cant (141,000) o'r cynnydd yn y boblogaeth yng Nghymru yn ystod y cyfnod 10 mlynedd, a hynny'n fudo o'r DU a thramor.
Roedd bron un o bob pump (18 y cant, 563,000) o'r boblogaeth yn 65 oed a throsodd, cynnydd o un pwynt canran (56,700) ers 2001. Fel yn 2011, roedd plant o dan bump oed yn cyfrif am 6 y cant (178,000) o'r boblogaeth breswyl arferol yng Nghymru, cynnydd o 11,300.
Roedd 1.3 miliwn o gartrefi yng Nghymru, gyda 2.3 o breswylwyr fesul cartref ar gyfartaledd. Gwelwyd twf yn y boblogaeth ym mhob rhan o Gymru rhwng 2001 a 2011, ac eithrio Blaenau Gwent.
Mae'r wybodaeth a gyhoeddwyd hyd yn hyn o Gyfrifiad 2011 ar gael.
Nôl i'r tabl cynnwys5. Lechyd
Iechyd cyffredinol
Gofynnwyd i breswylwyr arferol asesu eu hiechyd yn gyffredinol gan ddefnyddio graddfa pum pwynt: da iawn, da, gweddol, gwael neu wael iawn. Nododd y mwyafrif o'r preswylwyr arferol yng Nghymru, 78 y cant (2.4 miliwn), fod eu hiechyd yn dda neu'n dda iawn. Nododd 15 y cant (448,000) fod eu hiechyd yn weddol, a nododd yr 8 y cant a oedd yn weddill (234,000) fod eu hiechyd yn wael neu'n wael iawn; nododd mwy o breswylwyr arferol fd eu hiechyd yn wael neu'n wael iawn nag yn unrhyw ranbarth yn Lloegr.
Nid oedd hwn yn gwestiwn newydd yn 2011 ond mae ei strwythur wedi newid. Yn 2011, roedd yn seiliedig ar raddfa tri phwynt: da, gweddol dda neu ddim yn dda. Felly, ni ellir cymharu'r canfyddiadau yn uniongyrchol. Er enghraifft, gallai rhai pobl a nododd fod eu hiechyd yn 'weddol' yn 2011 fod wedi nodi bod eu hiechyd yn 'weddol dda' gan ddefnyddio graddfa 2001 ond gallai rhai fod wedi nodi 'ddim yn dda'. Cyhoeddir dadansoddiad o amcangyfrifon sy'n ymwneud ag iechyd a gofal ar 30 Ionawr 2013. Bydd y stori hon yn cymharu data ar iechyd cyffredinol gyda 2001 drwy gymhwyso pwysoliadau i'r categorïau ymateb (275.3 Kb Pdf).
Rhoddir gwybodaeth am iechyd yn nhabl KS301EW (102 Kb Excel sheet).
Salwch hirdymor sy'n cyfyngu ar weithgareddau
Yn 2011, gofynnwyd i'r rheini a nododd fod ganddynt broblem iechyd neu anabledd hirdymor (gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig ag oedran) sy'n cyfyngu ar eu gweithgareddau dyddiol ac a oedd wedi para, neu yr oedd disgwyl iddo bara o leiaf 12 mis, asesu p'un a oedd problem iechyd o'r fath yn cyfyngu'n fawr neu'n cyfyngu ychydig ar eu gweithgareddau dyddiol, neu p'un a oedd yn cyfyngu ar eu gweithgareddau dyddiol o gwbl. Mae'r amcangyfrifon ar gyfer 2011 yn Nhabl 1.
Yn 2001, y categorïau ymateb ar gyfer salwch hirdymor sy'n cyfyngu ar weithgareddau oedd 'oes' a 'nac oes'. Er mwyn cymharu 2001 a 2011, rhaid cyfuno canlyniadau 2011 ar gyfer 'Oes, yn cyfyngu'n fawr' ac 'Oes, yn cyfyngu ychydig' yn un ymateb, sef 'Oes'.
Tabl 1: Lefel gweithgarwch a gyfyngir gan broblem iechyd neu anabledd hirdymor fesul band oedran
Cymru, 2001 a 2011, Pob preswylydd arferol | |||||
Miloedd, y cant | |||||
Blwyddyn | Oedran | Cyfyngedig1 | Ddim yn gyfyngedig | ||
Nifer | Y cant | Nifer | Y cant | ||
2001 | Oedran gweithio2 | 319 | 18 | 1,415 | 82 |
Pob oedran | 676 | 23 | 2,227 | 77 | |
2011 | 16 i 64 | 329 | 17 | 1,615 | 83 |
Pob oedran | 696 | 23 | 2,368 | 77 | |
Ffynhonnell y tabl: Swyddfa Ystadegau Gwladol | |||||
Nodiadau'r tabl: | |||||
1. Mae amcangyfrifon Cyfrifiad 2011 ar gyfer 'cyfyngu ychydig' a 'cyfyngu'n fawr' wedi'u cyfuno fel bod modd eu cymharu ag amcangyfrifon Cyfrifiad 2001. | |||||
2. Diffinnir oedran gweithio fel rhwng 16 a 64 yn gynhwysol i ddynion a rhwng 16 a 59 yn gynhwysol i ferched. |
Download this table Tabl 1: Lefel gweithgarwch a gyfyngir gan broblem iechyd neu anabledd hirdymor fesul band oedran
.xls (26.6 kB)Rhoddir gwybodaeth am broblemau iechyd hirdymor sy'n cyfyngu ar weithgareddau yn nhabl KS301EW (102 Kb Excel sheet).
Nôl i'r tabl cynnwys6. Crefydd
Cyflwynwyd y cwestiwn am ymlyniad crefyddol yn y cyfrifiad yn 2001 ac roedd yn wirfoddol. Ni welwyd gwahaniaeth yn nhrefn y prif grwpiau crefyddol yn ôl maint rhwng 2001 a 2011. Mae Tabl 2 yn dangos mai Cristnogaeth oedd y grŵp mwyaf; 58 y cant (1.8 miliwn) o breswylwyr arferol yng Nghymru.
Mae hwn yn ostyngiad o 14 pwynt canran ers 2001 pan nododd 72 y cant (2.1 miliwn) o breswylwyr arferol eu bod yn Gristnogion. Dyma'r unig grŵp a welodd leihad mewn niferoedd rhwng 2001 a 2011 er gwaethaf twf yn y boblogaeth.
Yr ail grŵp mwyaf o ran ymatebion i'r cwestiwn hwn yn 2011 oedd dim crefydd. Gwelwyd cynnydd o 19 y cant (538,000) o breswylwyr arferol yn 2001 i 32 y cant (983,000) yn 2011. Roedd y cynnydd hwn o 14 pwynt canran yn fwy nag yn unrhyw ranbarth yn Lloegr.
Tabl 2: Crefydd
Cymru, 2001 a 2011, Pob preswylydd arferol | ||||||
Miloedd, y cant | ||||||
Crefydd | 2001 | 2011 | Newid | |||
Nifer | Y cant | Nifer | Y cant | Nifer | Pwynt canran | |
Cristnogaeth | 2,087 | 71.9 | 1,763 | 57.6 | -324 | -14.3 |
Dim crefydd | 538 | 18.5 | 983 | 32.1 | 445 | 13.6 |
Islam | 22 | 0.7 | 46 | 1.5 | 24 | 0.8 |
Crefydd arall | 7 | 0.2 | 13 | 0.4 | 6 | 0.2 |
Hindŵaeth | 5 | 0.2 | 10 | 0.3 | 5 | 0.1 |
Bwdhaeth | 5 | 0.2 | 9 | 0.3 | 4 | 0.1 |
Siciaeth | 2 | 0.1 | 3 | 0.1 | 1 | 0.0 |
Iddewiaeth | 2 | 0.1 | 2 | 0.1 | 0 | 0.0 |
Crefydd heb ei nodi | 234 | 8.1 | 234 | 7.6 | 0 | -0.5 |
Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol, data Cyfrifiad 2001 o KS07, data Cyfrifiad 2011 o KS209EW. |
Download this table Tabl 2: Crefydd
.xls (26.6 kB)Fel y gellir ei weld yn Ffigur 1, yn rhanbarthol, Llundain oedd â'r ganran isaf o bobl a nododd eu bod yn Gristnogion yn 2001 a 2011; fodd bynnag, gwelwyd gostyngiad o ran y gwahaniaeth rhwng y gwerthoedd ar gyfer Cymru a Llundain, o 14 i naw pwynt canran.
Ffigur 1: Preswylwyr arferol a nododd eu bod yn Gristnogion
Cymru, rhanbarthau Lloegr, 2001 a 2011, Pob preswylydd arferol
Source: Cyfrifiad - Swyddfa Ystadegau Gwladol
Download this image Ffigur 1: Preswylwyr arferol a nododd eu bod yn Gristnogion
.png (11.0 kB) .xls (24.1 kB)Rhoddir gwybodaeth am grefydd yn nhablau KS209EW (108.5 Kb Excel sheet) a QS210EW (150 Kb Excel sheet) .
Trafodir ymhellach amcangyfrifon sy'n ymwneud ag ymlyniad crefyddol preswylwyr arferol yng Nghymru a Lloegr mewn stori fer a gyhoeddir fel rhan o'r gyfres hon.
Nôl i'r tabl cynnwys7. Grŵp ethnig a hunaniaeth
Grŵp ethnig cyffredinol
Yn 2011, roedd 96 y cant (2.9 miliwn) o boblogaeth breswyl arferol Cymru yn Wyn, gostyngiad o ddau bwynt canran o gymharu ag amcangyfrif 2001, sef 98 y cant (2.8 miliwn). Ar gyfer 2001 a 2011, roedd canran uwch yn y grŵp ethnig hwn nag yn unrhyw un o ranbarthau Lloegr. Mae Ffigur 2 yn dangos yr ymatebion i'r cwestiwn am grwpiau ethnig yng Nghymru yn 2011.
Ffigur 2: Grŵp ethnig
Cymru, 2011, Pob preswylydd arferol
Source: Cyfrifiad - Swyddfa Ystadegau Gwladol
Download this image Ffigur 2: Grŵp ethnig
.png (19.6 kB) .xls (81.9 kB)Grŵp ethnig o fewn cartrefi
Gwelwyd cynnydd o un pwynt canran yn nifer y cartrefi sy'n cynnwys preswylwyr arferol o fwy nag un grŵp ethnig, o 3 y cant (42,000) yn 2001, i 4 y cant (55,000) yn 2011. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, cartrefi lle mae partneriaid neu aelodau o wahanol genedlaethau yn perthyn i wahanol grwpiau ethnig. Gwelwyd cynnydd yn y ganran hon ym mhob rhanbarth yn Lloegr hefyd.
Gallai'r newidiadau a welwyd rhwng 2001 a 2011 fod o ganlyniad i fudo, naill ai o fewn y DU neu fannau eraill, gan gynnwys oedolion ifanc yn mynychu neu'n dychwelyd o'r brifysgol. Gwelir newidiadau hefyd yn sgil marwoldeb neu wrth i ymatebwyr newid eu canfyddiad o'u hethnigrwydd dros amser.
Rhoddir gwybodaeth am grwpiau ethnig yn nhablau KS201EW (113 Kb Excel sheet) a QS202EW (117 Kb Excel sheet) .
Trafodir ymhellach amcangyfrifon sy'n ymwneud â grwpiau ethnig preswylwyr arferol mewn stori fer a gyhoeddir fel rhan o'r gyfres hon.
Hunaniaeth genedlaethol
Casglodd Cyfrifiad 2011 ddata ar hunaniaeth genedlaethol am y tro cyntaf. Mewn cyfresi diweddarach o wybodaeth am y cyfrifiad a gyhoeddir pan fydd croes-dablau ar gael, bydd yn bosibl gweld rhagor o wybodaeth am y gydberthynas rhwng hunaniaeth genedlaethol a phynciau eraill, er enghraifft ethnigrwydd a gwlad enedigol.
Gallai unigolion nodi ar holiadur y cyfrifiad fod ganddynt fwy nag un hunaniaeth genedlaethol; er enghraifft, gallai unigolyn nodi ei fod yn Gymro ac yn Brydeiniwr. Yng Nghymru, nododd 66 y cant (2.0 miliwn) o breswylwyr arferol eu bod yn Gymry (naill ai fel unig ateb neu mewn cyfuniad â hunaniaethau eraill). Nododd y mwyafrif o breswylwyr arferol yng Nghymru (96 y cant, 2.9 miliwn) fod ganddynt o leiaf un hunaniaeth genedlaethol o blith Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig.
O'r 66 y cant (2.0 miliwn) o breswylwyr arferol yng Nghymru a ystyriai eu bod yn Gymry yn 2011, nododd 218,000 fod ganddynt hunaniaeth Gymreig a Phrydeinig. Roedd ychydig o dan 17 y cant (519,00) yn ystyried eu bod yn Brydeinwyr yn unig. Mae Ffigur 3 yn dangos gwybodaeth am hunaniaeth genedlaethol Gymreig, Prydeinig a Seisnig ar gyfer Cymru a Lloegr.
Yn Lloegr, nododd 70 y cant (37.2 miliwn) o'r boblogaeth breswyl arferol fod ganddynt hunaniaeth Seisnig. O'r ffigur hwnnw, roedd 60 y cant (32.0 miliwn) yn ystyried bod ganddynt hunaniaeth Seisnig yn unig a nododd 9 y cant (4.8 miliwn) fod ganddynt hunaniaeth Seisnig a Phrydeinig. Nododd ychydig dros 19 y cant (10.2 miliwn) fod ganddynt hunaniaeth Brydeinig yn unig.
Gallai'r gwahaniaeth hwn wrth nodi hunaniaeth genedlaethol yng Nghymru a Lloegr fod yn gysylltiedig â phatrymau mudo mewnol yn y DU; cafodd 21 y cant (636,000) o'r boblogaeth breswyl arferol yng Nghymru eu geni yn Lloegr, tra cafodd 1 y cant (507,000) o boblogaeth breswyl arferol Lloegr eu geni yng Nghymru.
Ffigur 3: Hunaniaeth genedlaethol
Cymru, Lloegr, 2011, Pob preswylydd arferol
Source: Cyfrifiad - Swyddfa Ystadegau Gwladol
Download this image Ffigur 3: Hunaniaeth genedlaethol
.png (12.3 kB) .xls (28.2 kB)Rhoddir gwybodaeth am hunaniaeth genedlaethol yn nhabl KS202EW (134.5 Kb Excel sheet).
Nôl i'r tabl cynnwys8. Preswylwyr arferol a aned y tu allan i'r DU
Gwlad enedigol
Mae Tabl 3 yn dangos bod 73 y cant (2.2 miliwn) o breswylwyr arferol yng Nghymru wedi cael eu geni yno, dau bwynt canran yn llai nag yn 2001. Gellir priodoli'r newid hwn i fudo rhyngwladol a mewnol. Yn Lloegr, nododd 84 y cant (44.2 miliwn) o'r boblogaeth breswyl arferol iddynt gael eu geni yno. Fel yng Nghymru, mae hyn yn llai nag yn 2001, ond mae mwy o'r newid yn gysylltiedig â mudo rhyngwladol.
Yn 2001, cafodd 20 y cant (590,000) o'r boblogaeth breswyl arferol yng Nghymru eu geni yn Lloegr. Yn 2011, roedd hyn wedi cynyddu un pwynt canran (21 y cant, 636,000).
Tabl 3: Gwlad enedigol
Cymru, Lloegr, 2001 a 2011, Pob preswylydd arferol | ||||||||
Miloedd, y cant | ||||||||
Gwlad enedigol | Cymru | Lloegr | ||||||
2001 | 2011 | 2001 | 2011 | |||||
Nifer | Y cant | Nifer | Y cant | Nifer | Y cant | Nifer | Y cant | |
Cymru | 2,189 | 75 | 2,226 | 73 | 610 | 1 | 507 | 1 |
Lloegr | 590 | 20 | 636 | 21 | 42,969 | 87 | 44,247 | 83 |
Gweddill y DU1 | 32 | 1 | 33 | 1 | 1,010 | 2 | 922 | 2 |
Tu allan i'r DU | 92 | 3 | 168 | 5 | 4,551 | 9 | 7,337 | 14 |
Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol, data Cyfrifiad 2001 o KS05, data Cyfrifiad 2011 o KS204EW. | ||||||||
Nodiadau'r tabl: | ||||||||
1. Mae gweddill y Deyrnas Unedig (DU) yn cynnwys 'Y Deyrnas Unedig Heb ei nodi fel arall'. |
Download this table Tabl 3: Gwlad enedigol
.xls (26.1 kB)Rhoddir gwybodaeth am wledydd genedigol yn nhablau KS204EW (112.5 Kb Excel sheet) a QS203EW (172 Kb Excel sheet) .
Trafodir ymhellach amcangyfrifon sy'n ymwneud â phreswylwyr arferol nas ganwyd yn y DU yng Nghymru a Lloegr mewn stori fer a gyhoeddir fel rhan o'r gyfres hon.
Pasbortau a ddelir
Am y tro cyntaf, casglodd Cyfrifiad 2011 wybodaeth am basbortau a ddelir. Roedd gan 78 y cant (2.4 miliwn) o breswylwyr arferol yng Nghymru o leiaf un pasbort ac nid oedd 22 y cant (688,000) o breswylwyr arferol yn meddu ar basbort. Dangosir canrannau'r pasbortau a ddelir yng Nghymru a rhanbarthau Lloegr yn Ffigur 4.
Ffigur 4: Pasbortau a ddelir
Cymru, rhanbarthau Lloegr, 2011, Pob preswylydd arferol
Source: Cyfrifiad - Swyddfa Ystadegau Gwladol
Notes:
- Gall fod gan breswylwyr arferol yn y categori hwn un neu ragor o basbortau nad ydynt yn rhai'r DU hefyd.
- Nid oes gan breswylwyr arferol yn y categori hwn basbort y DU ond efallai y bydd ganddynt fwy nag un pasbort nad yw'n basbort y DU.
Download this image Ffigur 4: Pasbortau a ddelir
.png (10.2 kB) .xls (20.5 kB)Yng Nghymru, roedd 7 y cant (201,000) o breswylwyr arferol yn meddu ar basbort nad oedd yn basbort y DU. Roedd hyn yn is nag yn unrhyw ranbarth yn Lloegr ac eithrio'r Gogledd-ddwyrain (6 y cant, 148,000).
Rhoddir gwybodaeth am basbortau a ddelir yn nhabl KS205EW (149 Kb Excel sheet).
Nôl i'r tabl cynnwys9. Iaith Cartrefi
Casglodd y cyfrifiad wybodaeth am brif iaith a sgiliau iaith Cymraeg a Saesneg am y tro cyntaf. Gallai pobl na wnaethant nodi Cymraeg na Saesneg fel prif iaith fod yn rhugl yn Gymraeg neu Saesneg ac roeddent yn gallu nodi bod eu medrusrwydd yn yr iaith Gymraeg neu Saesneg yn 'dda' neu'n 'dda iawn'.
Roedd pob preswylydd arferol mewn 97 y cant (1.3 miliwn) o gartrefi yng Nghymru yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel prif iaith. Mewn 1 y cant (18,000) o gartrefi eraill roedd o leiaf un oedolyn yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel prif iaith, ac mewn llai nag 1 y cant (3,000) o gartrefi, nid oedd unrhyw oedolion ond o leiaf un plentyn yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel prif iaith. Yn y 2 y cant (22,000) o gartrefi eraill yng Nghymru, nid oedd unrhyw breswylwyr arferol a nododd eu bod yn siarad naill ai Cymraeg neu Saesneg fel prif iaith.
Rhoddir gwybodaeth am iaith cartrefi yn nhabl KS206EW (103.5 Kb Excel sheet).
Nôl i'r tabl cynnwys10. Medrusrwydd yn y Gymraeg
Mae Tabl 4 yn dangos mai 19 y cant (562,000) o breswylwyr arferol yng Nghymru a oedd yn dair oed a throsodd a nododd eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn 2011. Roedd 30 y cant (169,000) o'r grŵp hwn rhwng tair a 15 oed.
Mae'r nifer amcangyfrifedig o siaradwyr Cymraeg ddau bwynt canran yn is nag amcangyfrif 2001 sef 21 y cant (576,000) er, yn 2001, nid oedd y nifer amcangyfrifedig o bobl a oedd yn 'Gallu siarad Cymraeg' yn cynnwys y rheini a nododd fod siarad Cymraeg yn un o'u sgiliau yn y categori 'Cyfuniad arall o sgiliau'.
Yn 2011, cynyddodd nifer y preswylwyr arferol yng Nghymru a oedd yn dair oed a throsodd a ddywedodd nad oedd ganddynt unrhyw sgiliau Cymraeg bron ddau bwynt canran i 73 y cant (2.2 miliwn). Lleihaodd y grŵp a nododd eu bod yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg dros un pwynt canran i 15 y cant (431,000).
Tabl 4: Sgiliau iaith Gymraeg
Cymru, 2001 a 2011, Preswylwyr arferol tair oed a throsodd | ||||||
Miloedd, y cant | ||||||
Sgiliau iaith Gymraeg | 2001 | 2011 | Newid | |||
Nifer | Y cant | Nifer | Y cant | Nifer | Pwynt canran | |
Dim sgiliau Cymraeg | 2,008 | 71.6 | 2,168 | 73.3 | 160 | 1.7 |
Gallu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg | 458 | 16.3 | 431 | 14.6 | -27 | -1.7 |
Gallu deall Cymraeg llafar yn unig | 138 | 4.9 | 158 | 5.3 | 19 | 0.4 |
Gallu siarad ond ddim yn gallu darllen nac ysgrifennu Cymraeg | 79 | 2.8 | 80 | 2.7 | 1 | -0.1 |
Cyfuniad arall o sgiliau Cymraeg | 84 | 3.0 | 73 | 2.5 | -11 | -0.5 |
Gallu siarad a darllen ond ddim yn gallu ysgrifennu Cymraeg | 38 | 1.4 | 46 | 1.5 | 8 | 0.1 |
Gallu siarad Cymraeg1 | 576 | 20.5 | 562 | 19.0 | -14 | -1.5 |
Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol, data Cyfrifiad 2001 o KS25, data Cyfrifiad 2011 o KS207EW. | ||||||
Nodiadau'r tabl: | ||||||
1. Mae 'Gallu siarad Cymraeg' yn cwmpasu pawb sy'n gallu siarad Cymraeg. Yn 2011 roedd hyn yn cynnwys rhai o'r rheini yn 'Cyfuniad arall o sgiliau' yn wahanol i 2001. |
Download this table Tabl 4: Sgiliau iaith Gymraeg
.xls (27.1 kB)Rhoddir gwybodaeth am sgiliau Cymraeg yn nhablau KS207WA (108 Kb Excel sheet) , KS208WA (112.5 Kb Excel sheet) , QS206WA (118 Kb Excel sheet) a QS207WA (123.5 Kb Excel sheet) .
Trafodir ymhellach amcangyfrifon sy'n ymwneud â medrusrwydd yn y Gymraeg mewn bwletin ystadegol sydd wedi'i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.
Nôl i'r tabl cynnwys11. Sut rydym yn byw
Mae'r rhan hon yn sôn am y boblogaeth breswyl arferol sy'n byw mewn cartrefi ac mae'n nodi'r math o lety rydym yn byw ynddo a ph'un a ydym yn berchen arno neu'n ei rentu, sawl ystafell sydd gennym, p'un a oes gennym wres canolog a nifer y ceir a faniau y mae gennym fynediad iddynt. Yna, mae'n nodi'r bobl rydym yn byw gyda hwy mewn cartrefi a'n statws priodasol. Yn olaf, mae'n cyflwyno amcangyfrifon cryno o gyfran y boblogaeth a oedd byw mewn sefydliad cymunedol.
Roedd mwy o gartrefi yng Nghymru (67 y cant, 879,000) yn berchen ar eu llety nag yn Lloegr (63 y cant, 14.0 miliwn).
Nododd bron pob cartref yng Nghymru fod ganddynt wres canolog yn 2011 (98 y cant, 1.3 miliwn), sef cynnydd o chwe phwynt canran ers 2001 (92 y cant, 1.1 miliwn).
Cynyddodd nifer y ceir a faniau a oedd ar gael i gartrefi yng Nghymru o 1.3 i 1.6 miliwn rhwng 2001 a 2011. Yn 2001, roedd 11 car i bob 10 o gartrefi ar gyfartaledd tra roedd 12 car i bob 10 o gartrefi yn 2011.
Y ddau gategori a nodwyd amlaf gan breswylwyr arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru o ran eu statws priodasol oedd priod (47 y cant, 1.2 miliwn) a sengl (erioed wedi priodi na chofrestru partneriaeth sifil) (34 y cant, 840,000).
12. Llety a deiliadaeth
Math o lety
Fel y gellir ei weld yn Ffigur 5, byngalos neu dai semi oedd y math mwyaf cyffredin o lety yng Nghymru yn 2011 (31 y cant, 430,000), wedi'i ddilyn gan fyngalos neu dai teras (28 y cant, 385,000) a byngalos neu dai ar wahân (28 y cant, 384,000). Roedd trefn dosbarthiad y mathau hyn o lety fel yr oedd yn 2001.
Rhwng 2001 a 2011, cynyddodd canran y cartrefi a oedd yn byw mewn blociau o fflatiau neu denementau a adeiladwyd yn bwrpasol ddau bwynt canran o 8 y cant (102,000) yn 2001 i 10 y cant (134,000) yn 2011.
Ffigur 5: Math o lety
Cymru, 2001 a 2011, Pob cartref
Source: Cyfrifiad - Swyddfa Ystadegau Gwladol
Download this image Ffigur 5: Math o lety
.png (13.6 kB) .xls (17.9 kB)Wrth edrych ar Ffigur 6, gwelir bod Cymru a rhanbarthau Lloegr yn dilyn patrymau tebyg o ran y cartrefi sy'n byw mewn mathau gwahanol o lety, ac eithrio Llundain a oedd â'r ganran leiaf (48 y cant, 1.6 miliwn) o gartrefi yn byw mewn tai neu fyngalos cyfan, p'un a oeddent ar wahân, yn dai semi neu'n dai teras.
Ffigur 6: Math o lety
Cymru, rhanbarthau Lloegr, 2011, Pob cartref
Source: Cyfrifiad - Swyddfa Ystadegau Gwladol
Download this image Ffigur 6: Math o lety
.png (18.7 kB) .xls (20.5 kB)Rhoddir gwybodaeth am y math o lety yn nhabl KS401EW (115.5 Kb Excel sheet).
Deiliadaeth
Mae math o ddeiliadaeth yn cyfeirio at b'un a yw unigolyn yn berchen ar gartref neu'n ei rentu. Yng Nghymru, fel yn Lloegr, mae'r rhan fwyaf o bobl naill ai'n berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl (35 y cant, 461,000), neu gyda morgais neu fenthyciad (32 y cant, 417,000). Mae hyn yn ganran uwch o'r boblogaeth (67 y cant, 879,000) nag yn Lloegr (63 y cant, 14.0 miliwn), fel y dangosir yn Nhabl 5. Gall hyn fod yn gysylltiedig â'r boblogaeth gymharol hŷn yng Nghymru o gymharu â rhanbarthau Lloegr. Bydd gwybodaeth bellach o'r cyfrifiad yn croes-dablu deiliadaeth yn ôl oedran.
Yn 2011, y trydydd categori mwyaf o ran deiliadaeth oedd rhentu llety'n breifat gan landlord neu asiantaeth gosod tai (13 y cant, 164,800). Mae hyn yn wahanol i 2001 pan mae'r trydydd categori mwyaf oedd rhentu llety gan y cyngor (14 y cant, 166,000). Mae'r newid hwn yn adlewyrchu'r gostyngiad o bedwar pwynt canran mewn rhentu llety gan y cyngor i 10 y cant (128,000), a'r cynnydd o bum pwynt canran mewn rhentu llety gan landlordiaid preifat neu asiantaethau gosod tai i 13 y cant (165,000). Mae'r gostyngiad mewn cyfraddau rhentu gan y cyngor hefyd yn adlewyrchiad rhannol o'r polisi o drosglwyddo stoc tai o gynghorau i gymdeithasau tai 1.
Tabl 5: Deiliadaeth
Cymru, Lloegr, 2001 a 2011, Pob cartref | |||||||||
Miloedd, y cant | |||||||||
Deiliadaeth | Cymru | Lloegr | |||||||
2001 | 2011 | 2001 | 2011 | ||||||
Nifer | Y cant | Nifer | Y cant | Nifer | Y cant | Nifer | Y cant | ||
Yn berchen arno | Yn berchen arno'n gyfan gwbl | 411 | 34 | 461 | 35 | 5,970 | 29 | 6,746 | 31 |
Yn berchen arno gyda morgais neu fenthyciad | 445 | 37 | 417 | 32 | 7,951 | 39 | 7,229 | 33 | |
Perchenogaeth a rennir | 6 | 0 | 4 | 0 | 134 | 1 | 174 | 1 | |
Yn ei rentu'n gymdeithasol | Yn ei rentu gan y cyngor (awdurdod lleol) | 166 | 14 | 128 | 10 | 2,702 | 13 | 2,080 | 9 |
Arall | 50 | 4 | 87 | 7 | 1,238 | 6 | 1,824 | 8 | |
Yn ei rentu'n breifat | Landlord preifat neu asiantaeth gosod tai | 90 | 7 | 165 | 13 | 1,799 | 9 | 3,402 | 15 |
Arall (yn cynnwys byw yma heb dalu rhent1) | 40 | 3 | 40 | 3 | 658 | 3 | 609 | 3 | |
Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol, data Cyfrifiad 2001 o KS18, data Cyfrifiad 2011 o KS205EW. | |||||||||
Nodiadau'r tabl: | |||||||||
1. Mae Cyfrifiad 2011 yn darparu amcangyfrifon ar wahân ar gyfer y rheini sy'n 'Byw yma heb dalu rhent' ond mae'r categori hwn wedi'i grwpio gydag 'Yn ei rentu'n breifat: Arall' yn y tabl hwn fel bod modd eu cymharu ag amcangyfrifon Cyfrifiad 2001. |
Download this table Tabl 5: Deiliadaeth
.xls (27.1 kB)Rhoddir gwybodaeth am ddeiliadaeth yn nhabl KS402EW (111 Kb Excel sheet) .
Nodiadau ar gyfer - Llety a deiliadaeth
- Gofynnodd y Cyfrifiad i ymatebwyr nodi pwy yw eu landlord ac mae’r canlyniadau’n adlewyrchu’r ymatebion a roddwyd. Dros y degawd diwethaf, mae hanner yr awdurdodau lleol yng Nghymru wedi trosglwyddo’r gwaith o reoli eu holl stoc tai awdurdodau lleol i landlordiaid cymdeithasol eraill. Bydd unigolion sy’n ymateb i’r cyfrifiad yn adrodd eu dealltwriaeth o’u landlord ac efallai na fydd hyn yn adlewyrchu’r trefniadau rheoli gwirioneddol ym mhob achos.
13. Ystafelloedd, ystafelloedd gwely a gwres canolog
Ystafelloedd ac ystafelloedd gwely
Yng Nghymru yn 2011 roedd 5.7 o ystafelloedd fesul cartref ar gyfartaledd, sydd ychydig yn uwch na'r amcangyfrif o 5.6 yn 2001.
Mae hyn yn uwch na'r ffigurau cyfartalog ar gyfer unrhyw ranbarth yn Lloegr, sy'n amrywio o 4.7 yn Llundain, sef yr unig ranbarth â llai na 5.3 ystafell ar gyfartaledd, i 5.6 yn Nwyrain Canolbarth Lloegr, Dwyrain Lloegr, De-ddwyrain Lloegr a De-orllewin Lloegr.
Gofynnodd Cyfrifiad 2011 am nifer yr ystafelloedd gwely mewn cartrefi am y tro cyntaf. Yng Nghymru, roedd 2.8 ystafell wely fesul cartref ar gyfartaledd. Nid oedd fawr ddim amrywiad ledled Cymru a rhanbarthau Lloegr, gyda Llundain yn nodi'r cyfartaledd isaf, sef 2.5 ystafell wely fesul cartref.
Mae cyfraddau deiliadaeth ystafelloedd ac ystafelloedd gwely yn ddangosyddion amddifadedd a gorboblogi mewn cartref. Mae cyfradd ddeiliadaeth o -1 yn awgrymu bod un ystafell yn brin ar gyfer nifer y bobl sy'n byw yn y cartref. Yn 2011, roedd gan 5 y cant (67,000) o gartrefi yng Nghymru gyfradd ddeiliadaeth o -1 neu lai ar gyfer ystafelloedd. Mae hyn yn gynnydd o un pwynt canran ar 2001, pan nodwyd bod gan 4 y cant (53,000) o gartrefi yng Nghymru gyfradd ddeiliadaeth o -1 neu lai ar gyfer ystafelloedd. Roedd gan 3 y cant (40,000) gyfradd ddeiliadaeth o -1 neu lai ar gyfer ystafelloedd gwely1.
Heblaw am ranbarth Gogledd-ddwyrain Lloegr (5 y cant, 57,000), Cymru oedd â'r ganran isaf o gartrefi â chyfraddau deiliadaeth o -1 neu lai ar gyfer ystafelloedd, a Chymru oedd â'r ganran isaf o gartrefi â chyfraddau deiliadaeth o -1 neu lai ar gyfer ystafelloedd gwely ar wahân i Dde-orllewin Lloegr (3 y cant, 66,000).
Rhoddir gwybodaeth am ystafelloedd ac ystafelloedd gwely yn nhabl KS403EW (121 Kb Excel sheet) .
Gwres canolog
Nododd bron pob cartref yng Nghymru fod ganddynt wres canolog yn 2011 (98 y cant, 1.3 miliwn). Mae hyn chwe phwynt canran yn uwch na 2001 (92 y cant, 1.1 miliwn). Gallai'r tai a adeiladwyd yn y 10 mlynedd wedyn fod wedi cynnwys gwres canolog fel nodwedd safonol.
Rhoddir gwybodaeth am wres canolog yn nhabl KS403EW (121 Kb Excel sheet) .
Nodiadau ar gyfer - Ystafelloedd, ystafelloedd gwely a gwres canolog
- Cyflwynwyd y defnydd o ystafelloedd gwely fel dangosydd gorboblogi ym Mesur Tai (Gorboblogi) 46 (2003). Mae’r diffiniad o’r safon ystafell wely yn cyfeirio at ystafelloedd gwely ac ystafelloedd na ellir byw ynddynt â llai na 50 troedfedd sgwâr o arwynebedd llawr. Nid yw’r cyfrifiad yn casglu’r wybodaeth hon ac ni chaiff ei defnyddio i lunio cyfraddau deiliadaeth ystafelloedd gwely Cyfrifiad 2011.
14. Argaeledd car neu fan
Cynyddodd nifer y ceir neu faniau a oedd ar gael i'w defnyddio gan gartrefi yng Nghymru o 1.3 miliwn i 1.6 miliwn rhwng 2001 a 2011. Yn 2001, roedd cyfartaledd o 11 car i bob 10 o gartrefi tra roedd 12 car i bob 10 o gartrefi yn 2011.
Ffigur 7: Ceir neu faniau
Cymru, 2001 a 2011, Pob cartref
Source: Cyfrifiad - Swyddfa Ystadegau Gwladol
Download this chart Ffigur 7: Ceir neu faniau
Image .csv .xlsMae Ffigur 7 yn dangos bod canran y cartrefi â dau, tri, neu bedwar neu fwy o geir neu faniau wedi cynyddu rhwng 2001 a 2011, tra gwnaeth y nifer heb ddim un neu un leihau. Mae hyn i'w ddisgwyl o ystyried y cynnydd cyffredinol mewn ceir a faniau fesul cartref. Efallai y bydd croes-dablu Cyfrifiad 2011 mewn cyfresi data pellach yn helpu i egluro'r cynnydd mewn ceir neu faniau fesul cartref, er enghraifft, cyhoeddir pobl mewn cartrefi yn ôl oedran yn 2013.
Rhoddir gwybodaeth am argaeledd car neu fan yn nhabl KS404EW (107 Kb Excel sheet).
Nôl i'r tabl cynnwys15. Statws priodasol
Mae Tabl 6 yn dangos mai'r grŵp statws priodasol mwyaf yng Nghymru yn 2011 oedd preswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd yn briod, sef 47 y cant (1.2 miliwn), fel yn 2001. Mae hyn bum pwynt canran yn llai na'r amcangyfrif o 52 y cant yn 2001 (1.2 miliwn). Cynyddodd canran y bobl sengl chwe phwynt canran o 28 y cant (650,000) yn 2001 i 34 y cant (840,000) yn 2011. Roedd partneriaethau sifil, fel statws priodasol cyfreithiol newydd1, yn gyfran fechan o'r cyfanswm - llai na hanner y cant (4,700). Roedd gweddill y boblogaeth breswyl arferol 16 oed a throsodd yn 2011 yn cynnwys pobl a oedd wedi ysgaru (10 y cant, 242,000), gweddwon (8 y cant, 198,000), a phobl a oedd wedi gwahanu (2 y cant, 55,000), ac mae pob un o'r tri grŵp hyn yn cynnwys unigolion o gydberthnasau o'r ddau ryw neu'r un rhyw.
Gostyngodd canran y preswylwyr arferol a oedd yn briod rhwng pedwar a chwe phwynt canran yng Nghymru a holl ranbarthau Lloegr ac eithrio Llundain lle gostyngodd ddau bwynt canran. Roedd cyfran y bobl briod yn Llundain yn 2011 bum pwynt canran yn is na'r rhanbarth isaf nesaf, sef Gogledd-orllewin Lloegr, ar ôl bod wyth pwynt canran yn is na Gogledd-orllewin Lloegr yn 2001.
Tabl 6: Statws priodasol
Cymru, 2001 a 2011, Preswylwyr arferol 16 oed a throsodd | ||||
Miloedd, y cant | ||||
Statws priodasol | 2001 | 2011 | ||
Nifer | Y cant | Nifer | Y cant | |
Priod | 1,204 | 52.0 | 1,167 | 46.6 |
Sengl (erioed wedi priodi na chofrestru partneriaeth sifil o'r un rhyw1) | 650 | 28.1 | 840 | 33.5 |
Wedi ysgaru neu wedi bod mewn partneriaeth sifil o'r un rhyw sydd bellach wedi'i diddymu'n gyfreithiol | 201 | 8.7 | 242 | 9.7 |
Yn weddw neu wedi colli partner sifil o'r un rhyw trwy farwolaeth | 218 | 9.4 | 198 | 7.9 |
Wedi gwahanu (ond yn gyfreithiol yn dal i fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil o'r un rhyw) | 44 | 1.9 | 55 | 2.2 |
Mewn partneriaeth sifil gofrestredig o'r un rhyw | dd/g | dd/g | 5 | 0.2 |
Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol, data Cyfrifiad 2001 o KS04, data Cyfrifiad 2011 o KS103EW. | ||||
Nodiadau'r tabl: | ||||
1 . Casglodd Cyfrifiad 2011 wybodaeth am bartneriaethau sifil am y tro cyntaf, gan adlewyrchu'r ffaith bod Deddf Partneriaeth Sifil 2004 wedi dod i rym yn y DU ar 5 Rhagfyr 2005. |
Download this table Tabl 6: Statws priodasol
.xls (26.6 kB)Rhoddir gwybodaeth am statws priodasol a phartneriaeth sifil yn nhabl KS103EW (108 Kb Excel sheet) .
Nodiadau ar gyfer - Statws priodasol
- Daeth Deddf Partneriaeth Sifil 2004 i rym yn y DU ar 5 Rhagfyr 2005.
16. Cyfansoddiad cartrefi
Mae cyfansoddiad cartrefi yn cyfeirio at y preswylwyr arferol mewn cartref a sut maent yn cydberthyn. Gall cartref gynnwys teulu neu gall gynnwys un person yn byw ar ei ben ei hun neu oedolion nad ydynt yn perthyn yn rhannu llety. Mae teulu yn bâr (priod, partneriaid sifil neu'n cyd-fyw), sydd â phlant neu heb blant, neu riant unigol ag un plentyn o leiaf. Gall 'plant' fod yn ddibynnol neu ddim yn ddibynnol.
O'r 1.3 miliwn o gartrefi yng Nghymru ar 27 Mawrth 2011, y math mwyaf cyffredin o gartref oedd cartref un teulu (63 y cant, 817,000) wedi'i ddilyn gan y rheini ag un person yn byw ar ei ben ei hun (31 y cant, 401,000). Nodir y manylion yn Nhabl 7.
Tabl 7: Cyfansoddiad cartrefi
Cymru, 2001 a 2011, Pob cartref | |||||
Miloedd, y cant | |||||
Cyfansoddiad cartrefi | 2001 | 2011 | |||
Nifer | Y cant | Nifer | Y cant | ||
Un teulu | Pâr priod neu bartneriaeth sifil o'r un rhyw | 449 | 37 | 428 | 33 |
Rhiant unigol | 129 | 11 | 148 | 11 | |
Pâr sy'n cyd-fyw | 90 | 7 | 126 | 10 | |
Pawb yn 65 oed a throsodd | 116 | 10 | 116 | 9 | |
Un person | Cartref un person | 352 | 29 | 401 | 31 |
Arall | Math arall o gartref | 72 | 6 | 84 | 6 |
Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol, data Cyfrifiad 2001 o KS20, data Cyfrifiad 2011 o KS105EW. |
Download this table Tabl 7: Cyfansoddiad cartrefi
.xls (25.1 kB)Y newid mwyaf o ran y math o gartrefi yng Nghymru ers 2001 oedd cynnydd o ddau bwynt canran mewn cartrefi ag un teulu pâr sy'n cyd-fyw; o 8 y cant (90,000) yn 2001 i 10 y cant (126,000) yn 2011.
Gostyngodd cyfran y cartrefi ag un teulu priod bedwar pwynt canran o 37 y cant (449,000) yn 2001 i 33 y cant (428,000) yn 2011. Er bod y gostyngiad yn adlewyrchu'r ffaith bod llai o briodasau ers y 1970au, nid oes modd cymharu'r categori hwn yn uniongyrchol rhwng 2001 a 2011 am fod categori 2011 yn cynnwys partneriaethau sifil am y tro cyntaf. Yng Nghymru yn 2011, nododd 4,700 o bobl eu bod mewn partneriaeth sifil.
Rhoddir gwybodaeth am gyfansoddiad cartrefi yn nhabl KS105EW (126.5 Kb Excel sheet).
Nôl i'r tabl cynnwys17. Preswylwyr mewn sefydliadau cymunedol
Yng Nghyfrifiad 2011, amcangyfrifwyd bod 98 y cant (3.0 miliwn) o breswylwyr arferol yng Nghymru yn byw mewn cartrefi. Roedd y 2 y cant (52,000) sy'n weddill yn byw mewn sefydliadau cymunedol. Mae sefydliadau cymunedol yn darparu llety preswyl a reolir; mae'r enghreifftiau o sefydliadau cymunedol yn cynnwys unedau llety gwarchod, neuaddau preswyl myfyrwyr, gwestai mawr, ysbytai a charchardai.
Yn 2011, roedd 54 y cant (28,000) o'r holl breswylwyr mewn sefydliadau cymunedol yng Nghymru yn byw mewn sefydliadau anfeddygol, gan gynnwys gwestai mawr neu neuaddau preswyl myfyrwyr. Roedd hyn naw pwynt canran yn uwch na 2001 (45 y cant, 18,000).
Roedd 46 y cant (24,000) o breswylwyr mewn sefydliadau cymunedol mewn sefydliadau meddygol a gofal; roedd 23 y cant (12,000) o'r grŵp hwn mewn cartrefi gofal ac roedd 21 y cant (11,000) mewn sefydliadau meddygol eraill1.
Newid bach iawn a fu yng nghanran y boblogaeth a oedd yn byw mewn unrhyw fath o sefydliad cymunedol rhwng 2001 a 2011 - cynnydd o lai na hanner pwynt canran i 2 y cant (52,000) yn 2011. Mae hyn yn debyg i'r cynnydd mwyaf yn rhanbarthau Lloegr; fe'i gwelwyd yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr a Swydd Efrog a'r Humber. Roedd Cymru yn dal i fod â llai o breswylwyr mewn sefydliadau cymunedol na'r rhan fwyaf o ranbarthau Lloegr heblaw am Ddwyrain Lloegr, Gogledd-ddwyrain Lloegr a Lundain.
Rhoddir gwybodaeth am breswylwyr arferol mewn cartrefi a sefydliadau cymunedol yn nhabl KS405EW (113 Kb Excel sheet) a KS101EW (121.5 Kb Excel sheet).
Nodiadau ar gyfer - Preswylwyr mewn sefydliadau cymunedol
- Mae’r sefydliadau meddygol eraill yn cynnwys sefydliadau a gaiff eu rhedeg gan y GIG, cartrefi plant a sefydliadau meddygol a gaiff eu rhedeg gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.
18. Beth rydym yn ei wneud
Mae'r cyfrifiad yn ffordd werthfawr o greu darlun manwl o nodweddion y boblogaeth sy'n weithgar yn economaidd ar adeg y cyfrifiad. Mae'r rhan hon yn nodi'r hyn rydym yn ei wneud, p'un a ydym yn gofalu am aelodau llai abl o gymdeithas, yr hyn rydym yn ei wneud i ennill arian, pa gymwysterau sydd gennym, a sawl awr yr wythnos rydym yn gweithio.
Roedd mwy o bobl (12 y cant, 370,000) yng Nghymru yn ofalwyr nag yn unrhyw un o ranbarthau Lloegr.
Roedd canrannau uwch o bobl yn darparu rhwng 20 a 49 awr a 50 awr neu fwy o ofal yng Nghymru nag yn unrhyw ranbarth yn Lloegr; 2 y cant (54,000) a 3 y cant (104,000) yn y drefn honno.
Nododd un o bob pedwar (26 y cant, 651,000) o'r boblogaeth breswyl arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru nad oedd ganddynt unrhyw gymwysterau cydnabyddedig.
Yr ail gategori mwyaf o ran cymwysterau yng Nghymru oedd Lefel 4 neu uwch e.e. gradd Baglor neu uwch (24 y cant, 614,000).
19. Darparu gofal di-dâl
Mae unigolyn yn darparu gofal di-dâl os yw'n gofalu am aelodau o’r teulu, ffrindiau, cymdogion neu eraill, neu’n rhoi help neu gefnogaeth iddynt, oherwydd salwch neu anabledd corfforol/meddyliol hirdymor, neu broblemau sy'n gysylltiedig â henaint. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw weithgareddau fel rhan o waith â thâl.
Mae Tabl 8 yn dangos bod 12 y cant (370,000) o breswylwyr arferol yng Nghymru yn darparu gofal. Roedd hyn yn uwch nag unrhyw ranbarth yn Lloegr, a Chymru hefyd oedd â'r canrannau uchaf o ran darparu rhwng 20 a 49 a 50 awr neu fwy o ofal; dau y cant (54,000) a thri y cant (104,000) yn y drefn honno.
Fel gydag iechyd cyffredinol a phroblem iechyd neu anabledd hirdymor, gall hyn fod yn gysylltiedig â'r demograffeg pobl hŷn yng Nghymru o gymharu â rhanbarthau Lloegr.
Tabl 8: Darparu gofal di-dâl
Cymru, 2001 a 2011, Pob preswylydd arferol | ||||
Miloedd, y cant | ||||
Oriau'r wythnos | 2001 | 2011 | ||
Nifer | Y cant | Nifer | Y cant | |
Dim | 2,562 | 88 | 2693 | 88 |
1 i 19 | 208 | 7 | 212 | 7 |
20 i 49 | 43 | 1 | 54 | 2 |
50 neu fwy | 90 | 3 | 104 | 3 |
Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol, data Cyfrifiad 2001 o KS08, data Cyfrifiad 2011 o KS301EW. |
Download this table Tabl 8: Darparu gofal di-dâl
.xls (25.1 kB)Rhoddir gwybodaeth am ddarparu gofal di-dâl yn nhabl KS301EW (102 Kb Excel sheet).
Nôl i'r tabl cynnwys20. Gweithgarwch economaidd
Ar gyfer y wybodaeth ystadegol hon, nodir gweithgarwch economaidd1 ar gyfer preswylwyr arferol rhwng 16 a 74 oed. Ystyrir bod preswylydd arferol yn weithgar yn economaidd os yw'n weithiwr cyflogedig, yn hunangyflogedig neu'n ddi-waith ond ei fod yn chwilio am waith ac yn gallu dechrau ymhen pythefnos. Yn 2011, roedd 66 y cant (1.5 miliwn) o breswylwyr arferol rhwng 16 a 74 oed (2.2 miliwn) yng Nghymru yn weithgar yn economaidd.
Roedd canran y bobl a oedd yn weithgar yn economaidd yng Nghymru yn is nag yn Lloegr (70 y cant, 38.9 miliwn).
Yn sgil ffactorau yn cynnwys newidiadau i'r dosbarthiad sylfaenol a gwelliannau i'r cwestiynau yn holiadur y cyfrifiad, ni ellir cymharu data ar ddiweithdra a gasglwyd yng Nghyfrifiad 2011 â 2001 yn uniongyrchol. Yn 2013, bydd SYG yn cyhoeddi dadansoddiad er mwyn helpu defnyddwyr i ddeall sut mae'r amcangyfrifon hyn wedi newid yn ystod y cyfnod 10 mlynedd.
Caiff gweithgarwch economaidd ei gategoreiddio'n grwpiau gwahanol2 fel y dangosir yn Ffigur 8. Mae Ffigur 8 hefyd yn tynnu sylw at y gwahaniaethau yn y mathau o waith a wneir gan ddynion a merched sy'n weithgar yn economaidd a rhwng 16 a 74 oed. Yn 2011, roedd bron bedair gwaith yn fwy o ferched (35 y cant, 245,000) yn weithwyr cyflogedig rhan amser o gymharu â dynion (9 y cant, 68,000).
Ffigur 8: Gweithgarwch economaidd yn ôl rhyw
Cymru, 2011 Preswylwyr arferol rhwng 16 a 74 oed sy'n weithgar yn economaidd
Source: Cyfrifiad - Swyddfa Ystadegau Gwladol
Download this image Ffigur 8: Gweithgarwch economaidd yn ôl rhyw
.png (7.2 kB) .xls (31.2 kB)Rhoddir gwybodaeth am weithgarwch economaidd yn nhablau KS601EW (122.5 Kb Excel sheet) , KS602EW (122.5 Kb Excel sheet) a KS603EW (122.5 Kb Excel sheet) .
Oriau a weithiwyd
Lleihaodd nifer yr oriau a weithiwyd1 gan breswylwyr arferol cyflogedig rhwng 16 a 74 oed yng Nghymru yn gyffredinol rhwng 2001 a 2011. Yn 2001, roedd 15 y cant (177,000) o breswylwyr arferol cyflogedig rhwng 16 a 74 oed yn gweithio 49 awr neu fwy, a ostyngodd dri phwynt canran i 12 y cant (161,000) yn 2011. Yn yr un modd; yn 2001 roedd 60 y cant (709,000) o breswylwyr arferol cyflogedig rhwng 16 a 74 oed yn gweithio rhwng 31 a 48 awr, a ostyngodd ddau bwynt canran i 58 y cant (791,000) yn 2011.
Mae Ffigur 9 yn dangos y gwahaniaeth clir rhwng dynion a merched o ran nifer yr oriau a weithiwyd.
Ffigur 9: Oriau a weithiwyd yr wythnos yn ôl rhyw
Cymru, 2001 a 2011, Preswylwyr arferol cyflogedig rhwng 16 a 74 oed
Source: Cyfrifiad - Swyddfa Ystadegau Gwladol
Download this image Ffigur 9: Oriau a weithiwyd yr wythnos yn ôl rhyw
.png (7.2 kB) .xls (26.6 kB)Rhoddir gwybodaeth am nifer yr oriau a weithiwyd yn nhabl KS604EW (126 Kb Excel sheet) .
Diweithdra
Yn 2011, nododd 5 y cant (97,000) o'r boblogaeth breswyl arferol yng Nghymru rhwng 16 a 74 oed a oedd yn weithgar yn economaidd eu bod yn ddi-waith1 yn y cyfrifiad. O'r rheini a nododd eu bod yn ddi-waith, nid oedd 15 y cant (15,000) erioed wedi gweithio ac roedd 40 y cant arall (38,000) wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir.
Yn sgil ffactorau yn cynnwys newidiadau i'r dosbarthiad sylfaenol a gwelliannau i'r cwestiynau yn holiadur y cyfrifiad, ni ellir cymharu data ar ddiweithdra a gasglwyd yng Nghyfrifiad 2011 â 2001 yn uniongyrchol. Yn 2013, bydd SYG yn cyhoeddi dadansoddiad er mwyn helpu defnyddwyr i ddeall sut mae'r amcangyfrifon hyn wedi newid yn ystod y cyfnod 10 mlynedd.
Roedd lefelau diweithdra yn amrywio rhwng rhanbarthau Lloegr o 8 y cant (1.0 miliwn) yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr i 5 y cant (127,000) yn Ne-orllewin Lloegr.
Rhoddir gwybodaeth am ddiweithdra fel y'i nodwyd yn y cyfrifiad yn nhablau KS601EW (122.5 Kb Excel sheet) , KS602EW (122.5 Kb Excel sheet) a KS603EW (122.5 Kb Excel sheet) .
Nodiadau ar gyfer - Gweithgarwch economaidd
Yn sgil gwahaniaethau diffiniadol, ac am fod holiadur y cyfrifiad ei hun yn cael ei hunanlenwi gan bobl Cymru a Lloegr, gall amcangyfrifon y cyfrifiad o bobl sy’n gweithio fod yn wahanol i ffynonellau eraill oherwydd gall rhai ymatebwyr, er enghraifft, gynnwys gwaith gwirfoddol pan ofynnir iddynt am eu gwaith. Yr amcangyfrifon mwyaf awdurdodol a chyfredol o statws y farchnad lafur gan gynnwys cyflogaeth a diweithdra yw’r ystadegau ar y farchnad lafur a gyhoeddir gan SYG bob mis. Mae’r cyfrifiad yn ffordd werthfawr o roi darlun manwl o nodweddion y boblogaeth sy'n weithgar yn economaidd ar adeg y cyfrifiad.
Gall myfyrwyr mewn addysg amser llawn a gweithwyr hunangyflogedig fod yn weithwyr rhan amser hefyd.
21. Cymwysterau
Mae'r dosbarthiad cymwysterau yn ei gwneud yn bosibl i lunio amcangyfrifon o ganran y boblogaeth sy'n cael y lefel uchaf o gymwysterau academaidd a galwedigaethol neu broffesiynol. Er nad oedd hwn yn gwestiwn newydd yn 2011, nid oes modd cymharu rhai o'r amcangyfrifon cymwysterau yn uniongyrchol â 2001. Mae hyn am sawl rheswm gan gynnwys newidiadau i'r lefel a bennir ar gyfer rhai cymwysterau ac ychwanegu blwch ticio cymwysterau tramor. Yn fras, caiff y lefelau eu categoreiddio fel a ganlyn:
Dim cymwysterau: Dim cymwysterau ffurfiol;
Lefel 1: 1-4 TGAU neu gymwysterau cyfatebol;
Lefel 2: 5 TGAU neu gymwysterau cyfatebol;
Prentisiaethau;
Lefel 3: 2 Safon Uwch neu fwy, neu gymwysterau cyfatebol;
Lefel 4 neu uwch: Gradd baglor neu gymhwyster cyfatebol, a chymwysterau uwch;
Cymwysterau eraill gan gynnwys cymwysterau tramor.
Yng Nghymru, y categori ymateb mwyaf yn 2011 oedd dim cymwysterau; 26 y cant (651,000) o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd, yn debyg i bump o ranbarthau Lloegr. Mae'r grŵp a nododd nad oedd ganddo unrhyw gymwysterau yn cynnwys pobl dros 16 oed a oedd yn dal i astudio h.y. rhai ymatebwyr nad oeddent wedi cwblhau eu haddysg.
Yr ail gategori mwyaf yng Nghymru oedd Lefel 4 ac uwch (24 y cant, 614,000) fel y dangosir yn Ffigur 10, wedi'i ddilyn gan Lefel 2 (16 y cant, 394,000).
Yn Nwyrain Lloegr, De-ddwyrain Lloegr, De-orllewin Lloegr a Llundain, roedd mwy o breswylwyr arferol â chymwysterau Lefel 4 ac uwch na heb unrhyw gymwysterau. Yn Llundain roedd mwy o breswylwyr arferol â chymwysterau Lefel 4 ac uwch na chymwysterau Lefel 2 neu ddim un cymhwyster.
Ffigur 10: Lefel uchaf o gymhwyster
Cymru, 2011, Preswylwyr arferol 16 oed a throsodd
Source: Cyfrifiad - Swyddfa Ystadegau Gwladol
Download this image Ffigur 10: Lefel uchaf o gymhwyster
.png (18.2 kB) .xls (25.1 kB)Rhoddir gwybodaeth am gymwysterau yn nhabl KS501EW (116 Kb Excel sheet) .
Nôl i'r tabl cynnwys22. Diwydiant a galwedigaeth
Yng Nghymru yn 2011, nododd 1.4 miliwn o breswylwyr arferol cyflogedig rhwng 16 a 74 oed eu diwydiant a'u galwedigaeth1.
Diwydiant
Fel y gellir ei weld yn Nhabl 9, y sector Manwerthu a chyfanwerthu oedd y cyflogwr mwyaf o'r grŵp 16 i 74 oed gydag 16 y cant (213,000) o breswylwyr arferol cyflogedig yn gweithio yn y sector hwn. I'r pegwn arall, y sector Mwyngloddio a chwarela sydd â'r nifer leiaf o weithwyr cyflogedig (llai nag 1 y cant, 3,000).
Yn sgil ffactorau yn cynnwys newidiadau i'r dosbarthiad sylfaenol a gwelliannau i'r cwestiynau yn holiadur y cyfrifiad, ni ellir cymharu data ar ddiweithdra a gasglwyd yng Nghyfrifiad 2011 â 2001 yn uniongyrchol. Yn 2013, bydd SYG yn cyhoeddi dadansoddiad er mwyn helpu defnyddwyr i ddeall sut mae'r amcangyfrifon hyn wedi newid yn ystod y cyfnod 10 mlynedd.
Tabl 9: Diwydiant
Cymru, 2001 a 2011, Preswylwyr arferol cyflogedig rhwng 16 a 74 oed | ||
Miloedd, y cant | ||
Diwydiant | Nifer | Y cant |
Sector manwerthu a chyfanwerthu; trwsio cerbydau a beiciau modur | 213 | 15.6 |
Gweithgareddau iechyd dynol a gwaith cymdeithasol | 197 | 14.5 |
Gweithgynhyrchu | 144 | 10.5 |
Addysg | 138 | 10.1 |
Adeiladu | 111 | 8.2 |
Gweinyddiaeth gyhoeddus ac amddiffyn, nawdd cymdeithasol gorfodol | 108 | 7.9 |
Gweithgareddau llety a gwasanaethau bwyd | 85 | 6.2 |
Arall | 62 | 4.5 |
Gweithgareddau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol | 59 | 4.3 |
Gweithgareddau gweinyddol a gwasanaethau cymorth | 54 | 4.0 |
Trafnidiaeth a storio | 53 | 3.9 |
Gweithgareddau ariannol ac yswiriant | 42 | 3.1 |
Gwybodaeth a chyfathrebu | 31 | 2.3 |
Amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota | 23 | 1.7 |
Gweithgareddau eiddo tiriog | 17 | 1.2 |
Gweithgareddau cyflenwi dŵr, carthffosiaeth, rheoli gwastraff ac adfer | 12 | 0.9 |
Cyflenwi trydan, nwy, ager ac aerdymheru | 11 | 0.8 |
Mwyngloddio a chwarela | 3 | 0.2 |
Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol, data Cyfrifiad 2011 o KS605EW (data yn ôl rhyw ar gael o KS606EW a KS607EW). |
Download this table Tabl 9: Diwydiant
.xls (26.6 kB)Yn ogystal â bod y prif ddiwydiant cyflogi yng Nghymru yn 2011, y sector Manwerthu a chyfanwerthu oedd y cyflogwr mwyaf ym mhob un o ranbarthau Lloegr hefyd bron - ac eithrio Llundain, lle'r sector Gweithgareddau eiddo tiriog, rhentu a busnes oedd â'r gweithlu mwyaf (19 y cant, 748,000).
Rhoddir gwybodaeth am ddiwydiant yn nhablau KS605EW (130 Kb Excel sheet) , KS606EW (130 Kb Excel sheet) a KS607EW (130 Kb Excel sheet) .
Galwedigaeth
Yn Nhabl 10, gellir gweld mai'r alwedigaeth1 â'r nifer fwyaf o ymatebwyr yng Nghymru yn 2011 oedd y grŵp Proffesiynol (16 y cant, 215,000), gyda Gweithredwyr prosesau, safleoedd a pheiriannau i'r pegwn arall (8 y cant, 112,000).
Yn sgil ffactorau yn cynnwys newidiadau i'r dosbarthiad sylfaenol a gwelliannau i'r cwestiynau yn holiadur y cyfrifiad, ni ellir cymharu data ar alwedigaethau a gasglwyd yng Nghyfrifiad 2011 â 2001 yn uniongyrchol. Yn 2013, bydd SYG yn cyhoeddi dadansoddiad er mwyn helpu defnyddwyr i ddeall sut mae'r amcangyfrifon hyn wedi newid yn ystod y cyfnod 10 mlynedd.
Tabl 10: Galwedigaeth
Cymru, 2001 a 2011, Preswylwyr arferol cyflogedig rhwng 16 a 74 oed | ||
Miloedd, y cant | ||
Galwedigaeth | 2011 | |
Nifer | Y cant | |
Galwedigaethau proffesiynol | 215 | 16 |
Galwedigaethau crefftau medrus | 183 | 13 |
Galwedigaethau elfennol | 163 | 12 |
Galwedigaethau gweinyddol ac ysgrifenyddol | 151 | 11 |
Galwedigaethau proffesiynol a thechnegol cyswllt | 147 | 11 |
Galwedigaethau gofalu, hamdden a gwasanaethau eraill | 143 | 11 |
Rheolwyr, cyfarwyddwyr ac uwch swyddogion | 126 | 9 |
Galwedigaethau gwerthu a gwasanaethau cwsmeriaid | 123 | 9 |
Gweithredwyr prosesau, safleoedd a pheiriannau | 111 | 8 |
Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol, data Cyfrifiad 2011 o KS608EW (data yn ôl rhyw ar gael o KS609 a KS610). |
Download this table Tabl 10: Galwedigaeth
.xls (25.6 kB)Rhoddir gwybodaeth am alwedigaethau yn nhablau KS608EW (113 Kb Excel sheet) , KS609EW (113 Kb Excel sheet) a KS610EW (113.5 Kb Excel sheet) .
Nodiadau ar gyfer - Diwydiant a galwedigaeth
- Yn sgil gwahaniaethau diffiniadol, ac am fod holiadur y cyfrifiad ei hun yn cael ei hunanlenwi gan bobl Cymru a Lloegr, gall amcangyfrifon y cyfrifiad o bobl sy’n gweithio fod yn wahanol i ffynonellau eraill oherwydd gall rhai ymatebwyr, er enghraifft, gynnwys gwaith gwirfoddol pan ofynnir iddynt am eu gwaith. Yr amcangyfrifon mwyaf awdurdodol a chyfredol o statws y farchnad lafur gan gynnwys cyflogaeth a diweithdra yw’r ystadegau ar y farchnad lafur a gyhoeddir gan SYG bob mis. Mae’r cyfrifiad yn ffordd werthfawr o roi darlun manwl o nodweddion y boblogaeth sy'n weithgar yn economaidd ar adeg y cyfrifiad.