Addysg yng Nghymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Preswylwyr arferol 16 oed a throsodd sydd â chymwysterau academaidd, galwedigaethol, neu broffesiynol, yn ogystal â nifer y plant ysgol a myfyrwyr amser llawn, data Cyfrifiad 2021.

Hwn yw'r datganiad diweddaraf. Gweld datganiadau blaenorol

Census
This is an accredited National Statistic. Click for information about types of official statistics.

Cyswllt:
Email Beth Waddington

Dyddiad y datganiad:
10 January 2023

Cyhoeddiad nesaf:
I’w gyhoeddi

1. Prif bwyntiau

  • Roedd 11.5 miliwn o blant ysgol a myfyrwyr amser llawn (20.4%) yn 2021 ledled Cymru a Lloegr, o gyfanswm o 56.4 miliwn o breswylwyr arferol 5 oed a throsodd.
  • Roedd gan fwy na 3 o bob 10 preswylydd arferol 16 oed a throsodd gymwysterau Lefel 4 neu uwch (er enghraifft, Tystysgrif Genedlaethol Uwch, Diploma Cenedlaethol Uwch, gradd Baglor a chymwysterau ôl-raddedig), sef 33.8%, neu 16.4 miliwn o bobl.
  • Yn 2021, nododd bron 1 o bob 5 (18.2%, 8.8 miliwn) nad oedd ganddynt unrhyw gymwysterau.
  • Ledled Cymru a Lloegr, prentisiaethau oedd y cymhwyster uchaf i 5.3% o bobl (2.6 miliwn).
  • Llundain oedd y rhanbarth oedd â'r ganran uchaf o'r boblogaeth â chymwysterau Lefel 4 neu uwch, sef 46.7% (3.3 miliwn).
Nôl i'r tabl cynnwys

2. Plant ysgol a myfyrwyr amser llawn

Gellir defnyddio data’r cyfrifiad i nodi nifer y plant ysgol a’r myfyrwyr (5 oed a throsodd) sydd mewn addysg amser llawn. Mae hyn yn un ffordd o ystyried addysg ar draws y ddwy genedl.

Ledled Cymru a Lloegr, roedd 11.5 miliwn o blant ysgol a myfyrwyr amser llawn yn 2021, allan o gyfanswm o 56.4 miliwn o breswylwyr arferol 5 oed a throsodd.

Mae nifer cyffredinol y plant ysgol a’r myfyrwyr amser llawn 5 oed a throsodd wedi cynyddu ers 2011, pan oedd yn 10.8 miliwn. Fodd bynnag, fel cyfran o’r holl breswylwyr arferol 5 oed a throsodd, mae’r ganran yn 2021 (20.4%) yn debyg iawn i 2011 (20.5%).

O’r cyfanswm, roedd 10.9 miliwn o blant ysgol a myfyrwyr amser llawn yn Lloegr (20.4% o’r boblogaeth breswyl arferol 5 oed a throsodd) ac roedd 588,000 yng Nghymru (19.9%).

Ffigur 1: Mae nifer y plant ysgol a’r myfyrwyr amser llawn yn 2021 wedi cynyddu ers 2011 yng Nghymru a Lloegr

Plant ysgol a myfyrwyr amser llawn 5 oed a throsodd, 2011 a 2021, Cymru a Lloegr

Embed code

Lawrlwytho'r data

.xlsx

Mae’r cyfrifiad yn cyfrif myfyrwyr yn eu cyfeiriad yn ystof y tymor. Roedd rhywfaint o dystiolaeth yn dangos newidiadau i’r boblogaeth yn ystod y tymor o ganlyniad i’r pandemig coronafeirws (COVID-19). Darllenwch fwy am sut y sicrhaodd SYG amcangyfrif cywir o fyfyrwyr yn eu cyfeiriad yn ystod y tymor (yn Saesneg).

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Lefel uchaf o gymhwyster

Mae Cyfrifiad 2021 yn ein helpu ni i ddeall addysg yng Nghymru a Lloegr drwy lefel uchaf o gymhwyster preswylwyr arferol.

Gofynnwyd i breswylwyr 16 oed a throsodd yng Nghymru a Lloegr (48.6 miliwn) gofnodi unrhyw gymwysterau (gan gynnwys cymwysterau academaidd, galwedigaethol, a phroffesiynol) roeddent wedi'u hennill yng Nghymru, yn Lloegr neu yn unrhyw le arall yn y byd. Defnyddir hyn i gyfrifo'r lefel uchaf o gymhwyster (y lefel uchaf o gymhwyster a nodwyd gan unigolyn ni waeth beth fo'r cymwysterau blaenorol a restrwyd) gan ddefnyddio'r categorïau canlynol:

  • dim cymwysterau: dim cymwysterau ffurfiol
  • Lefel 1: rhwng 1 a 4 cymhwyster TGAU (gradd A* i C neu radd 4 ac uwch) ac unrhyw gymwysterau TGAU eraill ar raddau eraill, neu gymwysterau cyfatebol
  • Lefel 2: 5 neu fwy o gymwysterau TGAU (gradd A* i C neu radd 4 ac uwch) neu gymwysterau cyfatebol
  • prentisiaethau
  • Lefel 3: 2 neu fwy o gymwysterau Lefel A (Safon Uwch), neu gymwysterau cyfatebol
  • Lefel 4 neu uwch: Tystysgrif Genedlaethol Uwch, Diploma Cenedlaethol Uwch, gradd Baglor, neu gymwysterau ôl-raddedig
  • cymwysterau eraill, o lefel anhysbys

Ar gyfer cymwysterau cyfatebol, gweler Mesur y data.

Ledled Cymru a Lloegr, nododd 33.8% o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd (16.4 miliwn) fod eu lefel uchaf o gymhwyster ar Lefel 4 neu uwch.

Yr ail gategori mwyaf cyffredin oedd dim cymwysterau (18.2%, 8.8 miliwn).

Prentisiaethau oedd y cymhwyster uchaf i 5.3% (2.6 miliwn) o bobl.

Er bod modd cymharu'r lefel uchaf o gymhwyster rhwng 2011 a 2021 yn fras, mae rhai cafeatau. Mae'r categorïau yr un peth ag yr oeddent yn 2011 ac maent yn codi yn yr un ffordd, ond roedd y ffordd y cafodd y cwestiynau eu strwythuro a'r ffordd roedd yr ymatebydd yn cael ei lwybro yn y cwestiynau am gymwysterau wedi newid yn sylweddol o 2011. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein herthygl am ddatblygu'r cwestiwn am gymwysterau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg). Mae'r newidiadau hyn i'r fethodoleg gasglu yn golygu y bydd cyfran resymol o ymatebwyr wedi nodi lefel cymhwyster wahanol i'r hyn a wnaethant yn 2011, er bod yr un cymwysterau ganddynt. Felly, bydd unrhyw newid o ran lefelau cymwysterau o gymharu â 2011 yn rhannol o ganlyniad i'r newidiadau i'r fethodoleg ac yn rhannol o ganlyniad i newid gwirioneddol. Fel y cyfryw, byddem yn cynghori pobl i gymryd gofal wrth ddehongli'r rhain, osgoi dod i gasgliadau yn seiliedig ar y gwahaniaethau neu eu defnyddio i lywio gwaith cynllunio neu werthuso polisïau.

Ffigur 2: Yn 2021, Lefel 4 neu uwch oedd y lefel uchaf o gymhwyster a oedd fwyaf cyffredin ledled Cymru a Lloegr

Lefel uchaf o gymhwyster, preswylwyr arferol 16 oed a throsodd, 2011 a 2021, Cymru a Lloegr

Embed code

Nodiadau:
  1. Roedd strwythur a chynnwys cwestiynau Cyfrifiad 2021 am gymwysterau yn dra gwahanol i'r rhai yng Nghyfrifiad 2011. Y newidiadau hyn oedd yn rhannol gyfrifol am y gwahaniaethau yn ystod y degawd. Cymerwch ofal wrth gymharu'r lefel uchaf o gymhwyster yn 2011 â 2021; mae'r ffigurau at ddibenion cyfeirio yn unig.
Lawrlwytho'r data

.xlsx

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Sut roedd y lefel uchaf o gymhwyster yn amrywio ledled Cymru a Lloegr

Roedd canran uwch o bobl yn Lloegr a nododd mai eu lefel uchaf o gymhwyster oedd Lefel 4 neu uwch (33.9%, 15.6 miliwn), o gymharu â Chymru (31.5%, 807,000).

I’r gwrthwyneb, roedd cyfran uwch o bobl a nododd nad oedd ganddynt unrhyw gymwysterau yng Nghymru (19.9%, 510,000) nag yn Lloegr (18.1%, 8.3 miliwn).

Cymwysterau Lefel 4 neu uwch, a dim cymwysterau, yn Lloegr

Yn Lloegr, Llundain oedd y rhanbarth oedd â’r gyfran uchaf o bobl â chymwysterau Lefel 4 neu uwch (46.7%, 3.3 miliwn). Roedd y ganran yn Llundain yn sylweddol uwch nag yn yr ail ranbarth uchaf, sef De-ddwyrain Lloegr (35.8%, 2.7 miliwn). Yn benodol, awdurdodau lleol Dinas Llundain (74.2%, 6,000) a Wandsworth (62.6%, 171,000) oedd â’r gyfran uchaf o bobl â chymwysterau Lefel 4 neu uwch.

Gogledd-ddwyrain Lloegr oedd y rhanbarth â’r gyfran isaf o bobl â chymwysterau Lefel 4 neu uwch (28.6%, 622,000), a Gorllewin Canolbarth Lloegr oedd y rhanbarth â’r gyfran uchaf o bobl heb unrhyw gymwysterau (21.1%, 1.0 miliwn). Sandwell oedd yr awdurdod lleol â’r gyfran uchaf o bobl a nododd nad oedd ganddynt unrhyw gymwysterau (28.9%, 77,000), gyda Boston yn ail (27.6%, 16,000) a Chaerlŷr yn drydydd (26.7%, 78,000). Yr awdurdod lleol gyda’r gyfran isaf o bobl yn dweud nad oedd ganddynt unrhyw gymwysterau oedd Dinas Llundain (6.6%, 500).

Cymwysterau Lefel 4 neu uwch, a dim cymwysterau, yng Nghymru

Yng Nghymru, Caerdydd (40.0%, 119,000) a Sir Fynwy (39.4%, 31,000) oedd â'r gyfran uchaf o bobl â chymwysterau Lefel 4 neu uwch, Blaenau Gwent (21.6%, 12,000), a Merthyr Tudful (25.0%, 12,000) oedd â'r gyfran isaf.

I'r gwrthwyneb, Blaenau Gwent oedd â'r gyfran uchaf o bobl heb unrhyw gymwysterau (27.9%, 15,000). Ceredigion oedd yr awdurdod lleol â'r gyfran isaf o bobl a nododd nad oedd ganddynt unrhyw gymwysterau (14.7%, 9,000).

Prentisiaethau yng Nghymru a Lloegr

Yn Lloegr, nododd 5.3% (2.4 miliwn) o bobl brentisiaeth fel eu lefel uchaf o gymhwyster. Roedd hyn ychydig yn is nag yng Nghymru (5.6%, 143,000).

Ledled rhanbarthau Lloegr, roedd cyfran y bobl a nododd brentisiaeth fel eu lefel uchaf o gymhwyster yn amrywio o 3.2% (228,000) yn Llundain i 6.6% (145,000) yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr.

Ledled Cymru a Lloegr, Barrow-in-Furness (10.9%, 6,000), Scarborough (8.1%, 7,000) a Copeland (8.1%, 5,000) oedd yr awdurdodau lleol â'r gyfran uchaf o bobl a nododd brentisiaeth fel eu lefel uchaf o gymhwyster. Yng Nghymru, gwelwyd y gyfran uchaf yn Sir y Fflint (6.6%, 8,000), ac yna Ynys Môn (6.6%, 4,000).

I gymharu sut roedd lefelau cymwysterau yn amrywio ledled awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, defnyddiwch ein map rhyngweithiol. Yn ogystal, rydym wedi creu sgôr mynegai, a gaiff ei defnyddio i grynhoi pa mor gymwys yw pobl mewn ardal (gan ddefnyddio'r amrywiaeth o lefelau cymwysterau) o gymharu ag ardaloedd eraill. Fodd bynnag, os hoffech gymharu canran y bobl sydd ag unrhyw un o'r lefelau dosbarthiad penodol (er enghraifft, Lefel 4 neu uwch) yna gallwch newid i'r opsiwn hwn.

Ffigur 3: Mae’r lefel uchaf o gymhwyster yn amrywio ledled awdurdodau lleol

Lefel uchaf o gymhwyster, preswylwyr arferol 16 oed a throsodd: sgôr mynegai wedi’i threfnu a dosbarthiad canrannol, 2021, awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr

Embed code

Nodiadau:
  1. Mesur cryno yw'r sgôr mynegai lefel uchaf o gymhwyster y gellir ei defnyddio i gymharu pa mor gymwys yw grwpiau o'r boblogaeth. Mae'n neilltuo gwerth i bob unigolyn 16 oed a throsodd yn seiliedig ar ei lefel uchaf o gymhwyster, ac eithrio'r rheini lle nad oedd ei lefel uchaf o gymhwyster yn hysbys. Y sgôr mynegai wedyn yw gwerth cyfartalog pob unigolyn yn yr ardal dan sylw. Defnyddiwyd y sgôr mynegai i drefnu awdurdodau lleol o'r rhai lleiaf cymwys i'r rhai mwyaf cymwys. Mae'r dull trefnu hwn at ddibenion cymharu bras a dylid ei ddefnyddio ar y cyd â chanran y bobl yn yr ardal a nododd bob un o'r categorïau lefel uchaf o gymhwyster gwahanol er mwyn cael y darlun llawn.
Lawrlwytho'r data

.xlsx

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Cyhoeddiadau yn y dyfodol

Caiff data a dadansoddiadau manylach ar addysg eu cyhoeddi yn y misoedd i ddod, a chaiff data amlamryweb eu rhyddhau. Darllenwch fwy am ein cynlluniau dadansoddi addysg (yn Saesneg) a'r cynlluniau datganiadau ar gyfer Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol.

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Addysg, Cymru a Lloegr: data

Lefel uchaf o gymhwyster (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 10 Ionawr 2023
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu preswylwyr arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru a Lloegr yn ôl eu lefel uchaf o gymhwyster. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.

Plant ysgol a myfyrwyr amser llawn (yn Saesneg)
Set ddata | Rhyddhawyd ar 10 Ionawr 2023
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 sy'n dosbarthu'r holl blant ysgol a myfyrwyr amser llawn yng Nghymru a Lloegr. Amcangyfrifon ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yw'r rhain, sef 21 Mawrth 2021.

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Geirfa

Cymhwyster uchaf

Daw’r lefel uchaf o gymhwyster o’r cwestiwn sy’n gofyn i bobl nodi pob cymhwyster sydd ganddynt, neu eu cymwysterau mwyaf cyfatebol.

Gall hyn gynnwys cymwysterau tramor lle cawsant eu paru â’r cymwysterau cyfatebol agosaf yn y Deyrnas Unedig.

Mewn addysg amser llawn

Mae hyn yn nodi a oedd person 5 oed a throsodd mewn addysg amser llawn ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021. Mae hyn yn cynnwys plant ysgol ac oedolion mewn addysg amser llawn.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Mesur y data

Cymwysterau cyfatebol

Mae'r cymwysterau cyfatebol ar gyfer "lefel uchaf o gymhwyster" fel a ganlyn (nodwch, nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr ac felly nid yw'n cynnwys pob cymhwyster posibl):

  • Cymwysterau lefel 1 a lefel mynediad: unrhyw gymwysterau TGAU ar raddau eraill, cymwysterau Lefel O neu TAU (unrhyw radd), Bagloriaeth Cymru – Sylfaen, un cymhwyster Uwch Gyfrannol (UG/AS), NVQ (Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol) lefel 1, Sgiliau Sylfaenol neu Hanfodol, sgiliau bywyd, llythrennedd a rhifedd, cymwysterau galwedigaethol yr Alban Lefel 2

  • Cymwysterau lefel 2: 5 neu fwy o gymwysterau TGAU (A*–C neu 9–4), Lefel O (llwyddo), TAU (gradd 1), Bagloriaeth Cymru – Canolradd, 1 cymhwyster Lefel A (Safon Uwch), 2-3 chymhwyster Lefel AS (Safon UG), NVQ lefel 2, Cyngor Addysg Busnes a Thechnoleg (BTEC) Cyffredinol, Crefft City and Guilds, cymwysterau galwedigaethol yr Alban Lefel 2

  • Cymwysterau lefel 3: 2 neu fwy o gymwysterau Lefel A (Safon Uwch), 4 neu fwy o gymwysterau Lefel AS (Safon UG), Bagloriaeth Cymru – Uwch, NVQ lefel 3, Crefft Uwch City and Guilds, Tystysgrif Genedlaethol Gyffredin (ONC), Diploma Cenedlaethol Cyffredin (OND), BTEC Cenedlaethol, Bagloriaeth Ryngwladol, cymwysterau galwedigaethol yr Alban Lefel 3

  • Cymwysterau lefel 4 neu uwch: gradd, gradd sylfaen, Doethur mewn Athroniaeth (PhD), graddau Meistr, Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC), NVQ lefel 4 neu uwch, cymwysterau proffesiynol (er enghraifft, addysgu neu nyrsio)

  • Arall: Unrhyw gymwysterau eraill, heb wybod beth sy'n cyfateb iddynt

Sgôr mynegai y lefel uchaf o gymhwyster

Ar gyfer Cyfrifiad 2021, rydym yn defnyddio sgôr mynegai safle cymwysterau er mwyn gweld pa mor gymwys yw grwpiau o'r boblogaeth. Mae'n trosi cymhwyster uchaf unigolyn yn fetrig unigol ac yn creu sgôr safle cyfartalog ar gyfer y boblogaeth.

Mae'r system safle yn seiliedig ar y lefelau cymhwyster a enillwyd ar wahanol gyfnodau addysg: addysg uwchradd, addysg bellach ôl-16 neu addysg uwch.

Safle a neilltuwyd i lefelau a mathau o gymwysterau

Safle 4 yw’r safle uchaf, a 0 yw’r isaf.

Safle 4

Cymwysterau addysg uwch o Lefel 4 neu uwch.

Safle 3

Cymwysterau uwchradd uwch a chymwysterau addysg bellach uwch ar Lefel 3 a phrentisiaethau.

Safle 2

Cymwysterau sy’n cyfateb i addysg uwchradd (Lefel 2).

Safle 1

Cymwysterau sy’n is nag addysg uwchradd (Lefel 1 a lefel mynediad).

Safle 0

Dim cymwysterau.

Nid oedd y data ar brentisiaethau a gasglwyd gan y cyfrifiad yn cynnwys lefel prentisiaeth na'r math o brentisiaeth. Penderfynwyd mai addysg bellach uwch oedd fwyaf addas ar gyfer prentisiaethau masnach neu grefft traddodiadol a phrentisiaethau modern ar y cyfan.

Mae'r sgôr mynegai yn neilltuo safle i bob unigolyn 16 oed a throsodd yn y boblogaeth yn seiliedig ar ei lefel uchaf o gymhwyster, ac eithrio'r rheini lle nad oedd eu lefel uchaf o gymhwyster yn hysbys. Y sgôr mynegai wedyn yw safle cyfartalog pob unigolyn yn y boblogaeth honno.

Y gwerth mwyaf y gellir ei gael ar gyfer y sgôr mynegai mewn egwyddor yw 4.00, sy'n dangos bod 100% o unigolion mewn poblogaeth wedi ennill cymwysterau Lefel 4 neu uwch. Y gwerth lleiaf ar gyfer y sgôr mynegai yw 0.00, sy'n dangos nad yw 100% o unigolion mewn poblogaeth wedi ennill unrhyw gymwysterau.

Fodd bynnag, nid yw'r sgoriau ar gyfer y mynegai bob amser yn ymwneud yn uniongyrchol â chyfran y boblogaeth sy'n gymwys iawn. Er enghraifft, ni ellir dweud yn syml fod gan boblogaeth â sgôr o 3.0 ddwywaith cyfran y bobl gymwys iawn â phoblogaeth â sgôr o 1.5. Argymhellir bod trefn grŵp neu ddegradd, ond nid y sgôr grai ar ei phen ei hun, yn cael ei ddefnyddio wrth ddehongli'r mynegai. Gan mai mesur cryno cyfansawdd yw'r mynegai i werthuso gwahaniaethau mewn sgoriau crai rhwng dau grŵp poblogaeth, rhaid defnyddio'r mynegai ar y cyd â'r cyfrannau safle cydrannol. Er enghraifft, os oes gan boblogaeth A sgôr sydd 0.35 yn uwch na phoblogaeth B, caiff hyn ei esbonio'n bennaf gan y ffaith bod gan boblogaeth B gyfran 7.0% yn uwch o bobl heb unrhyw gymwysterau.

Nid yw'r mynegai yn rhoi cyfrif am wahaniaethau mewn nodweddion poblogaeth mewn ardal a gall fod yn sensitif i nifer y bobl â nodwedd benodol. Ar ardaloedd daearyddol lefel is neu â grwpiau poblogaeth llai, bydd y gwahaniaethau yn y boblogaeth yn cael mwy o effaith ar y sgôr mynegai. Er enghraifft, mae'n debygol y bydd gan ardal â phoblogaeth fwy o fyfyrwyr sgôr mynegai is, oherwydd efallai na fyddant wedi cwblhau eu lefel uchaf o gymhwyster eto.

Dyddiad cyfeirio

Mae'r cyfrifiad yn rhoi amcangyfrifon o nodweddion pob unigolyn a chartref yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021. Caiff ei gynnal unwaith bob 10 mlynedd ac mae'n rhoi'r amcangyfrif mwyaf cywir o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr i ni.

Rydym yn gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, ond byddwn hefyd yn rhyddhau allbynnau ar gyfer y Deyrnas Unedig mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cofnodion Cenedlaethol yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon. Cafodd y cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon ei gynnal ar 21 Mawrth 2021 hefyd, ond cafodd cyfrifiad yr Alban ei symud i 20 Mawrth 2022. Mae holl swyddfeydd y cyfrifiad yn y Deyrnas Unedig yn gweithio'n agos i ddeall sut y bydd y gwahaniaeth hwn mewn dyddiadau cyfeirio yn effeithio ar ystadegau poblogaeth a thai'r Deyrnas Unedig gyfan, o ran yr amseru a'r cwmpas.

Cyfradd ymateb

Cyfradd ymateb unigolion (yn Saesneg) yw nifer y preswylwyr arferol y cafodd manylion unigol eu darparu ar eu cyfer ar holiadur a ddychwelwyd, wedi'i rannu ag amcangyfrif o'r boblogaeth breswyl arferol.

Y gyfradd ymateb unigolion ar gyfer Cyfrifiad 2021 oedd 97% o boblogaeth breswyl arferol Cymru a Lloegr, a dros 88% ym mhob awdurdod lleol. Cafodd y rhan fwyaf o ffurflenni (89%) eu derbyn ar lein. Gwnaeth y gyfradd ymateb ragori ar ein targed, sef 94% yn gyffredinol ac 80% ym mhob awdurdod lleol.

Darllenwch fwy am gyfraddau ymatebion ar gyfer cwestiynau penodol ar lefel awdurdod lleol yn Adran 4 o'n mesurau sy'n dangos ansawdd amcangyfrifon Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Cryfderau a chyfyngiadau

Ceir ystyriaethau o ansawdd ynghyd â chryfderau a chyfyngiadau Cyfrifiad 2021 yn fwy cyffredinol yn ein hadroddiad Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Cyfrifiad 2021. Darllenwch fwy am yr ystyriaethau o ansawdd penodol ar gyfer addysg.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein prosesau sicrhau ansawdd eraill yn ein methodoleg Sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o’r ansawdd gorau posibl (yn Saesneg).

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Dolenni cysylltiedig

Map y cyfrifiad (yn Saesneg)
Cynnwys rhyngweithiol | Diweddarwyd ar 10 Ionawr 2023
Adnodd map rhyngweithiol sy’n delweddu data Cyfrifiad 2021 ar bynciau gwahanol i lawr i ardal awdurdod lleol a lefel cymdogaeth.

Gwybodaeth am ansawdd data am addysg ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg)
Methodoleg | Rhyddhawyd ar 10 Ionawr 2023
Gwybodaeth hysbys am ansawdd sy’n effeithio ar ddata am addysg o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr.

Newidynnau addysg, Cyfrifiad 2021
Gwybodaeth ategol | Rhyddhawyd ar 10 Ionawr 2023
Newidynnau a dosbarthiadau a ddefnyddir yn nata Cyfrifiad 2021 am addysg.

Addysg yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)
Bwletin ystadegol | Rhyddhawyd ar 10 Ionawr 2023
Crynodeb gan Lywodraeth Cymru o ddata Cyfrifiad 2021 ar addysg yng Nghymru.

Nôl i'r tabl cynnwys

11. Cyfeirio at y bwletin ystadegol hwn

Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rhyddhawyd ar 10 Ionawr 2023, gwefan SYG, bwletin ystadegol, Addysg, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021

Nôl i'r tabl cynnwys

Manylion cyswllt ar gyfer y Bwletin ystadegol

Beth Waddington
census.customerservices@ons.gov.uk
Ffôn: +44 1329 44 4927