Marwolaethau lle roedd Clostridium difficile yn ffactor, Cymru: 2014

Marwolaethau Clostridium difficile yng Nghymru yn 2014, wedi'u dadansoddi yn ôl rhyw, oedran a lleoliad y farwolaeth.

Nid hwn yw'r datganiad diweddaraf. Gweld y datganiad diweddaraf

This is an accredited National Statistic. Click for information about types of official statistics.

Cyswllt:
Email Nina Goodwin

Dyddiad y datganiad:
3 September 2015

Cyhoeddiad nesaf:
To be announced

1. Pwyntiau allweddol

  • Yn 2014, cafwyd 111 o dystysgrifau marwolaeth yng Nghymru lle crybwyllwyd Clostridium difficile (C. difficile) sef 66 yn llai nag yn 2013 (177 marwolaeth).

  • Yn 2014, cafwyd 111 o dystysgrifau marwolaeth yng Nghymru lle crybwyllwyd Clostridium difficile (C. difficile) sef 66 yn llai nag yn 2013 (177 marwolaeth).

  • Cynyddodd y gyfradd wedi’i safoni yn ôl oedran ar gyfer marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor, o 22.6 i 164.8 marwolaeth am bob miliwn o boblogaeth, rhwng 1999 a 2008. Oddi ar hynny mae’r gyfradd wedi gostwng yn sylweddol o 78% i 35.8 am bob miliwn yn 2014.

  • Fe gynyddodd nifer y marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor gydag oedran. Yn y cyfnod o 2012 i 2014 roedd y gyfradd marwolaethau oed-benodol ar gyfer pobl 85 oed a hŷn yn 995.3 am bob miliwn o boblogaeth o’i chymharu ag 1.0 am bob miliwn o boblogaeth ar gyfer y rhai dan 55 oed.

  • Yn 2014, digwyddodd dros 95% o’r marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor mewn ysbytai.

Nôl i'r tabl cynnwys

2. Crynodeb

Mae’r bwletin hwn yn rhoi’r ffigurau diweddaraf ar gyfer marwolaethau yng Nghymru lle crybwyllwyd C. difficile neu lle pennwyd mai dyna oedd achos sylfaenol y farwolaeth ar dystysgrifau marwolaeth. Dadansoddir y ffigurau yn ôl rhyw, oedran a lleoliad y farwolaeth. Gwneir cymariaethau rhwng data ar gyfer 2014 a data a gyhoeddwyd o’r blaen o’r flwyddyn 1999 ymlaen. Rhoddir gwybodaeth am gyd-destun ystadegau a’r defnydd a wneir ohonynt a pha ddulliau a ddefnyddiwyd er mwyn eu cynhyrchu.

Mae’r ffigurau yn seiliedig ar y marwolaethau a gofrestrwyd ym mhob blwyddyn, yn hytrach na’r rhai a ddigwyddodd ym mhob blwyddyn, ond gan fod mwyafrif y marwolaethau C. difficile a gofrestrwyd yn 2014 hefyd wedi digwydd yn y flwyddyn honno, nid yw oedi cyn cofrestru yn debygol o fod wedi effeithio ar ein canfyddiadau. Am wybodaeth bellach, gweler yr adran ynglŷn ag oedi cyn cofrestru.

Cefndir

Math o facteria sy’n bresennol yn naturiol yng ngholuddion 2 o bob 3 o blant a 3 o bob 100 o oedolion yw C. difficile, ond nid yw’n achosi unrhyw niwed i bobl iach am fod ei dwf yn cael ei reoli gan facteria eraill yn y corff. Fodd bynnag, gall rhai gwrthfiotigau ymyrryd â chydbwysedd naturiol y coluddyn drwy ddinistrio’r bacteria sydd fel arfer yn rhwystro C.difficile rhag lluosogi (Bupa, 2015). Os digwydd hynny, gall bacteria C.difficile gynyddu nes cyrraedd lefelau anarferol o uchel a chynhyrchu tocsinau sy’n ymosod ar y coluddion. Mae rhai pobl yn cael eu heffeithio gan C. difficile heb iddynt ddangos unrhyw symptomau; bydd eraill yn cael dolur rhydd, gwres uchel a chramp yn eu bol. Mewn achosion eithafol, gall achosi llid y coluddyn a hynny’n gallu peryglu bywyd y claf (NHS, 2014).

Mae bacteria C. difficile yn ffurfio sborau sy’n dod allan o’r corff yng ngharthion y sawl a heintiwyd. Mae’r sborau hyn yn gallu gwrthsefyll yr amodau sydd yn bodoli y tu allan i’r corff ac yn gallu llygru toiledau, croen a dillad. Gallant ymledu’n rhwydd drwy’r aer neu pan ddaw dwylo pobl i gysylltiad â chleifion a heintiwyd neu arwynebau a lygrwyd. Dim ond trwy lanhau trylwyr iawn y gellir cael gwared â hwy. Felly gall y bacteria ymledu’n hawdd (NHS, 2014).

Ers Ionawr 2005 mae’n ofynnol i bob Bwrdd Iechyd yng Nghymru arolygu nifer yr achosion o heintio â C. difficile sy’n digwydd yn eu hysbytai. Rheolir y gwaith arolygu hwn gan Raglen Heintiau sy'n Gysylltiedig â Gofal Iechyd Cymru (WHAIP), sy’n rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r ffigurau diweddaraf ar gyfer Ebrill 2014 hyd Fai 2015 yn dangos bod 847 o achosion o heintio â C. difficile wedi’u gwneud yn hysbys ymhlith cleifion preswyl mewn ysbytai. Mae hyn yn ostyngiad o 22% pan gymharir â’r 1,089 achos a gofnodwyd rhwng Ebrill 2013 a Mai 2014.

Nôl i'r tabl cynnwys

3. Nifer y marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor

Yn 2014, cofnodwyd 111 o farwolaethau yng Nghymru lle roedd C. difficile yn ffactor, sef gostyngiad o 37% o’i gymharu â’r nifer a gofnodwyd yn 2013 (177) a’r nifer isaf ers 2005. Mae hefyd yn cynrychioli gostyngiad o 76% o’i gymharu â’r flwyddyn 2008 pan gofrestrwyd y nifer uchaf o farwolaethau (461).

Bu gostyngiad yn nifer y marwolaethau ymhlith gwrywod, o 69 yn 2013 i 52 yn 2014; yn yr un cyfnod bu gostyngiad yn nifer y marwolaethau ymhlith benywod o 108 i 59.

Gall C. difficile gyfrannu i farwolaeth ond weithiau hefyd mae’n uniongyrchol gyfrifol am achosi marwolaeth. Yn 2014, o’r 111 tystysgrif marwolaeth a grybwyllai C. difficile, dywedai 42 (38%) hefyd mai dyna oedd achos sylfaenol marwolaeth yr unigolyn hwnnw. Gwelwyd gostyngiad o 54% yn nifer y marwolaethau lle mai C. difficile oedd yr achos sylfaenol, o 91 i 42, rhwng 2013 a 2014.

O’r 52 tystysgrif marwolaeth a grybwyllai C. difficile ymhlith gwrywod, roedd 18 yn cofnodi mai dyna oedd achos sylfaenol y farwolaeth. O’r 59 marwolaeth ymhlith benywod lle crybwyllwyd C. difficile, cofnodai 24 hefyd mai dyna oedd achos sylfaenol y farwolaeth.

Nôl i'r tabl cynnwys

4. Cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran ar gyfer marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor

Mae’r cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran ar gyfer marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor yn tueddu i godi a gostwng o flwyddyn i flwyddyn. Ar gyfer pawb, cynyddodd y cyfraddau o 22.6 marwolaeth am bob miliwn o boblogaeth ym 1999 i 164.8 marwolaeth am bob miliwn yn 2008. Bu gostyngiad cyson yn y cyfraddau, i 35.8 marwolaeth am bob miliwn o boblogaeth yn 2014, sef y gyfradd isaf ers 2005.

Mae cyfraddau marwolaethau ymhlith gwrywod a benywod yn dilyn y patrwm hwn. Ar gyfer gwrywod, fe gynyddodd y cyfraddau o 18.8 am bob miliwn yn 1999 gan gyrraedd brig sef 177.2 marwolaeth yn 2008. Ar ôl hynny, gostyngodd y cyfraddau i 41.7 marwolaeth am bob miliwn o boblogaeth yn 2014. Roedd y cynnydd yn y cyfraddau rhwng 2006 a 2008 yn fwy sydyn o lawer na’r hyn a welwyd rhwng 1999 a 2005.

Gwelwyd tuedd debyg ar gyfer menywod: cynyddodd y cyfraddau o 24.4 am bob miliwn o fenywod yn 1999 i 157.9 am bob miliwn yn 2008, yna disgyn i 31.2 am bob miliwn yn 2014. Fel gyda gwrywod, roedd y cynnydd a welwyd yn y cyfraddau yn fwy sydyn o lawer rhwng 2006 a 2008 nag yn y blynyddoedd blaenorol. Yn 2014 nid oedd y gwahaniaeth rhwng cyfraddau marwolaeth ar gyfer gwrywod a benywod yn arwyddocaol yn ystadegol (gweler Ffigur 1).

Nôl i'r tabl cynnwys

5. Cyfraddau marwolaethau oed-benodol ar gyfer marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor

Mae mwyafrif y marwolaethau lle crybwyllwyd C. difficile ar y dystysgrif marwolaeth ymhlith pobl oedrannus. Wrth i bobl heneiddio, maent yn fwy tebygol o wynebu pethau sy’n cynyddu eu risg o gael eu heintio â C. difficile, megis dioddef problemau iechyd sylfaenol gan gynnwys canser neu glefydau cronig yr arennau, aros yn yr ysbyty am gyfnodau hwy a defnyddio gwrthfiotigau (NICE 2013).

Yn y cyfnod o 2012 i 2014, roedd y gyfradd marwolaethau oed-benodol ar gyfer pawb oedd yn 85 oed neu’n hŷn yn 995.3 am bob miliwn o boblogaeth, o’i chymharu ag 1.0 am bob miliwn o boblogaeth ar gyfer pobl o dan 55 oed. Ni fu unrhyw newid ystadegol arwyddocaol yn y cyfraddau ar gyfer pobl mewn grwpiau oedran iau na 65 oed dros gyfnod o amser. Ar gyfer y rhai yn y grwpiau oedran hŷn na 64 oed, bu newidiadau ystadegol arwyddocaol. Cynyddodd y cyfraddau i ddechrau a chyrraedd brig tua diwedd y 2000au, yna gostwng. Mae’r un peth yn wir pan edrychir ar y ffigurau ar gyfer gwrywod yn unig ac ar gyfer benywod yn unig.

Ar gyfer gwrywod, gwelwyd y gyfradd uchaf yn y cyfnod o 2007 i 2009, ar gyfer y rhai oedd yn 85 oed neu’n hŷn (2,634.3 am bob miliwn o wrywod). Roedd hyn deirgwaith yn uwch na’r gyfradd ar gyfer y rhai oedd rhwng 75 ac 84 oed yn yr un cyfnod. Yn y cyfnod o 2008 i 2010 y gwelwyd y gyfradd uchaf ar gyfer benywod (2,777.1 am bob miliwn o boblogaeth) ac roedd hynny bron i 4 gwaith yn uwch na’r gyfradd ar gyfer y rhai oedd rhwng 75 ac 84 oed yn yr un cyfnod (gweler Ffigurau 2 a 3).

Nôl i'r tabl cynnwys

6. Lleoliad marwolaeth

Roedd marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor yn cyfrif am 0.5% o’r holl farwolaethau a gofrestrwyd yng Nghymru yn y cyfnod o 2012 i 2014.

O ddadansoddi yn ôl lleoliad marwolaeth, gwelir bod 96% o’r marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor yng Nghymru wedi digwydd yn ysbytai’r GIG. Mae marwolaethau hyn yn cynrychioli 0.8% o’r holl farwolaethau yn ysbytai’r GIG yn y cyfnod hwn. Gwelwyd patrwm tebyg ym mhob cyfnod rhwng 2001 i 2003 a 2012 i 2014. Mae’r rhan fwyaf o farwolaethau yn digwydd yn ysbytai’r GIG ac felly mae disgwyl i gyfrannau’r marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor fod yn uwch yn ysbytai’r GIG nag mewn mathau eraill o sefydliadau.

Er bod y niferoedd mewn cartrefi gofal yn fach o’u cymharu ag ysbytai’r GIG, cartrefi gofal oedd â’r ganran uchaf ond un o farwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor a hynny’n gyson dros amser (gweler Tabl 2).

Nôl i'r tabl cynnwys

7. Oedi cyn cofrestru

Mae’r wybodaeth a ddefnyddir i gynhyrchu ystadegau marwolaethau yn seiliedig ar y manylion a gesglir pan gaiff marwolaethau eu hardystio a’u cofrestru. Yng Nghymru, dylid cofrestru marwolaethau cyn pen pum diwrnod wedi iddynt ddigwydd, ond mewn rhai sefyllfaoedd nid yw hynny’n bosibl. Pan ystyrir bod marwolaeth yn annisgwyl, damweiniol neu amheus, caiff ei chyfeirio i sylw crwner. Gall yntau orchymyn bod post-mortem yn cael ei gynnal, neu fe all gynnal cwest llawn er mwyn gwybod beth oedd y rhesymau am y farwolaeth.

Mae’r ystadegau ynghylch marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor yn cael eu cyflwyno ar sail nifer y marwolaethau a gofrestrwyd ym mhob blwyddyn galendr yn hytrach na nifer y marwolaethau a ddigwyddodd yn y flwyddyn honno. Defnyddir y dull hwn oherwydd ei bod yn ofynnol cyflwyno data cyson, amserol, er ei bod yn bosibl y bydd ansawdd y data yn dioddef os oedir cyn cofrestru rhai marwolaethau.

Yn 2014, y cyfnod cyfartalog (canolrifol) rhwng dyddiad y farwolaeth a dyddiad ei chofrestru ar gyfer marwolaethau lle crybwyllwyd C. difficile a lle cafodd ei enwi fel achos sylfaenol y farwolaeth oedd tri diwrnod. Cafodd mwyafrif y marwolaethau lle crybwyllwyd C. difficile a’r rhai lle cafodd ei enwi fel achos sylfaenol y farwolaeth eu cofrestru cyn pen pum diwrnod (84% a 76% yn ôl eu trefn), ac roedd 94% ac 90% wedi cael eu cofrestru cyn pen 30 diwrnod.

Nôl i'r tabl cynnwys

8. Canlyniadau ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Mae ffigurau ar gyfer marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor o 1999 i 2014 i’w cael yn y tabl cyfeirio ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae’r llawlyfr hwn mewn Excel yn cynnwys y canlyniadau a ganlyn ar gyfer Cymru:

  • nifer y tystysgrifau marwolaeth lle crybwyllwyd Clostridium difficile ac fel achos sylfaenol marwolaeth, Cymru, marwolaethau a gofrestrwyd rhwng 1999 a 2014

  • cyfraddau marwolaethau wedi’u safoni yn ôl oedran (gyda ffiniau hyder 95%) ar gyfer marwolaethau lle crybwyllwyd Clostridium difficile ar y dystysgrif marwolaeth, yn ôl rhyw, Cymru, marwolaethau a gofrestrwyd rhwng 1999 a 2014

  • nifer y marwolaethau lle crybwyllwyd Clostridium difficile ar y dystysgrif marwolaeth yn ôl lleoliad marwolaeth, Cymru, marwolaethau a gofrestrwyd rhwng 2001-2003 a 2012-2014

  • cyfraddau marwolaeth oed-benodol (gyda ffiniau hyder 95%) ar gyfer marwolaethau lle crybwyllwyd Clostridium difficile ar y dystysgrif marwolaeth, yn ôl oedran a rhyw, Cymru, marwolaethau a gofrestrwyd yn 2001–03 a 2012–14

Nôl i'r tabl cynnwys

9. Dulliau

Mae’r wybodaeth a ddefnyddir yn y bwletin hwn yn seiliedig ar y manylion a gesglir pan ardystir ac y cofrestrir marwolaethau. Mae pob marwolaeth yn cael ei chodio gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ôl y Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau (ICD) a gynhyrchir gan Sefydliad Iechyd y Byd. Yn y Degfed Adolygiad (ICD-10), mae cod penodol i’w gael (A04.7) ar gyfer ‘Enterocolitis i’w briodoli i Clostridium difficile’. Er bod y cod hwn yn cynnwys mwyafrif llethol y marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor, ceir nifer fechan o farwolaethau yn gysylltiedig â C. difficile nad yw’r cod hwn ar ei ben ei hun yn gallu eu cynnwys.

Ers 1993, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cadw testun tystysgrifau marwolaeth mewn cronfa ddata, ynghyd â’r holl godau ICD perthynol i’r achosion a nodwyd ar y dystysgrif marwolaeth. Golyga hyn ei bod yn bosibl canfod y cofnodion hynny lle crybwyllir C. difficile ond lle nad yw wedi ei godio o dan god penodol ICD-10. Defnyddiwyd Degfed Adolygiad yr ICD (ICD-10) i godio marwolaethau yng Nghymru ers 2001.

Yn ogystal ag echdynnu’r holl farwolaethau cysylltiedig â chod penodol A04.7 ICD-10, echdynnwyd hefyd y marwolaethau lle crybwyllir codau eraill y gellid codio afiechydon gan gynnwys C. difficile iddynt hefyd. Cafodd testun y tystysgrifau marwolaeth hyn ei chwilio â llaw i weld a grybwyllwyd Clostridium difficile, C. difficile neu golitis ffug-bilennog. Mae'r codau ICD–10 a ddefnyddiwyd i ddethol marwolaethau er mwyn eu chwilio â llaw i'w gweld ym Mlwch 1.

Cafodd marwolaethau a gofrestrwyd ym 1999 eu codio i ICD–9 a hefyd i ICD–10 fel rhan o astudiaeth arbennig i gymharu'r ddau ddiwygiad i'r ICD.

  1. Codau a ddefnyddiwyd i adnabod marwolaethau lle mai C. difficile oedd achos sylfaenol marwolaeth (o blith marwolaethau lle crybwyllwyd C. difficile): A04.7, A09, A41.4 ac A49.8.

Adnabuwyd marwolaethau lle mai C. difficile oedd achos sylfaenol marwolaeth trwy ddethol y marwolaethau hynny lle crybwyllwyd C. difficile ac oedd hefyd yn nodi achos sylfaenol o blith un o'r codau ICD-10 canlynol: A04.7, A41.4 ac A49.8. Cymerwyd bod tystysgrifau marwolaeth sy'n crybwyll C. difficile ac yn cofnodi'r cod A09 (dolur rhydd a gastro-enteritis y tybiwyd eu bod wedi deillio o haint) fel achos sylfaenol marwolaeth, hefyd yn dangos mai C. difficile oedd achos sylfaenol marwolaeth.

Ers 1986, mae ONS wedi defnyddio'r dystysgrif marwolaeth a argymhellir yn rhyngwladol ar gyfer marwolaethau babanod newyddanedig (dan 28 diwrnod oed). Lluniwyd y dystysgrif hon i gofnodi pob cyflwr oedd i’w weld adeg y farwolaeth. Mae hyn yn golygu na ellir pennu achos sylfaenol marwolaeth ar gyfer babanod newyddanedig. Fodd bynnag, gan fod y data yn seiliedig ar farwolaethau lle crybwyllwyd C. difficile neu golitis ffug-bilennog ar y dystysgrif marwolaeth, mae babanod newyddanedig wedi cael eu cynnwys. Echdynnwyd marwolaethau babanod newyddanedig yn yr un ffordd ag a ddisgrifiwyd ar gyfer marwolaethau babanod ôl-newyddanedig.

Nôl i'r tabl cynnwys

10. Ystadegau Clostridium difficile ar gyfer gwledydd eraill y DU

Cyhoeddir marwolaethau C. difficile yn yr Alban gan National Records of Scotland a chyhoeddir ffigurau ar gyfer Gogledd Iwerddon gan y Northern Ireland Statistics and Research Agency.

Nôl i'r tabl cynnwys

.Cyfeiriadau

BUPA (2015), Clostridium difficile infection [gwelwyd 18/07/2015].

Grŵp Cenedlaethol Safonau Clostridium difficile (2003) Report to the department of Health [gwelwyd 20/07/2015].

National Records of Scotland (2014) Clostridium Difficile (C. diff) Deaths [gwelwyd 24/07/2015].

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (2014) Causes of Clostridium difficile infection [gwelwyd 22/07/22015].

Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (2013) Diarrhoea- antibiotic associated, what are the risk factors? [gwelwyd 23/07/2015].

Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (2014) Symptoms of Clostridium difficile infection [gwelwyd 22/07/2015].

Northern Ireland Statistics and Research Agency (2014) Healthcare- Associated Infections [gwelwyd 15/07/2015].

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2010) Guidance for doctors completing Medical Certificates of Cause of Death in England and Wales

Nôl i'r tabl cynnwys

.Nodiadau cefndirol

  1. Metadata Marwolaethau

    Paratoir ystadegau ar farwolaethau gan ddefnyddio’r wybodaeth a ddarperir pan ardystir ac y cofrestrir marwolaethau. Mae gwybodaeth am y data sylfaenol ar farwolaethau, gan gynnwys manylion am sut y caiff y data eu casglu a’u codio, ar gael yn mortality metadata (2.46 Mb Pdf). Mae gwybodaeth bellach am y dulliau ac am ansawdd yr ystadegau hyn i’w chael yn yr adroddiadau Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg ar gyfer Ystadegau Marwolaethau a Marwolaethau lle mae Clostridium difficile yn ffactor yng Nghymru (404.6 Kb Pdf), sydd ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ONS website.

  2. Marwolaethau lle mae C. Difficile yn ffactor

    Mae’n anodd amcangyfrif nifer y marwolaethau sydd o ganlyniad i C. difficile. Fel rheol bydd tueddiadau mewn marwolaethau yn cael eu monitro gan ddefnyddio achos sylfaenol y farwolaeth (y clefyd a gychwynnodd y gadwyn o ddigwyddiadau a arweiniodd yn uniongyrchol at farwolaeth). Fodd bynnag, nid C. difficile (na heintiau eraill sy’n gysylltiedig â gofal iechyd) yn aml yw achos sylfaenol y farwolaeth. Fel rheol, mae’r rhai sy’n marw gyda C. difficile yn gleifion a oedd eisoes yn wael iawn, a’r clefyd oedd arnynt eisoes sydd yn aml yn cael ei roi fel achos sylfaenol y farwolaeth. Mae diddordeb gan bobl yn nifer y marwolaethau lle cyfrannodd C. difficile i’r farwolaeth – ni ddylid cofnodi ar y dystysgrif marwolaeth unrhyw gyflyrau heblaw’r rhai sy’n cyfrannu’n uniongyrchol i’r farwolaeth honno. Mae’r canlyniadau a gyflwynir yn y bwletin hwn yn adnabod marwolaethau lle mai’r achos sylfaenol oedd C. difficile a hefyd lle crybwyllwyd C. difficile fel achos sylfaenol y farwolaeth neu ffactor a gyfrannodd iddi.

  3. Heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd

    Er y gelwir C. difficile yn aml yn haint cysylltiedig â gofal iechyd, nid yw’n bosibl dweud oddi wrth yr wybodaeth ar dystysgrif marwolaeth lle cafodd rhywun yr haint ac ni ellir gwneud rhagdybiaethau chwaith ynghylch ansawdd gofal. Bydd pobl yn aml yn cael eu trosglwyddo rhwng ysbytai, cartrefi gofal a sefydliadau eraill a gallant ddal heintiau yn rhywle heblaw’r man lle byddant farw.

  4. Ardystio marwolaethau

    Rhoddwyd canllawiau ar ardystio marwolaethau sef Guidance on death certification i feddygon ym Mai 2005 (a’u hadolygu yn 2010), gan gyfeirio’n benodol at heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd. Yn dilyn hynny anfonwyd neges gan y Prif Swyddog Meddygol at bob meddyg i’w hatgoffa o’u cyfrifoldebau mewn perthynas ag ardystio marwolaethau ac i dynnu eu sylw at y canllawiau. Yn fwy diweddar, cyhoeddwyd adroddiad, Public Health England (2013), gyda manylion am yr arferion da sydd i’w dilyn ac argymhellion ar gwblhau tystysgrifau marwolaeth ar gyfer marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor.

  5. Cyfraddau oed-benodol

    Mae’n bosibl cyfrifo cyfraddau oed-benodol ar gyfer grwpiau oedran penodol ac mae’r rhain yn cael eu diffinio fel nifer y marwolaethau yn y grŵp oedran hwnnw am bob miliwn (neu fil) o boblogaeth yn yr un grŵp oedran. Er bod modd cymharu’r rhain rhwng gwahanol amserau, lleoedd ac is-boblogaethau, mae’r tablau sy’n eu cynnwys yn rhai mawr, gan amlaf, a gall fod yn anodd eu cymathu. At hynny, os mai ychydig iawn o farwolaethau sydd, ni fydd y cyfraddau hyn yn fanwl gywir ac efallai y bydd yn anodd eu dehongli.

  6. Cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran

    Mae’r bwletin hwn yn cyflwyno cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran (a elwir hefyd yn rhai wedi’u safoni’n uniongyrchol), wedi’u safoni gan ddefnyddio Poblogaeth Safonol Ewropeaidd 2013. Mae’r cyfraddau’n caniatáu ar gyfer gwahaniaethau yn strwythur oedran y boblogaeth, dros amser a rhwng y ddau ryw. Y gyfradd wedi’i safoni yn ôl oedran ar gyfer rhyw achos marwolaeth penodol yw’r gyfradd a fuasai wedi digwydd petai’r cyfraddau oed-benodol a welwyd ar gyfer yr achos hwnnw wedi bod yn ddilys yn y boblogaeth safonol dan sylw. Mae templed sy’n dangos sut y cyfrifir cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran template (93.5 Kb Excel sheet) ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

  7. Cyfraddau yn seiliedig ar niferoedd bach

    Ni chyfrifwyd cyfraddau oed-benodol lle roedd llai na thair marwolaeth mewn grŵp oedran. Yn yr un modd, ni chyfrifwyd cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran lle roedd llai na 10 marwolaeth ar draws pob grŵp oedran. Efallai hefyd na fydd y rhai a gyfrifwyd gan ddefnyddio 10-19 marwolaeth yn ddibynadwy iawn ac felly cânt eu marcio ag (u). Lle na chafodd cyfradd ei chyfrifo oherwydd niferoedd isel, sef yr hyn a ddisgrifir uchod, gadawyd y gell yn wag a’i marcio ag (u) er mwyn dangos na chafodd y gyfradd ei chyfrifo oherwydd nad oedd yr wybodaeth yn ddigon dibynadwy.

  8. Cyfyngau hyder

    Yn y bwletin hwn, pan ddisgrifir gwahaniaeth fel un ‘arwyddocaol yn ystadegol’, mae wedi cael ei asesu gan ddefnyddio cyfyngau hyder 95%. Mesur yw cyfyngau hyder o fanwl gywirdeb ystadegol amcangyfrif ac maent yn dangos faint o ansicrwydd sydd o’i amgylch. Mae cyfrifiadau sy’n seiliedig ar niferoedd bach o ddigwyddiadau yn aml yn dangos hap-amrywiadau. Fel rheol gyffredinol, os yw’r cyfwng hyder o amgylch ffigur yn gorgyffwrdd â’r cyfwng o amgylch un arall, nid oes gwahaniaeth arwyddocaol rhwng y ddau amcangyfrif.

  9. Echdyniadau arbennig o ddata

    Gellir archebu echdyniadau arbennig a thablau o ddata marwolaethau lle roedd C. difficile yn ffactor yng Nghymru am dâl (yn amodol ar fframweithiau cyfreithiol, rheolaeth ar ddatgelu, adnoddau a chytuno ar gostau, lle bo’n briodol). Dylid gwneud ceisiadau neu ymholiadau i:

    Tîm Dadansoddi Marwolaethau
    Is-adran Digwyddiadau Bywyd a Ffynonellau Poblogaeth
    Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
    Adeiladau’r Llywodraeth
    Heol Caerdydd
    Casnewydd
    Gwent NP10 8XG
    Ffôn: +44 (0) 1633 456736
    E-bost: mortality@ons.gov.uk

    Mae polisi’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar godi tâl ONS charging policy i’w weld ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

  10. Cynllun ar gyfer Allbynnau Ystadegau Marwolaethau

    Amlinellir newidiadau sydd i’w gwneud i allbynnau ystadegau marwolaethau yn y cynllun ar gyfer allbynnau ystadegau marwolaethau sydd ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ONS website.

  11. Adborth

    Rydym yn croesawu adborth ar gynnwys, ffurf a pherthnasedd y cyhoeddiad hwn. Anfonwch eich adborth i’r cyfeiriad post neu e-bost uchod os gwelwch yn dda.

  12. Mynediad cyn cyhoeddi

    Mae rhestr o enwau’r rhai sy’n cael gweld yr ystadegau a’r sylwadau ysgrifenedig cyn eu cyhoeddi ar gael yn y rhestr mynediad cyn cyhoeddi at Farwolaethau lle mae Clostridium difficile yn ffactor. Mae’r rheolau a’r egwyddorion sy’n pennu mynediad cyn cyhoeddi yn cael eu cynnwys yng Ngorchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol cyn eu Rhyddhau 2008 - Pre-release Access to Official Statistics Order 2008

  13. Adolygiadau

    Mae ein polisi adolygiadau ar gael ar ein gwefan ONS revisions policy.

  14. Ystadegau Gwladol

    Cynhyrchir Ystadegau Gwladol yn unol â’r safonau proffesiynol uchel a nodir yn y Cod Ymarfer ar Ystadegau Gwladol. Cynhelir adolygiadau sicrhau ansawdd rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn diwallu anghenion cwsmeriaid. Fe’u cynhyrchir heb unrhyw ymyrraeth wleidyddol.

  15. Amodau a thelerau

    Cewch ddefnyddio neu ailddefnyddio’r wybodaeth hon (ac eithrio’r logos) yn ddi-dâl mewn unrhyw ffurf neu gyfrwng, o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored. I weld y drwydded hon, ewch i wefan yr Archifau Cenedlaethol, National Archives website, ysgrifennwch at: The Information Policy Team, The National Archives, Kew, London TW9 4DU, neu e-bostiwch: psi@nationalarchives.gsi.gov.uk.

    Mae manylion am y polisi sy’n rheoli’r modd y rhyddheir data newydd ar gael drwy fynd i www.statisticsauthority.gov.uk/assessment/code-of-practice/index.html neu gan Swyddfa Cysylltiadau’r Cyfryngau, e-bost: media.relations@ons.gov.uk

    Cyhoeddiad nesaf:

    Awst 2016

    Cyhoeddwyd gan:

    Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Adeiladau’r Llywodraeth, Heol Caerdydd, Casnewydd NP10 8XG

    Cyswllt ar gyfer y cyfryngau:

    Ffôn: Swyddfa Cysylltiadau’r Cyfryngau +44 (0) 845 6041858
    Llinell frys +44 (0) 7867 906553
    E-bost: media.relations@ons.gov.uk

    Cyswllt ar gyfer ystadegau:

    Ffôn: Nina Goodwin +44 (0)1633 651761
    E-bost: mortality@ons.gov.uk
    Gwefan: www.ons.gov.uk

  16. Mae manylion y polisi ar ryddhau data newydd ar gael yn www.statisticsauthority.gov.uk/assessment/code-of-practice/index.html neu drwy anfon e-bost at y Swyddfa Cysylltiadau â'r Cyfryngau: media.relations@ons.gov.uk

    Caiff yr Ystadegau Gwladol hyn eu cynhyrchu yn unol â safonau proffesiynol uchel a'u rhyddhau yn unol â'r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r DU.

Nôl i'r tabl cynnwys

. Methodology

Manylion cyswllt ar gyfer y Bwletin ystadegol

Nina Goodwin
mortality@ons.gov.uk
Ffôn: +44 (0)1633 651761