Cofair: occupancy_rating_bedrooms
Cymhwysedd: Cartref
Math: Deillio newidyn

Diffiniad

P'un a yw'r llety mewn cartref yn orlawn, yn cynnwys y nifer delfrydol o bobl neu heb fod yn llawn. Caiff hyn ei gyfrifo drwy gymharu nifer yr ystafelloedd gwely sydd eu hangen ar y cartref (y Safon Ystafelloedd Gwely) â nifer yr ystafelloedd gwely sydd ar gael.

Pobl a ddylai gael eu hystafell eu hunain yn ôl y Safon Ystafelloedd Gwely:

  1. cwpl sy’n oedolion
  2. unrhyw oedolyn sy’n weddill (21 oed neu drosodd)
  3. dau wryw (rhwng 10 ac 20 oed)
  4. un gwryw (rhwng 10 ac 20 oed) ac un gwryw (9 oed neu iau), os oes odrif o wrywod rhwng 10 ac 20 oed
  5. un gwryw rhwng 10 ac 20 oed os nad oes gwrywod rhwng 0 a 9 oed i baru gydag ef
  6. ailadrodd camau 3 i 5 ar gyfer menywod
  7. dau blentyn (9 oed neu iau) ni waeth beth fo’u rhyw
  8. unrhyw blentyn sy’n weddill (9 oed neu iau)

Mae cyfradd deiliadaeth o:

  • -1 neu lai yn awgrymu bod llai o ystafelloedd gwely mewn cartref na'r hyn sydd ei angen (gorlawn)
  • +1 neu fwy yn awgrymu bod mwy o ystafelloedd gwely mewn cartref na'r hyn sydd ei angen (heb fod yn llawn)
  • 0 yn awgrymu bod y nifer delfrydol o ystafelloedd gwely mewn cartref

Dosbarthiad

Cyfanswm nifer y categorïau: 5

Cod Enw
1 Cyfraddau deiliadaeth ystafelloedd gwely: +2 neu fwy
2 Cyfraddau deiliadaeth ystafelloedd gwely: +1
3 Cyfraddau deiliadaeth ystafelloedd gwely: 0
4 Cyfraddau deiliadaeth ystafelloedd gwely: -1 neu lai
-8 Ddim yn gymwys*

*Cartrefi heb unrhyw breswylwyr arferol.

Gweld pob dosbarthiad gradd defnydd ar gyfer ystafelloedd gwely.

Cefndir

Darllenwch am sut y gwnaethom ddatblygu a phrofi'r cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg).

Cymharedd â Chyfrifiad 2011

Cymaradwy iawn

Beth yw ystyr cymaradwy iawn?

Mae newidyn sy’n gymaradwy iawn yn golygu y gellir ei gymharu’n uniongyrchol â’r newidyn o Gyfrifiad 2011. Gall y cwestiynau a’r opsiynau y gallai pobl ddewis fod ychydig yn wahanol, er enghraifft efallai bod trefn yr opsiynau wedi’u newid, ond mae’r data a gesglir yr un peth.

Cymariaethau rhwng Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban

Ddim yn gymaradwy

Nid yw'r newidyn hwn yn gymaradwy am nad yw'r data ar gael ar gyfer pob gwlad.

Beth yw ystyr ddim yn gymaradwy?

Mae newidyn nad yw'n gymaradwy (neu sydd ‘ddim yn gymaradwy’) yn golygu na ellir ei gymharu ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

Dysgwch fwy am newidynnau a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg) a Chyfrifiad 2022 yn yr Alban (yn Saesneg).

Data Cyfrifiad 2021 sy’n defnyddio’r newidyn hwn

Rydym yn defnyddio newidynnau o ddata Cyfrifiad 2021 i ddangos canfyddiadau mewn gwahanol ffyrdd.

Gallwch chi:

Fel arall, gallwch hefyd greu set ddata wedi’i deilwra (yn Saesneg).

Setiau data eraill sy’n defnyddio’r newidyn hwn